Agenda item

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y Gyllideb ar gyfer 2023/24. Bydd cyflwyniad yn dilyn wedi ei deilwra ar gyfer craffu ar y meysydd a ddaw o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg.

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i’r papurau ar gyfer yr eitem hon – bydd ar gael fel rhan o agenda Cabinet 18 Ionawr.

20230118 Cabinet - Draft 2023-24 Revenue Capital Budget for consultation - Covering report Final v2.pdf (monmouthshire.gov.uk)

 

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick wedi rhoi’r cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau gan Aelodau gyda Peter Davies, Jonathan Davies, Jane Rodgers, Nikki Wellington, Matt Phillips, yr Aelod Cabinet Sara Burch a’r Aelod Cabinet Paul Griffiths.

 

Her:

 

Mae yna bryderon am lefelau’r hyder er mwyn medru sicrhau’r arbedion arfaethedig, y risgiau ynghlwm gyda hyn a’r effeithiau trawselfennol e.e. o ran SCH5, cwtogi staff ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion, pa effaith y bydd hyn yn ei gael ar SCH6, gyda chynnydd o ran staff? Nid ydym yn deall sut y mae’r ddau yn plethu ynghyd? Beth yw’r gallu i sicrhau’r ail-ddylunio yn SCH5, pan nad yw’r swydd fel Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Oedolion?

 

Nid oes modd gwadu’r ffaith fod yna heriau sylweddol yn y mandad sydd wedi ei gyflwyno ar gyfer Gofal Cymdeithasol i oedolion. Rydym wedi treulio llawer o amser yn ystyried y ffordd orau i sicrhau’r arbedion  heb greu risg ar gyfer yr unigolion. Yn dilyn ymateb y pandemig, rydym nawr wrthi yn ffocysu nôl eto ar y blaenoriaethau strategol, yn enwedig o ran help cynnar ac ymyrraeth, galluogi ac ail-alluogi a gweithio mewn partneriaeth. Rhaid i ni ddychwelyd i bractis cefnogol er mwyn caniatáu pobl i fyw mor annibynnol ag sydd yn  bosib gyda chyn lleied o ddibyniaeth ag sydd yn bosib ar becynnau gofal drud, a’n sicrhau bod  pob un geiniog yn cael ei gwario yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol drwy ehangu’r fath o ofal sydd yn cael ei ddarparu. Rydym angen adolygu ac asesu pobl sydd eisoes yn derbyn gofal a’r sawl sydd yn dod i mewn. Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar  ddiogelwch ond byddwn yn herio ein hunain yngl?n ag a ydym yn helpu i ganiatáu’r person i fyw yn y ffordd orau, fel ein bod yn medru lleihau rhai o’r costau gofal. Bydd yn bwysig ein bod yn cydweithio gyda’n partneriaid iechyd a’n defnyddio ein holl adnoddau. Byddwn yn disgwyl ymlaen at gefnogi pobl er mwyn eu hosgoi rhag gorfod mynd i’r ysbyty neu’u bod yn medru gadael yn gyflym a pharhau gydag arloesi - mae llawer o syniadau gennym.  

 

O ran y cynnydd o £1.4m mewn ffioedd sydd yn y papur crynodeb, nid oes yna fanylder o ble y bydd yr arian hwn yn dod?

 

O fewn papurau’r gyllideb, mae yna fwy o fanylder am y ffioedd, a hynny yn ôl Cyfarwyddiaeth yn gyntaf ac yna’r gwasanaethau y mae’n rhaid talu amdanynt.  O fewn y mandadau Gofal Cymdeithasol, mae yna fandad ar wahân ar gyfer ffioedd Gofal Cymdeithasol sydd yn cynnig mwy o fanylder, gyda gwybodaeth yn Atodiad 1, gyda dolenni i’r atodiad llawn o ffioedd sydd yn dangos y cynnydd o £1.4m.

 

Nid yw’r cynnydd o £1.4m ym maes Gofal Cymdeithasol wedi ei fanylu yn y papur cyffredinol.

 

Roeddem wedi ceisio sicrhau bod y papur yn fwy cryno ond rydym yn hapus i dderbyn yr adborth.

 

Mae trigolion eisoes yn mynegi pryderon am yr arbedion a ddaw o’r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu.  Beth yw’r esboniad a’r cyfiawnhad i drigolion fod cyn lleied o arbedion yn cael eu cynnig mewn meysydd eraill?

 

Mae llawer o hyn yn sgil yr arbedion sydd eisoes wedi eu gwneud yn y meysydd hynny, gan olygu eu bod ar lefel sylfaenol yn barod a risgiau yngl?n â’r hyn sydd angen;  os ydym yn colli mwy o bobl, bydd yn anodd i ni ddarparu gwasanaeth digonol a chymwys yn y meysydd hynny.

 

Faint yw’r costau ‘cefn swyddfa’ o’u cymharu gyda'r gwasanaethau rhengflaen? A sut mae hyn yn cymharu gyda’r awdurdodau eraill?

 

Mae’r rhan fwyaf o’r costau i’w priodoli i ysgolion a Gofal Cymdeithasol, ac mae yna ystod o wasanaethau eraill  gan gynnwys y rhai ‘cefn swyddfa’ sydd yn helpu sicrhau bod y Cyngor yn medru ymgymryd â’i waith yn effeithiol: hamdden, llyfrgelloedd ayyb. Rhaid i ni hefyd dalu am gostau’r Trysorlys – y gost barhaus o fenthyg arian er mwyn talu am ein rhaglen gyfalaf – a’r  ardollau i dalu am yr heddlu, byrddau draenio ayyb. Mae’r rhain yn gostau sefydlog sydd wedi eu gosod mewn statud. O fewn yr elfen graidd, mae yna dimau sydd yn goruchwylio llywodraethiant a’n sicrhau bod y mudiad yn cael ei redeg yn dda, gan gynnwys talu biliau ac adhawlio incwm. Mae costau tebyg gan yr awdurdodau lleol eraill.

 

A oes ffordd fwy hawdd ei deall o gyfathrebu’r gyllideb i drigolion?

 

Rydym yn cyfeirio’n ôl at ymateb cychwynnol gan y Cynghorydd Garrick, ac fel sydd wedi ei nodi yn y cyflwyniad. Rydym wedi gwneud arbedion sylweddol bob blwyddyn ers 2010, ac wrth i ni gymharu ein hunain ag eraill, rydym yn hynod ddiwastraff, ac unigryw, ac yn sgil ein model ariannu, rhaid i ni fod yn braff wrth gynnal gwasanaethau rhengflaen. Mae pob un gwasanaeth wedi gorfod cynnig arbedion. Mae’r swyddogaethau ‘cefn swyddfa’ yn arbennig o ddiwastraff a rhaid i ni fod yn ofalus iawn wrth sicrhau ein bod yn medru parhau i redeg y mudiad yn ddiogel.  

 

A fyddai’n fwy eglur i drigolion pe byddem yn dweud  6% ar gyfer y cynnydd yn y dreth gyngor? Mae cymdogion yn ymgynghori ar 5%, 3%, 2% ayyb – beth yw eich barn chi ein bod yn uwch na hyn, a hynny o gryn ffordd? Sut mae modd cyfiawnhau hyn i drigolion?

 

Mae cynnydd o 0.05% yn cyfateb i £30k. Byddem yn medru mynd i bwyntiau canran cyflawn - nid yw hynny’n afresymol. 

 

I ba raddau ydych wedi ystyried y syniad o ddiogelu gwasanaethau yn y gymuned drwy ddatblygu perchnogaeth o asedau cymunedol e.e. hybiau a llyfrgelloedd, fel bod modd eu cynnal neu ehangu eu horiau gyda chymorth unigolion/grwpiau gwirfoddol?

 

Mae yna berchnogaeth gymunedol eisoes ar waith mewn ardaloedd amrywiol fel  Drill Hall yng Nghas-gwent. Mae’n anodd gosod hyn mewn cyllideb o ran asesu’r risg. Mae’n annhebygol y bydd yna arbedion yn syth gan fod angen chwilio’r grwpiau cymunedol a datblygu’r syniad - mae’n ffordd ansefydlog o arbed arian. Rydym yn sicr yn medru parhau i ystyried hyn ond nid ydym yn medru dibynnu ar hyn fel ffordd o greu arbedion yn ystod y flwyddyn wrth gynllunio ar gyfer y gyllideb. Mae yna nifer o bartneriaethau rhwng mudiadau cymunedol a’r Cyngor. Ein her ni yw sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, a deall ble mae angen i ni fod yn ddarparwr a ble mae angen i ni ganiatáu eraill i ddarparu. Rhaid i ni werthfawrogi’r trafferthion sydd yn cael eu hwynebu gan y mudiadau yma o ran gwresogi a goleuo y neuaddau pentref, trefnu digon o ddigwyddiadau ayyb.

 

Os ydym yn cwtogi ar y gwasanaethau, rhaid i ni esbonio hyn yn gwbl eglur – mae cuddio tu nôl i iaith astrus yn medru arwain at feirniadaeth e.e. cymhorthdal cerddoriaeth Gwent ‘eleni’? Prisiau ‘tecach’ pan ein bod yn golygu prisiau uwch?

 

Rydym yn gofyn i drigolion i dalu pris teg am eu gwasanaethau. Ni ddylai neb yn y Sir gredu fod ‘teg’ yn golygu dim bwyd na chynnydd, a hynny yn sgil yr argyfwng costau byw a’r lefelau chwyddiant. Mae’r iaith yn gwbl ddigonol.

 

Beth fydd yr effaith ar fusnesau yn sgil y cynnydd sylweddol mewn ffioedd parcio? A’r trwyddedau Palmant? Beth am yr ardrethi busnes?

 

Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu cronfa ganolog ar gyfer ardrethi busnes. Rydym wedi trefnu adolygiad llawn o feysydd parcio ar draws y sir ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn ystyried yr angen sydd gan bob un ardal ac effaith hyn arnynt, gan gynnwys busnesau. Mae yna wahaniaeth sylweddol ar hyn o bryd rhwng yr ardaloedd – sydd yn tarddu o’r 60au -  lle y mae yna ddulliau  gwahanol o ddelio gyda pharcio e.e. mae yna barcio am ddim yng ngorllewin y sir ond mae angen talu fel arfer yn nwyrain y sir.  

 

Mae’r cynnydd mewn trafnidiaeth ôl-16 a’r cynnydd mewn clybiau brecwast yn medru cael effaith sylweddol ar deuluoedd sydd â sawl plentyn. Sut oedd yr effeithiau wedi cael eu hasesu? A beth am y cysylltiad rhyngddynt. h.y. teulu sydd wedi eu heffeithio gan bob un cynnydd?

 

O ran y cynnydd yn y clybiau brecwast, byddem am bwysleisio’r hyn sydd eisoes yn cael ei gynnig. Anaml iawn y mae teulu gyda sawl plentyn sydd yn defnyddio’r clwb brecwast a’r clwb ar ôl ysgol. Rydym am ddarparu gofal cofleidiol am bris isel:  £6.95 am sesiwn nos, rydym yn ystyried traean o hynny, sef  £2 y sesiwn.

 

Beth sy’n digwydd: a ydym yn codi’r trothwy neu’n rhesymoli gofal ym maes Gwasanaethau Oedolion? Ym maes Gwasanaethau Plant, beth yw’r effaith o wneud penderfyniadau gyda lleoliadau cost uchel a risgiau? Beth mae hyn yn golygu o ran ein perthynas gydag Arolygiaeth Gofal Cymru?

 

Ar gyfer Gwasanaethau Plant, mae yna lawer o waith o’n blaenau er mwyn ail-daro cydbwysedd rhwng ein lleoliadau fel bod y rhan fwyaf o blant yn cael eu gosod gyda  gofalwyr maeth Sir Fynwy - os oes modd cyflawni hyn, byddwn yn medru gwneud yr arbedion sydd angen. O ran Gofal Cymdeithasol i Oedolion, mae’n ymwneud gyda datblygu ffyrdd mwy cyson o weithio, yn defnyddio’r holl fecanweithiau sydd ar gael, gan sicrhau ein bod yn gweithio gyda phobl gan ddefnyddio dulliau sydd yn seiliedig ar gryfderau, ac os oes angen i ni ddarparu gofal i’r sawl sydd ag anghenion cymhleth, rydym yn gwneud y defnydd mwyaf posib o’r dechnoleg ddigidol sydd ar gael ac yn ehangu ein hopsiynau er mwyn sicrhau’r gwerth gorau am arian.  

 

Yn sgil yr hyn y mae Banc Lloegr a’r  Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn dweud am chwyddiant, a fyddwn yn gweld gostyngiad mewn chwyddiant dros y flwyddyn nesaf? Pa ragdybiaethau sydd wedi eu gwneud er mwyn lliniaru unrhyw bwysau ar y cyllidebau?

 

Mae rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn seiliedig ar gynllun ariannol tymor canolig. Mae arbedion addysgol yn gadarn ac mae cryn ddibyniaeth ar gyllidebau ysgolion unigol. Addysg yw un o’r meysydd lle y mae’r risg fwyaf o fethu sicrhau arbedion. Rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn osgoi’r camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol wrth osod targedau e.e. targedau yn cael eu gosod gan ymgynghorwyr ar gyfer meysydd parcio a oedd wedi arwain at golledion sylweddol. Rydym hefyd yn realistig am bethau fel y nifer sydd ymaelodi gyda Monlife.

 

A fydd rhai ysgolion sydd eisoes wedi gorwario yn wynebu problemau? 

 

Mae 7 ysgol eisoes wedi gwario’r holl arian. Mae’r rhagolygon cyffredinol ar gyfer blwyddyn nesaf yn awgrymu bod dwy ysgol gynradd angen dod o hyd i arbedion o £14-17k ar gyfer delio gyda hyn. Yn seiliedig ar y balans sydd gennym ar hyn o bryd, nid ydym yn rhagweld y bydd mwy o ysgolion yn mynd i’r sefyllfa fel eu bod wedi gwario yr holl arian.

 

Er budd trigolion, beth ydych yn golygu gan risgiau cyllideb ‘sydd heb eu lliniaru’?

 

Pan fyddwn yn defnyddio’r ymadrodd ‘heb eu lliniaru’, mae’n golygu nad yw’r risg wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb fel ag y mae ar hyn o bryd; mae lefel y risg yn newid gydag amser, a byddwn yn parhau i asesu’r risg. Bydd y gyllideb yn esblygu yn ddyddiol, ac felly, byddwn yn cynnwys ein rhagamcanion a’r asesiadau o’r risg wrth ddwyn hyn ynghyd, Bydd y Cabinet yn ystyried hyn oll wrth  gadarnhau’r cynigion a byddwn yn symud wedyn i’r flwyddyn nesaf. Byddwn yn asesu lefel yr arian wrth gefn sydd ei angen yn erbyn y risgiau a wybyddir/nas wybyddir. 

 

Mae £3m o arian wrth gefn wedi ei glustnodi ar gyfer risgiau, sydd yn ymddangos yn isel. Ar ba sail ydych wedi cyfrif £3m a pha mor realistig yw hyn?

 

Gyda diffyg o £26m ac arbedion o £11m, rhaid i ni fod yn realistig nad oes dim byd yn y gyllideb hon yn ‘ddigon’. Mae’r £3m i’w briodoli  gan argaeledd yr arian wrth gefn. Mae’r pwysau eleni arnom yn anochel ac yn rhan sylweddol o’r pwysau ariannol o £26m; mae’r pwysau wedi cynyddu ers adrodd i’r Cabinet yn yr Hydref ac rydym wedi cynnwys hyn yn yr ystyriaethau. Bydd y  £3m wrth gefn yn cael ei asesu. Bydd angen i  Peter Davies, fel Swyddog Adran 151 y Cyngor, i gynnal asesiad o gadernid prosesau’r gyllideb a digonolrwydd yr arian wrth gefn.  Rhaid i ni geisio taro’r cydbwysedd cywir rhwng deall y risg a pha mor gywrain y mae’r broses o lunio’r gyllideb wedi ystyried y risgiau a wybyddir. Ni fyddwn yn gosod pwysau ychwanegol ar y gyllideb sydd yn medru cael sgil-effaith sylweddol. Mae’r  £3m yn erbyn y risg o fedru cyflenwi sydd gennym. Gofal Cymdeithasol yw’r maes lle y mae hyn uchaf, yn sgil amgylchedd  cyfnewidiol a deinamig, a dyma’r rheswm dros y newidiadau arfaethedig. 

 

O ran risgiau gweithredol, gan ystyried digartrefedd fel enghraifft, mae’r gost gynyddol yn sgil y nifer gynyddol o bobl ddigartref a’u lletya mewn darpariaeth gostus. Mae lleihau’r gost am bob person yn ddibynnol ar rai cynlluniau uchelgeisiol, sydd wedi eu hamlinellu yn y cynllun cymunedau a chorfforaethol. Hyd yn oed os ydym yn llwyddiannus, mae yna bosibilrwydd y bydd y sefyllfa economaidd a’r sefyllfa dai leol yn golygu y bydd mwy o bobl yn dod yn ddigartref. Mae heriau tebyg gennym ym maes gofal cymdeithasol.

 

Sut y mae’r Dreth Gyngor yn cael ei phennu a’i hasesu i gyrraedd 5.9%? A ydym yn gweithio ar bwynt y pris a’n gweithio nôl neu’n adeiladu o’r gwaelod i fyny?

 

Ydy – mae’n seiliedig ar ein dealltwriaeth  o ble mae’r pwysau a lle y mae modd i ni wneud arbedion. Rydym hefyd wedi ystyried yr hyn y mae trigolion yn medru delio ag e’ yn sgil y argyfwng costau byw. Mae rhai Cynghorau yn ystyried canrannau uwch, ac eraill yn ystyried canrannau is; mae’r rhai sydd yn ystyried canrannau is yn medru gwneud hyn yn sgil yr arian wrth gefn sydd ganddynt ac nid oes y fath lefel gyda ni. Fel gweinyddiaeth leiafrifol, rydym yn ddibynnol ar yr hyn y mae pob aelod o’r Cyngor yn barod i’w dderbyn.

 

O ran y rhagolygon ar gyfer 26-27, yn nhermau cyfansawdd, mae’n gynnydd o 20% yn y Dreth Gyngor (5.9% eleni a 3.95% ar gyfer y 3 mlynedd ddilynol). Ble fyddwn ni ar ddiwedd y cyfnod hwn fel Cyngor? A ydych yn sicrhau bod yna ddigon o strategaeth bositif yn llywio’r cynllun tymor canolig?

 

Wedi blynyddoedd o dan wario ar Gynghorau, rydym nawr yn wynebu blwyddyn o chwyddiant aruthrol. 3.95% yw’r mewnbwn safonol ar gyfer cynllunio ariannol yn y tymor canolig; mae’n debygol y bydd angen addasu hyn ar ddiwedd bob blwyddyn  wrth i ni gael mwy o eglurder o ran ein sefyllfa.  

 

A oes modd cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned fel rhan o hyn, yn enwedig o ran neuadd pentrefi? Mae praesept ganddynt ac nid oes uchafswm  ar y praesept. Nid yw llawer o’r Cynghorau yn deall beth yw praesept. 

 

Diolch i chi. Byddwn yn ystyried yr adborth.

 

Pa fesurau sydd yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau bod diffyg o £23m ar gyfer 26-27 yn agosach at sero?

 

Wrth i ni edrych ymhellach i’r dyfodol, mae mwy o ansicrwydd o ran chwyddiant, cyfraddau llog a’r pwysau ehangach ar wasanaethau, ac felly, rydym yn gwneud addasiadau i’r model er mwyn adlewyrchu’r pwysau yma, yn seiliedig ar brofiadau a thueddiadau. Wrth ail-ddylunio gwasanaethau, rydym yn gobeithio gweld lefel is o bwysau yn dod i’r amlwg ar ddiwedd y cynllun ariannol tymor canolig, a hynny yn sgil y gwaith a wneir ar ddechrau’r cyfnod. Mae yna hyder y bydd chwyddiant yn gostwng ond mae yna ansicrwydd o ran y dyfarniadau tâl.

 

Eglurhad: mae ffig.5 yn 6.2 o’r papur yn fwy o senario waethaf, yn hytrach na’n rhagamcan?

 

Bydd yna strategaeth ariannol tymor canolig yn deillio o’r cynllun cymunedol a chorfforaethol ac yn ceisio adnabod ffyrdd o lenwi’r bwlch. Mae’n seiliedig ar ragdybiaethau realistig a wneir ar hyn o bryd ond bydd hyn yn newid fis ar ôl mis, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym yn ddibynnol ar ragamcanion gan Lywodraeth y DU ac yna Llywodraeth Cymru o’r cyllid a fydd ar gael yn y blynyddoedd nesaf. Mae’r ‘senario waethaf’ weithiau yn gywrain gan na fydd y Trysorlys yn ymrwymo yn fwy na’r isafswm sydd yn bosib a rhaid i ni weithio ar y sail hynny. Ond bydd pethau’n symud, fel y digwyddodd eleni. Rydym wedi dysgu o’r pwysau  a oedd wedi adeiladu eleni. Rhaid i ni newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau dros gyfnod o amser.  

 

A oes modd dileu unrhyw swyddi na sydd wedi eu llenwi ar ôl 6 mis er mwyn lleihau’r pwysau ar gyfer y dyfodol?

 

Na. Wrth feddwl am feysydd fel Gofal Cartref, bydd nifer o swyddi yn cael eu hysbysebu ar yr un adeg gan mai dyma ble mae’r galw. Ni fyddai’n ddoeth ystyried y rhain fel swyddi gwag y mae modd eu dileu yn sgil yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar wasanaethau. Mae’n rhoi’r ffocws ar sut ydym yn recriwtio, a’n gofyn beth yw ein mantais gystadleuol? Mae’r ateb yn ymwneud gyda’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yn genedlaethol. Byddwn yn edrych drwy’r amser ar y cyfle i symud staff a’u ail-hyfforddi, os yw rhai swyddi yn mynd i gael eu dileu. Mae rolau prentisiaeth a graddedigion dal yn bwysig iawn. Rhaid i’n proses recriwtio i fod yn  well; rydym  wedi caffael system e-recriwtio newydd a system rheoli dysgu a fydd yn caniatáu ni i fuddsoddi a datblygu ein pobl, sydd yn ein caniatáu ni gadw gafael arnynt a gwella  cynhyrchiant.

 

Mae rhan sylweddol o’n cyllideb cyfalaf yn ymwneud ag ysgol newydd. Pwy sydd yn gyfrifol am y risg os yw’r costau yn uwch na’r hyn a ddisgwyliwyd? 

 

Mae’r risg o gynnydd mewn prisiau yn gyfrifoldeb i’r contractwr, sydd wedi ei adlewyrchu yn natur y contract. Mae lefel y gyllideb wrth gefn wedi ei adlewyrchu yn y cynllun cyfalaf sylweddol hwn. 

 

A ydych dal yn gweithredu yn unol â’r amserlen?

 

Ydy – o ran adeiladu’r ysgol ac agor yr ysgol.

 

Yr hyn sydd yn medru bod yn broblem yw asbestos gormodol wrth ddymchwel yr hen adeilad?

 

Rydym wedi profi hyn gydag adeiladau Cil-y-coed a Threfynwy. Mae lefel yr arian wrth gefn yn adlewyrchu hyn, yn seiliedig ar y profiadau hynny.  

 

Pa Gynghorau yn Lloegr sydd wedi mynd yn fethdalwyr?

 

Mae yna sawl enghraifft proffil uchel, ac mae’r wybodaeth yn gyhoeddus ond nid yw’r wybodaeth gennym wrth law. Mae data gan y Prif Swyddog Pobl a Llywodraethiant er mwyn rhannu gyda’r Pwyllgor y tu hwnt i’r cyfarfod hwn    – CAM GWEITHREDU

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Roedd y Pwyllgor wedi craffu’r  cynigion gyllideb ar gyfer 2023-2024, ac roedd sawl mater a chwestiwn allweddol wedi codi fel rhan o hyn:

 

  • Pryderon am lefel yr hyder sydd yn ymwneud gyda sicrhau’r arbedion arfaethedig, y risgiau sydd yn rhan o hyn ac effeithiau trawselfennol hyn
  • Mwy o eglurder am y cynnydd o £1.4m mewn Gofal Cymdeithasol
  • Cyfiawnhau wrth drigolion bod ychydig o arbedion yn cael eu cynnig mewn meysydd eraill ac eithrio  cyflenwi gwasanaethau
  • Y gymhariaeth rhwng costau ‘cefn swyddfa’ a gwasanaethau rhengflaen 
  • Ffyrdd posib o gyfathrebu’r gyllideb mewn modd sydd yn fwy eglur i drigolion
  • Cymhariaeth rhwng y cynnydd yng nghyfradd ein treth gyngor o’i gymharu gydag awdurdodau eraill a ph'un ai y byddai’n fwy hawdd i ddefnyddio pwyntiau canran llawn 
  • Y posibilrwydd o ddatblygu perchnogaeth gymunedol o asedau fel hybiau a llyfrgelloedd  
  • Eglurder yr iaith a ddefnyddiwyd e.e. prisiau ‘tecach' yn hytrach na phrisiau ‘uwch’
  • Yr effaith bosib ar fusnesau o ffioedd parcio sylweddol a thrwyddedau palmant  
  • Yr effaith ar deuluoedd o sawl cynnydd yn digwydd ar yr un pryd e.e. cynnydd ym mhrisiau trafnidiaeth ôl-16 a chlybiau brecwast a sut y mae’r effeithiau yma wedi eu hasesu 
  • P’un ai ein bod yn codi’r trothwy neu’n rhesymoli gofal ym maes Gwasanaethau Oedolion
  • Ym maes Gwasanaethau Plant, yr effaith o wneud penderfyniadau  gyda lleoliadau cost uchel a risgiau a sut ydym yn ymgysylltu gydag Arolygiaeth Gofal Cymru  
  • P’un ai bydd chwyddiant yn disgyn dros y flwyddyn nesaf a beth yw’r rhagdybiaethau sydd yn cael eu gwneud er mwyn tynnu pwysau oddi ar y cyllidebau 
  • P’un ai y bydd rhai ysgolion yn profi diffyg arian
  • Yr hyn a olygir gan risgiau cyllideb ‘na sydd wedi eu lliniaru’
  • Sut y mae’r arian wrth gefn o £3m ar gyfer risgiau wedi ei gyfrif’ a pha mor realistig yw hyn 
  • Sut y mae’r Dreth Gyngor yn cael ei phennu a’i hasesu i gyrraedd  5.9%
  • Ble mae’r cynnydd cyfansawdd yn y Dreth Gyngor  ar gyfer 27-27 o 20% yn gosod y Cyngor ac ydym yn mewnbynnu digon o strategaeth bositif wrth i ni lywio’r cynllun tymor canolig  
  • Cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned wrth ystyried neuaddau pentref, gan nodi nad yw rhai Cynghorau Cymuned  yn deall beth yw praesept  
  • Y mesurau sydd yn cael eu hystyried er mwyn sicrhau bod y sylfaen ar gyfer  26-27, sef diffyg o £23m, yn  cyrraedd ffigwr o sero, a ph’un ai bod hyn yn ddehongliad o’r sefyllfa waethaf bosib yn hytrach na’n rhan o ragolygon 
  • P’un ai bod modd dileu unrhyw swyddi na sydd wedi eu llenwi ar ôl 6 mis, er mwyn lleihau pwysau yn y dyfodol  
  • Pwy sydd yn gyfrifol am y risg os yw cost yr ysgol yn uwch na’r disgwyl ac a yw’r gwaith dal yn mynd yn ei flaen yn unol gyda’r amserlen
  • Cadarnhau pa Gynghorau yn Lloegr sydd wedi mynd yn fethdalwyr  

 

 

 

Dogfennau ategol: