Cofnodion:
Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyda'r amodau a ddiwygiwyd mewn gohebiaeth hwyr, ynghyd ag amod ychwanegol 5 mewn perthynas â gwasanaethu'r boeler yn rheolaidd.
Nodwyd y byddai'r geiriad yn amod 2 yn cael ei ddiwygio i gynnwys pren crai, heb ei drin, yn unig fel tanwydd ac i ymgorffori monitro'r math o danwydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Prydeinig.
Roedd Cyngor Cymuned Llanarth Fawr wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â’r cais hwn a ddarllenwyd i’r Pwyllgor gan y Pennaeth Cynllunio, fel a ganlyn:
‘Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod cais wedi’i wneud i ohirio ystyried y cais hwn oherwydd nad oes digon o dystiolaeth ar gael i ddangos bod pryderon a godwyd ynghylch nifer o faterion, yn enwedig s?n, heb eu datrys yn llawn. Rydym yn cefnogi’r cais hwn.
O ran s?n, nid oes asesiad s?n priodol (yn cydymffurfio â Safon Brydeinig 4142:2014/A1 2019 Dulliau ar gyfer Graddio ac Asesu Sain Diwydiannol a Masnachol) wedi’i gynnal. Nid ydym yn cytuno â’r Swyddog Achos a gellid dweud yn synhwyrol bod ymweliad byr Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (IA) yn ystod oriau swyddfa (h.y. ddim gyda’r nos / nos neu ar y penwythnos) yn cydymffurfio â’r Safonau Prydeinig (SP). Beth bynnag, ni fu unrhyw asesiad o’r effaith s?n o gwbl yn ystod y nos ac ar y penwythnos (bydd y gwaith yn gweithredu 24/7).
Mae TAN 11 (S?n) yn Atodiad B (diwygiedig 2015) yn nodi: “Mae arwyddocâd sain o natur ddiwydiannol a / neu fasnachol fel arfer yn dibynnu ar sut y mae lefel sgôr y ffynhonnell sain benodol yn uwch na lefel y sain cefndirol a hefyd y cyd-destun y mae'r sain yn digwydd ynddo”. Ymhellach, gan fod lefelau sain cefndirol yn amrywio dros gyfnod o 24 awr, fel arfer bydd angen asesu pa mor dderbyniol yw lefelau sain ar gyfer cyfnodau ar wahân (e.e., dydd a nos) a ddewisir i weddu i oriau gweithredu’r datblygiad arfaethedig. Mae ystyriaethau tebyg yn berthnasol i ddatblygiadau a fydd yn allyrru s?n sylweddol ar y penwythnos yn ogystal ag yn ystod yr wythnos.
Mae’r Swyddog Achos yn dibynnu ym mharagraff 6.3.6 ar ymweliad Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (IA) yn ystod y dydd. Ni chawsant unrhyw s?n sylweddol, ond heb unrhyw fanylion ar lefelau sain / tôn gwirioneddol a allyrrir yn dilyn lliniaru'r cwfl baffl, neu ar lefelau sain cefndir. Mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn awgrymu y gellid codi cwynion s?n yn y dyfodol o dan ddeddfwriaeth niwsans statudol. Mae Polisi Cynllunio Cymru (argraffiad 11) yn datgan: “Rhaid i’r system gynllunio warchod amwynder, ac nid yw’n dderbyniol dibynnu ar niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 i wneud hynny.” Mae hyn oherwydd “Fodd bynnag, gall lefelau is o s?n fod yn annifyr neu’n aflonyddgar ac effeithio ar amwynder, ac felly dylid eu diogelu trwy’r broses gynllunio lle bo angen”.
Argymhellwn fod asesiad trwy gyfrwng SP 4142 yn cael ei gynnal i ddiogelu amwynder trigolion yn Llancaio a Betws Newydd, yn ogystal â’r rhai sy’n byw gyferbyn â’r safle yn Nghoed-y-Mynach, sydd hefyd yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o’r sain yn cynyddu y lleoliad hwn yn y dyffryn. Gallai asesiad SP 4142 asesu'r risg hon.
Os bydd y Pwyllgor yn ystyried y cais hwn: ynghylch Amod 2 arfaethedig: “Bydd y boeler biomas ond yn defnyddio pren heb ei drin neu Safon Brydeinig PAS111:2012 Gradd A – Pren Gwastraff Glân wedi’i Ailgylchu”. Argymhellwn y dylid cryfhau hyn drwy ychwanegu: “ac mae’n ofynnol i’r datblygwr ddarparu data rheolaidd, sydd ar gael i’w archwilio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl), ar gyfaint y darnau pren ac o ble maent yn dod”. Byddai hyn yn sicrhau na ddefnyddir unrhyw sglodion pren gwastraff halogedig yn y dyfodol, a allai effeithio ar allyriadau ac ar y drefn reoleiddio.’
Roedd Ms. L. Williams, yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr i’r cais, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau a ganlyn:
· Bydd allyriadau carbon yn cael eu rhyddhau gyda phlu o fwg yn achlysurol. Bydd allyriadau s?n hefyd.
· Mae gan y safle hanes cynllunio gwirion ar ôl cael caniatâd i storio gwellt ond yn lle hynny fe'i defnyddiwyd ar gyfer gwaith nwyeiddio a llosgydd a osodwyd heb ganiatâd cynllunio. Bu'n rhaid i drigolion fynd i'r llys i orfodi'r Cyngor i gymryd camau gorfodi.
· Mae trigolion yn cydnabod nad yw’r cais hwn ar yr un raddfa ond mae’r cynnig heddiw eisoes wedi ei osod ac yn gweithredu heb ganiatâd cynllunio. Fodd bynnag, mae'r ymgeisydd wedi gwneud y cais cynllunio angenrheidiol, ond roedd y trigolion am weld asesiad cywir a llawn o effeithiau posib y cynllun hwn ar fwynderau trigolion lleol. Mae llawer o drigolion yn perthyn i'r sefydliad lleol o'r enw SWIPE.
· Mae polisïau Llywodraeth Cymru PPW 11 a TAN 11 yn cefnogi asesiadau s?n technegol priodol ac yn argymell y dylai'r rhain hefyd gynnwys gweithrediadau gyda'r nos ac ar benwythnosau os yw'r datblygiad yn gweithredu 24/7, a bydd.
· Mae Polisi Cynllunio Cymru 11 yn nodi y byddai lefelau s?n is yn cael eu trin fel niwsans statudol gan y gallai hyn darfu ac effeithio ar amwynder.
· Darparodd yr ymgeisydd asesiad s?n ond ei fod wedi cydnabod nad oedd hyn yn dilyn Safonau Prydeinig a'i fod yn cael ei ystyried yn annigonol gan Iechyd yr Amgylchedd.
· Nid oedd ymweliad byr Iechyd yr Amgylchedd yn ystod y dydd yn ystyried effeithiau gyda’r nos nac ar y penwythnos na’r potensial ar gyfer mwyhau s?n yn y dyffryn.
· Mae gohebiaeth hwyr yn nodi bod swyddog arall wedi ymweld â'r safle gyda'r nos a bod ychydig o s?n wrth fynedfa'r fferm. Byddai hyn yn awgrymu nad oedd y boeler yn gwbl weithredol gyda’r nos heb fawr o s?n cefndir. Roedd ymweliad safle diweddar y Pwyllgor Cynllunio wedi clywed s?n o'r offer a'r ffliw
· Ymgymerwyd â pheth gwaith lliniaru s?n sydd i'w groesawu ond o ystyried natur 24/7 y datblygiad rhaid cynnal asesiad s?n cywir sy'n cydymffurfio â Safonau Prydeinig a Pholisïau Cynllunio Llywodraeth Cymru. Ystyriwyd ei bod yn annerbyniol peryglu mwynder ac iechyd cymuned heb ymchwilio’n llawn i’r mater s?n ac na ddylid bwrw ymlaen heb ystyried gweithrediad y cynllun gyda’r nos ac ar benwythnosau a dibynnu ar yr ymweliad byr yn ystod y dydd ac un gyda’r nos. Nid yw'r naill na'r llall o'r ymweliadau wedi arwain at recordiadau na data ar lefelau sain gwirioneddol a chefndirol yn cael eu cymryd na'u cadw i'w harchwilio.
Roedd S. Butler, asiant yr ymgeisydd, yn bresennol yn y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau a ganlyn:
· Bydd y boeler arfaethedig yn gweithredu gan ddefnyddio tanwyddau pren crai glân ardystiedig.
· Mae'r prosiect yn ceisio cyflawni pedwar nod allweddol
- Ymatal yn llwyr y defnydd o danwydd ffosil ar gyfer gwresogi siediau dofednod Fferm Trostrey.
- Gwella iechyd dofednod trwy ddarparu gwres â llai o leithder.
- Datgarboneiddio gweithrediadau ffermio a chynhyrchu bwyd ar y fferm yn unol â pholisi'r llywodraeth.
- Diogelu rhag anweddolrwydd pris tanwydd a risg cyflenwad
· Mae angen masnachol i gynyddu cynaliadwyedd gweithrediadau bwyd a ffermio yng Nghymru a'r DU. Mae’r sector amaethyddol yn cyfrif am 15% o gyfanswm allyriadau carbon Cymru ac mae’n ofynnol o dan bolisïau allyriadau sero net y DU i leihau allyriadau carbon yn unol â thargedau 2040 a 2050.
· Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd. Ystyriwyd y byddai'r prosiect hwn yn atal yn uniongyrchol dros 274 tunnell o allyriadau carbon ffosil rhag cael eu rhyddhau i'r amgylchedd a bydd yn caniatáu i'r fferm drosglwyddo i sero net.
· Ni ystyrir bod unrhyw effeithiau andwyol yn deillio o ansawdd aer, s?n, trafnidiaeth, llwch neu dirwedd ac effeithiau gweledol o'r datblygiad arfaethedig.
· Mae effeithiau'r cynllun wedi'u hasesu ar bob safle cynefin a nodwyd sy’n agos at y safle a daethpwyd i'r casgliad na fydd unrhyw effeithiau ar iechyd dynol, cynefinoedd amgylcheddol, nac unrhyw effeithiau ar afon Wysg.
· Mae pryderon a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi'u datrys.
· Ni fyddai effeithiau'r allyriadau o'r boeler biomas yn fwy na'r systemau gwresogi presennol. Ni fyddai unrhyw effeithiau s?n andwyol ac ni fyddai unrhyw effeithiau gweledol arwyddocaol.
· Mae'r bio-màs yn danwydd glân ac mae wedi'i ardystio fel un nad yw'n cynnwys unrhyw halogion niweidiol ac mae'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU ac Ofgem fel tanwydd adnewyddadwy. Nid yw'r tanwyddau LPG presennol yn amgylcheddol gynaliadwy gan fod LPG yn danwydd ffosil sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at newid hinsawdd.
· Mae'r cynllun arfaethedig yn amgylcheddol gynaliadwy ac mae'n ofynnol ei gyflawni dan bolisi ynni carbon rhanbarthol a chenedlaethol. Nid yw'r datblygiad arfaethedig yn peri risg i iechyd pobl sy'n byw ac yn gweithio gerllaw nac ar yr amgylchedd o'i gwmpas.
· Yn nhermau cynllunio, mae buddion cynaladwyedd y datblygiad arfaethedig yn ystyriaeth berthnasol.
· Mae'r datblygiad arfaethedig yn cyd-fynd yn llwyr â pholisïau cynllunio rhanbarthol a chenedlaethol, polisi carbon, uchelgeisiau sero net Cymru a bydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i weithrediadau ffermio Fferm Trostre.
Mewn ymateb, hysbysodd cynrychiolwyr o Adran Iechyd yr Amgylchedd y Pwyllgor:
· Nid yw'n ofynnol i Iechyd yr Amgylchedd ofyn am asesiad Safon Brydeinig 4142.
· Cais ôl-weithredol yw hwn fel y gellir asesu materion yn ymwneud â s?n yn y fan a'r lle.
· Yn seiliedig ar yr ymweliadau safle nid oedd y boeler biomas i'w glywed uwchlaw synau cefndirol yn y derbynnydd agosaf ac felly mae'n cael ei ddosbarthu fel effaith isel.
· Mae'r ymgeisydd wedi gosod tawelydd i'r simnai lle'r oedd y rhan fwyaf o'r s?n yn allyrru o'r safle. Mae mesurau lliniaru eisoes wedi'u sefydlu.
· Mae Iechyd yr Amgylchedd yn cefnogi'r amod diwygiedig yngl?n â stoc y caeau a llosgi coed newydd yn unig.
Wedi derbyn yr adroddiad a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Byddai cynllun solar wedi bod yn opsiwn glanach i gefnogi'r gofynion gwresogi ac ynni ar y safle hwn.
· Mae amodau yn eu lle i'w gwneud yn ofynnol cynnal a chadw'r boeler a'r ffliw. Mae cynllun hefyd i fonitro a gwirio ei fod wedi'i wasanaethu'n briodol. Nid oes angen trwydded gan CNC nac unrhyw asiantaeth arall.
· Mynegwyd pryder yngl?n â'r allyriadau s?n ar y safle a nodwyd bod Cyngor Cymuned Llanarth Fawr wedi gofyn am ohirio ystyried y cais hyd nes y bydd y mater hwn wedi'i unioni.
· Bydd lori’n ymweld gyda’r safle pedair gwaith yr wythnos.
· Mae'r boeler biomas wedi bod yn weithredol ers pedwar mis.
· Mae lefelau sain cefndirol yn y lleoliad gwledig yn debygol o fod yn isel.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir J. Butler ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell bod cais DM/2022/00815 yn cael ei ganiatáu gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyda'r amodau a ddiwygiwyd mewn gohebiaeth hwyr ynghyd ag amod ychwanegol 5 yn perthynas â gwasanaethu'r boeler yn rheolaidd.
Nodwyd y byddai'r geiriad yn amod 2 yn cael ei ddiwygio i gynnwys pren crai, heb ei drin, yn unig fel tanwydd ac i ymgorffori monitro'r math o danwydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Prydeinig.
Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau a ganlyn:
O blaid y cynnig - 11
Gwrthwynebu’r cynnig - 2
Ymatal - 2
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2022/00815 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad a gyda'r amodau a ddiwygiwyd mewn gohebiaeth hwyr, ynghyd ag amod ychwanegol 5 mewn perthynas â gwasanaethu'r boeler yn rheolaidd.
Nodwyd y byddai'r geiriad yn amod 2 yn cael ei ddiwygio i gynnwys pren crai, heb ei drin, yn unig fel tanwydd ac i ymgorffori monitro'r math o danwydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Prydeinig.
Dogfennau ategol: