Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2023/24. Cyflwyniad wedi’i deilwra i graffu ar y meysydd a ddaw o fewn y cylch gorchwyl y bydd y Pwyllgor Craffu Pobl yn ei ddilyn.

 

Defnyddiwch y ddolen hon i weld y papurau ar gyfer yr eitem hon – ar gael fel rhan o agenda Cabinet 18 Ionawr 2023.

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/documents/s33987/20230118%20Cabinet%20-%20Draft%202023-24%20Revenue%20Capital%20Budget%20for%20consultation%20-%20Covering%20report%20Final%20v2.pdf

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Cabinet Adnoddau y cynigion ar gyfer 2023-2024 i’r pwyllgor (mae’r cyflwyniad ar gael ar-lein) cyn i’r pwyllgor ofyn cwestiynau.

  

Her:

Yn nhermau sut y gall y gyllideb hon effeithio ar blant a phobl ifanc, rydych yn sôn fod y rhaglen cyfalaf yn goruchwylio cynnal a chadw a gwella ein ffyrdd, ysgolion a chanolfannau hamdden ac yn y blaen gyda chynigion ar gyfer arbedion effeithiolrwydd o 3%, fyddech chi’n disgwyl hwnnw yn gyffredinol i bawb? Mae rhai ysgolion yn newydd ac wedi cael gwelliannau sylweddol mewn blynyddoedd diweddar ac roedd y rhan fwyaf o ysgolion mewn sefyllfa ariannol gadarn yn ystod y pandemig, diolch i’r arian ychwanegol a ddyrannwyd yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, yn anffodus mae Ysgol Cas-gwent mewn diffyg am resymau hanesyddol. Fy mhrif bryder yw parhau gwella ysgolion yn yr amgylchedd ysgol, fel y gall disgyblion gadw’n wastad gyda’u cyfoedion mewn ysgolion mewn rhannau eraill o Sir Fynwy yn arbennig tra disgwylir cyllid o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid yn flaenorol yn gyllid Ysgolion 21ain Ganrif). Cas-gwent yw’r ysgol olaf yn Sir Fynwy i fanteisio o’r rhaglen a chadarnhaodd y Cabinet cyn y Nadolig eu bod yn fodlon gyda’r cynnydd, ond roeddwn eisiau gwirio y bydd Ysgol Cas-gwent ac ysgolion eraill yn dal i dderbyn y cyllid hwn.

 

Aelod Cabinet Addysg: Nid oes unrhyw fwriad y bydd ansawdd cyfleusterau Ysgol Cas-gwent yn dioddef. Mae’r cyngor wedi treulio arian sylweddol yn diweddaru cyfleusterau yno, tebyg i gynhyrchu p?er solar a gwn fod yr ysgol wrth ei bodd gyda buddsoddiad y Cyngor hyd yma. Rydym ar gam cynnar trafodaethau gyda Cas-gwent fel y bedwaredd ysgol am sut olwg fydd ar ddarpariaeth a gobeithiaf fy mod wedi eich sicrhau fod yr ysgol yn gadarn yn ein golygon. Mae’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd yn Nhrefynwy wedi manteisio o’r cyllid hwn ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor ac felly, hyd yn oed mewn cyfnod anodd, nid ydym yn anghofio anghenion ein plant a’n pobl ifanc a dyna pam ein bod yn cynnig cynyddu cyllideb ysgolion ar raddfa nas gwelwyd ers peth amser.

 

Yng nghyswllt dod ag incwm ychwanegol i mewn drwy ffioedd a chostau dewisol, tebyg i gynyddu cost parcio a gwasanaethau gwastraff, oni fydd yn atal pobl rhag defnyddio’r meysydd parcio ac nad yw’n debygol o ddod â’r incwm a ddisgwylir, tra’n gwneud preswylwyr yn ddig yn y broses. Mae codi mwy am wasanaethau gwastraff yn debyg o gynyddu tipio anghyfreithlon neu losgi gwastraff mewn eiddo, gan achosi mwy o broblemau ar gyfer staff y Cyngor, felly hoffwn glywed eich barn am hynny.

 

Aelod Cabinet Adnoddau: Rydym yn ymwybodol o’r materion hyn, felly nid ydym yn newid amlder casgliadau palmant fel cynghorau eraill. Yn nhermau parcio ceir, rydym yn ymwybodol iawn o’r cysylltiad rhwng cymunedau a chanol trefi ffyniannus a hygyrchedd. Rydym yn defnyddio cynlluniau teithio llesol a’r cyllid sydd ar gael yno ac mae gennym adolygiad parcio ar y gweill ar gyfer eleni sy’n rhoi ystyriaeth i anghenion cymunedau yn ogystal â sut y gweithredwn ac y codwn dâl am barcio ceir.

 

Rwy’n bryderus am y gostyngiad mewn oriau agor yr hybiau a’r ganolfan cyswllt, a rydych wedi dweud y caiff ei ostwng gan 2.5 aelod o staff, a newidiadau sy’n effeithio ar amserau ymateb, mae’r adnoddau hyn y math y gallai fod angen mwy ohonynt yn y cyfnod anodd hwn. Hoffwn wybod os ydych wedi ystyried hyn yn nhermau’r cynnig hwn?

 

Aelod Cabinet Adnoddau: Nid oes gennym unrhyw fwriad i newid oriau agor y ganolfan cyswllt. Ar amserau agor yr hybiau yr ydym yn edrych. Rydym wedi rhoi ystyriaeth i’r angen am y gwasanaethau a gynigir yn y hybiau a dyna pam y bydd yr holl hybiau yn parhau ar agor. Yn nhermau newidiadau’n ymwneud â’r ganolfan gyswllt, rhagwelwn y gall fod peth cynnydd mewn amserau aros ar adegau prysur, ond bydd yn dal i fod ar gael. Bydd hefyd y gallu i ddefnyddio gwasanaethau ‘Fy Sir Fynwy’ ar yr ap ar gyfer y rhai a all wneud hynny.

 

Disgwylir i’r gyllideb gofal cymdeithasol oedolion gynyddu gan £1 miliwn, tra rhagwelir arbedion o £2 miliwn. Sut y caiff hynny ei gyflawni tra’n sicrhau lefel weddus o gefnogaeth?

 

Prif Swyddog: Mae hon yn dasg heriol iawn ac mae pobl yn iawn i fod yn bryderus am sut y byddwn yn cadw ansawdd y gwasanaeth. Mae hyn yn gyfle i ni ddod at ein gilydd yng ngoleuni’r heriau yn dilyn y pandemig lle mae ‘cadw bywyd’ oedd y flaenoriaeth. Nawr mae angen i ni ystyried atal ac ymyriad cynnar a cheisio gweithio o ddull seiliedig ar nerth, fel ein bod yn edrych sut y caiff anghenion pobl eu diwallu drwy’r gymuned a thrwy eu gwytnwch unigol a theuluol eu hunain. Rydym yn sicrhau ein bod yn gydnaws gyda’n rhieni wrth wneud yn si?r y caiff pob adnodd sydd ar gael ar y cyd ar draws iechyd a gofal cymdeithasol eu sianelu tuag at yr un nod, fel nad ydynt yn gweithio yn erbyn ein gilydd a dylai canolbwyntio ar atal ac ailalluogi ostwng nifer y pecynnau gofal mae’n rhaid i ni eu darparu a sicrhau gwell deilliannau ar gyfer pobl dros y tymor hirach. Rydym yn ceisio adeiladu ar bethau y buom yn dda amdanynt a phethau y gwyddom sy’n gweithio, tebyg i wasanaethau cymorth cymunedol yn ystod y nos, technoleg gynorthwyol ac ymarfer sy’n rhoi ‘ymdeimlad o le’ i bobl yn gynnar ar eu taith gofal cymdeithasol i ostwng unigrwydd ac arwahanrwydd. Pan ddaw i arbedion staff, byddwn bob amser yn ceisio gwneud pethau’n wahanol, tebyg i ddefnyddio technoleg ddigidol, yn hytrach na gostwng staffio. Ochr arall y geiniog yw mai dim ond swm neilltuol o arian sydd gennym, felly mae angen cynyddu’r gwerth gorau i’r eithaf, p’un ai yw hyn drwy daliadau uniongyrchol neu ficro-ofalwyr, a hefyd drwy ddadansoddi ein gwariant a chomisiynu gwasanaethau. Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ddiogelu – mae’n cymryd amser i edrych ar anghenion unigol pobl i sicrhau ein bod yn gwneud yr asesiadau cywir ar gyfer pobl dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a hefyd adeiladu cydnerthedd unigol a chymunedol.

 

Fe wnaethoch siarad am ddull seiliedig ar gryfder a chefnogi teuluoedd, ond onid ydyn ni’n siarad am gynyddu’r baich yno ar ofalwyr di-dâl?

 

Prif Swyddog: Bu hyn yn un o’n nodau strategol i roi’r gefnogaeth fwyaf bosibl i ofalwyr di-dal gan eu bod yn hollbwysig ac mae deall y ffordd orau i ni eu cefnogi yn hanfodol. Cynhaliwn asesiadau ar gyfer y gofalwyr hyn wrth ochr yr asesiad ar gyfer y person a cheisiwn gefnogi’r holl deulu, ond mae cefnogaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl wrth galon y gwaith rydym yn ceisio ei wneud.

 

A ydym yn helpu i recriwtio cynorthwywyr personol ar gyfer pobl sydd eu hangen?

 

Prif Swyddog: Rydym yn ceisio cefnogi pobl i ddefnyddio’r taliadau uniongyrchol ar gyfer micro-ofalwyr, felly ydym, rydym yn cefnogi pobl yn y ffordd hon.

 

Gwasanaethau plant – rhagwelir arbedion o £1.4m, felly sut ydych chi’n mynd i adolygu darpariaeth gwasanaeth a sut y caiff hyn ei gyflawni?

 

Prif Swyddog: Mae ein gwaith ailddylunio mewn Gwasanaethau Plant yn canolbwyntio ar leoliadau a gweithredu ‘model darpariaeth gwasanaeth dim-er-elw’ sy’n golygu edrych ar ei holl blant sydd mewn ystod o wahanol leoliadau i weld sut y gallwn bontio plant yn ddiogel o leoliadau i drefniant tymor hirach ac edrych ar adeiladu ein capasiti mewnol, naill ai drwy gontractio ‘darparwyr dim-er-elw’ neu drwy drefniadau cydlynus naill ai gyda’r gwasanaeth iechyd neu gyda’ phartneriaid rhanbarthol yr awdurdod lleol. Felly mae llawer o waith yn mynd rhagddo gyda tai, gan weithio gyda phob plentyn yn unigol, i weld sut y gallwn gefnogi’r plentyn i fynd nôl i ddarpariaeth yn Sir Fynwy. Mae’n rhaid i ni hefyd feddwl am y gwerth gorau am arian a gwario’r arian yn y ffordd gywir i gael y canlyniadau gorau ar gyfer y person ifanc.

 

Mae prinder cronig o ofalwyr maeth. A fyddai’n gall adolygu pa fanteision ariannol a chefnogaeth sydd ar gael ar gyfer gofalwyr maeth ac i asesu pam fod cymaint o ddiffyg gofalwyr maeth? Mae’n hollbwysig denu pobl mewn gwahanol amgylchiadau, tebyg i’r rhai mewn swyddi llawn-amser a theimlaf fod angen help sydd wedi ei gysylltu’n well. Ymddengys fod y gefnogaeth fel arfer yn ystod y dydd ac efallai nad yw’n cyfateb anghenion pobl a hoffai ddod yn ofalwyr maeth. Os gellid lliniaru hyn, gallai gynorthwyo’r sefyllfa gyda chost uchel gofal preswyl. Ymddengys fod nifer gynyddol o blant yn derbyn gofal, felly pa bolisïau sydd yn eu lle i gefnogi teuluoedd, fel nad yw plant yn mynd i mewn i’r system, gan mae’n rhaid ei bod yn well i gadw teuluoedd gyda’i gilydd os oes modd yn y byd?

 

Prif Swyddog: Mae eich pwyntiau wrth galon yr hyn a wnawn ac yn y 1-3 blynedd nesaf hoffem weld mwyafrif ein plant yn cael eu cefnogi gan ofalwyr maeth safon uchel yn fewnol yn Sir Fynwy Mae’n broblem genedlaethol barhaus, ond rydym yn ceisio recriwtio gofalwyr maeth drwy ein strategaeth maethu ac ymgyrchoedd mawr ar y cyfryngau a all ddod â ffocws lleol. Mae’r enillion yn araf, ond mae’r llwybr ar i fyny. Felly rydym yn canolbwyntio ar gynyddu ac ehangu cyfleoedd lleoliad fel y trafodwyd, ond rydym hefyd â ffocws ar yr agenda ataliol, felly atal pobl ifanc rhag gorfod mynd i ofal a theimlwn y cafodd sefydlogi nifer y plant a ddaeth i ofal dros y 3 blynedd ddiwethaf ei effeithio’n fawr gan y buddsoddiad sylweddol mewn cymorth cynnar a gwasanaethau cymorth teulu ataliol sy’n ceisio lliniaru’r sefyllfa, gan weithio wrth ochr y teulu am hyd at 18 mis i geisio troi sefyllfaoedd teuluol cymhleth o amgylch. Gwyddom y bydd y pandemig wedi dod â heriau newydd ond teimlwn fod gennym gyfres dda o wasanaethau cymorth teulu sydd mewn lle da i gynorthwyo a rydym yn ymestyn y gwasanaeth mewnol ar gyfer adsefydlu risg uchel, lle’r ydym yn dibynnu ar ddarparwyr eraill ar hyn o bryd. Bydd hyn yn fodel mwy effeithiol o ran cost i ni ond bydd hefyd yn sicrhau gwell canlyniadau.

 

Bydd y gwasanaeth y cyfeiriwch ato ar gyfer teuluoedd lle dynodwyd angen penodol, tra mod i’n cwestiynu os y byddai’n well gwario’r adnodd hwn hyd yn oed ynghynt, ar y cam cyn-enedigol, yn hytrach na’r pwyntiau lle mae problemau’n digwydd.

 

Prif Swyddog: Mae’r gwaith cyn-enedigol fwy tu allan i’n cylch gorchwyl ac mae’n dod o fewn briff Dechrau’n Deg, ond bydd y gwasanaeth rwyf newydd ei drafod ar gyfer teuluoedd lle mae angen cymorth dwys, fodd bynnag mae gennym gyfres lawn o wasanaethau ataliol cymorth teuluol ar gyfer pob haen o angen, gan anelu helpu gyda phroblemau cyn gynted ag y cânt eu dynodi.

 

Y timau anabledd dysgu a iechyd meddwl, pa gynigion sydd yn y maes hwn? Rwy’n gweld arbediad arfaethedig o £300k drwy fodelu, a yw hyn yn cynnwys cau Stryd Tudor.

 

Prif Swyddog: Dim ond cyfran fach o hyn sy’n ymwneud â newidiadau staffio, mae’r mwyafrif yn edrych ar sicrhau ein bod yn dilyn ein holl achosion gofal iechyd parhaus a gwneud yn si?r fod y pecynnau gofal a gyflwynir i bobl y rhai cywir. Yng nghyswllt eich pwynt olaf am Stryd Tudor, yr ateb yw na.

 

Rwy’n gweld fod cyllid Cerddoriaeth Gwent wedi gostwng. A gafodd hyn ei drafod gyda nhw neu ydyn nhw’n ariannu eu hunain hefyd?

 

Aelod Cabinet Addysg: Gyda chalon drom yr oedd yn rhaid i ni wneud y gostyngiad yma a ni oedd y Cyngor olaf i wneud hynny. Rydym wedi cadw cronfa caledi i gefnogi disgyblion os na all eu teuluoedd eu fforddio. Rydym wedi ei drafod gyda phennaeth y gwasanaeth cerddoriaeth ac er ei bod yn siomedig iawn iddynt, roedd cydnabyddiaeth o’r sefyllfa.

 

Faint o arian sydd yng nghronfa Caledi Cerddoriaeth Gwent, a faint o ddisgyblion ydych chi’n meddwl fydd yn ei dderbyn?

 

Aelod Cabinet Addysg: Mae’n £9k ac mae Cerddoriaeth Gwent yn gweithio gyda ni i ddynodi disgyblion mewn angen, felly nid yw wedi ei seilio ar yr asesiad prydau ysgol am ddim gan ein bod eisiau ei ehangu.

 

Yn nhermau prinder tai cost-isel, sut y gallwn fynd ar ôl datblygu, gan fod caniatâd cynllunio eisoes wedi ei roi ar rai safleoedd.

 

Prif Swyddog: Gwnawn bopeth a fedrwn i gyflymu datblygwyr ac fel y gwyddoch, rydym eisiau annog tai fforddiadwy, ond mae’n sefyllfa anodd i ni.

 

A yw’r costau benthyca o £7.1m ar gyfer costau gwriant cyfalaf yn cynnwys ad-daliadau?

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Ydi, mae’n cynnwys ad-daliadau.

 

Mae cynnig am gynnydd net o 5% yng nghyllideb ysgolion ar gyfer y flwyddyn nesaf ond mae angen arbediad effeithiolrwydd o 2.8% i gau’r bwlch adnoddau, gan olygu fod ysgolion yn gorfod defnyddio cronfeydd wrth gefn. Cronfeydd wrth gefn bach iawn sydd gan rai ysgolion, felly maent mewn risg neilltuol, ac a fedrwch roi enghraifft i ni o lle y gallai arbedion effeithiolrwydd ddod?

 

Aelod Cabinet Addysg: Rydych yn hollol iawn. Caiff ysgolion eu cyllido drwy’r fformiwla cyllid felly gallwn roi cefnogaeth i benaethiaid ysgol, ond bydd yn anodd i ychydig o ysgolion. Mae’r Cyngor yn dirprwyo arian i’r ysgolion ac ni allant ddweud wrth y corff llywodraethu sut i ddefnyddio’r arian. Rydym yn cadw swm bach yn ganolog, ond mae’r rhain yn cynnwys pethau statudol fel cludiant ysgol a chefnogaeth ar gyfer angheni on dysgu ychwanegol, felly mae’r term arbedion effeithiolrwydd yn gamarweiniol. Byddwn yn ceisio lleihau’r gostyngiadau i gyllidebau ysgol unigol, tra’n cadw yr holl wasanaethau.  Mae’r gwasanaeth seicoleg addysgol lle mae swydd wag yn enghraifft o hyn. Mae’n anodd gorfod gwneud arbedion yn y gyllideb addysg, ond rydym mewn cyfnod na welsom ei debyg. Rydym wedi cynyddu cyfanswm cyllideb ysgolion gan 5%. Disgwyliwn beth cyllid grant y gobeithiwn allu liniaru effeithiau yr arbedion cyllideb a gynigir, er enghraifft i’r gwasanaeth seicoleg addysg.

 

Yng nghyswllt Gwasanaethau Plant, nodaf fwlch adnoddau o £1.4m i gael ei lenwi o’r arbedion arfaethedig o £1.4m fel canlyniad i ddarpariaeth gwasanaeth adolygu i sicrhau gwasanaeth mwy effeithol o ran cost. Rydym wedi trafod dulliau i arbed arian mewn cyfarfodydd blaenorol, felly beth fwy y gellir ei wneud yn y cyswllt hwn?

 

Prif Swyddog: Y dull mwyaf cost-effeithiol o arbed arian yw peidio cael plant sydd angen gofal, ond i gyflawni hyn, mae angen i chi gael gwasanaethau ataliol gwirioneddol dda yn eu lle ar bob un cam, ac mae angen i chi fedru ymateb cyn gynted ag y dynodir bregusrwydd. Weithiau nid ydym yn gwybod am argyfyngau ar gam cynnar, ond yn bennaf gallwch gael eu dynodi ac ymyrryd yn gynnar. Pan mae angen i blant ddod i ofal, ni allwn gyfaddawdu ar ddeiliannau ac felly y peth delfrydol yw eu lleoli yn Sir Fynwy a gyda gofalwyr o Sir Fynwy, felly rydym yn adolygu’r gefnogaeth ariannol a roddir ac sy’n gyrru’r agenda hwnnw ac yn gwneud hynny ar lefel genedlaethol, i osgoi bod mewn cystadleuaeth gyda’i gilydd. Soniais yn gynharach am y lleoliadau preswyl a’r angen i newid yr ydym yn comisiynu’r gofal hwnnw fel y gallwn sicrhau’r deilliannau gorau ar gyfer pobl, naill ai yn fewnol neu leoliadau ‘dim er elw’.

 

Rwy’n dal i fod yn aneglur am y toriadau i’r gwasanaeth seicoleg addysg ac rwy’n bryderus am wasanaethau SENCOM ar gyfer plant a phobl ifanc. A oes ymrwymiad i barhau’r gwasanaeth SENCOM?

 

Aelod Cabinet Addysg:  Mae’n anodd iawn dynodi lle i wneud arbedion, a rydym yn teimlo’n gryf y dylai ysgolion barhau mewn ysgolion, felly roedd yn rhaid i ni gydbwyso gwasanaethau ac fe wnaethom benderfynu gohirio penodi’r swydd wag mewn seicoleg addysg, ond rydym yn parhau i gefnogi cynlluniau y bu’r gwasanaethau addysg yn eu hyrwyddo ond a gaiff eu cyflwynir o ddydd i ddydd mewn ysgolion, sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr tebyg i bob ysgol  gynradd gyda chynorthwyydd addysgu lefel uchel fedrus i roi cefnogaeth ar gyfer ymddygiad emosiynol. Felly y sicrwydd y gallaf ei rai i chi yw i ni feddwl yn ofalus am lle mae’r effaith mwyaf.

 

Rheolwr Cyllid:   Nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer gostyngiadau yn SECOM.

 

Y cynllun atgyfeirio ymarfer, a oes unrhyw doriadau arfaethedig fel gostyngiad mewn oriau canolfannau hamdden?

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Nid oes  unrhyw gynlluniau ar gyfer gostyngiadau yn y cynllun atgyfeirio ymarfer ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Pam fod y diffygion incwm yn £800k a beth fedrir ei wneud i’w trin? Fel sir wledig rwy’n credu fod disgwyl i bobl beidio defnyddio car i deithio yn afrealistig.

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Cyfeiriwyd at y diffygion a’r arbedion yn yr adroddiad, fodd bynnag mae amgylchiadau marchnad yn dilyn y pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa. Mae’r nifer sy’n defnyddio canolfannau hamdden yn enghraifft o hyn. Rydym wedi trafod sefyllfa gwasanaethau cymdeithasol yn fanwl iawn.

Yn eich cyflwyniad gwnaethoch gyfeirio at safonau digartrefedd yn safonau ‘Cymru fodern’. Beth mae hynny yn ei olygu?

 

Aelod Cabinet Adnoddau: Roeddwn yn cyfeirio at ddeddfwriaeth Lllywodraeth Cymru gan y teimlent nad oedd cynghorau yn rhoi lefel sylfaenol o gefnogaeth ar gyfer digartrefedd.

 

Yn nhermau contract MENCAP ar gyfer gwasanaethau oedolion, sydd i gael ei adnewyddu ym mis Ebrill gan gynnig arbedion o £2m, a yw’n debygol y bydd goblygiadau? Deallaf fod contractau wedi eu dyrannu’n flaenorol ar sail 3 blynedd, ac oherwydd yr ansicrwydd, bu’n rhaid iddynt ostwng defnyddwyr gwasanaeth o 60 i 40, a achosodd ofid a pryder i ddefnyddwyr gwasanaeth.

 

Aelod Cabinet Adnoddau: Tra’n bod yn aros yn disgwyl canlyniad yr adolygiad, ein bwriad yw adnewyddu’r contract cyfredol am 1 flwyddyn i alluogi’r adolygiad i ddod i ben.

 

Ni chysylltwyd â MENCAP eto fel rhan o’r adolygiad, felly rydym yn adnewyddu’r contract neu a fydd asesiad o’r hyn y maent wedi ei ddarparu?

 

Dirprwy Brif Weithredwr: Daeth y contract tair blynedd i ben a chaiff y contract ei ymestyn o fewn tymor presennol y contract, ond mae dymuniad i adolygu’r contract, sy’n arferol, gan gydnabod mai MENCAP yw’r unig ddarparydd yn ne’r sir.

 

Yn nhermau’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (EAS), sylwaf ein bod yn gostwng ein cyfraniad gan 10%, fel mae rhai awdurdodau lleol yn ei wneud, felly sut beth yw’r effaith tebygol?

 

Aelod Cabinet Addysg: Rwy’n credu fod athrawon yn rhwystredig a dig weithiau ac er i mi wneud datganiad am weithredu diwydiannol yn y Cyngor yn ddiweddar, rwy’n gobeithio y gall undebau ac athrawon ddatrys materion i ostwng yr effaith ar ddysgwyr ar ôl dwy flynedd iawn.

 

Dywedir y caiff y cyllid ar gyfer Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid Sir Fynwy a Thorfaen yn cael ei ostwng. Beth fydd ei effeithiau tebygol?

 

Prif Swyddog: Un o’r prif gostau yw’r llety, felly bydd hynny yn faes allweddol i’w ystyried, ynghyd â pheth ailwampio ar ddyletswyddau a swyddogaethau cymorth busnes.

 

Crynodeb:

Cynhaliodd y Pwyllgor graffu trwyadl ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2023-2024. Yn ystod y drafodaeth, canolbwyntiodd y cwestiynau ar ystod eang o faterion ac esboniadau, fodd bynnag tynnwyd sylw at y materion allweddol dilynol yn y drafodaeth:

 

·           Sicrhau fod ysgolion yn parhau i dderbyn cyllid o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy a bod Ysgol Gyfun Cas-gwent yn derbyn ei chyfran hirddisgwyliedig.

·           P’un ai a fydd goblygiadau negyddol i’r cynigion i gynyddu costau ar gyfer gwasanaethau gwastraff a hefyd oblygiadau negyddol y cynigion yn ymwneud â chostau parcio ceir.

·           Y newidiadau i oriau agor y ganolfan gyswllt ac unrhyw effeithiau ar ddefnyddiwr gwasanaeth oherwydd amserau galw a allai fod yn hirach.

·            Yr arbedion yn gysylltiedig â’r gyllideb Gofal Cymdeithasol Oedolion a’r angen i sicrhau nad ydynt yn effeithio ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel.

·           Ailwampio Gwasanaethau Plant, cost lleoliadau a’r angen i gynyddu nifer gofalwyr maeth.

·           Deall yr arbedion a gynigir ar gyfer timau anabledd dysgu a iechyd meddwl.

·           Deall yr arbedion addysg, yn arbennig yr arbediad yn y gwasanaeth seicoleg addysg a goblygiadau’r arbedion arfaethedig ar gyfer ysgolion sydd mewn diffyg ar hyn o bryd.

·           Y goblygiadau os y gostyngir cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawni Addysg.

·           Cerddoriaeth Gwent – cais am nifer y disgyblion sy’n derbyn arian o gronfa Caledi Cerddoriaeth Gwent.

 

Dogfennau ategol: