Agenda item

Datganiad Cyfrifon (Terfynol) 2021/22 Cyngor Sir Fynwy)

Cofnodion:

Ystyriwyd eitemau 5 a 6 gyda'i gilydd.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid y Datganiad o Gyfrifon 2021/22 ar gyfer Cyngor Sir Fynwy a diolchodd i’r timau amrywiol am eu cyfraniad i’r ddogfen derfynol, ac i Archwilio Cymru am ei ddull adeiladol a defnyddiol o weithredu. Atgoffwyd y Pwyllgor mai'r prif reswm dros yr oedi oedd yr elfen dechnegol o ran prisio a gwaredu ar asedau seilwaith.

 

Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru ymateb ISA260 i’r cyfrifon a diolchodd i’r Tîm Cyllid gan groesawu’r berthynas waith dda.

 

Ar ôl cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:

 

·        Gofynnodd Aelod a ragwelir problemau tebyg gyda therfynau amser ar gyfer eleni. Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod trafodaethau cychwynnol yn awgrymu y byddai cyfrifon drafft yn gynharach eleni. Ychwanegodd Swyddog Archwilio Cymru fod yr oedi wedi cael effaith ar archwiliadau o sectorau eraill. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru a'r gobaith yw y bydd y dyddiadau cau yn cael eu symud ymlaen o fis Ionawr yn gynyddrannol flwyddyn ar ôl blwyddyn i ddychwelyd i'r amserlenni gwreiddiol.

·        Cwestiynodd y Cadeirydd y cyfeiriad at lai o gapasiti yn y Tîm Cyllid a newidiadau mewn personél ar draws adrannau a holodd sut mae mynd i’r afael â hyn. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y bwriedir adeiladu adnoddau i wneud penodiadau parhaol yn y Tîm Cyllid i wella capasiti ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae trafodaethau wedi cychwyn yn gynnar gydag adrannau eraill i baratoi ar gyfer gwybodaeth diwedd blwyddyn. Gofynnwyd i'r Pennaeth Cyllid adrodd yn ôl ar waith i ddychwelyd y Tîm Cyllid i'w lawn gapasiti yn yr haf. Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr at y gwaith helaeth a oedd ynghlwm â'r broses gosod cyllideb eleni. Mae materion a fydd yn tynnu ar y Timau Cyllid o ran cyllideb a monitro costau e.e. gofal cymdeithasol yn orwariant sylweddol. Cadarnhawyd bod y cynigion arbedion yn anelu at sylfaen fwy cynaliadwy. Mae problemau capasiti yn debygol o barhau.

·        Holodd yr Aelod ynghylch gorddatganiad credydwyr o £361,000. Awgrymodd y Pennaeth Cyllid fod y sefyllfa hon yn adlewyrchu pa mor hwyr oedd hi i dderbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru a oedd yn achosi problemau gweinyddol sylweddol. Mewn trafodaeth ag Archwilio Cymru, bwriedir trin dyfarniadau hwyr grantiau yn briodol yn y dyfodol er mwyn osgoi ailddigwydd

·        Mynegodd Aelod bryder am y newidiadau i amserlenni ynghyd â materion capasiti yn debygol o achosi problemau gyda'r amserlen. Awgrymwyd, yn yr ymateb i ISA260, y dylai fod sylwebaeth ynghylch pam fod terfyn amser wedi’i fethu a’r canlyniadau. Awgrymwyd a chytunwyd gan Archwilio Cymru y dylid cyfeirio bod dealltwriaeth o’r rhesymau pam na wnaed addasiadau i gamddatganiadau nas cywirwyd. O ran yr amserlen, rhagwelir y bydd gohebiaeth gydag awdurdodau i gadarnhau terfynau amser yn y dyfodol.

·        Cyfeiriodd Aelod at gynnydd y y Dreth Gyngor a holodd y gwahaniaeth ym mhrisiau'r Cyngor a phrisiau'r farchnad ar gyfer bandiau’r Dreth Gyngor. Gofynnwyd i'r Pennaeth Cyllid ddarparu ymateb y tu allan i'r cyfarfod.

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at y datganiad y caniateir rhyddhad dros dro i god CIPFA rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2025 i beidio ag adrodd am gostau gros a dibrisiant cronedig ar gyfer asedau seilwaith. Holodd ynghylch lefel yr hyder o ran bodloni gofynion ar ôl mis Mawrth 2025. Eglurodd y Pennaeth Cyllid fod gwaith manwl wedi'i wneud bedair blynedd yn ôl i bennu asedau seilwaith e.e. mesuryddion a chyflwr ffyrdd. Cafodd yr asedau eu cydranu wrth baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth Asedau Rhwydwaith Priffyrdd arfaethedig a'u rhoi o'r neilltu wedyn gan CIPFA. Bydd y cofnodion hyn yn ffurfio’r data sylfaenol ar gyfer ar ôl mis Mawrth 2025.

 

Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr yn dymuno diolch i'r Pennaeth Cyllid a'r Tîm Cyllid, a Swyddogion Archwilio Cymru am y gwaith o gau'r cyfrifon mewn amgylchiadau anodd. Ategwyd at y diolchiadau yma gan y Pwyllgor.

 

 

 

Gan gyfeirio at argymhellion yr adroddiad, nododd y Pwyllgor fod y cyfrifon wedi’u diwygio ers cyhoeddi’r fersiwn ddrafft i adlewyrchu canlyniadau’r broses archwilio allanol, ac fel y nodwyd yn adroddiad Archwilio Cyfrifon ISA260 Archwilio Cymru.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ddatganiad cyfrifon terfynol archwiliedig Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2021/22.

 

 

 

Dogfennau ategol: