Craffu cyn gwneud penderfyniad ar y cynllun 5 mlynedd i atal digartrefedd, cynyddu’r llety sydd ar gael a ffocysu cymorth.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Tîm Tai eu cynllun 5 mlynedd i atal digartrefedd, cynyddu’r llety sydd ar gael a darparu cymorth â ffocws i bobl. Rhoddodd swyddogion gyflwyniad a oedd yn rhoi esboniad manwl o sut mae'r tîm yn bwriadu cyflawni'r cynllun.
Her:
Yn eich cyflwyniad, roedd yn ymddangos bod cyfeiriad at gynnydd yn nifer y dynion sy’n ddigartref. A yw'r duedd hon yn gysylltiedig â gr?p oedran penodol?
Tîm Tai: Yn gyffredinol, rydym yn gweld dynion sengl iau nad ydynt o reidrwydd yn gweithio, ond mae rhesymau cymysg pam fod pobl yn dod i mewn i’r system. Newidiodd y ddeddfwriaeth yn ystod pandemig gan ei gwneud yn ofynnol i ni gartrefu pawb, ac felly dyma’r rheswm dros y cynnydd yn nifer y dynion sengl sy’n cael eu lletya bellach, ochr yn ochr â phawb arall sydd o dan gyfrifoldebau iechyd cyhoeddus.
Sylwaf i chi gyfeirio at ddull sy’n canolbwyntio ar y cleient, ond ni allaf weld bod unrhyw ymgynghori wedi’i gynnal â defnyddwyr gwasanaethau, a ddylai fod yn rhan ganolog o unrhyw gynllun. A allwch chi egluro sut rydym yn rhagweld y bydd barn defnyddwyr gwasanaeth yn dylanwadu ar y cynllun ac a fydd unrhyw ran o'r data hwn yn cael ei gynnwys cyn i'r Cabinet fabwysiadu'r cynllun?
Tîm Tai: Y rheswm pam nad oedd barn cleientiaid yn rhan o’r drafftio oedd oherwydd rhywfaint o salwch staff. Rydym wedi cynnal arolygon cleientiaid blaenorol ar y broses ymgeisio ac anghenion llety, ac felly roedd rhai safbwyntiau gennym i seilio'r cynllun arnynt. Efallai nad oes gennym ni ddigon i’w ystyried cyn y Cabinet ond mae’n ddogfen fyw i raddau helaeth. Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o ddefnyddwyr gwasanaethau, ac felly byddwn yn defnyddio’r wybodaeth honno. Rydym mewn gwirionedd wedi dod o hyd i fanteision o’i gwneud fel hyn gan ein bod yn gofyn cwestiynau gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau ac felly bydd y mewnbwn a gânt yn fwy defnyddiol wrth symud ymlaen.
Ni welais bwyslais mawr ar gartrefi gwag yn yr adroddiad. Rwy’n derbyn bod datrys digartrefedd yn broblem fwy na’r stoc dai yn unig, ond beth ydym ni’n ei wneud i annog dod â chartrefi gwag yn ôl i’r stoc dai? A oes grantiau er mwyn annog hyn, o ystyried mai £352k yw pris t? ar gyfartaledd yn Sir Fynwy?
Tîm Tai: Mae hwn yn bwynt da. Mae gwaith ar gartrefi gwag yn cael ei wneud bob dwy flynedd pan fyddwn yn cysylltu â pherchnogion eiddo gwag, ond rydym hefyd fel rhan o’n hailstrwythuro staffio yn symud cartrefi gwag i Dîm Gosod Tai Sir Fynwy ac rydym yn bwriadu apwyntio Uwch Swyddog Llety arall a fydd yn cynnig adnodd ychwanegol. Mae gennym fenthyciadau y gall pobl wneud cais amdanynt hyd at £25,000 os ydynt yn arwyddo prydles hir ac mae cynllun tai gwag cenedlaethol newydd a sefydlwyd yn ddiweddar a weinyddir gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ran Llywodraeth Cymru, gyda grant o £25k ar gael. Sefydlwyd yn ddiweddar ac rydym wedi derbyn 2 gais yn barod. Efallai y byddwch hefyd yn ymwybodol bod y Cyngor yn ystyried y premiwm ar y dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag. Mae llawer o eiddo gwag, ond mae’r mwyafrif helaeth mewn cyflwr da ac nid ydynt yn broblem yn y gymuned ac yn cael eu gohirio oherwydd profiant a rhesymau dilys eraill.
Aelod Cabinet Tai: Mae’r weinyddiaeth yn rhoi mwy o adnoddau a sylw i gartrefi gwag drwy’r cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan ddefnyddio’r pwerau sydd gan y Cyngor i brynu eiddo yn orfodol os bydd popeth arall yn methu.
A yw’r ffigurau wedi newid yn sylweddol ers drafftio’r adroddiad ac a yw tueddiadau’n newid? Dim ond yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi gweld deinamig mor newidiol gyda phrisiau ynni uwch, costau byw a phrisiau bwyd oherwydd digwyddiadau byd-eang, ac felly a yw’r ffigurau hyn wedi cael eu profi ac a ydynt yn ystyried tueddiadau newidiol dros y 12 mis diwethaf?
Mae rhai pethau anhysbys yngl?n â'r sefyllfa bresennol dros y tymor hwy. Nid yw nifer y bobl sy’n dod atom wedi newid yn sylweddol ers cyn y pandemig, ond y prif newid yw nifer y bobl sydd angen llety, ac felly rydym yn paratoi ein hunain am effaith costau byw, megis ôl-ddyled o ran rhent a morgeisi oherwydd y cynnydd mewn chwyddiant. Wedi dweud hynny, mae gennym fwy o adnoddau fel tîm nag o’r blaen a bydd gennym Swyddog Cyswllt Cyntaf a fydd yn derbyn ceisiadau cychwynnol gan ganiatáu’r Swyddogion Opsiynau Tai i wneud y gwaith atal gwerth uwch, ac mae gennym Swyddog Atal Digartrefedd gennym hefyd sy’n gyfrifol am fynd allan a helpu pobl i chwilio am lety, fel ein bod mewn sefyllfa mor dda ag y gallem fod. Y ffigurau ar gyfer misoedd cyntaf 2023 hyd heddiw yw 154 o dod atom, gyda 141 yn dod atom yn ystod yr un cyfnod yn 2022 a 148 yn y cyfnod cyn Covid, ac felly, mae’n gynnydd bach, ond mae'n weddol sefydlog. Mae'n fwy na demograffeg y bobl sy'n dod drwodd a'r brys o ran yr angen digartrefedd sydd wedi newid, gyda mwy o deuluoedd yn cyflwyno oherwydd bod landlordiaid yn gwerthu ac yn symud yn ôl i'w heiddo a theuluoedd mwy yn dod drwy'r system gyda 5 neu 6 o blant, sy'n ddeinamig mwy newydd, a hefyd gwrywod sengl. O ran a ydym wedi profi’r ffigurau yma, mae arf gan Lywodraeth Cymru sy’n ein galluogi i nodi’r galw, yr adnoddau sydd ar gael i ni ac mae hyn yn ein helpu ni ragweld rhagamcanion a chynllunio’n fwy effeithiol.
Yn naturiol, mae goblygiadau cost i’r Cyngor fel rhan o gyfrifoldebau newydd y Cyngor ynghylch atal digartrefedd ac rydych wedi sôn am staff a recriwtiwyd yn ddiweddar. A wnewch chi ymhelaethu ar hynny, os gwelwch yn dda, fel bod trigolion yn deall y goblygiadau ar gyfer y Dreth Gyngor. Yn ogystal, gan fod y ffigurau a ddarperir yn y cynllun yn rhai ôl-weithredol, byddai'n ddefnyddiol deall y sefyllfa bresennol.
Gallaf gylchredeg strwythur staff sy’n amlygu’r swyddi newydd yn dilyn y cyfarfod ynghyd â’r hyn a ariennir yn uniongyrchol a thrwy Lywodraeth Cymru. (Gweithredu: Ian Bakewell).
A yw carafanau'n cael eu hystyried fel stoc tai ac gorfod talu’r Dreth Gyngor?
Nid ydym yn cael defnyddio carafanau i gartrefu pobl ddigartref gan nad yw maint yr ardal yn cael ei ystyried yn ddigon mawr gan Lywodraeth Cymru. Nid yw llety a rennir fel llochesi nos yn cael eu caniatáu ‘chwaith.
Faint o dai gwag sydd yn Sir Fynwy, o ystyried na fydd pob un o’r rhain ar gael i gartrefu pobl, gan y gallai cartrefi fod yn wag am wahanol resymau.
Credaf fod y ffigwr oddeutu 400 ond gallaf gadarnhau hyn yn dilyn y cyfarfod (Cam Gweithredu: Ian Bakewell). Mae p’un a yw’n gwneud gwahaniaeth yn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ar gyfer cartrefu pobl ddigartref yn ddiddorol oherwydd yn achos y rhan fwyaf o eiddo gwag, mae’r perchnogion yn symud yn ôl i mewn, ac felly mae’n debyg bod yr effaith wedi’i chyfyngu.
Er mwyn galluogi defnyddio tai preifat unwaith eto i fodloni gofynion gosod Llywodraeth Cymru, efallai y bydd costau enfawr ynghlwm wrth stoc tai h?n. Pa gymorth sydd ar gael i wella tai i gwrdd â'r gofynion angenrheidiol?
Mae gennym becynnau nawr i helpu pobl os oes eiddo yn adfeilio ond Gwasanaeth Gosod Allan Sir Fynwy yw’r gefnogaeth allweddol i landlordiaid ac rydym yn cynnig ystod o gefnogaeth i ddarpar denantiaid a landlordiaid o dan y gwasanaeth hwn ac rydym bob amser yn awyddus i annog mwy o landlordiaid preifat i ymuno â'r gwasanaeth gyda staff ymroddedig.
A fu agweddau negyddol gan y cyhoedd at bobl ddigartref yn cael eu cartrefu, o ystyried y niferoedd uchel o bobl sy’n aros ar y rhestr dai am dai cymdeithasol? Mae hyn yn hynod berthnasol, gan fod anghenion tai cymdeithasol yn uchel, gyda miloedd o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol, ac felly mae’n anodd. Rydym yn ymwybodol iawn nad yw ein stoc tai ein hunain yn effeithio ar y gymuned, ac felly rydym yn ofalus iawn yngl?n â sut rydym yn lleoli pobl a sut rydym yn rheoli unrhyw sefyllfaoedd a all godi ac rydym yn profi’r problemau hyn weithiau. Nid yw cartrefu gwrywod sengl yn achos o flaenoriaethu gwrywod sengl dros grwpiau eraill o bobl, ond cyn y pandemig, nid oeddent wedi'u cynnwys yn y ddyletswydd i gartrefu, ac felly dyna'r newid allweddol. Mae ymateb negyddol gan y cyhoedd yn tueddu i ddigwydd gyda’r defnydd o osod pobl yn uniongyrchol, lle nad yw eiddo gwag wedi’i restru ar yr Homesearch, ac felly rydym wedi cynnwys adran ar y wefan i egluro’r defnydd o osod pobl yn uniongyrchol
Sut mae atal yn gweithio? Sut ydych chi'n mynd at y rhesymau sylfaenol pam mae pobl yn dod yn ddigartref?
Mae gennym Wasanaeth Cymorth Tai sy’n gweithio gyda phobl sy’n cael trafferth o fewn eu tenantiaeth, p’un a ydynt mewn ôl-ddyled o rhan rhent, mewn tai rhent preifat neu mewn ôl-ddyled gyda’u morgais. Rydym hefyd yn comisiynu sefydliadau trydydd sector i weithio gyda phobl, megis POBL, MIND, LLMAE, i geisio atal pobl rhag dod yn ddigartref. Fel Cyngor, mae gennym ddyletswydd statudol i atal digartrefedd o fewn 56 diwrnod, ond rydym yn gweithio gyda phobl rhai misoedd cyn eu bod yn credu y byddant yn ddigartref. Gallwn gynorthwyo mewn amrywiol ffyrdd trwy becynnau niferus, fel negodi newidiadau rhent gyda landlordiaid, pecynnau ariannol i bobl a allai symud i’r sector rhentu preifat drwy ddarparu gwarant rhent, cynorthwyo trwy fondiau, neu ddarparu rhent estynedig ymlaen llaw. I bobl iau, os mai’r opsiwn gorau yw i’r person ifanc aros gartref, rydym yn darparu gwasanaeth cyfryngu teuluol a chefnogaeth barhaus. Felly, mae tîm atal eithaf rhagweithiol ac arloesol sydd â sgiliau negodi rhagorol sy'n helpu negodi gyda landlordiaid er mwyn cynorthwyo pobl i aros mewn eiddo nes y gallant gael mynediad at dai cymdeithasol ac mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi ein cynorthwyo'n fawr i wneud hynny.
Sylwaf nad oes stoc tai Cil-y-coed ar dudalen 19 yn yr adroddiad, ond efallai eu bod wedi’u cynnwys fel Glan Hafren? Hoffwn wybod ychydig mwy am Dai Amlfeddiannaeth (TA) yng Nghil-y-coed a Sir Fynwy yn gyffredinol.
Mae stoc yng Nghil-y-coed ond mae’n rhan o Glan Hafren, ac felly byddwn, yn newid hynny. (Cam Gweithredu: Ian Bakewell). Mae Tai Amlfeddiannaeth yn rhan bwysig o'n darpariaeth gydag oddeutu 90 o unedau, ac felly pe na bai gennym y rheini, byddai'n golled fawr o ran darpariaeth, ond rydym yn derbyn bod mwy o heriau rheoli gyda thai amlfeddiannaeth, ond rydym wedi cael Tai Amlfeddiannaeth ers tua 7 blwyddyn ac yn weddol brofiadol yn eu rheoli. Rydym yn ffafrio portffolio delfrydol Llywodraeth Cymru o lety hunangynhwysol, yn hytrach na thai amlfeddiannaeth, ond yn y tymor byr i ganolig, mae angen i ni barhau â nhw. Mae rhai o’r Tai Amlfeddiannaeth a gymerasom yn y dyddiau cynnar angen eu newid/gwella a gwneud pethau’n wahanol ond ar hyn o bryd, mae’r ddibyniaeth ar Wely a Brecwast yn golygu na allwn wneud hyn.
Yr Aelod Cabinet dros Dai: Mae angen i ni fod yn ymwybodol o fudd-daliadau lles y llywodraeth genedlaethol drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau, oherwydd nid yw’r rhain wedi cynyddu yn unol â’r farchnad dai, ac felly hyd yn oed ar gyfer y t? mwyaf cymedrol, y swm y gellir ei hawlio o’r Adran Gwaith a Phensiynau yn llawer is na’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer opsiwn tai delfrydol Llywodraeth Cymru.
Mae gennyf sawl pwynt i’w crybwyll yn hytrach na chwestiynau, ond yn yr Asesiad Effaith Integredig, mae un o’r carfannau a grybwyllwyd yn yr adroddiad yn gyn-aelodau o’r lluoedd arfog, felly a oes modd cynnwys hynny yn yr Asesiad (Cam Gweithredu: Ian Bakewell). Mae angen i Wasanaeth Gosod Tai Sir Fynwy fod yn weladwy, ond a fyddech cystal â gwneud hyn mewn ffordd sensitif i osgoi unrhyw stigmateiddio.
Rwy’n croesawu ehangu eich tîm. A ydynt wedi'u lleoli mewn ardaloedd penodol neu ar draws Sir Fynwy?
Mae’n dipyn o gymysgedd, gyda’r mwyafrif yn y sector llety, felly mae rhai staff yn treulio amser yn y sefydliadau gwely a brecwast lle nad oedd gennym bresenoldeb o’r blaen. Gan fod pobl yn dod atom yn ddyddiol, mae gennym ddau aelod o staff sy’n darparu rôl dyletswydd llety, cynnydd o un, oherwydd mae’n rôl anodd a heriol iawn. Roedd gan y Tîm Swyddogion Opsiynau Tai tua 30 o achosion yr un cyn hyn ond erbyn hyn mae ganddynt tua 150 yn dilyn y ddyletswydd newydd, ac mae achosion yn cymryd cryn dipyn o amser gan nad yw pobl yn symud ymlaen o’r llety dros dro, felly rydym apwyntio Uwch Swyddog Opsiynau i’w cefnogi.
Ydych chi wedi cael adborth gan y bobl sydd wedi symud ymlaen?
Rydym yn cynnal rhai digwyddiadau a hoffem wneud mwy o hyn os oes gennym yr amser gan ei fod yn rhywbeth a wnaethom cyn y pandemig pan oedd gennym niferoedd is. Ond pan fydd staff newydd yn eu lle, bydd yn rhan o rôl pawb.
A yw'r canolfannau'n allweddol o ran atal digartrefedd ac a ydych chi'n gweithio'n agos gyda hwy?
Gwnaethom ailfodelu darpariaeth y tîm ychydig flynyddoedd cyn y pandemig, ac felly, mae’r cyswllt ar gyfer digartrefedd wedi dod yn bennaf dros y ffôn, ond maent yn cael eu cynorthwyo yn yr hybiau hefyd ac yn cael eu trosglwyddo i'r Tîm Tai. Felly, gall fod yn bwynt cyswllt, ond dylai rôl y Swyddog Cyswllt Cyntaf ryddhau'r Swyddogion Opsiynau Tai i fynd allan yn fwy a chwrdd â phobl wyneb yn wyneb, nid dros y ffôn yn unig
Mae'n ymddangos ein bod yn darparu eiddo o ansawdd uchel, ond a allem ni symud ymlaen yn gyflymach gyda safon is efallai, sy'n dal yn bodloni gofynion?
Yr hyn sydd angen i ni wneud yw cytuno ar safon llety digartrefedd ac mae’n rhywbeth nad ydym wedi gallu ei wneud eto, ond mae’n bwysig ein bod yn cytuno ar safon briodol ar gyfer Sir Fynwy er cysondeb. Mae angen i ni feddwl am safonau symudedd, gwydnwch ond hefyd rhywbeth y gall rhywun ei ystyried yn gartref.
O ystyried demograffeg y bobl sy’n dod atoch, beth yw’r goblygiadau i drigolion Sir Fynwy o beidio â chefnogi pobl?
Wel byddech chi'n paratoi pobl i fethu ac ni fyddem yn cyflawni ein cyfrifoldebau a’n cwrdd â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Mae’r ddeddfwriaeth yn sail i’r hyn y mae angen i ni ei wneud ac arweiniodd y gofynion deddfwriaethol hyn ni i gwestiynu penderfyniadau ynghylch y gwasanaeth yr oeddem yn ei ddarparu, ac felly mae wedi datblygu cryn dipyn ers y pandemig. Roeddem wedi cyflawni ein dyletswydd o’r blaen ond ni wnaethom gynnig ail, trydydd a phedwerydd siawns i bobl ac mae’n hollol wahanol nawr ac rydym yn teimlo ei fod yn wasanaeth llawer gwell i osgoi cysgu allan a throi allan.
A yw bod yn ‘ddigartref yn fwriadol’ yn dal i fod yn ystyriaeth?
Mae gennym ni bobl mewn llety a fyddai'n dal i gael eu hystyried yn ddigartref yn fwriadol ac a allai effeithio ar eu band neu eu safle o fewn Homesearch, ond mae'n rhaid i ni eu hystyried yn flaenoriaeth o hyd, gan gydnabod bod eu hanghenion yn gymhleth.
A oes unrhyw awdurdodau lleol sy'n cael eu hystyried fel rhai sy’n gweithredu arferion gorau?
Cyfeiriwyd at yr Alban yn yr adroddiad wrth i Lywodraeth Cymru gymhwyso dull yr Alban o ailgartrefu’n gyflym. Er bod ailgartrefu cyflym wedi ei gylfwyno’n gyntaf yn yr Alban, gyda rhai o’n harferion sydd wedi bod ar waith dros y blynyddoedd diwethaf, rwy’n teimlo eu bod ychydig ar ei hôl hi. Mae gennym strwythurau staffio tebyg ac mae swyddogion yn cysylltu â'i gilydd yn rheolaidd.
Sut ydyn ni'n cymharu â Chynghorau eraill Gwent o ran dangosyddion allweddol?
Mae gennym lawer o broblemau sy’n debyg i’r rhai y mae eraill yn eu hwynebu. Mae eraill yn cael trafferth gyda defnyddio llety gwely a brecwast, ac hefyd, mae materion ffosffad yn gyffredin. Teimlaf ein bod yn fwy difreintiedig o ran y sector rhentu preifat, gan fod rhenti yn y sir yn uchel iawn. Mae’n anodd iawn gwneud darpariaeth gynnil gyda’n cymunedau a’n trefi mor fach.
A yw pobl o Wcráin wedi'u cynnwys yn y ffigurau?
Gall pobl o Wcráin gyflwyno'n ddigartref ac maent wedi'u cynnwys yn y ffigurau ac ar hyn o bryd mae gennym 11 o aelwydydd yn datgan eu bod yn ddigartref.
A oes unrhyw gynlluniau i sefydlu hosteli, neu gynlluniau i ddefnyddio tafarndai gwag, neuaddau ac ati?
Nid oes unrhyw gynlluniau i greu unrhyw hosteli. Mae’r ffocws ar gynlluniau tai â chymorth ac rydym yn gweld Tai Amlfeddiannaeth fel rhan o’r dirwedd, ond nid ydym yn eu hystyried yn hosteli ac rydym yn ceisio caffael rhai llai. Os oes adeiladau y gellir eu hailddefnyddio, byddwn yn eu hystyried ar gyfer eu hailbwrpasu ac rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd gyda'r tîm ystadau.
Crynodeb y Cadeirydd:
Rydym wedi cynnal craffu trylwyr heddiw ac mae’n amlwg bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynllun. Hoffem ofyn i chi ddychwelyd ymhen 9 mis, ac efallai y gallwch drafod y safonau llety digartref gyda ni bryd hynny.
Dogfennau ategol: