Cofnodion:
Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet yr adroddiad a thrafododd y swyddogion y cynnwys yn fwy manwl.
Her:
Beth yw cyfanswm y nifer sy’n gadael gofal? A yw hyn tua’r un cyfartaledd mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill? Pa gefnogaeth ychwanegol ellir ei roi i’r plant yma?
Nid wyf yn si?r, ond gallaf gael y wybodaeth ar ôl y cyfarfod (Camau Gweithredu: Charlotte Drury), ond yr hyn fyddwn i’n ei ddweud yw bod gennym ddeilliannau da. Mae’r rhai sy’n gadael gofal yma yn dueddol o ddisgyn i ddau gr?p penodol, pobl ifanc y mae eu trawma a’u taith trwy ofal heb fod mor adferol ag y byddai rhywun yn gobeithio a gwneir llawer o waith gyda nhw o ran hyfforddiant a chymorth a mynediad at addysg ac addysg yn hwyrach mewn oes. O ran y nifer o blant sydd mewn gwirionedd mewn addysg a phrentisiaethau gwaith addysg tymor hir neu mewn prifysgolion, rydym yn gwneud yn eithaf da yng nghyswllt ein cydweithwyr yng Ngwent, er nad oes gennym gymaint yn gadael gofal â rhai o’r awdurdodau mawr.
Mae adroddiad mwyaf diweddar y Comisiynydd Plant 2021-22 yn awgrymu nad oes digon o ddarpariaeth i blant ag anghenion cymhleth, sydd, yn ei hanfod, hefyd â’r potensial i gael effaith negyddol ar bobl ifanc sy’n gadael y system ofal. Roedd hynny’n peri pryder i mi. A yw hynny wedi gwella ers 2021-22?
Os ydym yn sôn am ddarparu gofal, pan fyddwn yn dweud anghenion cymhleth, yn ddieithriad rydym yn sôn am blant â phroblemau iechyd meddwl sylweddol, plant ag anabledd neu blant sydd wedi profi llawer iawn o drawma, y mae eu hanghenion therapiwtig ac adferol yn fawr, gydag ymddygiad anodd weithiau. Rydym mewn lle anodd ac mewn gwirionedd, mae’r sefyllfa honno wedi gwaethygu, o ran datsefydlogi’r farchnad, ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig a sut y bydd yr agenda dileu yn symud yn ei blaen. Mae gan Sir Fynwy gynlluniau i greu ei hunedau preswyl ei hun fel ein bod yn gallu cael mwy o reolaeth a mwy o oruchwyliaeth dros y deilliannau i bobl ifanc, ond mae’n broblem genedlaethol. Rydym wedi bod yn ddibynnol iawn ar asiantaethau annibynnol sy’n broblem benodol yn Sir Fynwy, ond o ran yr anhawster i leoli plant mewn lleoliadau maeth yn gyffredinol, rydym yn rhannu’r un her â gweddill Cymru a’r Deyrnas Unedig, sef nad oes gennym ddigon o ofalwyr maeth ac mae eu recriwtio yn mynd yn fwy heriol, ac nid yw’r ‘agenda dileu’ wedi ein helpu yn hyn o beth. Rydym yn cael trafferth dod o hyd i leoliadau i grwpiau o frodyr a chwiorydd, nad oes ganddynt efallai anghenion cymhleth na heriol ac i blant iau, yn rhannol oherwydd bod gennym ddemograffig h?n, gyda llawer o ofalwyr maeth yn ymddeol a hefyd nid oes gennym bobl iau yn dod i’r arena maethu oherwydd nad ydynt yn gallu fforddio byw yma. Mewn rhai cymunedau yn y cymoedd, gall rhoi gofal maeth gynnal incwm pobl, os oes gan bobl ystafell sbâr a bod ganddynt sgiliau rhianta da ac yn hoffi plant, ond nid oes gennym yr un cymhelliant yma a dyna pam ein bod yn dibynnu mwy ar faethu annibynnol. Mae asiantaethau maethu annibynnol yn awr yn dewis cymryd plant o Loegr yn hytrach na phlant o Gymru, oherwydd yr ‘agenda dileu’ a’r risg o golli’r lleoliad yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru safiad clir y byddant yn ceisio cael gwared ar elw o ofal plant erbyn 2027 a phan fyddant yn sôn am ddileu elw, yr hyn y maen nhw’n sôn amdano yw’r elw a wneir gan ddarparwyr preifat, fel cartrefi preswyl preifat yng Nghymru a hefyd asiantaethau maethu annibynnol. Erbyn 2026 bydd yn anghyfreithlon rhoi plentyn mewn darpariaeth breswyl annibynnol, felly mae cronfeydd i gefnogi’r awdurdodau lleol i greu eu hunedau preswyl eu hunain a gweithio ar y cyd, yn neilltuol ar gyfer gofalu am blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth iawn, oherwydd gall awdurdod fel Sir Fynwy fod â dim ond un neu ddau o blant yn y categori hwnnw.
Beth ydym ni’n ei wneud yn greadigol i recriwtio gofalwyr maeth?
Rydym yn ceisio creu amgylchedd lle bydd pob aelod unigol o’r staff yn dod yn swyddog recriwtio maethu, ac fel aelodau etholedig, mae gennych chi’r cyfle i gael y sgyrsiau hynny gyda phobl a’u hannog i ddod a chael sgwrs gyda ni, gan y gallwn ni edrych ar ffyrdd o’i wneud yn bosibl. Rydym wedi archwilio cyfleoedd i drosi ystafelloedd atodol i alluogi person ifanc i aros yn y teulu hyd nes ei fod yn barod i symud i fod yn annibynnol. Rydym wedi prynu gwelyau bync, edrych ar drosi atig, cefnogi gofalwyr maeth i symud i eiddo mwy a gwneud popeth y gallwn feddwl amdano i annog pobl briodol i faethu. Rydym yn sensitif yn y ffordd yr ydym yn cael y sgyrsiau hynny ac yn annog pobl i gael sgyrsiau gyda ni, heb roi’r syniad y gall unrhyw un faethu. Mae’r Strategaeth Rhianta Gorfforaethol yn eistedd ochr yn ochr â’r Strategaeth Faethu a Strategaeth Recriwtio Gofal Maeth, sydd wedi ehangu rhai o’r rhwystrau o ran oedran, gwaith, llety ac yn y blaen, fel ein bod yn gallu helpu i ddatrys y rhwystrau. O gydnabod hynny, mae rhwng dau a thri chan punt yr wythnos o wahaniaeth rhwng y gefnogaeth ariannol a dderbynnir trwy leoliad maeth awdurdod lleol a’r un trwy asiantaeth. Mae cynlluniau cenedlaethol i reoleiddio telerau ac amodau a graddfeydd tâl am ofal maeth, ond yn y cyfamser, rhaid i ni edrych ar ffyrdd gwahanol trwy ein strategaeth faethu i gau’r bwlch ac un o’r pethau hynny yw ein cefnogaeth therapiwtig, na fyddwch yn ei dderbyn trwy asiantaeth annibynnol.
Beth sy’n cael ei ddarparu o ran hyfforddiant am faeth, o ystyried ei fod yn sylfaenol i gynnal ymddygiad gwybyddol yn ogystal â llesiant corfforol a sut ydyn ni’n cefnogi teuluoedd sy’n cael problemau o ran maeth? Hefyd, pa fath o wiriadau sy’n cael eu cynnal gyda’ch gofalwyr maeth boed yn ddarpar, newydd ddechrau neu brofiadol, i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth wirioneddol ac a ydych yn teimlo bod gennych y systemau yn eu lle?
Mae hyfforddiant maeth a chefnogaeth i ofalwyr a theuluoedd maeth yn dod dan ein gwasanaethau ataliol. O ran y gefnogaeth i ofal maeth, mae’r gofalwyr maeth i gyd yn gorfod mynychu hyfforddiant sgiliau a maethu ac mae rhan o hwnnw yn ymwneud â llesiant emosiynol a chorfforol y plant, felly byddai hynny’n cynnwys pethau fel maeth a phetai gennym bryderon penodol am ofalwyr maeth unigol, byddent yn cael cefnogaeth a hyfforddiant penodol er mwyn sicrhau bod y plant dan eu gofal yn cael yr amgylchedd iawn i’w galluogi i ffynnu, ac mae hynny’n cynnwys ein ‘gofalwyr personau cysylltiedig’ hefyd (aelodau o’r teulu yw’r rhain sy’n cynnig maethu plant gyda’u rhwydwaith teuluol). Efallai y bydd pryder am iechyd, ond mae plant maeth yn derbyn gwiriadau iechyd blynyddol ac mae proses adolygiad blynyddol y rhoddir adroddiad yn ôl i’r panel arni bob tair blynedd er mwyn i ofalwr maeth adnewyddu ei statws, felly mae ystod eang o gefnogaeth gyffredinol yn ogystal â chefnogaeth benodol wedi ei theilwrio ac mae fframwaith datblygu hyfforddiant sy’n berthnasol i’n holl ofalwyr maeth, gyda modylau craidd y mae’n rhaid i’r holl ofalwyr maeth eu cwblhau a rhaglen Arloeswyr lle gall gofalwyr maeth gynnig eu hunain i fentora a chefnogi gofalwyr maeth eraill am faterion penodol lle mae ganddynt arbenigedd. Mae gan Sir Fynwy sefydlogrwydd lleoliadau da iawn mewn cymhariaeth ag ardaloedd eraill yng Ngwent. Mae’r gwasanaeth Base hefyd yn wasanaeth cefnogi bychan o seicolegwyr clinigol a therapyddion, ac ar hyn o bryd maent yn sefydlu gr?p pobl ifanc i helpu i fod yn sail i ddatblygu’r gwasanaeth ac mae’r gr?p hwnnw ar hyn o bryd yn gweithio ar ardd therapiwtig, ar y cyd â’r gymuned leol, i bennu lleoliad yr adeilad Base. Rydym yn canolbwyntio ar ddeall ble y mae angen mewnbwn, i gefnogi’r gofalwr maeth i ddarparu’r gofal gorau i alluogi’r plentyn i ffynnu, fel bod y rhai sy’n gadael gofal yma yn gallu cyfrannu fel aelodau cynhyrchiol, iach, cysylltiedig o’r gymuned.
Rydym wedi cael budd o rai o’r hysbysebion ar y cyfryngau am ofal maeth, oedd yn gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, nid yw mynd â phlentyn i ofal bob amser yn fater o’u symud allan o risg, gall fod yn fater o symud plentyn oddi wrth un risg a’i roi yng nghanol set arall o risgiau a dyna beth yw un o’r rhesymau pam ein bod mor awyddus i hyrwyddo gorchmynion gwarchodaeth arbennig a lleoliadau teuluol, oherwydd efallai na fydd y gofalwr maeth mwyaf perffaith mor wydn â’r fam-gu, yr ewythr neu fodryb a phan fyddwn yn ymdrin â phlant sydd wedi dioddef trawma mawr sydd ag ymddygiad anodd a all fod yn cyfleu eu gofid mewn ffyrdd heriol iawn, weithiau bydd angen i ofalwr maeth roi blaenoriaeth i’r plant eraill dan ei ofal, tra gall aelodau o’r teulu fod yn fwy galluog a pharod i gefnogi’r bobl ifanc yma, felly mae sicrhau bod gennym y gefnogaeth gywir o gwmpas y gofalwyr teuluol hynny yn allweddol. Rydym wedi cael llwyddiant mawr wrth drosi gorchmynion teuluol yn orchmynion gwarchodaeth arbennig. Weithiau, efallai nad yw aelodau’r teulu yn berffaith, ond os yw’r plentyn yn hapusach a’u bod yn gallu eu cefnogi, yn aml mae’n lle gwell i’r plant fod gyda phobl sy’n eu caru. Mae’r prosiect Teuluoedd Gyda’i Gilydd yn brosiect ar y cyd gyda Barnardos, sy’n cefnogi plant i barhau i fyw gyda’u teuluoedd.
A oes gennych strategaethau i ymdopi â’r agenda dileu, o ystyried y pwysau ar y system?
Mae penaethiaid gwasanaeth Gwent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr union fater hwn, hefyd mae penaethiaid gwasanaeth a chyfarwyddwyr ‘Cymru Gyfan’ hefyd yn ymwneud â thrafodaethau am hyn. Rhoddwyd adborth am yr angen am elfen gref o gefnogaeth wrth i’r system newid a phetai darparwyr gofalwyr maeth annibynnol yn gadael y system, byddai angen llenwi’r bwlch, ond mae’n fater sy’n parhau yr ydym yn dal i’w drafod. Mae gennym swyddog adolygu annibynnol sy’n fedrus iawn a phrofiadol, a’i swydd yw eistedd tu allan i wasanaethau gweithredol ac adolygu’r cynlluniau gofal ar adegau statudol trwy gydol y flwyddyn i sicrhau bod yr holl bartneriaid (iechyd, addysg, seicoleg, gwasanaethau plant) yn gwneud eu gorau er budd y plant dan ein gofal.
Rydym wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr agenda Dileu i gefnogi plant i fynd i gartref maeth trwy’r awdurdod lleol, ac yn aml rydym yn cael sefyllfa lle mae gennym blentyn nad ydym yn gwybod dim amdano neu’r teulu y mae wedi dod oddi wrthynt ac mae angen i ni ddarparu llety iddo nad oes gennym, felly mae’n ymwneud â datblygu gwasanaethau fel y rhai a ddarperir gan ein tîm ‘amser teulu’, i gefnogi plant yn eu cartref eu hunain, tra bydd yr asesiadau’n cael eu cynnal. Mae gennym ein ‘gwasanaeth MyST’, sy’n rheoli pobl ifanc cymhleth iawn sydd wedi bod trwy argyfwng ac rydym wedi gallu dargyfeirio rhai o’r tîm hwnnw o’u gwaith tymor hwy i’n helpu i reoli argyfwng. Bydd datblygiad y tîm ‘mynd adref aros gartref’ yn ein galluogi i gefnogi plant a theuluoedd mewn argyfwng, ar y dechrau’n deg, tra byddwn yn dechrau deall y problemau, oherwydd mae rhoi plant gyda dieithriaid llwyr hefyd yn achosi trawma. Rydym yn gobeithio recriwtio i’r tîm hwn er mwyn rhoi hwb i’r gwasanaethau yr ydym wedi eu datblygu yn barod o fewn gwasanaethau plant, fel ein bod yn gallu sicrhau ein bod yn gallu rheoli argyfwng a chadw plant gartref yn ddiogel.
Sut mae’r gwaith yr ydych yn ei wneud yn cysylltu ag addysg ac unrhyw gefnogaeth y maen nhw’n ei gynnig?
Dylai’r cyswllt ag addysg gryfhau oherwydd i arweinydd plant bregus gael ei recriwtio’n ddiweddar yn yr adran addysg, felly mae addysg yn cydnabod bod amrywiaeth yn ngallu’r ysgolion i fodloni anghenion rhai o’u disgyblion mwyaf bregus. Er bod gan bob ysgol arweinydd dynodedig ar gyfer plant sydd mewn gofal, mae rhai ysgolion yn well am wneud hyn nag eraill, felly mae gwaith i’w wneud i gefnogi ysgolion i ddatblygu dulliau mwy therapiwtig ar gyfer trawma a’r ochr emosiynol. Mae hefyd ‘baneli gofal cymhleth’ lle mae gan wasanaethau plant, addysg, CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion Ifanc), MyST ac iechyd ddyletswydd ar y cyd i ofalu am y ‘Strategaeth Dyfodol Disglair’ o ran addysg i blant sy’n cael gofal yn benodol ac i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni, felly bydd llawer o’n plant cymhleth yn mynd trwy’r panel hwnnw, er mwyn gallu sicrhau nad yw’r rhai anodd yn cael eu gwahardd yn ddiangen. Bydd yr arweinydd plant bregus newydd hefyd yn eistedd ar y panel hwnnw i sicrhau bod addysg yn flaenoriaeth i’n plant sy’n cael gofal. Mae gennym hefyd berthynas allweddol rhwng gwasanaethau plant a’r gwasanaeth cyfeirio disgyblion i gefnogi anghenion plant sy’n cael gofal yn y gwasanaeth hwnnw.
Sut fyddwch chi’n paru plant â gofalwyr maeth a beth yw’r gyfradd llwyddiant? Fel canran, faint o blant sy’n gorfod wynebu’r broses gythryblus o orfod dechrau eto?
Nid oes gennyf yr ystadegau wrth law ond gallaf eu darparu ar ôl y cyfarfod (Cam Gweithredu: Charlotte Drury), ond o ran sefydlogrwydd lleoliadau, rydym yn perfformio’n dda ac mae’r gwasanaeth BASE yn cynorthwyo gyda hynny. Fe fyddwn yn hoffi i ni fod hyd yn oed yn well, ond oherwydd nad oes gennym ddigon o ofalwyr maeth, mae’n her. Mae risg i bob penderfyniad ac rydym mor ofalus. Mae paru lleoliadau yn hanfodol ac nid yw’n fater syml o gyfateb plant gyda gofalwyr maeth, ond hefyd gyda’r plant eraill a all fod yn y lleoliad, felly mae hynny’n ychwanegu haen arall o gymhlethdod. Rydym yn cyrraedd cyfradd drosi 80% o ymholiad i gymeradwyo, y byddem yn hoffi iddo fod yn well, ond mae pobl yn tynnu yn ôl am resymau dilys. Rydym yn siarad â’u plant, rydym yn siarad â’u cyflogwyr, ac rydym wedi cael ein harchwilio ac roeddent yn hyderus iawn yn ein proses asesu. Mae ein gofalwyr maeth yn rhyfeddol, hyblyg ac yn gweithio gyda ni, ond mae adegau pan na fydd pethau’n iawn ac weithiau mae’r plant yn agor y plant eraill yn y lleoliad i ddwy lefel o risg na ellir eu rheoli ac mae achlysuron wedi bod pan ydym wedi gorfod troi gofalwyr maeth allan o’r gwasanaeth, oherwydd bod eu blaenoriaethau hwy eu hunain wedi newid. Rydym yn gweithio’n galed iawn i gael pethau mor iawn ag y gallwn o fewn yr adnoddau sydd gennym ac i gefnogi’r paru gymaint ag y gallwn ac rydym yn gwneud yn eithaf da ar draws y rhanbarth. Mae’r cyswllt rhwng y timau gweithredol, y timau rheoli argyfwng a’r gwasanaeth maethu yn hanfodol, oherwydd mae arnom angen llunio cefnogaeth o gwmpas teuluoedd i reoli risg yn y gymuned neu liniaru risg yn y gymuned ac mae cael y wybodaeth am blant yn allweddol er mwyn gallu eu cyfateb yn dda a sicrhau eu bod yn y lleoliad gorau posibl. Weithiau mae’r gefnogaeth yn gorfod trosglwyddo draw i’r gofalwr maeth, er mwyn gallu cynnal sefyllfa tra byddwn ni’n dysgu mwy am blant, felly mae’n gymhleth iawn.
Rwy’n sylwi yn yr adroddiad eich bod yn cyfeirio at broblemau yn cael gofal deintyddol?
Mae hon yn broblem genedlaethol ac nid yw plant maeth yn cael blaenoriaeth dros unrhyw blant eraill, felly mae cofrestru plentyn gyda deintydd yn eithriadol o anodd, felly mae’n parhau ar ein hagenda. (Camau Gweithredu: Y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus i dynnu sylw at hyn wrth drafod gwasanaethau deintyddol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan).
Pa mor bwysig yw datblygu storïau bywyd i bobl ifanc a pha bwyslais ydych chi’n ei roi ar hyfforddi staff am hyn?
Mae datblygu gwaith stori bywyd i blant mewn gofal yn eithaf her a dweud y gwir. Mae’n bwysig i bob plentyn ond mae gwaith stori bywyd i blant sy’n mynd ymlaen i gael eu mabwysiadu wedi cael blaenoriaeth bob amser. Rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Fabwysiadu De Ddwyrain Cymru, sydd â gweithiwr arweiniol ar gyfer gwaith stori bywyd, ac mae wedi datblygu ffurf stori bywyd sy’n dechrau cyn gynted ag y bydd plentyn yn dod i’r system boed hynny ar ei enedigaeth neu blant sy’n dod i’r system gofal maeth. Mae gwaith stori bywyd yn drwm ar weithwyr cymdeithasol, sydd yn cael trafferth yn barod i wneud eu gwaith o ddydd i ddydd, fellly mae gwneud gwaith stori bywyd yn heriol iawn. Mae gennym weithwyr cefnogi gofal maeth ac rydym newydd gyflogi gweithiwr cefnogi newydd a’i waith fydd gwneud y gwaith stori bywyd a chefnogi pobl eraill i wneud y gwaith stori bywyd o’r eiliad y bydd plentyn yn cyrraedd. Mae’n awr yn gyfrifoldeb i’n tîm asesu iechyd cynnar yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol ac addysg ac iechyd i gyfrannu at hyn, ond mae plant sydd i gael eu mabwysiadu wastad wedi cael blaenoriaeth, oherwydd eu bod yn mynd i fywyd newydd gyda theulu newydd, felly mae sut yr ydym yn rheoli gwaith stori bywyd i’n holl blant maeth yn gymhleth iawn, oherwydd gallwch ei wneud i’r plant sy’n dod i mewn, ond allwn ni ddim anghofio plant sydd wedi bod yn y system am gyfnod hir iawn ac mae plant sy’n gadael ein system nad ydynt yn deall eu gorffennol o hyd. Byddwn yn hoffi meddwl ein bod yn paratoi yn y ffordd newydd hon, oherwydd rydym wedi bod â chynllun plant pum mlynedd ar gyfer yr agenda dileu ac mae pwysau ariannol yn golygu ei fod yn gynllun plant dwy flynedd erbyn hyn, sydd yn ymwneud i raddau helaeth â pharatoi pobl ifanc i gael rhwydweithiau cefnogi, i gael cyfleoedd gydol eu hoes. Felly rydym yn dechrau yn llawer cynharach yn awr ac mae gennym lawer o gynlluniau yn eu lle, ond o ran llyfrau stori bywyd i blant 9 oed sydd wedi bod yn ein system ers pum mlynedd, mae’n anodd iawn.
A oes gan blant sy’n gadael y system gofal gynghorwyr personol?
Mae gennym gynghorwyr personol rhagorol yn Sir Fynwy ac maen nhw’n eistedd ar ein gr?p rhianta corfforaethol ac rydym newydd ymestyn oriau un ohonynt felly mae gennym yn awr dri chynghorydd personol amser llawn i gefnogi ein pobl ifanc hyd at 25 oed. Gallant helpu i’w cefnogi i gael mynediad at eu cofnodion, felly rydym yn ymwybodol iawn mewn gwaith cymdeithasol, y gallai’r hyn a ysgrifennwyd yn 2002 fod yn wahanol iawn i’r hyn y byddid yn ei ysgrifennu heddiw, gall darllen y cofnodion fod yn drawmatig os ydynt wedi eu hysgrifennu yn y trydydd person, yn sôn am deulu ac yn rhoi sylwadau anodd iawn, felly mae’n beth anodd iawn ac rydym yn rhoi llawer iawn o gefnogaeth. Mae gennym eithaf tipyn o bobl ifanc sydd eisiau gwybod eu hanes, ond rydym wedi ceisio cysylltu’r bobl ifanc hyn yn eu taith o 14 oed ymlaen, felly maent yn paratoi i adael y system gyda rhywfaint o ddealltwriaeth. Rwy’n meddwl bod hyn wedi bod yn fwlch yn yr ymarfer gwaith cymdeithasol o’r blaen am resymau amrywiol ac mae gofalwyr maeth yn cael eu hannog yn fawr i ysgrifennu dyddiadur dyddiol, gan ysgrifennu i’r plentyn a yw wedi cael diwrnod da neu ddrwg, beth y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y dydd neu unrhyw anawsterau a brofwyd ac a oeddent wedi cael sgwrs am hynny. Mae’n hygyrch i’r plentyn a gall fod yn rhan ohono, felly pan fydd yn gadael gofal, mae gan y plentyn ei stori. Rhan o hyn yw helpu plant i ddeall pam eu bod mewn gofal, oherwydd nid yw’r plant i gyd yn deall pam eu bod mewn gofal a gwneud hynny mewn ffordd sensitif; fel nad yw’n niweidio eu hunan barch, o ystyried y bydd hanner yr holl blant 16, 17 ac 18 yn mynd gartref, mae’n bwysig iddynt ddeall y penderfyniadau a wnaed er eu budd hwy, ond heb chwalu eu hymdeimlad ohonynt eu hunain a sut y maen nhw’n ffitio yn eu cymuned.
Y Cadeirydd yn Cloi:
Diolch i chi am gyflwyno hyn ac ateb ein cwestiynau yn fanwl. Rydym yn teimlo bod y gwaith yr ydych yn ei wneud yn eithriadol, er gwaethaf yr heriau ac mae’r pwyllgor yn fodlon iawn ar y cynnydd.
Dogfennau ategol: