Agenda item
Cais DM/2021/00528 – Datblygiad preswyl arfaethedig o 2 annedd ar wahân gyda pharcio preifat ar y safle, Holly Bush, Vinegar Hill, Gwndy, Sir Fynwy.
Cofnodion:
Rhoesom ystyriaeth i adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr yr argymhellwyd ei chymeradwyo gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106.
Amlinellodd yr Aelod lleol dros Ddwyrain Magwyr gyda Gwndy, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau a ganlyn:
- Mae'r cais ar gyfer dau eiddo ond mae yna fynediad gwael i Vinegar Hill.
- Mae gan y cais argymhelliad gan swyddog i'w ganiatáu gan fod ganddo symudiad cerbydau is, a dyma'r prif reswm dros newid polisi caniatâd Priffyrdd.
- Mae cyffordd y B4245 yn Vinegar Hill wedi'i chyfeirio fel cyffordd anaddas ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm.
- Nid oes llwybrau troed i blant gerdded yn ddiogel ar hyd y llwybr hwn.
- Nid oes mynediad i ddatblygiadau preswyl. Mae nifer o faterion y mae angen mynd i'r afael â hwy trwy amodau cyn ystyried y cais hwn i'w gymeradwyo.
- Nid oes manylion cynllun y System Ddraenio Gynaliadwy (SDCau) ar gael.
- Mae angen llain ehangach ar y fynedfa ac mae angen torri llystyfiant yn ôl ar eiddo’r perchennog ac ar wrych y Cyngor Sir.
- Mynegodd yr Aelod lleol bryder bod plant yn gorfod cael mynediad i'r ffordd gul hon heb lwybr troed wrth gerdded i'r ysgol. Byddai cerbydau ychwanegol a Cherbydau Nwyddau Trwm yn cludo nwyddau i'r safle hwn yn gwaethygu'r sefyllfa. Nid yw'r llain bresennol yn addas ar gyfer cerbydau mawr.
- Dywedodd yr Aelod lleol na allai gefnogi'r cais hwn oherwydd y materion a amlinellwyd mewn perthynas â'r lled a mynediad i'r ffordd.
Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Datblygu Priffyrdd wrth y Pwyllgor:
- Roedd y cais yn wreiddiol ar gyfer 4 t? yn cynnwys 4 cerbyd a ystyriwyd yn anaddas ar gyfer y safle. Fodd bynnag, mae dau d? sy'n cynnwys dau gerbyd gyda'r t? presennol yn gallu ymdopi â cherbydau yn mynd i ac o'r datblygiad hwn gyda'r effaith ar Vinegar Hill gryn dipyn yn llai.
- Mae cerddwyr yn yr ardal hon ar hyn o bryd yn byw gyda datblygiad sylweddol eisoes yn bodoli. Ystyriwyd na fyddai dau d? ychwanegol yn achosi unrhyw niwed sylweddol i ddiogelwch defnyddwyr y briffordd.
· Gofynnwyd am Gynllun Rheoli Traffig Adeiladu (CRhTA) trwy amodau Cynllunio. Mater i'r adeiladwr fydd cyflwyno'r cynllun hwn i'r Awdurdod i'w gymeradwyo.
· Mae cerbydau mawr yn gallu mynd i Vinegar Hill. Os na allant gael mynediad i ddatblygiad penodol, yna byddai'n ofynnol iddynt reoli maint eu cerbydau yn unol â hynny. Byddai'r CTMP yn mynd i'r afael â hyn ar gyfer y datblygiad hwn.
Dywedodd y Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor:
· Byddai angen amod ychwanegol i gynnwys Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu petai'r Pwyllgor yn ystyried caniatáu'r cais.
· Byddai'r cais Systemau Draenio Cynaliadwy yn cael ei ystyried fel rhan o gais ar wahân.
Darllenodd y Pennaeth Creu Lleoedd, Tai, Priffyrdd a Llifogydd ddatganiad i’r Pwyllgor gan asiant yr ymgeisydd:
· Cyflwynwyd y cais ym mis Mawrth 2021 ac yn wreiddiol ar gyfer adeiladu 4 t?. Derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau i'r bwriad ac mewn trafodaethau gyda swyddogion Cynllunio a Phriffyrdd, cytunwyd i leihau nifer y tai i ddau.
· Mae pryderon ynghylch gor-edrych yn derbyn sylw drwy sicrhau na fydd y datblygiad yn edrych dros eiddo cyfagos.
· Bwriedir cadw gwrychoedd a phlanhigion presennol a sgrinio'r datblygiadau ymhellach. Bydd unrhyw ffensys terfyn diffygiol sy'n eiddo i'r ymgeisydd yn cael eu newid neu eu hatgyweirio ar sail tebyg am debyg.
· Mae'r dreif bresennol i'w addasu er mwyn ei gwneud yn haws symud o fewn y safle ac mae'r newidiadau arfaethedig yn cael eu trafod a'u cytuno gyda'r Adran Briffyrdd.
· Bydd pwyntiau gwefru trydanol yn cael eu darparu ar gyfer pob annedd.
· Mae arolygon coed ecolegol helaeth wedi eu cynnal gyda gwrychoedd a phlanhigion presennol i aros ar yr ochrau a'r ffiniau cefn.
· Mae pryderon am briffyrdd yn cael eu cydnabod ac yn cael eu hystyried/datrys.
· Mae'r fynedfa bresennol o Vinegar Hill yn dderbyniol ac mae'r fynedfa ond 160 medr o'r B4245.
· Mae yna welededd da ymlaen gydag o leiaf 10 man pasio lle gall cerddwyr sefyll oddi ar y briffordd.
· Mae cyflymder traffig yn cael ei atal ar hyd Vinegar Hill oherwydd aliniad naturiol a lled y ffyrdd.
· Mae'r fynedfa bresennol i'r safle wedi cael ei defnyddio ers o leiaf 25 mlynedd ac mae'r Awdurdod Priffyrdd wedi cadarnhau na fydd yn niweidiol i ddiogelwch priffyrdd.
· Mae'r safle yn gorwedd o fewn ffin datblygu Magwyr gyda Gwndy ac yn darparu datblygiad cynaliadwy sydd wedi'i ystyried yn dda.
· Mae'r cynigion draenio ar gyfer d?r budr a d?r wyneb wedi'u derbyn mewn egwyddor a bydd cais Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCS) ar wahân yn cael ei gyflwyno.
· Mae’r ffordd y mae’r safle wedi ei gosod yn mynd i'r afael â phryderon a godwyd gan gymdogion ac fe'i cefnogir gan Swyddogion Cynllunio.
· Ni fydd yr olygfa stryd o Vinegar Hill yn newid gan y bydd yr anheddau newydd yn cael eu sgrinio gan dopograffeg bresennol.
· Mae'r ymgeisydd wedi darparu swm helaeth o wybodaeth i gefnogi'r cynllun arfaethedig a gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried caniatáu'r cais.
Wedi ystyried yr adroddiad ar y cais a’r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y wybodaeth a ganlyn:
- Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, nodwyd bod yr hawl tramwy cyhoeddus presennol wedi ei leoli ar hyd Badgers Walk. Nid oes hawl tramwy cyhoeddus ar hyn o bryd yn mynd drwy'r safle. Ni fyddai'r datblygiad arfaethedig yn effeithio ar yr hawl tramwy cyhoeddus presennol.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00528 gyda'r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106 ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir J. Butler. Hefyd, dylid ychwanegu amod ychwanegol i gynnwys Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.
Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau a ganlyn:
O blaid y cynnig - 9
Yn erbyn y cynnig - 1
Ymatal - 3
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2021/00528 yn amodol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn amodol ar Gytundeb Cyfreithiol A106. Hefyd, dylid ychwanegu amod ychwanegol i gynnwys Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.
Dogfennau ategol: