Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Martyn Groucutt yr adroddiad gyda Debra Hill-Howells. Atebodd Debra Hill-Howells gwestiynau’r aelodau gyda’r Cynghorydd Groucutt a Becky Pritchard.
Pwyntiau allweddol a godwyd gan aelodau’r Pwyllgor:
Cododd y Pwyllgor y materion dilynol i’r Aelod Cabinet eu hystyried :
· Mynegwyd pryder am y geiriad yn y polisi yn ymwneud ag ysgolion ffydd a chytunodd Aelodau fod angen i’r geiriad roi ystyriaeth i neges e-bost gan aelod o’r cyhoedd am y mater hwn, roedd angen i’r geiriad gynnwys y geiriau ‘yr ysgol ffydd addas agosaf’ i sicrhau y byddai’n addas ar sail ffydd.
· Mewn ymateb, cadarnhaodd swyddogion na fydd y newidiadau ar ochr addysg ffydd polisi 2024/25 yn cael unrhyw effaith ymarferol ar gymhwyster cyfredol a chymhwyster y dyfodol cludiant am ddim i ysgolion ffydd ac na fyddir yn effeithio ar unrhyw un sy’n derbyn cludiant ffydd, a chroesawyd hynny gan Aelodau.
· Mewn ymateb i bryderon gan Aelod, cytunodd swyddogion i newid y geiriad ar y paragraff yn cyfeirio at y llwybrau cerdded sydd ar gael i fod yn gydnaws gyda’r Mesur Teithio Dysgwyr ac i dynnu’r paragraff sy’n sôn am ‘digon peryglus’ a rhoi’r geiriad canlynol yn lle “Os bernir nad yw’r llwybr i’r ysgol yn ddiogel, yna ni fedrir disgwyl i’r dysgwr gerdded i’r ysgol, er fod y pellter rhwng y cartref a’r ysgol yn llai na’r terfyn pellter sy’n weithredol oedran y dysgwr mewn amgylchiadau o’r fath, mae gan y dysgwr hawl i gludiant am ddim.”
· Mynegodd rhai Aelodau bryder am y newid yn y cyfnod hysbysiad ar gyfer dileu cludiant. Cytunodd swyddogion i ymchwilio adrannau cyfreithiol y ddyletswydd i asesu Anghenion Teithio Dysgwyr ym Mesur Teithio Dysgwyr (Cymru) 2008. Ymddengys fod Mesur Teithio Dysgwyr (2008) yn dangos asesiad ar gyfer disgyblion unigol bob blwyddyn academaidd ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Mae hyn yn golygu er bod y cyfnod hysbysu ym mholisi 2023/24 yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyfreithiol hon, nid yw'n cydymffurfio gyda dyletswydd gyfreithiol yng nghyswllt y drafft bolisi ar gyfer 2024/25, gan fod cyfnod hysbysiad byrrach yng nghanol y flwyddyn academaidd.
· Mynegwyd pryder am ddiogelu ar fysus cyhoeddus gyda risg ychwanegol cynyddu’r defnydd o fysus cyhoeddus yn 2024/25 o’r defnydd cyfyngedig iawn a wneir ohonynt ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion fod teledu cylch cyfyng mewn bysus ac y cedwir y lluniau am 14 diwrnod fel y gellid adolygu unrhyw gwynion.
· Cododd Aelod ar ymweliad bryder am argaeledd lleoedd ac na fedrid dibynnu ar gwmni bws cyhoeddus, gyda swyddogion yn dweud na fedrent roi sylw ar dendrau/contractau unigol. Cadarnhaodd swyddogion hefyd eu bod yn trefnu patrol croesiad ysgol yn ardal yr Aelod.
· Mynegwyd consyrn i sicrhau y gweithredid Mesur Diogelwch ar Gludiant Dysgwyr (Cymru) 2011 i fysus cyhoeddus, yn cynnwys yr angen i gael gwregys ar bob sedd a’r gofynion angenrheidiol ar hyfforddiant gyrwyr.
· Gofynnwyd am eglurhad os mai dim ond ar gyfer disgyblion uwchradd ac nid disgyblion cynradd y defnyddid bysus cyhoeddus, gan nad oedd geiriad drafft bolisi 2024/25 yn glir yn hyn o beth.
· Mynegwyd pryder am wiriadau DBS. Soniodd Aelodau am yr angen am wiriadau DBS ar yrwyr bysus cyhoeddus o fewn y Sir, gan gydnabod fod rhai bysus cyhoeddus yn croesi ffiniau sirol.
Canlyniad Ffurfiol y Craffu:
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu mewnbwn a’r cyhoedd am fod yn bresennol a’u cyfraniad gwerthfawr. Diolchodd hefyd i’r Aelodau Cabinet a Swyddogion am eu cyfraniad a daeth i’r casgliad:
Awgrymodd y Pwyllgor ddiwygiadau i ddrafft bolisi 2024/25 a gofynnodd i’r Aelod Cabinet roi ystyriaeth lawn i bryderon Aelodau a’i gynnwys yn y diwygiadau arfaethedig. Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol i’r Aelod Cabinet:
1. Bod yr Aelod Cabinet yn rhoi ystyriaeth i’r neges e-bost gan yr aelod o’r cyhoedd yn rhoi sylw i bryderon am ysgolion ffydd wrth wneud penderfyniad ar bolisi drafft 2024/25 a diwygiadau iddo. Cyfeiriodd y Pwyllgor at ei bryder am yr angen am eglurhad ar gludiant ffydd. Mae Aelodau’n gofyn bod y polisi yn darllen fel ‘cludiant ffydd i’r ysgol addas agosaf’ gydag addasrwydd ar sail ffydd rhieni dysgwyr, hyd yn oed os nad yw hynny o’r un ffydd neu enwad a/neu ar sail meini prawf derbyn ffydd ysgolion.
2. Diwygio’r polisi drafft ar gyfer 2024/25 i’w wneud yn gydnaws gyda Mesur Teithio Dysgwyr Cymru ar lwybr cerdded diogel. Gofynnodd Aelodau hefyd am ymchwiliad cyfreithiol ar y cyfnod hysbysiad i ddileu’r cynnig o gludiant ysgol i ganfod os yw’n fwy cydnaws gyda’r polisi cyfredol ar gyfer 2023/24.
3. Gwneud diwygiadau i’r polisi drafft ar gyfer 2024/25 i egluro mai dim ond i ddisgyblion oedran uwchradd ac nid disgyblion oedran cynradd y caiff cyrff cyhoeddus eu defnyddio.
4. Bod defnydd bysus cyhoeddus ar gyfer cludiant ysgol, tebyg i fysus ysgol neilltuol, yn cydymffurfio gyda Mesur Diogelwch ar Gludiant Dysgwyr (Cymru) 2011, sy’n cynnwys gwregysau sedd unigol a hyfforddiant gyrwyr. Gwnaed argymhelliad ychwanegol fod gyrwyr yn destun monitro gwiriadau DBS mewnol gan Gyngor Sir Fynwy.
5. Bod gan bob bws ysgol a bws cyhoeddus a ddefnyddir ar gyfer cludiant ysgol i ac o fannau addysg, cyn ac ar ôl yr ysgol., deledu cylch cyfyng ac y cedwir y lluniau am 14 diwrnod i helpu monitro pryderon/cwynion yn nhermau diogelu, yn arbennig oherwydd y gall aelodau o’r cyhoedd deithio ar bysus cyhoeddus.
Dogfennau ategol: