Agenda item

Cyflwyniad gan Matt Lewis, Gwasanaeth Adnoddau a Rennir – rôl a diben y Gwasanaeth.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y Prif Swyddog Gweithredu, a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir.  Yn dilyn y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:

 

·        Gofynnodd Aelod am eglurhad o gyllideb Sir Fynwy ac eglurwyd mai £3,056,000 yw'r cyfanswm cyfraniad sydd ei angen ar gyfer gwasanaethau Cyngor Sir Fynwy, gwasanaethau i ysgolion a chontractau a thrwyddedau.  Mae hyn yn cynnwys £738,000 a delir yn uniongyrchol am gontractau a thrwyddedau ynghyd â chyfraniad Cyngor Sir Fynwy o £1,600,000 (cyfanswm o £2,300,000) ynghyd ag incwm o £709,000 gan ysgolion.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn darparu gwasanaethau TCC ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Sir Fynwy.  Mae tua 60 o gamerâu yn cael eu monitro ym mhob sir 24 awr bob dydd dan sylw sifftiau un person fesul sifft y tu allan i oriau swyddfa, ynghyd â gweithredwyr eraill yn ystod y dydd.  Disgwylir i'r camerâu ffocysu’r ddelwedd ar weithgaredd os yw’n canfod digwyddiad.  Gwnaed cynnig i'r Aelod siarad y tu allan i'r cyfarfod i drafod lleoliadau penodol.

 

·        Hysbyswyd Aelod, a oedd yn gofyn am gynaliadwyedd y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a'i gynlluniau i weithio tuag at sero net, fod y safle newydd yn ganolfan ddata a redir yn broffesiynol gyda ffynhonnell ynni adnewyddadwy ardystiedig o 100%.

 

·        Dywedodd Aelod fod rhai ysgolion yn poeni am werth am arian EdTech a'u bod yn chwilio am ddarparwyr amgen.   Eglurwyd bod cwrdd â'r safonau EdTech yn gostus, ond mae’r safonau’n cael eu bodloni gan yr ysgolion hynny sydd ar CLG (cadarnhawyd hyn gan archwiliad diweddar).  Efallai na fydd gan yr ysgolion y tu allan i'r CLG yr offer i gwrdd â'r safon.  Efallai y bydd opsiwn i ddiwygio'r CLG.  Mae angen i ysgolion fod yn ymwybodol o gostau cudd wrth geisio darpariaeth amgen.   Mae rhai ysgolion Casnewydd wedi dychwelyd i wasanaethau'r y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir gan ddarparwyr allanol.  Byddai rhagor o wybodaeth a chyswllt ag ysgolion y tu allan i'r CLG yn fuddiol.

 

·        Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod ymarfer meincnodi wedi'i gynnal ledled Cymru a Lloegr

·        Esboniodd ei bod yn rheoli'r berthynas gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a'r gyllideb gan gynnwys CLG gydag ysgolion.  Gwnaed cynnig i siarad â llywodraethwyr ysgol os oedd angen.  Ychwanegwyd bod prosiectau, dyheadau a pherfformiad digidol yn cael eu cyfathrebu, eu rheoli a'u harchwilio'n dda iawn.  Mae'r Bwrdd Busnes a Chydweithredu gyda'r partneriaid eraill yn ganran Cyllideb TG o gyllideb sefydliad o 2.2% gyda chyfartaledd o 2.4%. Mae canran y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir ar gyfer ei bartneriaid yn amrywio o gyfraniad o 1.7% i 2.1% o gyllideb gyffredinol y sefydliad gan ddarparu gwerth cadarnhaol am arian.

 

·        Gofynnodd Aelod a yw adroddiad diwedd blwyddyn yn cael ei ddarparu i roi sicrwydd ac eglurwyd bod adroddiad blynyddol yn cael ei ddarparu i'r Bwrdd, ac mae adroddiadau misol yng nghyfarfodydd y Gr?p Cyflawni lle mae materion yn cael eu nodi a'u trin.

 

·        Gofynnodd Aelod faint o ddefnydd sy'n cael ei wneud o eiddo gweddilliol Blaenafon ar ôl symud i Gasnewydd a chafodd wybod bod datgomisiynu ar y gweill, gyda'r bwriad o gadw swyddfeydd oni bai bod llety addas arall ar gael.  

 

·        Gofynnodd y Cadeirydd sut y rheolir y gwahanol flaenoriaethau rhwng y chwe phartner.   Y Pennaeth Diogelwch Gwybodaeth Cyfle i drafod prosiectau cydweithredol a monitro dangosyddion perfformiad.  Eglurwyd y gallai cyflwyno Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol Sir Fynwy olygu gwahanol adnoddau a bydd y gyllideb yn cael ei rheoli gyda'r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir yn unol â hynny. 

 

·        Cadarnhawyd bod staff Cyngor Sir Fynwy yn cael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Adnoddau a Rennir a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n cynnal y gwasanaeth.  Sir Fynwy sy'n cyfrannu cost gyflog y staff a drosglwyddir.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: