Agenda item

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn – Ar gyfer Aelodau fel bod modd llywio’r gwaith o fynd ymlaen i gam nesaf y Gorchymyn drafft.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths gyflwyniad i’r adroddiad. Cyflwynodd Huw Owen yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda David Jones.

 

Her:

 

Gallwn basio deddfau a sefydlu dirwyon ond gorfodi a dulliau gorfodi yw'r her bob amser o ran cael effaith.

 

Mae'r broses Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ei hun yn ddefnyddiol o ran atgoffa'r cyhoedd am godi gwastraff, ble i fynd â'u c?n, ac ati. Os byddwn yn cyhoeddi unrhyw ardaloedd sy’n eithrio c?n ar dennyn, bydd arwyddion priodol yn cael eu gosod. Un opsiwn o ran gorfodi yw rhannu awdurdodiadau ar draws nifer o gyfarwyddiaethau/adrannau. Mae gennym hefyd swyddogion gorfodi parcio sy'n patrolio meysydd parcio ac ati yn rhagweithiol; rydym eisoes yn trafod a oes modd eu hawdurdodi. Bydd yr adolygiad o ollwng sbwriel a thipio anghyfreithlon yn mynd i'r afael â'r maes hwn hefyd, gan ei fod yn ymwneud â hysbysiadau cosb benodedig a swyddogion cymorth cymunedol, yn benodol. Mae swyddogion hefyd yn gweithio ar wybodaeth o ran dilyn cwynion, yn enwedig gan fod perchnogion yn tueddu i gerdded eu c?n yn yr un mannau.

 

Sut fyddai'r rheolaethau newydd yn effeithio ar ymddiriedolwyr tir? Er enghraifft, mewn perthynas â'r tir yng Nghil-y-coed. Y Cyngor Tref yw’r ymddiriedolwr ar ei gyfer, ac mae’r tir yn cynnwys parc chwarae a chae chwaraeon.

 

Fel y nodwyd yn Argymhelliad 2.3, rydym wedi anfon gohebiaeth at bob cyngor tref a chyngor chymuned, yn nodi'r ardaloedd sy’n cael eu cynnig fel ardaloedd eithrio c?n ar dennyn ac ardaloedd eithrio c?n ar gyfer pob cyngor. Gallant gysylltu’n ôl gyda ni os oes ganddynt unrhyw bryderon neu gwestiynau. Gallai hyn fod yn yn berthnasol o ran y tir yng Nghil-y-coed, yn yr achos hwnnw. Bydd y manylion hynny yn cael eu hystyried fesul achos. Os yw ardal benodol, megis parc, wedi'i chynnwys mewn PSPO, mae torri’r rheolau a fydd yn cael eu cytuno’n drosedd. Y tu hwnt i hynny, ni ddylai hyn effeithio ar reolaeth yr Ymddiriedolaeth o’r tir.

 

A fyddai hawl gan swyddog i roi tocyn ar dir ymddiriedolwr? Mae rhai perchnogion yn diystyru'r arwyddion yng Nghil-y-coed, gan arwain at broblemau mawr gyda'r cae. Mae'r Heddlu wedi dweud na ellir gwneud unrhyw beth heb is-ddeddf. Ble fyddai is-gyfraith yn dod i rym, os o gwbl?

 

Bydd y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn nodi'r union feysydd sy'n cael eu cynnwys, ar wefan y Cyngor ac ar arwyddion penodol yn yr ardal dan sylw. Felly, fe ddylai'r rheolau fod yn gwbl glir i unrhyw un sy'n mynd i mewn i ardal, ac felly mae goblygiadau adnoddau yn yr adroddiad o ran arwyddion.

 

O ran gorfodi, a oes mwy o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael? Faint o swyddogion awdurdodedig sydd yn y sir? Beth yw'r gyllideb ar gyfer gorfodi?

 

Ar hyn o bryd, mae'r swyddogion awdurdodedig yn gweithio ar draws adrannau Iechyd yr Amgylchedd a'r adran Gwastraff a Glanhau Strydoedd, ar gyfer y gorchymyn dynodi sydd yn ei lle ar hyn o bryd, yn ogystal â'r Ddeddf Baeddu Tiroedd. Mae'n annhebygol y bydd modd cynyddu cyllidebau'n sylweddol er mwyn cyflogi Swyddogion Gorfodi, ond mae hynny i'w ystyried mewn un opsiwn. Ond gellir cael swyddogion awdurdodedig mewn adrannau eraill megis Ystadau, Hamdden, ac ati. Mae gennym 5 swyddog Iechyd yr Amgylchedd a nifer o swyddogion posibl ym maes Gwastraff a Glanhau Strydoedd y gellid eu hawdurdodi, yn ogystal â 4-5 swyddog gorfodi parcio sifil. O brofiad, nid yw penodi swyddogion technegol sy’n mynd ati’n rhagweithiol i batrolio ar gyfer baw c?n yn gost effeithiol nac yn effeithlon. Yr hyn sydd ei angen yw sicrhau fod swyddogion ar gael i weithredu ar gudd-wybodaeth h.y. o gwynion gan y cyhoedd.

 

Sut fyddai'r cyhoedd yn gwybod eu bod yn delio â swyddogion awdurdodedig, a beth fydd y dull adrodd?

 

Mae ein swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wedi bod yn gorfodi ers degawdau. Pan fydd swyddogion yn mynd at berchnogion c?n, maent yn esbonio pwy ydyn nhw ac yn dangos tystiolaeth sy’n profi eu hawdurdod, felly does dim rhaid iddynt fod mewn iwnifform. Mae gweithdrefnau penodol y mae angen eu dilyn wrth ddelio â'r cyhoedd. Os yw swyddogion o adrannau eraill wedi'u hawdurdodi byddant yn cael eu hyfforddi ar beth i'w wneud a'i ddweud, yn union fel y gwnaethom gyda'r swyddogion cymorth cymunedol ychydig flynyddoedd yn ôl.

 

A fyddai swyddogion yn dangos ID MCC neu a fyddai angen cerdyn arnynt i ddangos eu bod wedi'u hawdurdodi i weithredu gorfodaeth? Beth yw'r pethau ymarferol? A fydd cyfeiriad e-bost ar wahân neu unrhyw gyhoeddiad ar gyfer rhoi gwybod am droseddau’n ddienw?

 

Byddai swyddog yn cysylltu â rhywun y credir eu bod wedi cyflawni trosedd, yn cyflwyno eu hunain ac yn egluro eu bod yn swyddog awdurdodedig. Ni fyddem yn disgwyl iddynt ddangos awdurdodiad gan y cyngor neu bennaeth diogelu'r cyhoedd bryd hynny. Os rhoddir hysbysiad cosb benodedig i'r aelod o'r cyhoedd, byddai'r gorchymyn yn nodi'n glir ym mha sefyllfa y gellid apelio ac yn darparu rhifau cyswllt, e-byst cyswllt, ac ati.

 

Rwy'n cytuno gyda sylwadau'r Dogs Trust yngl?n ag ymarfer corff oddi ar y tennyn, ond mae angen i hyn gael ei wneud mewn ardaloedd priodol. Efallai y bydd angen craffu pellach ar gynnwys ardaloedd chwaraeon penodol. A oes unrhyw dystiolaeth bod arwyddion yn cael effaith ar ymddygiad neu a yw ymgyrchoedd rheolaidd yn fwy effeithiol?

 

Nid wyf yn ymwybodol o dystiolaeth am effeithiolrwydd arwyddion. Rydym yn gwybod bod angen i ni wneud y rheolau yn glir. Yn ein hawdurdodau lleol cyfagos lle mae Gwarchodaeth Mannau Cyhoeddus ar waith, mae'r arwyddion yn y parciau yn glir o ran beth yn union y gellir ei wneud ac ymhle. Byddai hyn hefyd yn gyfle da i dynnu hen arwyddion i lawr, a chael un neges glir i berchnogion c?n. Gallai’r arwydd gynnwys map o'r parc sy'n dangos ble mae'r ardaloedd ‘ar dennyn’ a’r eithriadau. Bydd codi ymwybyddiaeth yn broses raddol a byddwn yn gweithio gyda’r tîm Cyfathrebu ar ymgyrch, a bydd gennym wybodaeth ar y wefan am ddyfodiad y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus a'r disgwyliadau. A bydd angen adeiladu ar y gwelliannau sydd wedi’u gwneud yn ystod y degawdau diwethaf o ran baw c?n ar y stryd fawr — newid agweddau yw'r ffordd orau o gael pobl i gydymffurfio. Bydd Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned yn cael eu grymuso i gyfathrebu â'u preswylwyr am y disgwyliadau, oherwydd hyn ceir Argymhelliad 2.3.

 

Mae argymhelliad 2.2 yn hanfodol bwysig: os nad yw rhywun yn cario bagiau er mwyn codi baw eu ci yna mae'n amlwg nad oes ganddynt unrhyw fwriad o wneud hynny. Er hyn, digon hawdd yw rhedeg allan.  Sut fyddai'r sefyllfa honno'n cael ei thrin?

 

Mae cysondeb o ran gorfodaeth yn bwysig iawn. Mae’n rhaid i’r swyddog gorfodi fod yn bwyllog hefyd e.e. os yw rhywun yn dweud nad oes ganddynt fagiau oherwydd bod eu ci eisoes wedi gwneud baw a bod y bagiau wedi cael eu defnyddio. Dylid ystyried pob achos ar ei rinweddau ei hun, a bydd swyddogion hefyd yn aml yn gweithredu ar gudd-wybodaeth yn hytrach nag ar y sefyllfa ei hun ar y pryd.

 

Ai’r disgwyl yw y bydd angen dod o hyd i adnodd/cyllideb er mwyn cynorthwyo swyddogion i fynd ar drywydd yr hysbysiadau cosb benodedig dan sylw? A fyddai unrhyw effeithiau ehangach ar weithrediad presennol y contract gwastraff c?n a weinyddir ar ran cynghorau tref a chynghorau cymuned?

 

Na, nid yw'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r agwedd casglu gwastraff c?n. O ran adnoddau ychwanegol, ni fyddai patrolio rhagweithiol yn effeithiol wrth gyflawni gwaith gorfodaeth. Felly, pe byddem yn cael swm o arian i gyflogi swyddog neu ddau arall ac yn gorfod adrodd yn ôl ar faint o hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi'u cyflwyno, byddai gennym bryderon o ran gallu dangos effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Aelod o'r Cabinet: Mae'n annhebygol y bydd yr argymhellion yn cael eu cyflwyno’n effeithiol heb fuddsoddiad mewn arwyddion effeithiol — ni ellir rhoi gorchmynion os nad yw'r cyhoedd wedi cael eu rhybuddio. Mae rhai o'r ffigurau sy’n cael eu hawgrymu tua £20k; fel Gweithrediaeth, bydd angen i ni wynebu hynny. Rwyf wedi fy mherswadio y gellir cyflawni rhaglen hyfforddi synhwyrol ar gyfer staff, ac o ganlyniad ni ddylai fod goblygiadau refeniw o ran staffio. O’m profiad mewn awdurdod arall, arweiniodd newid arwyddion presennol, sy’n rhoi’r argraff mai gwirfoddol yw’r cyfarwyddyd, at arwyddion PSPO at fwy o hunan-blismona. Roedd pobl yn teimlo bod hawl ganddynt i blismona eu cymdogion. Gallwn ddysgu llawer o lefydd eraill.

 

Cadeirydd: Diolch i'r swyddogion. Craffwyd yn fanwl ar argymhellion 2.1-2.5. Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch sut y gallwn sicrhau gorfodaeth gadarn, sut y bydd mesurau rheoli'n effeithio ar Ymddiriedolwyr Mannau Agored, adnoddau a'r gyllideb ar gyfer gorfodi, sut y bydd y cyhoedd yn gwybod pwy yw’r swyddogion gorfodi a sut y bydd gwybodaeth yn cael ei derbyn.  Mae cwestiynau ynghylch a ydym yn gwybod pa mor effeithiol yw arwyddion o ran ymddygiad ac a fydd unrhyw oblygiadau o ran adnoddau. Awgrymwyd, os nad yw rhywun yn cario’r cynwysyddion priodol, gellid rhoi llythyr rhybuddio iddynt. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn parhau i godi ymwybyddiaeth ynghylch codi baw eich ci a gweithio gyda nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn mynd i'r afael â'r mater. Ond mae'r un mor bwysig cynnig parthau gwahardd c?n ar gyfer aelodau eraill o'r cyhoedd. Bydd aelodau'r cyhoedd, cynghorau tref a chynghorau cymuned yn croesawu'r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad hwn gan y gwyddom fod hwn yn bwnc sy’n cynhyrfu pobl, yn enwedig ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol cymdogaethau ac mae’n rhywbeth yr ydym ni fel cynghorwyr yn derbyn nifer fawr o gwynion yn ei gylch.

 

 

 

Dogfennau ategol: