Agenda item

1.00pm Craffu ar yr Adroddiad Darpariaeth Seibiant

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Ian Chandler. Rhoddodd Jane Rodgers gyflwyniad. Cynigiodd y Cynghorydd Strong ei safbwynt fel yr Aelod Ward lleol dros Budden Crescent. Atebwyd cwestiynau aelodau gan y Cynghorydd Chandler, Jane Rodgers, Jenny Jenkins a Clare Morgan.

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau Pwyllgor:

 

Cydnabu’r Pwyllgor ymroddiad y gr?p staff a safon uchel y gofal a’r cymorth a ddarparodd y gwasanaeth seibiant yn Budden Crescent i bobl gydag anabledd dysgu a’u gofalwyr am flynyddoedd lawer. Roedd gwahaniaeth barn yn y pwyllgor am y cynigion a ddaeth gerbron y Pwyllgor Craffu, ond mae’r canlynol yn cynnig pwyntiau allweddol i’w hystyried gan y Weithrediaeth:

 

·             Dywedodd rhai aelodau nad yw’r adroddiad yn amlinellu yr ystod llawn o gyfleoedd seibiant sydd ar gael ar draws y sir.

 

·             Mynegwyd rhai pryderon am y data ac os oes gennym ddarlun cywir o’r galw am y gwasanaeth, ar hyn o bryd a hefyd yn y dyfodol.

 

·             Dywedodd rhai aelodau na ddylai lefelau is o ddefnydd fel canlyniad i’r pandemig fod yn gyfiawnhad i ddileu gwasanaethau.

 

·             Er bod cefnogi pobl yn bwysig iawn, cydnabu aelodau os yw’r galw am y gwasanaethau a gynigir yn Budden Crescent wedi gostwng, na fedrid anwybyddu’r goblygiadau cost, gan gydnabod ei fod yn gadael llai o arian ar gael i ddarparu mathau eraill o seibiant.

 

·             Teimlai rhai aelodau y gall fod yn fyrbwyll i ddibynnu ar gyfleusterau a ddarperir gan awdurdodau lleol, o gofio’r cynnydd yn y boblogaeth henoed a nododd yr angen am ddarpariaeth seibiant yn y sir.

 

·             Mynegwyd pryderon am allu darpariaeth seibiant arall i ymateb i argyfyngau a pha mor hyblyg a fyddai’r trefniadau eraill a gynigid yn medru diwallu’r anghenion hynny.

 

·             Holodd Aelodau os gallai Budden Crescent weithredu model seibiant ehangach i ddarparu ar gyfer pobl yn dioddef gyda dementia neu anabledd dysgu ac os y byddai hyn yn gwneud y gwasanaeth yn ariannol hyfyw. Clywodd Aelodau y byddai’n anodd iawn staffio hyn, gan y byddai angen gwahanol sgiliau gofal ar gyfer pobl gyda gwahanol gyflyrau iechyd. Fodd bynnag, mae Aelodau’n gwybod fod Centrica Lodge yng Nghasnewydd yn gweithredu model seibiant ehangach, gan ddarparu ar gyfer gofal pobl oedrannus, anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl ac oedolion iau. Holodd Aelodau felly pam na all Sir Fynwy arallgyfeirio i ddiwallu nifer o anghenion gofal ac awgrymwyd fod hyn yn rhywbeth y dylai’r Weithrediaeth ei ymchwilio. Soniwyd hefyd am bosibilrwydd safle rhanbarthol, gan gydnabod fod awdurdodau eraill yn wynebu heriau tebyg.

 

·             Roedd gwahaniaeth barn am yr adolygiad, credai rhai aelodau fod angen adolygiad annibynnol ond dywedodd eraill ei fod yn adroddiad trylwyr.  

 

Canlyniad Ffurfiol y Craffu:

 

Gwaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

1.     Os yw’r Weithrediaeth yn cau Budden Close, ei fod yn cynnal adolygiad llawn o’r opsiynau seibiant, gan fod mwyafrif yr opsiynau yn anhyfyw ar hyn o bryd ar gyfer rhai gydag anghenion cymhleth sydd angen gofal 24/7. Mae’r Pwyllgor yn gofyn i’r Weithrediaeth sicrhau fod mathau arall o gymorth seibiant a ‘rhannu bywyd’ ar gael i bobl ac yn rhoi’r lefel briodol o ofal a chymorth ar gyfer pob unigolyn sy’n derbyn seibiant.  

 

2.     Bod y Weithrediaeth yn sicrhau fod gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud yn helaeth â’r teuluoedd sy’n anhapus am yr argymhelliad i gau Budden Crescent i ddarparu gofal a chymorth mwy dwys a’u cefnogi ac i weld sut y gellir diwallu eu hanghenion.

 

 

Dogfennau ategol: