Cofnodion:
Cafwyd adroddiad a chyflwyniad gan y Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad a’r Swyddog Map Diffiniol a chawsom ein hysbysu fod gan yr Awdurdod ddyletswydd i adolygu’r Map a’r Datganiad Diffiniol yn barhaus. I gyflawni’r ddyletswydd hon mae angen i’r Cyngor ystyried a phenderfynu achosion gyda golwg ar wneud gorchymyn i newid y Map a Datganiad Diffiniol. Fe wnaeth codi cwestiwn am lwybr brig mur y môr ynghyd ag ymateb y cyhoedd hi’n hanfodol cynnal ymchwil i benderfynu p’un ai, o bwyso a mesur tebygolrwydd, fod hawliau cyhoeddus eisoes yn bodoli drwy’r safle. Esboniwyd cyfraith gyffredin a deddfwriaeth berthnasol. Fe wnaeth y cyflwyniad barhau am 1.5 awr ac yn cynnwys manylion am leoliad, y gofrestrfa tir, gwrthwynebiadau, tystiolaeth o fapiau hanesyddol, map a datganiadau diffiniol, lluniau o’r awyr, lluniau safle a thystiolaeth defnyddwyr.
Diben yr adroddiad yw ystyried yr holl dystiolaeth hanesyddol a ph’un ai i ychwanegu’r llwybrau troed honedig at Fapiau a Datganiad Diffiniol Sir Fynwy. Rhoddir y llwybrau i’w hychwanegu i gymuned Cil-y-coed ar y map gorchymyn.
Yn dilyn y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau i drafod a rhoi sylwadau a chafodd aelodau o’r cyhoedd gyfle i siarad, fel sy’n dilyn:
· Ni ddylai’r Pwyllgor ystyried angen, niwsans nac addasrwydd, dim ond os penderfynu os yw’r cyhoedd wedi cerdded y llwybr am gyfnod sylweddol.
· Holodd Aelod am lwybrau mynediad i’r maes tanio.
· Roedd aelod o’r cyhoedd sy’n byw yng Nghil-y-coed wedi cerdded y llwybr a dywedodd fod pyst baneri yn gwneud synnwyr.
· Dywedodd aelod o’r cyhoedd ei fod wedi defnyddio llwybr mur y môr iddo ers iddo fod yn 8 oed ac roedd bellach yn 70 oed ac roedd yn llwybr hyfryd.
· Dywedodd aelod o’r cyhoedd fod Llwybr Arfordirol Cymru sy’n rhedeg i fewn ir tir o’r ddau faes tanio yn hyll ac yn llwybr mwy peryglus i gerddwyr a bod mur y môr yn llwybr da.
· Cadarnhaodd aelod o’r cyhoedd y bu llwybr concrit ar fur y môr dan y bwtres am o leiaf 60/70 mlynedd ac mae’n llwybr cerdded poblogaidd a ddefnyddir bob dydd.
· Anghytunai’r Cyngor Sir am yr ardal (oedd yn cynrychioli’r maes tanio) am nifer o agweddau y dystiolaeth tebyg i dderbyn fod y llwybr ar y Map Diffiniol wedi erydu, ar y daliwr bwled ac nid mur y môr ac nid yw gosod y blychau sentri a’r clwydi moch yn cadarnhau’r llwybr gwreiddiol gan eu bod wedi eu gosod i weld cychod sydd yn y maes tanio i sicrhau fod tanio’n dod i ben. Nid yw’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwybod y bydd nifer fwy o ymwelwyr ar y maes tanio (G i N). Nid oes unrhyw fudd i wneud y llwybr yn un swyddogol gan y bydd angen adolygu adrannau pellach. Pan mae baneri coch yn cyhwfan, mae cerddwyr yn aros i basio’r daliwyr bwled tra gofynnir am atal tanio a gwirio gynnau i sicrhau nad oes bwledi ynddynt. Nid oes unrhyw is-gyfreithiau am ddefnydd y cyhoedd. Mae swyddogion Iechyd a Diogelwch yn ystyried bod y safle yn cael ei reoli’n dda.
· Dywedodd Aelod o’r cyhoedd bod 16 awdurdod lleol a dau barc cenedlaethol wedi ail-alinio’r llwybr Arfordirol i ddilyn arfordir Cymru yn agos a diogel. Dywedwyd na ymgynghorwyd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae’r dystiolaeth yn cynnwys lluniau yn groes i ddiogelwch cenedlaethol. Mae map gwres Strava yn anghywir ac mae fersiwn wahanol ar gael. Cyfeiriodd y cyfrifydd ymwelwyr at y maes tanio anghywir. Gwnaed ceisiadau niferus am arwyddion digonol i ddweud fod y llwybr troed wedi eu gau. Yn hanesyddol roedd y llwybr troed ar yr afon ac nid ar dop y lan.
· Wrth gyfeirio at lun gyda dyn yn cerdded ei gi gyda blwch sentri gwag, dywedodd aelod o’r cyhoedd fod hyn ar ddiwrnod pan nad oedd y maes tanio ar agor.
· Gofynnwyd am dystiolaeth gywir o nifer ymwelwyr cyn y gwneir penderfyniad.
· Roedd aelod o’r cyhoedd wedi gweld tanio ar y maes ar ddydd Sul heb unrhyw faneri coch. Dywedwyd fod saethu colomennod clai ac nad oedd angen baneri ar gyfer hynny.
(Gadawodd y Cynghorydd Sir D. Rooke am 11.53am)
· Gofynnodd y Cadeirydd pam mai adran 1.3 milltir oedd yr unig un oedd yn cael ei hystyried. Yr adran o’r llwybr, A i G, yw’r unig lwybr y gofynnir cwestiwn amdani oherwydd y rhwystrau a osodwyd gan Faes Tanio Reifflau Glannau Hafren. Esboniwyd fod llwybr troed ar fur y môr mewn gwahanol leoedd ar hyn o bryd. Mae eisoes lwybr ar draws mur y môr tuag at safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn ac nid oes anghydfod am hynny. Dengys tystiolaeth, ar ôl symud mur y môr, bod dau lwybr. Mae pobl yn dal i gerdded ar hyd brig mur y môr ac nid oeddent yn gwybod am y llwybr troed oedd yn flaenorol yn dilyn aliniad yr amddiffynfeydd môr hanesyddol. Mae mwy o fannau ar hyd gogledd a de y llwybr lle bydd angen gorchmynion addasu tebyg. Mae’n ddoethach adolygu’r adran hon gan fod y cyhoedd yn anghytuno ac nid oes mynediad.
· Cadarnhaodd Swyddog Gorfodaeth Mynediad Cefn Gwlad fod gorchymyn rheoleiddio traffig dros dro ar gyfer y llwybr troed presennol o waelod Fisherman’s Lane i thu hwnt i faes tanio y Weinyddiaeth Amddiffyn a phen draw y bont droed dros y draffordd. Cafodd arwyddion eu codi a chawsant eu dymchwel yn rheolaidd. Cafodd arwyddion metel eu rhwygo i ffwrdd a bu’n rhaid gosod arwyddion plastig newydd yn lle rhai a dynnwyd.
· Gofynnodd Aelod am fynediad i gyfiawnder gan fod tystiolaeth faith gan Gyngor Sir Fynwy lle mae gwrthwynebwyr yn cael pum munud i ymateb a chroesholi. Mae gan swyddogion Cyngor Sir Fynwy dîm cyfreithiol a byddai angen i wrthwynebwyr fynd i gost i’w cynrychioli eu hunain. Esboniodd y Cadeirydd fod terfynau amser siarad yr un fath ag ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio (4 munud gyda rhyddid gan y Cadeirydd).
· Esboniodd y Cadeirydd y cafodd yr adroddiad ei roi allan ar gyfer ymgynghoriad gyda digon o amser i gyflwyno sylwadau; cafodd unrhyw sylwadau a gafwyd eu cynnwys yn y cyflwyniad. Roedd anghydweld am y pwynt hwn.
· Yng nghyswllt arwyddion, awgrymwyd na chafodd arwyddion sylweddol eu codi.
· Dywedodd Aelod fod y dystiolaeth yn dangos yn glir fod y llwybr wedi defnyddio’r llwybr am flynyddoedd lawer a dyma’r fan ar gyfer trafodaeth.
· Dywedodd cynrychiolydd Cyngor Gymuned Rogiet ei fod yn gefnogol iawn i argymhellion Cyngor Sir Fynwy i wneud diwygiad i’r map diffiniol gan nodi’r llu o dystiolaeth dros lwybr troed hanesyddol ar hyd brig mur y môr ac mae tystiolaeth ei bod yn hawl tramwy cyhoeddus a ddefnyddir yn eang.
· Gofynnodd y Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli’r maes tanio os y gallai mur y môr fod yn llwybr caniataol. Mewn ymateb, esboniwyd y codwyd cwestiwn am statws y llwybr oherwydd fod y llwybr wedi’i rwystro gan felly ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i’r Awdurdod ystyried tystiolaeth a phrofion y llwybr dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
Rhoddodd y Rheolwr Mynediad Cefn Gwlad grynodeb drwy ddweud “Mae’r Awdurdod yn gweithredu mewn swyddogaeth led-farnwrol. Nid oes unrhyw ofyniad i ddatrys gwrthdaro yn y dystiolaeth. Mae’n rhaid i’r Pwyllgor bwyso a mesur yn ôl yr hyn sy’n debygol ac, os o ystyried popeth, ei bod yn rhesymol dod i’r casgliad fod y dystiolaeth yn dangos y dylid gwneud newid, mae’n rhaid iddo wneud hynny. Mae cyfle pellach i bobl wrthwynebu’r broses. Byddai’r mater terfynol yn cael ei ddatrys drwy wrandawiad cyhoeddus neu ymholiad neu sylwadau ysgrifenedig i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru”.
Wedyn cafodd Aelodau’r Pwyllgor eu hatgoffa gan y Cyfreithiwr y gofynnir iddynt ystyried a phenderfynu ar y dystiolaeth a roddwyd p’un ai a yw hawliau tramwy na chaiff eu dangos ar y Map a’r Datganiad Diffiniol yn bodoli neu y dywedir yn rhesymol eu bod yn bodoli ar frig mur y môr a statws y ffyrdd sy’n llwybrau troed. Pe byddai’r Pwyllgor yn cytuno fod tystiolaeth i awgrymu fod llwybr yn bodoli neu y dywedir yn rhesymol fod llwybr yn bodoli yna byddai’r Pennaeth Cyfraith yn cael ei gyfarwyddo i wneud Gorchymyn Addasu Map Diffiniol fydd yn symud ymlaen i broses ymgynghori o 42 diwrnod lle medrir codi gwrthwynebiadau. Os na fedrir derbyn y gwrthwynebiadau, yna caiff y mater ei anfon ymlaen at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.
Cadarnhawyd nad oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer ystyriaeth breifat yng nghyfarfod heddiw.
ARGYMHELLION:
1. Gofynnir i Aelodau ystyried y dystiolaeth a roddwyd (Atodiad 3) a chytuno bod hawliau tramwy na ddangosir ar y Map a’r Datganiad Diffiniol “yn bodoli, neu y dywedir yn rhesymol ei fod yn bodoli”, ar frig mur y môr ac mai llwybrau troed yw statws y ffyrdd.
2. Os cytunir ar hyn, yna i awdurdodi’r Pennaeth Democratiaeth Leol a Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud Gorchymyn Addasu Map Diffiniol, dan adran 53(3)(c)(i) ar Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ar gyfer llwybrau A i G, i’w dosbarthu fel llwybrau troed, rhifau 83 a 84 Cil-y-coed (354), ac i gadarnhau’r gorchymyn os na dderbynnir gwrthwynebiadau.
PENDERFYNIAD:
Yn dilyn pleidlais, roedd y penderfyniad o blaid yr argymhellion.
Gall Cyngor Sir Fynwy yn awr wneud y Gorchymyn Addasu Map Diffiniol
ac unwaith y cafwyd y gorchymyn bydd cyfnod o 42 diwrnod i dderbyn
wrthwynebiadau.
Dogfennau ategol: