Agenda item

Polisi ac Amodau Tacsis a Cherbydau Hur Preifat 2023

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trwyddedu adroddiad Polisi ac Amodau Tacsis a Cherbydau Hur Preifat 2023.  Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad gwahoddwyd cwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor.

 

·         Gofynnodd Aelod os yw nifer y gyrwyr tacsi cenedlaethol tramor ar gael a chafodd ei hysbysu os oes gan yrwyr yr hawl i weithio na chânt eu hystyried fel gyrwyr cenedlaethol tramor. Defnyddir y gwiriad estynedig os y bu’r gyrrwr yn y Deyrnas Unedig am gyfnod byr yn unig. Ni fu unrhyw broblemau gyda hyn ers y cyflwynwyd y gofyniad yn 2018.

·         O ystyried yr amod y gofynnir i yrrwr sy’n gwneud cais gyda 6 pwynt i gwblhau cynllun Pass Plus, byddai’n well gan Aelod gael prawf llymach, a chytunwyd y gofynnir i Lywodraeth Cymru ystyried ailweithredu Profion Tacsi yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn genedlaethol. Atgoffwyd y Pwyllgor am bwysigrwydd cysondeb gyda’r awdurdodau cyfagos.

·         Gofynnodd Aelod pam fod Casnewydd yn ei gwneud yn ofynnol i basio cwrs Pass+ os oes ganddynt fwy na 5 pwynt ar eu trwydded DVLA adeg gwneud cais. Esboniwyd y bu hyn yn bolisi hir-sefydlog cyn gweithredu’r polisi newydd a gall hyn newid i 6 pwynt.

·         Gofynnodd Aelod am oblygiadau y Cytundeb Gadael ac os oes unrhyw rwystr i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd gyda statws sefydlog. Hefyd, ansawdd y gwiriadau ychwanegol gan efallai nad oes mynediad i’r un gronfa ddata â phan oedd y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Pwysleisiodd yr Aelod fod gan ddinasyddion yr Undeb Ewrop sydd â dinasyddiaeth yr un hawliau. Cyfeiriodd Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd y Pwyllgor at y rhestr ar GOV.UK Criminal records checks for overseas applicants ar gyfer manylion gwiriadau cofnodion troseddol pob gwlad. Nid yw’r gost yn afresymol gan amrywio o ddim ffi i £45.00+.

·         Dywedodd Aelod fod  oedran cyfrifoldeb troseddol yn amrywio mewn gwahanol wledydd. Ymatebodd y Prif Swyddog Trwyddedu y byddai gwiriad estynedig yn rhoi cymaint o wybodaeth ag sydd modd. Yng nghyswllt gyrwyr tacsi, ni chaiff euogfarnau byth eu treulio felly yr angen i bolisïau i ddelio gydag euogfarnau..

 

Yn dilyn pleidlais ar argymhellion yr adroddiad, cymeradwyodd Aelodau y polisi ac amodau newydd a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2023, a roddir yn Atodiad B.

 

Fe wnaeth yr Aelodau hefyd benderfynu a  chymeradwyo’r dilynol yng nghyswllt Safonau Euro 4. Caiff cerbydau eu trwyddedu ar hyn o bryd gan Gyngor Sir Fynwy ar gyfer dibenion cerbydau hacni a hur preifat gadw hawliau tad-cu a chael eu trwyddedu ar gyfer oes silff eu cerbyd. Bydd angen i bob cais am gerbydau newydd fod i safon Euro 6.

 

Fel rhan o argymhellion yr adroddiad, cytunwyd gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried Profion Tacsi (DVSA) yn genedlaethol.

 

·         Holodd Aelod am gwynion am yrwyr tacsi gan nodi o’r wefan y daeth 75% o gwynion am dacsis heb drwydded gan gyfeillion pobl sydd wedi gwneud adroddiadau am hysbysebu gwasanaethau hurio ar y cyfryngau cymdeithasol. Awgrymwyd ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i annog pobl ifanc i ddod ymlaen gyda chwynion, beth i’w ddisgwyl pan ddefnyddiwch dacsi a’r hyn sy’n ymddygiad derbyniol.  Rhoddodd y Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd sicrwydd i Aelodau fod Swyddog Trwyddedu ym mhob tref, perthynas dda a gwybodaeth leol dda. Mae cydweithio agos gyda’r Heddlu. Mae’n rhaid i yrwyr tacsi gwblhau prawf diogelu a gwybodaeth am y pwyntiau a godwyd ynghyd â sut mae gyrwyr tacsi yn adrodd sylwadau teithwyr (e.e. sylwadau sarhaus, troseddau casineb). Bwriedir cynnal digwyddiad gwobrwyo ar thema troseddau casineb ar 24 Ebrill mewn cysylltiad ag awdurdodau Gwent Fwyaf. Cafodd mynediad ar gyfer pobl anabl hefyd ei godi.

 

Holwyd am ddiogeliad ar gyfer gyrwyr tacsi ac mewn ymateb cadarnhawyd nad oes darpariaeth ar gyfer CCTV yn y polisi. Nid yw’n ofynnol cael CCTV.

 

Cafodd y materion ategol a drafodwyd yn dilyn y bleidlais eu cyfeirio at y Swyddogion a chânt eu hychwanegu at yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y dylid ychwanegu Rhaglen Gwaith ar yr agendau yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: