Agenda item

Cais am Ganiatâd Masnachu Stryd Bloc ar gyfer Neuadd Bentref Tyndyrn.

Cofnodion:

Ystyriodd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol gais am ganiatâd masnachu stryd crynswth ar gyfer Neuadd Bentref Tyndyrn, Quayside, Tyndyrn, NP16 6SZ gydag uchafswm o 12 llain. Byddai lleiniau yn seiliedig ym maes parcio, gardd ac ardal chwarae y safle.

 

Gwnaed y cais gan Drysorydd Pwyllgor Rheoli Neuadd Bentref Tyndyrn, oedd yn bresennol yn y gwrandawiad.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a baratowyd gan y Swyddog Trwyddedu ac adolygodd gopi o’r cais a roddwyd gan yr ymgeisydd.

 

Daeth y cais i law’r Awdurdod Trwyddedu ar 13 Ebrill 2023.

 

Mae’r dyddiadau a’r amser a geisir gan yr ymgeisydd yn y cais fel sy’n dilyn:

 

  • Dydd Llun – 10:00–16:00
  • Dydd Sadwrn – 10:00–16:00
  • Dydd Sul  – 10:00–16:00

 

Yn y gwrandawiad eglurodd yr ymgeisydd mai’r bwriad yw cynnal Marchnad Ffermwyr / Cynnyrch Lleol fisol rhwng 10.00am a 2.00pm yn gwerthu bwyd, diod a/neu blodau (yn bennaf wedi eu tyfu/cynhyrchu yn lleol yn Sir Fynwy neu Ddyffryn Gwy) a chynnal Marchnadoedd Crefftau tua tair i bedair gwaith y flwyddyn lle bydd lleiniau yn gwerthu eitemau crefftau cartref, yn neilltuol adeg y Nadolig a’r Pasg. Eglurodd yr ymgeisydd na fwriedir gweithredu bob dydd Llun, Sadwrn a Sul drwy’r flwyddyn.

 

Roedd y Pwyllgor yn ddiolchgar am yr eglurhad hwn, gan nad oedd hyn yn glir o’r wybodaeth yn y cais. Nodwyd ymhellach nad oedd y ffurflen gais ei hun yn ei gwneud yn bosibl cynnwys yr wybodaeth hon. Bydd yr Adran Trwyddedu yn adolygu hyn.

 

Nododd y Pwyllgor y cafodd y cais ei anfon i ymgyngoreion statudol ar gyfer ymgynghoriad, yn cynnwys:

  • Trwyddedu yr Heddlu
  • Traffig yr Heddlu
  • Yr Aelod Ward lleol
  • Gwahanol adrannau o fewn Cyngor Sir Fynwy sef Stadau, Priffyrdd, Cynllunio ac Iechyd yr Amgylchedd. Ni chafwyd sylwadau gan unrhyw ymgynghorai statudol.

 

Nododd y Pwyllgor na dderbyniwyd unrhyw sylwadau gan unrhyw ymgynghorai statudol ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau pellach i’r cais.

 

Yn eu cais i’r Pwyllgor, dywedodd yr ymgeisydd mai ei dealltwriaeth oedd nad oedd unrhyw wrthwynebiad i’r cais gan fusnesau lleol. Nododd y Pwyllgor hyn ond roedd yn rhaid iddo ystyried nad oedd unrhyw lythyrau cefnogi o fewn y papurau a ystyrir.

 

Nododd y Pwyllgor fod Adran 7 Polisi Masnachu Stryd Cyngor Sir Fynwy 2015 yn nodi:

 

Ni chaiff y defnydd ei leoli o fewn 100 metr o siop, bwyty, tecawê bwyd twym presennol y rhai sydd â chaniatâd masnachu stryd a marchnadle (sy’n cynnwys caniatâd crynswth).

 

Ystyriodd y Pwyllgor Atodiad C yr adroddiad sy’n dangos y pellter rhwng Neuadd Pentref Tyndyrn a safleoedd a all werthu nwyddau tebyg. Nodwyd y dilynol:

  • Old Filling Station – 27.41 metr
  • Anchor Inn – 162.25 metr
  • The Wild Hare – 82.84 metr
  • Abbey Mill – 69.40 metr
  • Leyton’s Field (safle G?yl Tyndyrn) – 75.03 metr – Cynhelir G?yl Tyndyrn yn flynyddol ar Leyyon’s Field sy’n agos at Neuadd Pentref Tyndyrn.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ofalus i p’un ai oedd yn debygol y byddai’r drwydded arfaethedig yn effeithio ar y busnesau lleol. Rhoddwyd ystyriaeth neilltuol i natur y busnesau lleol, y cynnyrch a gynigir gan y busnesau hynny ac amlder a’r math o ddigwyddiadau a gynhelid yn Neuadd Pentref Tyndyrn dan y drwydded arfaethedig a’r cynnyrch a gynigir.

 

Eglurodd y Pwyllgor hefyd sut y byddai’r safle yn cael ei fonitro, yn arbennig yng nghyswllt sbwriel. Cadarnhaodd yr ymgeisydd y caiff sbwriel ei reoli a’i fonitro yn y safle ond nad yw’r cynnyrch a werthir mewn digwyddiadau i’w bwyta na’u hyfed ar y safle ac y bydd unrhyw luniaeth a gynigir mewn cwpanau aml-dro.

 

Yn dilyn cwestiynau gadawodd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a’r cynrychiolydd Cyfreithol y cyfarfod i drafod y canfyddiadau.

 

Pan ailddechreuwyd a gan roi ystyriaeth i’r holl faterion a godwyd, deddfwriaeth berthnasol a chanllawiau a holl amgylchiadau perthnasol y cais, fe wnaethom penderfynu cytuno i’r cais am 12 mis.

 

Dogfennau ategol: