Agenda item

Cais DM/2023/00797 – Newid defnydd o C3 (annedd) i sui generis (HMO – Tai Amlfeddiannaeth) ar gyfer uchafswm o 8 preswylydd. 2 Little Hervells Court, Cas-gwent, NP16 5FF.

Cofnodion:

Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Anerchodd yr Aelod lleol dros Mount Pleasant y Pwyllgor drwy fideo a oedd wedi ei recordio ac amlinellodd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae hwn yn gais dadleuol a dyma'r pedwerydd cais newid defnydd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ar gyfer anheddau cyfagos o dai amlfeddiannaeth mewn ardal cadwraeth hanesyddol. Mae'r Aelod lleol a thrigolion yn ystyried bod y cais hwn yn anghymesur.

 

·         Nid oes gan y Cyngor bolisi nac arweiniad atodol ar nifer o dai amlfeddiannaeth oherwydd y niferoedd isel ar draws Sir Fynwy.

 

·         Mae Tai Amlfeddiannaeth yn fodel deiliadaeth sy'n debycach i'n hardaloedd canol dinasoedd, yn enwedig gyda'n prifysgolion.

 

·         Er nad oes unrhyw ganllawiau gan Gyngor Sir Fynwy, mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau sy'n nodi tueddiadau a heriau cysylltiedig Tai Amlfeddiannaeth o fewn awdurdodau lleol Cymru.

 

·         Y problemau sy'n gysylltiedig â thai amlfeddiannaeth yw difrod i gydlyniant cymdeithasol gyda lefelau uwch o drigolion dros dro a llai o aelwydydd hirdymor a theuluoedd sefydledig, gostyngiad yn ansawdd yr amgylchedd lleol a'r strydlun, newid cymeriad yn yr ardal, mwy o bwysau ar barcio a’r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

·         Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn realiti i gymdogion sy'n byw wrth ymyl tai amlfeddiannaeth sydd eisoes yn bodoli.

 

·         Mae trigolion lleol wedi eu heffeithio gan s?n o dai amlfeddiannaeth presennol a bu'n rhaid galw'r heddlu ar sawl achlysur yngl?n ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

·         Mae'r canllawiau'n nodi, oherwydd natur Tai Amlfeddiannaeth, y gall preswylwyr o grwpiau agored i niwed sy'n debygol o fod yn amherthnasol ganfod bod byw mewn tai amlfeddiannaeth yn brofiad mwy dwys nag mewn defnydd cartref unigol. Gall hyn gael effaith, nid yn unig ar y preswylwyr mewn tai amlfeddiannaeth ond ar y gymdogaeth ehangach ac mae'r tebygolrwydd y bydd hyn yn cynyddu gyda chrynodiadau uchel o eiddo o'r fath.

 

·         Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog awdurdodau lleol i symud i ffwrdd o dai amlfeddiannaeth i lety mwy hunangynhwysol.

 

·         Derbyniwyd gwrthwynebiadau cryf i'r cais gan yr Adran Briffyrdd yngl?n â diogelwch ffyrdd, straen parcio a'r toreth o dai amlfeddiannaeth yn y cyffiniau. Mae straen parcio eisoes yn bodoli yn y lleoliad hwn.

 

·         Mae'r Aelod lleol o'r farn bod y datblygwr wedi diystyru trigolion sy'n byw yn Lôn Hardwick Hill ac yn Stryd Steep trwy geisio cais pellach am dai amlfeddiannaeth.

 

·         Mae'r Aelod lleol o'r farn y dylai'r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais gan fod tri TA eisoes yn yr ardal hon ac nid oes angen tai amlfeddiannaeth ychwanegol gan ei fod yn cael ei ystyried yn fodel annerbyniol i'r Cyngor.

 

Wedi ystyried yr adroddiad a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Mae mawr angen Tai Amlfeddiannaeth o fewn yr Awdurdod, ond mae angen sefydlu mesurau i leihau'r posibilrwydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

·         Ystyriwyd y dylai Cyngor Sir Fynwy sefydlu polisi tai amlfeddiannaeth yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.

 

·         Dylid ystyried darparu cyfleusterau parcio beiciau ar y safle.

 

·         Mynegwyd pryder yngl?n â dwysedd Tai Amlfeddiannaeth yn yr ardal hon.

 

·         Dywedodd y Pennaeth Cynllunio wrth y Pwyllgor y gellid ymchwilio i bolisi tai amlfeddiannaeth fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLl). Fodd bynnag, yng nghyd-destun Sir Fynwy, nodwyd yn gyffredinol nad oedd tai amlfeddiannaeth yn broblem. Mae Awdurdodau Lleol sydd â chytrefi trefol mwy yn tueddu i fod â pholisi tai amlfeddiannaeth gan fod mwy o angen amdanynt o fewn yr awdurdodau hyn.

 

·         Dywedodd y Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor mai dim ond 33 o bobl fyddai'n meddiannu'r pedwar t? amlfeddiannaeth yn yr ardal hon pe byddai'r cais hwn yn cael ei ganiatáu. Mae canllawiau Tai Amlfeddiannaeth yn helpu i ymdrin â’r niwed a achosir gan grynodiadau uchel, e.e., prifysgolion, lle mae adeiladau’n cael eu defnyddio yn ystod y tymor ac yna’n wag ar gyfer cyfnodau gwyliau gyda chyfleusterau lleol ddim yn cael eu defnyddio mwyach yn ystod y cyfnod hwn.

 

·         Byddai'r ymgeisydd yn fodlon cyflwyno manylion cyfleusterau storio beiciau arfaethedig ar y safle yn cefnogi'r newid moddol tuag at ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

·         Byddai Swyddogion Tai Cyngor Sir Fynwy yn rheoli'r safle hwn. Rheolir safleoedd tebyg a reolir gan swyddogion o'r fath yn effeithlon. Nodwyd bod yna deulu mewn angen wedi ei adnabod i feddiannu'r eiddo hwn.

 

Cynigodd y Cynghorydd Sir S. McConnel ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DM/2023/00797 yn cael ei ganiatáu gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol i sicrhau bod man storio beiciau yn cael ei ddarparu cyn i neb fyw ynddo.

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                                - 12

Gwrthwynebu’r cynnig                        -           2

Ymatal                                     -           2

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/00797 yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol i sicrhau bod man storio beiciau yn cael ei ddarparu cyn i neb fyw ynddo.

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: