Cofnodion:
Roedd y Rheolwr Perfformiad a Dealltwriaeth data wedi rhoi cyflwyniad ar y Cydweithrediadau a Phartneriaethau allweddol. Yn dilyn cyflwyniad o’r adroddiad, gofynnwyd am unrhyw gwestiynau.
Roedd Aelodau sydd wedi gofyn am wybodaeth y tu hwnt i gylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, a hynny am Gr?p Llywio'r Comisiwn Burns, Ymwelwyr Iechyd a Dechrau’n Deg, a Chyfleuster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Monnow Vale, sydd oll wedi eu cyfeirio at y Prif Swyddogion perthnasol.
Roedd Aelod wedi gofyn am sicrwydd bod yna drefniadau llywodraethu, archwilio ac adrodd cadarn ar gael ar gyfer cyllidebau cyfun. Esboniwyd fod swyddogion arweiniol yn cael eu clustnodi ar gyfer pob prosiect cydweithredol ar y rhestr er mwyn cymryd cyfrifoldeb er mwyn sicrhau bod trefniadau yn eu lle. Mae Archwilio Mewnol yn asesu sampl o’r rhestr er mwyn gwirio effeithiolrwydd a’n nodi’r themâu allweddol. Mae’r gwaith hwn yn barhaus, yn seiliedig ar samplau yn unig a bydd yn cael ei adrodd maes o law.
Roedd Aelod wedi gofyn a oedd yna fodelau neu dempledi ar gyfer trefniadau llywodraethu sydd yn cael eu gweithredu ar gyfer partneriaethau / prosiectau cydweithredol a gofynnwyd sut y mae penderfynu pa Awdurdod sydd yn arwain ac a oes yna gyfarwyddyd ar gyfer sicrhau bod cyllid yn gymesur. Esboniodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod yr holl gyrff cyhoeddus yn mynd i fod yn ystyried yn agos y budd a ddaw o gydweithredu a’r gallu i sicrhau’r canlyniadau allweddol yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Mae’r Awdurdod sydd yn arwain yn cael ei gadarnhau fel rhan o drafodaethau fesul achos, gan ystyried a yw’r cydweithredu yn mynd i elwa pob un Awdurdod. Bydd y rhestr a’r gwaith archwilio parhaus yn cynnig gwersi er mwyn datblygu practis yn y dyfodol ar gyfer trefniadau newydd a hen.
Fel yr awgrymwyd gan Aelodau, cytunwyd y dylid ychwanegu teitl swydd y person sydd wedi ei glustnodi ar gyfer pob prosiect cydweithredol, fel ei fod yn fwy hawdd i ddeall y cydweithredu yn y strwythur llywodraethu mewnol.
Gofynnodd Aelod ein bod yn ychwanegu natur rôl yr Awdurdod i’r rhestr (aelod o’r gr?p, partner, aelodau bwrdd, yn arwain ayyb) a gwybodaeth hefyd ar y Pwyllgor Craffu mwyaf priodol gydag atebolrwydd am oruchwylio’r trefniadau er mwyn cadarnhau a yw’r canlyniadau a ddisgwylir yn cael eu sicrhau, gan dderbyn y bydd rhai meysydd yn gorgyffwrdd gyda’i gilydd.
Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r gwaith hwn fel y cam cyntaf yn deall sut y mae partneriaethau a chydweithrediadau yn gweddu i strwythur llywodraethu'r Awdurdod, sut y maent yn cael eu craffu a rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit; y cam nesaf yw deall ac asesu yn fwy llawn beth yw trefniadau llywodraethu craidd yr Awdurdod fel sydd wedi ei grynhoi yn y Cyfansoddiad.
Fel sydd wedi ei argymell yn yr adroddiad, roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit wedi nodi’r partneriaethau a’r cydweithrediadau ‘allweddol’ fel sydd wedi eu nodi ac unrhyw adborth sydd wedi ei gynnig. Bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn ychwanegu adroddiad at y Blaenraglen Waith sydd yn seiliedig ar drefniadau partneriaethau a chydweithredu, gyda manylion pellach am drefniadau llywodraethu, adrodd a chyllid fel sydd yn cael ei lywio gan y canfyddiadau cychwynnol a nodwyd drwy’r adolygiad Archwilio Mewnol.
Dogfennau ategol: