Cofnodion:
Nodwyd y Rhestr Weithredu o'r cyfarfod blaenorol:
1. Cydweithrediadau a Phartneriaethau Allweddol: Cadarnhaodd y Prif Archwilydd Mewnol fod yr adolygiad wedi'i gwblhau a bod yr adroddiad drafft yn barod i'w gyhoeddi ac y bydd yn cael ei rannu gyda'r Pwyllgor maes o law. Mae cydweithrediadau a phartneriaethau allweddol wedi cael eu hystyried fel rhan o'r asesiad risg a drafftio cynllun gweithredol Archwilio Mewnol. Bydd o leiaf pedwar adolygiad i'w cwblhau ar gyfer gwasanaethau sy'n gweithredu mewn partneriaeth. Y rhain yw Budd-daliadau Tai, Treth y Cyngor, y Gwasanaeth Refeniw a Rennir (yr Awdurdod Arweiniol yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen) a'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid lle mai Sir Fynwy yw'r Awdurdod Arweiniol. Bydd unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion o'r adolygiad yn cael eu hateb yn unol â hynny. [YN PARHAU]
2a Capasiti Tîm Cyllid: Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod rhai penodiadau wedi'u gwneud i'r tîm Cyllid. Mae penodiadau i rai swyddi uwch yn parhau. Mae'r oedi’n cael ei reoli drwy flaenoriaethu darnau allweddol o waith. Y nod yw cwblhau recriwtio dros chwech i wyth wythnos er mwyn sicrhau cyflenwad llawn o staff. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod ffocws ar y sefyllfa ariannol bresennol i sicrhau'r defnydd
gorau o adnoddau, i barhau i gyflawni'r newidiadau gwasanaeth ac i gynhyrchu arbedion. Y gobaith yw cwrdd â dyddiad cau canol mis Gorffennaf ar gyfer y cyfrifon drafft ond erys llawer o newidynnau a allai achosi oedi. Cadarnhaodd Swyddog Archwilio Cymru fod yr amserlen a nodir yn unol â disgwyliadau Archwilio Cymru a rhagwelir y dylid cael dyddiad ardystio ym mis Tachwedd.
Yn sgil diweddariad hwn, roedd y Pwyllgor yn dymuno deall y sefyllfa bresennol yn llawnach ac yn benodol canlyniadau'r penderfyniadau blaenoriaethu sy'n cael eu gwneud. O ganlyniad, gofynnodd y Cadeirydd am bapur cryno yn nodi strwythur sefydliadol, math a nifer y swyddi gwag y Tîm Cyllid, cynlluniau ar gyfer datrys ac esboniad llawnach o'r canlyniadau ar lwyth gwaith a blaenoriaethu. Mynegodd Aelod bryder am yr oedi parhaus. [YN PARHAU]
2b Dadansoddiad tuedd o werth buddsoddiadau masnachol flwyddyn ar ôl blwyddyn, a'r incwm a dderbynnir sy'n cyfrannu at wasanaethau: Nodwyd bod e-bost wedi'i anfon at Aelodau sy'n cynnwys y wybodaeth y gofynnwyd amdani. [WEDI CAU]
4a. Cynllun Amlinellol Archwilio Cymru: Mae'r Cadeirydd wedi gweld llythyr Archwilio Cymru yn manylu ar yr amserlen ddiwygiedig [WEDI CAU]
4b. Deunyddiau Hyfforddiant ar gyfer ISA 315: Cadarnhawyd nad oes adnoddau na digwyddiadau ar gael ar hyn o bryd. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu wrth i wybodaeth ddod ar gael. [WEDI CAU]
5a. Caiff y Strategaeth Pobl a Chynllun Rheoli Asedau eu hadrodd yn y cyfarfod ar 19eg Hydref 2023 [YN PARHAU]
5b Iaith yr adroddiad i fod yn fwy cryno gyda llinellau amser. Bydd hyn yn cael ei adrodd yn yr adroddiad rheolaidd yn y cyfarfod ar 19eg Hydref 2023. [WEDI CAU]
5c Menter gymdeithasol (llithriad o bron i ddegawd ledled Cymru): Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon i gau'r eitem hon. [YN PARHAU]
6. Adroddiad cwynion yr awdurdod cyfan: Ystyried y system bwysoli ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol [YN PARHAU]
9. Adolygiad o'r Gofrestr Risg Strategol:
a) Darparwyd diweddariad ar y ddwy elfen sy'n weddill o Risg 4 cyn y cyfarfod. [WEDI CAU]
b) Cofrestr Risg Strategol: mireinio strwythur a chynnwys y papur hwn fel ei fod yn cyd-fynd yn llawnach â chyfrifoldebau'r Pwyllgor [YN PARHAU]
12. Blaengynllun Gwaith: Mae hyn wedi cael ei ddiweddaru [WEDI CAU]
Dogfennau ategol: