Agenda item

Cais DM/2023/00550 - Cadw a chwblhau estyniad cefn llawr cyntaf arfaethedig. Celebration Cottage, Candwr Road, Ponthir, Sir Fynwy, NP18 1HU.

Cofnodion:

Gwnaethom ystyried yr adroddiad ar y cais a'r ohebiaeth hwyr yr argymhellwyd eu cymeradwyo, yn amodol ar yr amodau fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae'r ardal yn cael ei hystyried yn gefn gwlad agored.

 

·         Nid yw'r cais yn cydymffurfio â Pholisi H6 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

·         Mae swyddogion yn fodlon na fydd gan y cais hwn ymddangosiad ymwthiol.  Fodd bynnag, mae ffotograffau mewn gohebiaeth hwyr ac o ymweliad y safle yn dangos y gellir gweld yr estyniad o'r ffordd wrth fynd i mewn i Bentref Llandegfedd.

 

·         Bydd hwn yn estyniad ymwthiol ar eiddo sydd eisoes yn fawr iawn.

 

·         Er bod yr estyniad yn llai na 30% o'r annedd, mae'n dal i fod yn estyniad mawr a fydd yn edrych dros ei eiddo cyfagos.   Dim ond 6% yn llai na'r hyn a ystyrir yn dderbyniol o fewn y canllawiau.  Dylid defnyddio rhywfaint o synnwyr cyffredin.

 

·         Gellir dadlau nad yw'r cais hwn yn cydymffurfio â geiriad Polisi H6 sy'n ceisio osgoi ymestyn anheddau gwledig presennol, a'r effaith andwyol y mae hyn yn ei chael ar gymeriad ac ymddangosiad cefn gwlad agored.

 

·         Gall estyniadau ar raddfa fawr fod yn niweidiol os ydynt yn arwain at golli maint a chymeriad anheddau gwledig traddodiadol.

 

·         Nid yw’r Aelod lleol o’r farn y dylid cymhwyso’r cyfiawnhad bod yr eiddo wedi colli ei draddodiadoldeb.

 

·         Amcan Polisi H6 yw nad yw anheddau gwledig yn colli eu traddodiadoldeb trwy orestyniad.  Mae'r cais hwn yn gwrthdaro â'r amcanion hynny.

 

·         Mae adroddiad y cais yn ystyried un rhan o bolisi DES 1 yn unig.  Y cyfiawnhad yw y bydd y ffenestri a gynigir ar gyfer ystafelloedd na ellir byw ynddynt, a bod digon o bellter rhwng yr eiddo.  Fodd bynnag, ystyriwyd bod gan y ddau eiddo hyn eisoes problemau o ran edrych dros eiddo cyfagos a bydd cymeradwyo'r cais hwn yn gwaethygu'r mater.

 

·         Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar gyfer arweiniad. Nid yw'r Aelod Lleol o'r farn bod y cais hwn yn cydymffurfio â pholisi EP1 y CDLl.

 

·         Nid yw adroddiad y cais yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r llygredd s?n a golau y bydd yr eiddo cyfagos yn cael ei effeithio ganddo pe caniateir y cais hwn.

 

·         Mae adroddiad y cais yn dangos na fydd yr estyniad ar y llawr cyntaf yn arwain at s?n annerbyniol.   Fodd bynnag, dim ond un rhan o'r cais hwn yw'r estyniad.  Ni fu unrhyw ystyriaeth yngl?n â mannau parcio ceir. Caniateir hyn o dan hawliau datblygu a ganiateir, ond mae'n dal i fod yn rhan o'r cais hwn, a rhaid i'r Pwyllgor ystyried yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar eiddo cyfagos.  Bydd cerbydau ychwanegol drwy gydol y dydd a'r nos yn gwaethygu s?n a llygredd golau o ystyried ei agosrwydd at y bwthyn. 

 

·         Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) 11 yn mynd i'r afael â llygredd s?n a rhaid cydymffurfio â hynny.  Mae'n rhaid amddiffyn amwynder.

 

·         Gan fod y mannau parcio ceir yn rhan o'r cais hwn, ystyrir nad yw'r mater hwn yn cydymffurfio â PCC 11 neu EP1 y CDLl.

 

·         Mae Eitem 4 yn cael ei groesawu.  Fodd bynnag, gallai'r amod fod yn gryfach i sicrhau bod yna fudd net mewn bioamrywiaeth. Dylid ystyried cynllun system wreiddiau ar gyfer coed sefydledig presennol ar y safle.

 

·         Mae digon o ddarpariaeth parcio eisoes ar flaen yr eiddo.

 

·         Byddai cymeradwyo'r cais yn arwain at orddatblygu'r safle yng nghefn gwlad agored.

 

·         Ni allai'r Aelod lleol gefnogi cymeradwyo'r cais gan yr ystyriwyd nad oedd yn cydymffurfio â pholisïau cynllunio lleol na chenedlaethol. 

 

Ymatebodd Rheolwr y Tîm Ardal Rheoli Datblygu fel a ganlyn:

 

·         Mae'r cynnydd mewn datblygiad yn ymwneud â'r ychwanegiad ar y llawr cyntaf a beth fyddai'r effaith weledol yn y cyd-destun ehangach.  Gellir gweld yr estyniad o nifer o fannau agored cyhoeddus.  Fodd bynnag, y broblem yw a yw'r cynnydd ym maint yr eiddo hwnnw yn ei leoliad yn effeithio ar gymeriad y dirwedd.  Barn yr Adran Gynllunio yw bod yr effaith ychwanegol a grëir gan yr estyniad yn dderbyniol.

 

·         Mae'r pellter preifatrwydd oddeutu 40 metr rhwng eiddo sy'n fwy na'r canllawiau cyffredinol.

 

·         Ar wahân i'r cais hwn, byddai gan yr ymgeisydd hawl i arfer hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer ardal fwy o dirlunio caled, heb ei gyfyngu gan rai o'r amodau ar gyfer datblygiad a ganiateir i wynebu wyneb caled o flaen yr annedd.  

 

·         O ran s?n a llygredd aer a gynhyrchir gan y datblygiad, bydd yna elfen o amharu yn ystod gwaith adeiladu.  Fodd bynnag, byddai niwsans golau neu lygredd aer tymor hwy a achosir gan y datblygiad yn parhau i fod yn d? un annedd.  Ni ystyrir bod yr estyniad ar y llawr cyntaf yn gwaethygu'r defnydd hwnnw i raddau y byddai'n achosi niwed.

 

·         Nid yw'r safle wedi'i leoli o fewn ardal gadwraeth.  Nid yw unrhyw un o'r coed yn cael eu gwarchod gan Orchymyn Cadw Coed gr?p unigol (GCC).  Mae gan yr ymgeisydd hawl i wneud gwaith tirlunio caled i'r cefn ar wahân i'r cais hwn.

 

Mynychodd Mr S. Baldwin, sy’n gwrthwynebu'r cais, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae teulu'r gwrthwynebydd wedi byw yma ers 300 mlynedd, ac mae hefyd wedi byw yma ar hyd ei oes.  Roedd t?'r gwrthwynebydd yn perthyn i'w dad-cu, ac mae wedi gwneud gwaith adnewyddu arno yn ystod y pedair blynedd flaenorol.

 

·         Cadwodd y gwrthwynebydd ei eiddo yn bwrpasol i faint priodol i'r llain y mae wedi'i leoli ynddo ac i ddefnyddio deunyddiau priodol.

 

·         Mae Celebration Cottage wedi cael pedwar estyniad sydd wedi dyblu maint yr eiddo. Mae yna fater o synnwyr cyffredin ac o gyd-destun gor-ddatblygiad.

 

·         Megis maint presennol y t? o gymharu â'r llain ac yn ystyried yr agwedd gyd-destunol, ychwanegwyd pwll hefyd at y safle yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

·         Nodwyd o dan hawliau datblygu a ganiateir y gallai'r safle gael ei orchuddio ag unrhyw ddeunydd a ddewiswyd gan berchennog yr eiddo.  Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn mynd i'r afael â'u hawl i sut y maent yn dewis ei ddefnyddio.

 

·         Nid yw hanes y cais hwn yn syml.   Roedd y cais blaenorol yn destun adolygiad barnwrol a achosodd straen eithafol a cholli gwaith i'r gwrthwynebydd.

 

·         Cafodd y cais ei gyflwyno i adolygiad barnwrol.  Nid oedd y gorchymyn cydsynio a gyflwynwyd heddiw yn seiliedig ar weithdrefn yn unig, a dewisodd Cyngor Sir Fynwy i beidio ag amddiffyn hynny am amrywiaeth o resymau.

 

·         Bydd yr effaith a'r cymeriad yn effeithio ar gefn gwlad lleol.  Nid yn unig y gellir ei weld o’r ffordd, ond mae’n ymwneud â’r dirwedd werdd a gwyrddlas y mae teulu’r gwrthwynebydd wedi byw ynddi ers 300 mlynedd.

 

·         Nid oes unrhyw d? arall yn yr ardal wedi'i ymestyn i'r gyfran hon ac ystyriwyd y dylai synnwyr cyffredin drechu.

 

·         Mae gorddatblygiad cyd-destunol yn allweddol ac mae'n anodd i'r gwrthwynebydd fyw'n agos i'r safle lle’r oedd ei dad-cu wedi byw, gan achosi straen i'r gwrthwynebydd dros gyfnod hir.

 

·         Bydd y cais yn effeithio ar amwynder y gwrthwynebydd trwy s?n a llygredd golau ar wahanol adegau drwy gydol y dydd a'r nos.  Mae'r eiddo eisoes wedi, ac mae'n gallu, darparu ar gyfer tri neu bedwar lle parcio a gallai eisoes ddarparu ar gyfer dau arall arall.  Byddai'r fantais ymylol o gael tri lle parcio arall y tu ôl i'r eiddo yn niweidio amwynder y gwrthwynebydd yn sylweddol.

 

·         Gwnaeth y Cyngor Cymuned sylwadau a gwrthwynebu'r ddau gais.

 

·         Holodd y gwrthwynebydd ddidueddrwydd yr Adran Gynllunio ynghylch y ddau gais ar gyfer y safle hwn.

 

Mynychodd Mr. P. Musker, asiant yr ymgeisydd, y cyfarfod drwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae'r cais hwn wedi bod yn destun craffu estynedig a manwl.

 

·         Nid oes ffenestri newydd i ystafelloedd y gellir byw ynddynt o fewn y cynnig sy'n wynebu'r eiddo a elwir The Cottage.

 

·         Mae ffenestri o fewn y cynnig i'r llawr cyntaf ac sy'n wynebu'r dwyrain yn 90° y tu ôl i'r eiddo cyfagos a 46.43 metr i ffwrdd.   Nid ystafelloedd y gellir byw ynddynt yw'r rhain ond maent yn darparu golau i ben grisiau'r llawr cyntaf a’r pwll grisiau.

 

·         Oherwydd yr ongl acíwt ni ellir cyflawni unrhyw agwedd weledol o bosibl i gyfeiriad The Cottage.

 

·         Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) mabwysiedig yn nodi y dylid cyflawni lleiafswm o 21 metr rhwng ffenestri cyfanheddol sy'n wynebu'n uniongyrchol.  Mae'r unig ffenestr gyfanheddol sy’n wynebu The Cottage o fewn llawr gwaelod presennol eiddo'r cais ac mae'n 40.52 metr i ffwrdd. Mae hyn yn cynrychioli bron i 100% o gynnydd dros y gofyniad lleiaf ac mae'n unol a’r CCA mabwysiedig.

 

·         O dan feini prawf Polisi H6 mae angen cyfrifiad cyfaint, sydd wedi'i ddarparu ac sy'n nodi canran dros yr annedd bresennol o 23.831%.

 

·         Mae Polisi H6 yn darparu cynnydd targed o 30% fel canllaw, sy'n codi i 50% os na ellir sefydlu unrhyw effaith ymwthiol niweidiol a bod gwelliant yn ymddangosiad yr annedd bresennol.

 

·         Mae'r cais wedi dangos bod y cynnig yn eistedd o fewn meini prawf Polisi H6 fel yr amlinellir yn adroddiad y cais.

 

·         Nid oes gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais.  Fodd bynnag, mae'r cais wedi diwygio'r cynllun bloc a'r dyluniad trwy leihau'r lleoedd i dri, gan ymdrin â'r cynllun i ffwrdd o'r ffin ger The Cottage a chytuno i welliannau planhigion i leihau'r effaith ar ffin y dwyrain.

 

·         Bydd y coed presennol yn parhau i ategu'r gwelliannau arfaethedig y cytunir arnynt trwy amod.

 

·         Mae'r t? pwll nofio tua naw metr i ffwrdd o gefn yr annedd letyol ac mae'n destun tystysgrif datblygiad cyfreithiol a gymeradwywyd.

 

·         Mae'r ddormer ddiwygiedig y tu ôl i'r annedd lletyol yn uwchraddiad ac yn ddiwygiad i ffenestr dormer bresennol. Mae asesiad mesur wedi'i gynnal ac wedi ei ystyried o fewn ffiniau datblygiad a ganiateir.

 

·         Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried cymeradwyo'r cais fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae maint tai o fewn cefn gwlad yn amrywio.

 

·         Bydd brig y to pan fydd wedi'i gwblhau ond tua 18 modfedd uwchben y gwrych.

 

·         Ystyriwyd y byddai unrhyw lygredd s?n posibl o gerbydau ychwanegol yn fach iawn.

 

·         Nid yw'r datblygiad parhaus yn edrych yn ymwthiol nac allan o gymeriad ar gyfer annedd yng nghefn gwlad agored.

 

·         Ystyriwyd bod y cais yn bodloni'r gofynion a'r ystyriaethau perthnasol a amlinellir yn yr adroddiad.

 

·         Gellir ystyried amod ychwanegol bod y tair ffenestr llawr cyntaf ar ddrychiad dwyreiniol yr estyniad llawr cyntaf yn rhai â phaen sefydlog a gwydr aneglur.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol M. Powell a'i eilio gan y Cynghorydd Sirol J. Butler i gais DM/2023/00550 cael ei gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol bod y tair ffenestr llawr cyntaf ar ddrychiad dwyreiniol yr estyniad llawr cyntaf yn rhai â phaen sefydlog a gwydr aneglur.

 

Nid oedd y Cynghorydd Sirol McKenna yn gallu pleidleisio ar y cais hwn oherwydd problemau technegol gyda'i chysylltiad Microsoft Teams ac ni ystyriwyd ei fod yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan ar y mater hwn.  Felly fe wnaeth hi ymatal rhag pleidleisio.

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid-           11

Yn erbyn         -           1

Ymatal-           2

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2023/00550 yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar amod ychwanegol bod y tair ffenestr llawr cyntaf ar ddrychiad dwyreiniol yr estyniad llawr cyntaf yn rhai â phaen sefydlog a gwydr aneglur.

 

Dogfennau ategol: