Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y Gyllideb ar gyfer 2023/24 (atodir cyflwyniad).

Gofynnir i chi ddefnyddio’r ddolen yma i gael mynediad i’r papurau ar gyfer yr eitem hon – ar gael fel rhan o agenda Cabinet 18 Ionawr 2023.

 

20230118 Cabinet - Draft 2023-24 Revenue Capital Budget for consultation - Covering report Final v2.pdf (monmouthshire.gov.uk)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau y cynigion ar gyfer 2023-2024 i’r Pwyllgor (cyflwyniad ar gael ar-lein) cyn i’r Pwyllgor ofyn cwestiynau.

 

Her:

 

Pa sicrwydd sydd yna na fydd y gostyngiadau arfaethedig, yn enwedig ar gyfer cynnal a chadw tiroedd a’r Tîm Gwella Cymunedol, yn tanseilio’r uchelgais i’r sir fod yn sir gwyrddach i fyw ynddi? Beth yw’r effaith bosibl ar bentrefi gwledig?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Rydym wedi ymrwymo £750k tuag at ddatgarboneiddio fel rhan o’r gyllideb hon, sef y prif nod o leihau ein heffaith amgylcheddol yn y sir. Mae bioamrywiaeth hefyd wedi'i gynnwys yn y gyllideb hon.

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: O ran y gostyngiad yn y Tîm Gwella Cymunedol, roedd gennym ddau dîm, yn bennaf yn recriwtio carcharorion o garchar Prescoed, ond mae wedi bod yn fwyfwy anodd eu recriwtio, ac felly mae un tîm yn gweithredu erbyn hyn. Rydym am sianelu’r gwaith hwnnw i mewn i swyddogaethau cynnal a chadw tiroedd y Cyngor, fel na ddylai’r cyhoedd sylwi ar y newid. Yn yr achosion lle’r ydym wedi cwtogi ar y gwaith torri gwair fel rhan o’r rhaglen ‘Nid yw Natur yn Daclus’, mae gennym ychydig mwy o gapasiti yno i wneud mwy o blannu gyda chyfranogiad cymunedol. Ar hyn o bryd, rydym yn torri gwair 14 gwaith y flwyddyn ond yn bwriadu ei leihau i 10, tra’n parhau i dorri llwybrau trwy fannau amwynder gwyrdd a ddefnyddir, tra hefyd yn parhau â’r rhaglen ‘Nid yw Natur yn Daclus’.

 

A yw’r Aelod Cabinet yn fodlon na fydd ‘ddiwygio swyddogaethau ysgubo ar draws y sir’ yn tanseilio’r cyfraniad cadarnhaol at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur?

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: Y rheswm dros ddiwygio swyddogaeth ysgubo yw darparu swyddogaeth ysgubo mwy cynhwysfawr. Ar hyn o bryd mae gennym 2 aelod o staff rhan amser yn glanhau ac yn codi sbwriel, ond teimlwn y byddai colli'r ddwy swydd rhan-amser a chael ysgubwr mecanyddol amser llawn a fydd yn casglu sbwriel yn fwy buddiol ac yn arbed costau. Mae’r Cynghorau Tref hefyd wedi buddsoddi yn y timau tref estynedig, ac mae hyn wedi rhoi mwy o adnoddau i ni yng Nghas-gwent a’r Fenni, ac felly rydym wedi gweld gwelliannau mawr yno a hoffem roi’r dull ar waith mewn mannau eraill, gyda mwy o ysgubo mecanyddol yn atgyfnerthu hynny.

 

 

I ba raddau y mae modd gweithredu datrysiad mecanyddol i broblem sbwriel mewn modd mwy gwledig? A fyddai datrysiad corfforol yn fwy effeithiol yn y cyd-destun hwn?

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: Nid oes unrhyw newidiadau i sut rydym yn rheoli ysgubo mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym 3 ysgubwr mawr ar gyfer yr ardaloedd gwledig a 3 o rai bach yng nghanol trefi ac mae capasiti ar gyfer y rhai llai, na sydd yn cael eu defnyddio weithiau,  i wneud mwy o ysgubo mewn ardaloedd y tu allan i’r trefi, ac felly'r bwriad yw cynyddu, nid lleihau’r gwaith ysgubo.

 

Yn y flwyddyn ariannol flaenorol, roedd Sir Fynwy yn un o lond dwrn yn unig o awdurdodau i beidio â chyflwyno un hysbysiad cosb am ollwng sbwriel – a oes adnoddau i fynd ar ôl hyn, yn enwedig o ystyried y cynnydd mewn sbwriel a thipio anghyfreithlon? A wnaed dyraniadau cyllidebol ar gyfer y rhain ac, os felly, pam y cawsant eu diystyru?

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: Nid ydym yn ymwybodol o gynnydd mawr mewn tipio anghyfreithlon, nid ar lefel a fyddai’n dynodi tuedd gynyddol, er bod cynnydd bychan ledled Cymru, ond gallaf ddychwelyd at y Pwyllgor gyda’r dyddiad. (Cam Gweithredu: Carl Touhig). O ran cyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig am ollwng sbwriel, rydym wedi bod eisiau mabwysiadu hyn ers tro ar gyfer taflu sbwriel a baw c?n ac roedd Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth genedlaethol ac roeddem wedi gobeithio cael dull gweithredu 'Cymru gyfan', gyda gorfodaeth yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ond nid yw hyn wedi digwydd. Rydym yn parhau i fod yn obeithiol am y cyfeiriad strategol yn genedlaethol.

 

Ym mhapur y Cabinet, mae ffigur 1 yn rhoi cyfanswm gwariant o £311m, ond mae ffigur 4 yn dangos £208m. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau dabl gan ei fod yn aneglur i'r darllenydd?

Rheolwr Cyllid: Yn syml iawn, mae’r ail ffigwr yn cymryd i ystyriaeth y grantiau penodol y disgwylir eu derbyn, ond deallaf y gellid esbonio hyn yn well.

 

Beth yw’r refeniw ychwanegol a enillir gan y Cyngor ar gyfer pob 1% o gynnydd yn y Dreth Gyngor, er mwyn i ni ddeall y raddfa?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau:  Mae1% yn ôl ein cyfrifiadau tua £630k.

 

Mae pryder ynghylch cadernid y ffigurau yng nghynigion Datgarboneiddio 1 a 2: mae arbediad rhagamcanol yr ymgyrch ymwybyddiaeth ynni yn seiliedig ar arbediad cyffredinol o 5% - sut y profwyd y ffigur hwnnw? Pam 5%? Pa mor rhagweladwy yw'r arbedion, a beth yw'r lwfans gwallau?

 

Prif Swyddog: Mae swyddogion wedi edrych ar sefydliadau eraill i weld beth y gallem ei gyflawni pe baem yn gwneud pethau fel diffodd goleuadau a defnyddio llai o adeiladau, ac felly amcangyfrif yw hyn, ond byddwn yn sefydlu fforwm ar draws y Cyngor o swyddogion perthnasol i sicrhau ein bod yn ymwybodol o sut y gallwn wneud yr arbedion hynny a byddwn yn codi ymwybyddiaeth drwy ymgyrch gyfathrebu.

 

Nid yw’r cynnydd yn yr incwm y fferm solar yn datgarboneiddio ein hôl troed presennol yn benodol. Beth yw'r lwfans ansicrwydd ar y £150k gan ei fod yn dweud ei fod yn ansicr? A fu unrhyw ymchwiliad pellach?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Credaf fod ffigurau’r ffermydd solar yn ansicr oherwydd yr ansicrwydd a’r amrywiaeth yn y broses, ond gall y Prif Swyddog egluro.

 

Prif Swyddog: Rydym yn ceisio gosod lefel ddarbodus, ond rydym wedi cyflawni uwchlaw’r ffigur hwn hyd yma.

 

Mae angen buddsoddiad cyfalaf ar gyfer rhai pethau: e.e. gorchuddion pyllau nofio a newidiadau HVAC. Beth yw’r elw ar fuddsoddiad – sawl blwyddyn cyn i ni gael arian yn ôl?

 

Prif Swyddog Gweithredu MonLife: Mae cost gwresogi d?r pwll yn aruthrol o uchel ar hyn o bryd, gyda 75% o gyllideb MonLife yn cael ei ddefnyddio ar gyfer costau ynni, ond mae gorchuddion pyllau yn gwneud mwy na dim ond cadw tymheredd y d?r yn sefydlog, gan eu bod hefyd ein galluogi i ostwng y tymheredd yn yr adeiladau. Roedd gennym ni orchuddion pwll cyn hyn a gafodd eu tynnu oddi yno am wahanol resymau a chredwn y bydd costau gwariant yn cael eu hadennill yn gyflym, oherwydd ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni gadw'r gwres ymlaen am ddiwrnod i symud tymheredd y pwll i fyny 2 neu 3 gradd, ac felly, felly mae'n rhan sylwedd o’r  ynni a ddefnyddir  ac mae gorfod tynnu ac ailosod d?r hefyd wedyn yn golygu mwy o gost i'w ailgynhesu, ond mae'n rhaid i ni ddraenio ac ailosod d?r i fodloni safonau iechyd amgylcheddol. Byddwn yn dychwelyd i'r Pwyllgor gyda’r ffigwr ‘adennill buddsoddiad’ (Cam Gweithredu: Ian Saunders).

 

Er mwyn sicrhau £70k ar gyfer llwybrau cerdded ychwanegol, nid yw’n dweud pa fuddsoddiad cyfalaf sydd ei angen? Mae’n £150k, a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol ei gynnwys yn y papur bryd hynny.

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Credaf i chi ateb eich cwestiwn eich hun, ond nodaf eich pwynt am yr anhawster i ddod o hyd i’r ffigur.

 

Yn fwy penodol, i ffwrdd o orchuddion dros y pyllau nofio, roedd fy mhwynt yn ymwneud yn fwy ag a ydym yn gosod unrhyw feincnod ar gyfer mesur enillion ar fuddsoddiad, fel bod gennym eglurder ynghylch sut mae gwariant refeniw yn sicrhau elw ar fuddsoddiadau cyfalaf (Cam Gweithredu: Jonathon Davies).

 

Beth yw’r effaith ar gynnydd yn y defnydd o geir ac o bosib llai yn cofrestru yn y Chweched Dosbarth yn sgil cynnydd yn y pris teithio a fu cyn hyn yn  rhatach? A dychwelyd i bellteroedd statudol ar gyfer cludiant ysgol am ddim? Nid oes asesiad ar gyfer hynny yn yr adroddiad. A yw'n cymryd i ystyriaeth yr achosion lle nad oes llwybrau cerdded ar gael?

 

Prif Swyddog: Bydd hyn yn dibynnu a yw teuluoedd yn penderfynu peidio â defnyddio’r tocynnau teithio rhatach dewisol a thalu’r tâl ychwanegol er mwyn darparu cludiant i’w plant. Y canlyniad fydd a ydynt yn gallu cerdded i'r ysgol neu ddefnyddio dulliau eraill o deithio, neu a yw'r teulu'n penderfynu mai'r opsiwn gorau fyddai defnyddio car. Byddem yn amau, er bod cynnydd yn y gost, y byddai’r tâl uwch yn dal i fod yn rhatach na gyrru’r plant i’r ysgol. Mae’n unol â’r hyn y mae’r Rhwydwaith Bysiau Cyhoeddus yn ei godi, ac felly,  rydym wedi ceisio ei osod ar lefel synhwyrol.

 

Mae rhai o arbedion MonLife yn golygu trosglwyddo costau rhwng cyllidebau, nad ydynt wedyn yn arbedion gwirioneddol.

 

Prif Swyddog Gweithredu MonLife: Mae’n dibynnu ar sut ydych chi’n ystyried hyn, gan nad oes unrhyw elw yn cael ei wneud, mae’n fwy o adennill costau ar gyfer gwasanaeth a oedd yn werthfawr iawn. Mae ysgolion yn mynd y tu allan i Sir Fynwy ar gyfer cyrsiau ac yn talu costau enfawr, ac felly, cost fach yw hon am y gwasanaeth a gânt ac mae'r Penaethiaid yn ymddangos yn gefnogol iawn i'r gwasanaeth.

 

O dan ML22, Gilwern, nid oes esboniad o ble y daw'r arbediad o £100k?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: Rydym wedi dechrau adolygiad o Wasanaeth Addysg Awyr Agored Gilwern yng nghyd-destun y cwricwlwm addysg newydd, gan nodi awydd ysgolion i ddychwelyd at y profiad preswyl a oedd mor boblogaidd gyda theuluoedd, ac felly rydym am gadw hwn yn fforddiadwy. Rydym hefyd am wneud yn si?r bod y gwasanaeth yn cyfrannu at osgoi costau mewn mannau eraill, er enghraifft, ar gyfer darparu addysg i ychydig o bobl ifanc a phe na baem yn gallu gwneud hyn, mae’n debyg y byddai’n rhaid i ni chwilio am opsiynau eraill i ddarparu addysg y tu allan i’r ysgol a fyddai'n ddrutach. Y rheswm felly ei fod yn amhenodol, yw oherwydd bod yr holl opsiynau i’w hystyried ac mae angen i ni archwilio opsiynau amrywiol. Rydym am wneud y defnydd gorau o’r adnodd hwnnw.

 

Mae rhan o'r arbedion o £215k yn RES24 yn ymwneud â chael gwared ar Tudor St., ond mae'r sefyllfa wedi newid - a fyddwn yn diweddaru'r cynnig ar hynny? Mae hefyd yn cynnwys lleoedd fel Drybridge House a Melville Theatre fel blaenoriaeth 2 – pa ymgynghori a gynhaliwyd ag elusennau a defnyddwyr y canolfannau hynny? Mae yna awgrym y bydd rhai gweithgareddau yn trosglwyddo i Neuadd y Farchnad ond mae hynny hefyd i'w waredu - felly mae diffyg cysondeb  rhwng y cynigion yn peri pryder mawr.

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: Yn debyg i’r ateb blaenorol, y rheswm am y diffyg eglurder mewn perthynas â’r adeiladau yw bod gan y Cyngor nifer fawr o adeiladau ledled y sir, ac mae rhai ohonynt yn cael eu defnyddio’n wahanol i’r ffordd yr oeddent yn cael eu defnyddio cyn y pandemig. Nid yw llawer ohonynt yn defnyddio ynni'n effeithlon ac er bod gennym sawl perthynas â sefydliadau cymunedol, mae angen rhesymoli ein defnydd o adeiladau yn y tymor byr a'r tymor hir. Cyn cael gwared ar unrhyw beth, byddwn yn cwblhau arfarniad opsiynau llawn a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn

 

Y pryder yw ein bod yn rhoi arbedion penodol mewn cynnig cyllidebol mewn perthynas â gwaredu asedau. Mae disgwyl i ni gymeradwyo’r ffigurau hynny yn y Cyngor ond rydym yn teimlo’n anghyfforddus iawn yn cymeradwyo’r ffigurau hynny pan nad yw’r gwerthusiadau hynny wedi digwydd, ynghyd â chanlyniad ansicr iawn. Mae’r gyllideb yn rhagfarnu rhai o’r penderfyniadau hynny drwy eu rhoi yn y cynigion, waeth pa broses y byddwch yn ei rhoi ar waith yn y dyfodol.

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Mae’r mandad yn sôn am 21 o asedau penodol sydd wedi’u nodi gyda’r cyfle posibl i arwain at gynnydd mewn incwm neu gostau is, neu’r potensial i’w gwaredu fel rhan o ymarfer rhesymoli ystâd y Cyngor. Ar gyfer pob un o’r rheini, byddai angen i ni fynd drwy broses briodol a chadarn er mwyn ceisio cyflawni’r lefel o arbedion mandad sydd wedi’u gosod o fewn y gyllideb. Yn amlwg nid yw ffigur yr arbedion wedi'i seilio ar bob un o'r 21 yn cael eu cyflwyno a'u gwerthu. Rydym wedi cynnal asesiad mesuredig o’r lefelau risg, gan ddibynnu ar lefel defnydd yr adeiladau hynny, y potensial i allu rhesymoli mewn rhyw ffurf ac ar gyfer rhai o’r adeiladau hynny sy’n cael eu meddiannu ar hyn o bryd, maent yn dod i ddiwedd eu cyfnod, telerau prydles priodol, sydd beth bynnag, yn cynnig cyfle i allu edrych i adolygu ac yn ôl yr angen, ail-negodi prydlesi. Felly gadewch i ni beidio â syrthio i’r fagl o feddwl y bydd pob un o’r asedau hyn yn cael eu cau neu eu gwaredu. Mae’n ymwneud ag archwilio’r cyfleoedd byw sydd o’n blaenau i leihau costau, cynyddu incwm a, lle bo’n berthnasol, ystyried y potensial ar gyfer eu gwaredu.

 

Er eglurder, ar gyfer RES24, mae'r tabl yn nodi rhagamcan bod yr arbedion yn cynnwys 4 o'r 6 eiddo Blaenoriaeth 1, rhai ohonynt yn dal i gael eu hadolygu - felly a allwn gael eglurder ar hynny? Mae’r un peth yn wir am yr arbedion a ragamcanwyd ar gyfer 2024-2025 - felly dyna fy mhwynt am ragfarnu.

 

Y Dirprwy Brif Weithredwr: Rydym yn cytuno â chi. Mae maint yr arbedion posibl ac mewn perthynas â'r blynyddoedd, yn dibynnu ar yr asedau sydd yn cael eu hystyried, gan eu bod wedi'u rhestru yn unol â hynny a'r rhai yr ydych wedi cyfeirio atynt, nid ydynt i gyd yn mynd i fod yn addas i’w gwerthu, a hynny am y rhesymau yr ydych wedi’u hamlinellu ac mae prosesau y mae angen gweithio drwyddynt, ond dyna pam y mae swyddogion yn taflu’r rhwyd mor eang â phosibl yn y lle cyntaf i edrych ar asedau a allai gynnig rhywfaint o gyfle. Yn amlwg, os byddwn yn dod i’r casgliad yn gwbl briodol nad yw rhai asedau’n iawn i’w rhesymoli, byddwn yn edrych ymhellach a thu hwnt, sy’n rhan o’r broses, a dyna pam y mae 21 o asedau wedi’u nodi i ddechrau. Bydd y gwaith yn ymestyn dros gyfnod o 2 flynedd, ac felly byddwn yn monitro ac yn diweddaru hynny yn ôl yr angen. Yng nghyd-destun yr heriau cyllidebol yr ydym yn eu hwynebu, bydd angen i’r strategaeth a’r cynllun rheoli asedau y byddwn yn ystyried datblygu ar ôl cymeradwyo’r cynllun corfforaethol, sicrhau bod ein hystâd yn addas i’r diben, yn cael ei reoli’n effeithiol ac ar y gost isaf, tra’n diwallu anghenion ein cymunedau ar yr un pryd.

 

Mae tynnu cymhorthdal ??Cerdd Gwent yn ôl yn bryder mawr, gydag enghraifft o blentyn 9 oed yn gallu benthyca sacsoffon drwy’r cymhorthdal ??a chyflawni Gradd 6. Dyma enghraifft o bwysigrwydd y gronfa. Nid wyf yn credu bod £9k yn swm sylweddol fel cronfa caledi ar gyfer y sir gyfan ar gyfer teuluoedd incwm isel?

 

Rheolwr Cyllid Ysgolion: Roedd hwn yn benderfyniad anodd iawn a gwnaethom gynnal y cymhorthdal ??ar ôl i awdurdodau eraill dynnu'n ôl. Mae’r gronfa caledi o £9k wedi bod ar gael ers nifer o flynyddoedd ac mewn gwirionedd wedi’i thanwario, ac felly byddwn yn parhau i weithio gyda Cherdd Gwent i sicrhau bod teuluoedd sydd angen mynediad i’r gronfa honno yn gallu cael mynediad ati. O ran y cymorth arall a ddarparwn i Gerdd Gwent, rydym yn darparu cymhorthdal ??drwy gyllidebau ysgolion, sy’n cefnogi darpariaeth dosbarth cyfan, felly hefyd y cynllun y byddai plentyn eich preswylydd wedi elwa ohono, lle gall disgyblion roi cynnig ar wahanol offerynnau ac rydym am barhau i wneud hynny. Un o’r penderfyniadau y mae angen i ni ei wneud gyda Cherddoriaeth Gwent yw a fydd y gwersi cerddoriaeth yn cynyddu, gan nad ydym am drosglwyddo’r baich hwnnw i deuluoedd, ond byddwn yn gweithio’n agos iawn gyda nhw i sicrhau y gallwn ddarparu’r cymorth gorau posibl. Ar hyn o bryd mae cyllideb o £44k ar draws ysgolion i ddarparu’r ddarpariaeth dosbarth cyfan, a fydd yn rhan o’r gostyngiad, ond rydym yn mynd i fod yn gweithio gyda Cherddoriaeth Gwent i weld beth y maent yn mynd i allu darparu o ran darpariaeth dosbarth cyfan i ysgolion. Gall ysgolion ofyn am hynny a byddwn yn gweithio gydag ysgolion i weld a ydynt am ychwanegu at hynny i fyny i’r £44k fel eu bod yn parhau gyda’r ddarpariaeth ar gyfer y dosbarth cyfan.

 

O ran trafnidiaeth ysgol, mae pryder ynghylch lefelau’r milltiroedd sy’n mynd i ddisgyn. Mae elfen ddewisol ynghylch a yw’n llwybr diogel i’r ysgol. A allwn gael sicrwydd y bydd llwybr diogel i'r ysgol yn dal i gael ei ystyried? Ar yr ochr rhatach, mae'n £880 ar gyfer teulu gyda 2 o blant ar gyfer y bws, ac felly bydd y car yn cael ei ddefnyddio yn lle hynny, gan gynyddu llygredd a thagfeydd - pa lefel sy'n cael ei gynnig ar gyfer y cynnydd hwn mewn teithio rhatach ac a oes lwfans ar gyfer nifer y plant dan sylw?

 

Prif Swyddog: Ydy, mae’n dal yn rhan o’r broses asesu i benderfynu a oes llwybr diogel i’r ysgol pan ddaw’r ystyriaeth o’r cais i mewn gan deulu disgybl, ac felly nid oes newid yno. O ran y tâl rhatach, ar hyn o bryd, mae'n £440 am y flwyddyn academaidd gyfan. Y cynnig a nodir ym mandad y gyllideb yw cynyddu’r tâl hwnnw o £440 i £550 ar gyfer un o drigolion Sir Fynwy a’i gynyddu i £650 ar gyfer preswylydd nad yw’n byw yn Sir Fynwy. O ran y terfynau milltiredd, nid yw hyn yn rhywbeth a fydd yn cael ei roi ar waith yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan y byddai angen ymgynghoriad cyhoeddus a phroses ymgysylltu llawn, ac felly bydd hwn yn cael ei ddwyn yn ôl fel adroddiad ar wahân i gychwyn yr ymarfer ymgynghori, gyda’r gweithredu arfaethedig ym mis Hydref 2023. Felly’r cynnig sy’n cael ei ystyried yma yw dychwelyd yn ôl i’r terfynau statudol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn fwy ffafriol ar gyfer plant cynradd ac uwchradd, fel y byddai hynny’n dychwelyd o 2 filltir ar gyfer plant cynradd i 1.5 milltir ac o 3 milltir i 2 filltir ar gyfer plant uwchradd, felly dyna’r newidiadau arfaethedig. Yn ôl ein cyfrifiadau ar sail niferoedd presennol y disgyblion, byddai'n effeithio ar tua 127 o ddysgwyr na fyddent wedyn yn gymwys i gael cludiant am ddim. Un o’r pethau allweddol yr ydym am ei wneud yw gwella’r mynediad i ddisgyblion allu ddefnyddio llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded, beicio a defnyddio sgwteri.

 

A yw'r llwybr diogel yn annibynnol ar y milltiroedd, neu a ydynt yn cael eu hystyried gyda'i gilydd?

 

Prif Swyddog: Bydd yn dibynnu a oes ganddynt hawl i’r cludiant hwnnw, oherwydd pe bai ganddynt hawl i’r cludiant, ni fyddai angen i ni gynnal asesiad ar y llwybr diogel i’r ysgol, ond ar gyfer disgyblion o fewn y milltiroedd hynny, byddem yn cynnal asesiad o’r llwybr diogel i’r ysgol ac asesiad o'r llwybrau diogel i'r ysgol yn gyntaf. O fewn mandadau’r gyllideb, mae rhai llwybrau y credwn y gellid eu gwella, a allai atal yr angen am gludiant o’r cartref i’r ysgol.

 

 

O ran y 21 o asedau’r Cyngor y manylir arnynt ar dudalen 524, a yw'r rhain i gyd yn rhan o'r arbedion? Hoffwn weld Severn View yn cael ei droi’n dai fforddiadwy, gan ei fod mewn lleoliad perffaith.

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Mae asedau blaenoriaeth 2 a 3 yno fel amcangyfrifon a bydd angen llawer mwy o ystyriaeth, ac  felly, nid ydym yn bwriadu cael gwared ar 21 eiddo.

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: O ran Severn View, mae yna gwestiwn beth fyddwn ni’n ei wneud gyda Chartref Gofal Severn View pan fydd Cartref Gofal Crick Road yn agor a bydd angen ystyriaeth bellach o ran y capasiti, ac felly mae’n gwestiwn agored ar hyn o bryd ynghylch a fydd y'n cael ei ddefnyddio ar gyfer tai fforddiadwy neu ar gyfer defnydd arall.

 

Nid yw’r adroddiad yn glir ynghylch y gostyngiad yn oriau agor llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden a sut y bydd newid hyn yn effeithio ar wahanol ddefnyddwyr e.e. pobl h?n sydd eisiau cael mynediad yn ystod y dydd – a fydd un gr?p yn cael ei effeithio’n fwy nag eraill? Byddem yn gwerthfawrogi dadansoddiad manylach o’r gyllideb hon yn gyffredinol a’r effaith ar bobl. Er enghraifft, gallai newid oriau agor llyfrgelloedd effeithio ar bobl h?n a allai geisio cael mynediad i fannau cynnes.

 

Yr Aelod Cabinet: O ran hybiau cymunedol a llyfrgelloedd, rydym yn cysylltu â staff ar hyn o bryd ac efallai ein bod yn lleihau lefelau staffio ond ni fydd hyn yn  effeithio ar yr oriau agor.

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: Rydym yn adolygu oriau agor canolfannau hamdden, oherwydd rydym yn ymwybodol bod pobl yn defnyddio’r canolfannau hamdden yn amlach yn y gaeaf ac yn llai yn yr haf, ac felly, rydym yn bwriadu gwneud unrhyw ostyngiadau yn ystod yr amser pan eu bod yn cael eu defnyddio’n llai aml.

 

A ydym ni’n hyderus bod digon o gyllid wedi’i ddyrannu ar gyfer gwelliannau rheoli traffig ysgol, yn enwedig gan y bydd toriadau yng nghyllideb gwasanaeth cludiant ysgol yn golygu bod mwy o blant yn dod o hyd i’r ysgol ar liwt eu hunain? A fydd y plant yn cael eu hannog i gerdded, sgwtera neu feicio’n annibynnol, a sut byddwn yn monitro effaith y newidiadau hynny? A yw pellteroedd yn cael eu mesur ‘fel yr hed y frân’ neu ‘wrth gerdded’?

 

Prif Swyddog: Rydym yn gobeithio y bydd y cyllid yn ddigonol i wneud y gwelliannau sydd eu hangen o fewn y cyfyngiadau sydd gennym. Byddwn yn ei fonitro, ond gan y byddai’n anodd monitro pob ysgol yn unigol, byddwn yn dibynnu ar Aelodau etholedig a’r ysgolion i roi adborth i ni. Y pellteroedd a fesurir yw ‘fel yr hed y frân’, ond ceisiwn gymryd i ystyriaeth, mewn sir wledig, fod angen i ni ystyried y llwybr go iawn.

 

O ran Parc Manwerthu Casnewydd a Pharc Busnes Castlegate, a yw’r ffigurau a ddangosir yn cynrychioli’r costau go iawn, gan gynnwys amser swyddogion? Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y safleoedd hyn yn y dyfodol? Sut maent yn cyd-fynd â'r uchelgeisiau yn y cynllun corfforaethol i leihau cymudo allan o'r sir? Sut mae egluro codi neu greu ffioedd parcio ceir yn y sir tra'n ariannu rhywle y tu allan i'r sir gyda pharcio am ddim?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Mae'r niferoedd yn gywir. Mae Parc Manwerthu Casnewydd y tu allan i'r sir ac wedi bod yn fuddsoddiad dadleuol, gyda chwestiynau'n cael eu codi. Nid yw’n fuddsoddiad y byddai’r weinyddiaeth hon wedi dewis ei wneud ac nid ydym yn gweld yr enillion yr hoffem eu cael, ond mae’r sefyllfa economaidd yn golygu nad yw’n gwbl ddoeth eu tynnu nôl chwaith. Felly oes, mae gennym fuddsoddiad y tu allan i'r sir gydag elfen o risg, ond rydym lle’r ydym ac mae’n rhan o raglen asedau’r Cyngor.

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Dim ond i gadarnhau bod y ffigurau’n gywir a bod y sefyllfa’n esblygu’n gyson ac mae swyddogion a Chynghorwyr yn sicrhau ein bod yn cadw ar ben lefel y risg cysylltiedig. Cyflwynwyd adroddiad ar hyn i'r Pwyllgor Buddsoddi ac rydym yn cael diweddariadau perfformiad rheolaidd ar y portffolio ac rydym yn asesu'n barhaus a yw'r enillion meincnod wedi'u bodloni ac os nad ydynt, rhaid penderfynu drwy'r gwerthusiad opsiynau a yw'r ased yn cael ei gadw. Nid yw'r hinsawdd economaidd bresennol yn ffafriol i waredu ar hyn o bryd ac yn sicr gyda Castlegate, mae'n deg dweud ei fod wedi bod yn wydn iawn drwy'r pandemig o ran ei feddiannaeth ac eto rydym wedi colli Mitel fel tenant, ond rydym yn wedi ehangu’n sylweddol ôl troed tenantiaid eraill, sy’n stori newyddion da, gyda llawer o ddiddordeb gan yr unedau sydd dal yno. Mae Parc Manwerthu Casnewydd yn stori wahanol ac rydym yn cydnabod y pwynt ei fod y tu allan i’r sir, ond ei fod ar y cyrion ac os edrychwch ar arferion trigolion Sir Fynwy, yn enwedig yn ne’r sir, maent yn gwneud defnydd trwm ohono. Fodd bynnag, mae ychydig yn fwy cyfnewidiol, o ystyried ei natur a’r ffaith ei fod yn dod allan o’r pandemig a’r tenantiaethau sydd wedi’u lleoli yno, ond serch hynny, er gwaethaf y lefelau risg sy’n rhan annatod o’r math yma o fuddsoddiadau, mae’r diddordeb yn y parc manwerthu yn parhau i fod yn gryf iawn, ac felly fel ased buddsoddi, boed ar gyfer enillion parhaus yn y dyfodol neu ar werth, mae mewn lle da.

 

Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn mewn prisiau, a yw meysydd parcio yn dal i gael cymhorthdal? A yw'r cyllid a godir wedi'i glustnodi ar gyfer eu cynnal?

 

Prif Swyddog: Nid yw meysydd parcio yn cael eu sybsideiddio gan ein bod yn derbyn incwm oddi wrthynt ac mae hwn wedyn yn cael ei glustnodi a’i ail-fuddsoddi yn y meysydd parcio, sy’n eithaf drud.

 

Mae trigolion yn pryderu am y cynnydd yng nghostau’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd, yn benodol y taliad sengl – os bydd y defnydd yn lleihau, a ddylid priodoli hyn i ddiffyg galw yn hytrach na phobl yn cael eu digalonni gan y pris? Pa sgôp sydd ar gyfer rhannu'r gost dros y flwyddyn?

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: Aeth y cynllun yn fyw'r wythnos diwethaf gyda dros 3000 o ymgeiswyr, ac felly, rydym ar y trywydd iawn. Rydym wedi edrych ar y system 3 taliad neu Ddebyd Uniongyrchol, ond mae anawsterau technegol yn ei atal ar hyn o bryd, ond gallem geisio ei wneud ar gyfer y flwyddyn nesaf, unwaith y byddwn yn gwybod faint o ddefnyddwyr gwasanaeth fydd gennym.

 

Beth am wneud taliadau dros gyfnod am gludiant ysgol?

 

Prif Swyddog: Rydym eisoes yn cynnig hyn.

 

O ran gostwng costau ynni, a allwn ddiffodd goleuadau mewn rhai adeiladau, a goleuadau stryd mewn rhai ardaloedd ar ôl amseroedd penodol? e.e. mae'r goleuadau yn Ysgol Osbaston ar dir yr ysgol ymlaen drwy'r nos pan nad oes plant yno.

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: Mae ein goleuadau stryd i gyd yn dechnoleg LED sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac rydym wedi lleihau golau dros y blynyddoedd drwy raglenni pylu, ond byddai angen ystyried diffodd golau’n gyfan gwbl fesul pob un achos unigol. Rydym yn datblygu polisi corfforaethol ar ddefnyddio ynni ac rydym hefyd yn gweithio gydag ysgolion i leihau goleuadau ar draws ein holl safleoedd.

 

Mae cyfeiriad at gael codwr sbwriel mewn trefi, ond Cyngor Tref Trefynwy sy'n talu am ei godwr sbwriel.

 

Rheolwr Strategaeth Ailgylchu: Nid lleihau'r gwaith glanhau yw pwrpas ailddiwygio’r drefn lanhau ond gwneud yr ysgubwr mecanyddol ar gael yn fwy aml, gan ei fod yn effeithlon iawn. Rydym yn dal i werthfawrogi’n fawr y codwyr sbwriel a’r gwaith y maent yn ei wneud a ariennir gan y cyngor tref.

 

Sut byddai cau’r Ganolfan Bridges yn cael ei weithredu?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Nid ydym yn edrych ar gael gwared ar y Ganolfan ond rydym yn edrych ar y incwm posib a chan fod y brydles i’w hadnewyddu, mae’n ymwneud â’i gosod ar sail mwy masnachol.

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Dim ond i gadarnhau, a ninnau’n agosáu at adnewyddu’r brydles, fod Bridges wedi cysylltu â ni, oherwydd eu bod yn gwneud gwaith da iawn yno ond yn awyddus i archwilio’r opsiynau. Mae yna agweddau ar sut mae’r adeilad yn cael ei ddefnyddio sy’n dod yn fwy at ddefnydd masnachol, ac felly efallai y bydd angen i ni adnewyddu ar y sail honno.

 

Bydd cynyddu ardrethi busnes a thaliadau parcio yn arwain at ddirywiad pellach yng nghanol ein trefi. O ran marchnad wartheg Trefynwy, oni allwn symud y stondinwyr hynny i fyny i Sgwâr Agincourt a gwneud y farchnad yno’n fwy hyfyw? Oni fyddai’n cynyddu’r apêl i ddenu mwy o bobl i Drefynwy, gan fod hanner y maes parcio ar gau?

 

Prif Swyddog: Nid yw ardrethi busnes yn rhywbeth yr ydym ni fel awdurdod lleol yn rheoli ei osod, mae hyn y tu allan i’n cylch gorchwyl. Roedd ymrwymiad gan y weinyddiaeth flaenorol a’r Cabinet hwn i gynnal adolygiad o daliadau meysydd parcio a’r mecanwaith codi tâl ar draws y sir a bydd hyn yn cychwyn yn y flwyddyn ariannol newydd ac yn cael ei graffu. O ran eich awgrymiadau ynghylch y farchnad wartheg, mae hyn yn rhywbeth y gallwn ei ystyried.

 

Os yw Neuadd y Farchnad ar fin ei werthu, pam mae cymaint o amser swyddogion yn cael ei dreulio yn ceisio sicrhau arian drwy’r Gronfa Ffyniant Bro?

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Unwaith eto, nid yw hyn yn ymwneud â gwaredu, mae cyfleoedd i gynhyrchu incwm drwy denantiaethau diogel.

 

O ran y £300k o doriadau i’r rhai ag anableddau dysgu – pam ein bod yn torri’r cymorth ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf?

 

Rheolwr Cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol: O ran y mandad, rydym yn edrych ar y lleoliadau cost uchel i weld a allwn gryfhau ein trafodaethau a chwilio am ddewisiadau eraill yn lle’r lleoliadau cost uchel hynny. Rhan arall o'r mandad yw ystyried yr hyn sy’n sbarduno gofal iechyd parhaus, i weld a allant gymryd cyfrifoldeb am beth o'r cyllid, yn hytrach na'i fod yn disgyn i'r Cyngor. Dyma’r rhan fwyaf o’r arbediad, ac ni ddylai’r cleient weld unrhyw effaith, gan fod y cleient yn y canol, ond mae angen i’r Cyngor gael y cadwraethau o gwmpas y gyllideb a’r hyn sydd ganddo i’w ariannu yn hytrach na chyllid iechyd.

 

Mae’r cynnydd yng nghyflog sylfaenol Cynghorwyr i £818k yn creu pwysau cyllidebol o £45k. A fyddai'n ddoeth gwrthod y codiad cyflog hwn? A wnaiff yr Aelod Cabinet a’i gydweithwyr arwain drwy esiampl a hepgor cynnydd yn eu cyflogau’u hunain ar gyfer y flwyddyn ariannol hon?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Nid fy mhenderfyniad yw penderfynu a ddylid ei wrthod a byddai hyn yn gofyn am benderfyniad Cyngor llawn, ac felly nid wyf mewn sefyllfa i wneud sylw. Os hoffech ddanfon cynnig llawn i'r Cyngor, gallwch wneud hynny.

 

A all yr Aelod Cabinet gadarnhau, gyda chynnydd o 6% yn y dreth gyngor, yn seiliedig ar fodelu, a yw’n dal yn wir y bydd rhiant sengl gyda dau o blant dibynnol £784 yn waeth eu byd y flwyddyn nesaf, a theulu dau riant gyda 2 o blant yn £1200 waeth eu byd?

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau: Mae arnaf ofn y byddai angen i mi gadarnhau hyn yn dilyn y cyfarfod (Cam Gweithredu: Aelod Cabinet ar gyfer Adnoddau).

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: Mae’r rhain mewn gwirionedd yn ffigurau sy’n cyfateb i’r ‘sefyllfa waethaf’ ar gyfer aelwyd sy’n defnyddio bron bob gwasanaeth y gellir ei dderbyn ac yn rhagdybio ar gyfer yr aelwyd rhiant sengl na sydd yn derbyn gostyngiad person sengl ar y Dreth Gyngor, yn anghymwys  i dderbyn prydau ysgol am ddim a chludiant o’r cartref i’r ysgol a darpariaeth gofal plant cyn-ysgol - nid wyf yn si?r felly a yw hynny’n bosibl na’i fod yn gwbl gywir ac mae angen i ni fireinio’r ffigurau hynny.

 

A fydd staff yn cael yr hyfforddiant a’r cymorth i allu gwneud yr asesiadau gofal iechyd parhaus gofynnol a chael cyllid GIG priodol? A yw’n gywir nad yw gofal iechyd parhaus yn bosibl heb daliad uniongyrchol, ac a fydd hynny’n atal pobl rhag dilyn y llwybr gofal iechyd parhaus?

 

Rheolwr Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol: Mae gennym banel ansawdd sydd wedi bod yn gweithredu ers blynyddoedd lawer rhwng y Cyngor a phartneriaid iechyd a sawl blwyddyn yn ôl fe wnaethom sefydlu swydd benodol a oedd yn arbenigwr yn y maes hwn ac maent yn allweddol wrth drosglwyddo’r wybodaeth ymlaen yngl?n â’r gofynion a'r sbardunau a'r trafodaethau, ac felly rydym yn fodlon â hyn. Rwy'n ymwybodol o'r mater taliadau uniongyrchol, a fy nealltwriaeth i yw nad yw'n ffaith na all gofal iechyd parhaus gymryd cyfrifoldeb am  y cyllid, ond ni allant dalu am y taliad uniongyrchol, ac felly byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol wasanaethu o hyd. y taliad uniongyrchol, ac yna ailgodi tâl am ofal iechyd parhaus. Byddaf yn gwirio hyn ac yn rhoi gwybod i chi os yw unrhyw ran o'm hesboniad yn anghywir.

 

A yw’n gywir mai’r cynigion datblygu’r gweithlu yw uno’r tîm ag awdurdod cyfagos ond eu cynnal yn Sir Fynwy?

 

Rheolwr Cyllid Gwasanaethau Cymdeithasol: O ran yr arbedion, rydym yn cynnal asesiad o ble y gallwn sicrhau arbedion effeithlonrwydd allan o'r gweithlu gan gydnabod yr angen sydd heb ei ddiwallu. Mae yna feysydd yn y farchnad yn ymwneud â recriwtio a chadw, ac felly rydym yn adolygu swyddi gweigion i weld a allwn wneud rhywbeth yn wahanol a gweld a ellid gwneud gwelliannau drwy ddulliau eraill.

 

Mae angen diben y cynllun teledu cylch cyfyng yng Nghil-y-coed yn addas i'r diben - mae rhai o'r newidiadau i'w croesawu ond mae Diogelwch Cymunedol yn parhau i fod yn bryder i bobl y dref.

 

Yr Aelod Cabinet ar gyfer Tai: Mae diogelwch cymunedol yn un o’r meysydd sydd wedi bod yn brin o adnoddau yn hanesyddol ac yn un lle’r ydym yn bwriadu gwario ychydig mwy. Mae gennym lu o systemau camerâu cylch cyfyng yn y trefi, ac felly’r cynnig yw rhesymoli a chydlynu’r systemau.

 

Mae'r cynllun Grassroots yn boblogaidd a gwerthfawr iawn – yn hytrach na'i ddileu, a oes modd ei ailfodelu ar gyfer ein trigolion?

 

Prif Swyddog: Ym mandad y gyllideb, rydym wedi cynnig dau opsiwn, un yn dâl tanysgrifio blynyddol, a’r llall yn rhoi’r gorau i’r gwasanaeth yn gyfan gwbl, ond yr opsiwn tanysgrifio yw’r opsiwn a argymhellir.

 

A allwn ni gael mwy o fanylion am y £550k a neilltuwyd i drwsio pont droed Redbrook? A oes gan Gyngor Sir Gaerloyw yr arian ar gyfer eu hanner hwy?

 

Prif Swyddog: O fewn ochr gyfalaf y gyllideb, rydym wedi nodi’r gwariant cyfalaf posibl sy’n debygol o ddigwydd dros y tair blynedd nesaf, felly ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf y mae, nid eleni. Rydym yn trafod hyn â Chyngor Sir Swydd Gaerloyw, ac felly mae’r ffigurau yn rhai cychwynnol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, nid y flwyddyn hon. Pe bai rhywbeth yn digwydd yn ystod y flwyddyn hon, efallai y bydd y ffigurau hynny’n newid.

 

Er eglurder, mewn perthynas â Grassroots, a fydd y tanysgrifiad blynyddol o £30 fesul cartref? Mae mwyafrif llethol y defnyddwyr yng Nghasnewydd, Cas-gwent a Chil-y-coed, ardaloedd sydd eisoes yn cael eu gwasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus – pa gynlluniau sydd ar y gweill i’w hyrwyddo i ddefnyddwyr mewn ardaloedd mwy gwledig, sef bwriad gwreiddiol y cynllun?

 

Faint o gofrestriadau newydd a gawn bob blwyddyn?

 

Prif Swyddog: Mae’n rhywbeth yr ydym yn awyddus iawn i’w hyrwyddo oherwydd ei fwriad gwreiddiol oedd ar gyfer ardaloedd gwledig yn hytrach na’r rhai lle ceir gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio bron fel gwasanaeth tacsi preifat ar gyfer gwaith. Y tâl a gynigir yw fesul person yn hytrach na fesul cartref. Gallaf gael nifer y cofrestriadau ar eich cyfer yn dilyn y cyfarfod (Cam Gweithredu: Frances O’Brien).

 

Mae trafnidiaeth gyhoeddus o amgylch Cas-gwent yn wael, gyda dim ond un bws ar ddydd Sadwrn o bentref Matharn, er enghraifft. Mae un pensiynwr yno yn defnyddio gwasanaeth Grassroots – byddai unrhyw gynnydd mewn taliadau yn effeithio arni. Byddai dadansoddiad o'r taliadau a'r consesiynau hynny'n ddefnyddiol.

 

Prif Swyddog: Gallaf roi dadansoddiad i’r Pwyllgor o’r taliadau a’r consesiynau yn dilyn y cyfarfod (Cam Gweithredu: Frances O’Brien)

 

 

Crynodeb:

 

Cynhaliodd y Pwyllgor waith craffu trylwyr ar y cynigion cyllidebol ar gyfer 2023-2024, a chodwyd y materion a’r cwestiynau allweddol canlynol yn ystod y cyfnod hwn:

 

  • A oedd sicrwydd na fydd y gostyngiadau arfaethedig, yn enwedig ar gyfer cynnal a chadw tiroedd a’r tîm gwella cymunedol, yn tanseilio’r uchelgais i’r sir fod yn lle mwy gwyrdd i fyw, a gofyn beth fyddai’r effaith bosibl ar bentrefi gwledig.
  • Gofyn os na fydd ‘ail-ddiwygio swyddogaethau ysgubol ar draws y sir’ yn tanseilio’r cyfraniad cadarnhaol at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
  • A oes digon o adnoddau i gyflwyno hysbysiadau cosb sengl am ollwng sbwriel? A wnaed ystyriaethau cyllidebol ynghylch mynd i’r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon yn y modd hwn ac, os felly, pam y cawsant eu diystyru?
  • Gofyn i ba raddau y gellir defnyddio'r ateb mecanyddol i ollwng sbwriel mewn ardaloedd mwy gwledig, ac a fyddai ateb corfforol yn fwy effeithiol yn y cyd-destun hwn.
  • Egluro cyfanswm y ffigyrau gwariant yn yr adroddiad, a beth yw'r refeniw ychwanegol i'r Cyngor ar gyfer pob 1% o gynnydd yn y Dreth Gyngor.
  • Pryder ynghylch cadernid y ffigurau yng nghynigion Datgarboneiddio 1 a 2, gan ofyn sut y daethpwyd i’r ffigwr o 5% ar gyfer arbediad rhagamcanol yr ymgyrch ymwybyddiaeth ynni, a beth yw’r lwfans gwallau.
  • Gofyn beth yw'r lwfans gwallau ar y cynnydd incwm a ragwelir o £150k ar gyfer y fferm solar.
  • Beth yw'r elw ar fuddsoddiad ar gyfer y buddsoddiad cyfalaf mewn pethau fel gorchuddion y pyllau nofio a HVAC?
  • Egluro pa fuddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i gyflawni £70k ar gyfer llwybrau cerdded ychwanegol
  • Yr effaith bosibl o ran cynnydd yn y defnydd o geir a llai yn cofrestru ar gyfer y Chweched Dosbarth yn sgil codi pris teithio rhatach.
  • A yw dychwelyd i bellteroedd statudol ar gyfer cludiant ysgol am ddim yn cymryd i ystyriaeth lle nad oes llwybrau cerdded ar gael.
  • Nodi bod rhai o arbedion MonLife yn golygu trosglwyddo costau, nad ydynt wedyn yn arbedion gwirioneddol.
  • Egluro o ble y daw'r arbedion o £100k o dan ML22, Gilwern.
  • Deall pam fod rhan o'r arbedion o £215k yn RES24 yn ymwneud â lleoedd fel Tudor Street, nad yw eu tynged wedi'i benderfynu eto, a throsglwyddo gweithgareddau i Neuadd y Farchnad, sydd hefyd ar fin cau - a yw'r gyllideb yn rhagfarnu'r penderfyniadau hynny drwy eu cynnwys yn y cynigion ?
  • Gofyn pa ymgynghori a gynhaliwyd gydag elusennau a defnyddwyr y canolfannau mewn lleoedd fel Drybridge House a Theatr Melville.
  • O ran tynnu cymhorthdal ??Cerdd Gwent yn ôl, a ellir ystyried bod £9k yn ddigonol fel cronfa galedi ar gyfer teuluoedd incwm isel ar draws y sir gyfan
  • O ran cludiant ysgol, a oes sicrwydd y bydd llwybr diogel i'r ysgol yn dal i gael ei ystyried, ac ar gyfer teithio rhatach, a oes lwfans ar gyfer nifer y plant dan sylw, o ystyried y gost o £880 am y bws i deulu â 2 o blant.
  • A allai Severn View ddod yn dai fforddiadwy, o ystyried ei leoliad delfrydol.
  • Eglurder am y gostyngiad yn oriau agor llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden ac ati a sut y bydd hyn yn effeithio ar wahanol ddefnyddwyr e.e. pobl h?n sydd eisiau cael mynediad yn ystod y dydd.
  • A yw'r llwybr diogel yn annibynnol ar y milltiroedd, neu a yw’n cael eu hystyried gyda'i gilydd.
  • Gofyn faint o hyder sydd bod digon o arian wedi'i ddyrannu ar gyfer gwelliannau rheoli traffig ysgol, yn enwedig gan y bydd toriadau yng nghyllideb y gwasanaeth cludiant ysgol yn golygu y bydd mwy o blant yn dod o hyd i'w ffordd eu hunain i'r ysgol, a sut y byddwn yn monitro effaith y newidiadau hynny.
  • Egluro'r costau ar gyfer Parc Manwerthu Casnewydd a Pharc Busnes Castlegate, a'r cynlluniau ar gyfer y safleoedd hynny ar gyfer y dyfodol.
  • Egluro sut mae'r safleoedd hynny'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau yn y cynllun corfforaethol i leihau cymudo y tu allan i'r sir, a sut y gellir egluro bod y safleoedd hyn yn cael eu hariannu gyda pharcio am ddim tra’n cyflwyno neu’n cynnydd ffioedd parcio ceir ar draws Sir Fynwy.
  • Os yw meysydd parcio'n dal yn derbyn cymhorthdal, ac a yw'r arian a godir wedi'i glustnodi ar gyfer eu cynnal.
  • A all taliadau am gludiant ysgol neu'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd amrywio drwy'r flwyddyn.
  • A oes modd gwneud mwy i arbed ynni drwy ddiffodd goleuadau a goleuadau stryd pan nad oes eu hangen, megis ar safleoedd ysgol.
  • Eglurhad a manylion pellach ynghylch sut y byddai cau pontydd yn cael ei weithredu.

 

  • A fydd cynyddu ardrethi busnes a thaliadau parcio yn arwain at ddirywiad pellach yng nghanol y trefi, ac a ellid symud stondinwyr ym marchnad wartheg Trefynwy i Sgwâr Agincourt i wneud y farchnad yno'n fwy egnïol a rhyddhau'r maes parcio.
  • Egluro pam, os yw Neuadd y Farchnad ar fin gwerthu, bod cymaint o amser swyddogion yn cael ei dreulio yn ceisio sicrhau arian o’r gronfa ffyniant bro.
  • A fydd lleihau oriau ar gyfer llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn arwain at ddiswyddiadau staff.
  • Pam fod cymorth o £300k yn cael ei dorri gan y rhai sydd ei angen fwyaf, h.y. y rhai ag anableddau dysgu.
  • A ddylai aelodau wrthod y codiad cyflog sy'n creu pwysau o £45k, ac a fydd yr Aelod Cabinet a'i gydweithwyr yn arwain drwy esiampl ac yn ildio’r cynnydd yn eu cyflogau hwy ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.
  • Os gall yr Aelod Cabinet gadarnhau gyda chynnydd o 6% yn y dreth gyngor, bydd rhiant sengl gyda dau o blant dibynnol £784 yn waeth eu byd y flwyddyn nesaf, a theulu dau riant £1200 ar eu colled.
  • A fydd staff yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth i allu gwneud yr asesiadau gofal iechyd parhaus gofynnol a chael cyllid GIG priodol.
  • A yw'n gywir nad yw gofal iechyd parhaus yn bosibl heb daliad uniongyrchol, ac a fydd hynny'n atal pobl rhag dilyn y llwybr gofal iechyd parhaus.
  • Egluro mai'r cynigion datblygu gweithlu yw uno'r tîm ag awdurdod cyfagos ond eu lleoli yn Sir Fynwy.
  • A allai effaith ar hyfforddiant olygu bod pobl yn penderfynu gweithio i awdurdodau eraill.
  • Os gellir gwneud y camerâu teledu cylch cyfyng yng Nghil-y-coed yn addas at y diben.
  • A oes modd ailfodelu'r cynllun Grassroots.
  • Os oes rhagor o fanylion am y £550k a neilltuwyd i drwsio pont droed Redbrook, ac a oes gan Gyngor Sir Gaerloyw yr arian ar gyfer ei hanner.
  • Gofyn pa gynlluniau sydd ar y gweill i hyrwyddo Grassroots i ddefnyddwyr mewn ardaloedd mwy gwledig, faint o gofrestriadau newydd a gawn bob blwyddyn, ac a fydd y tanysgrifiad blynyddol o £30 fesul cartref.
  • Nodi y byddai dadansoddiad pellach o daliadau a chonsesiynau Grassroots yn ddefnyddiol.
  • Gofyn a fydd y brydles ar gyfer Canolfan Gymunedol Bridges yn cael ei thrafod, ac a fydd cyfleusterau grant i dalu am unrhyw gynnydd mewn rhent

 

 

Dogfennau ategol: