Agenda item

Cronfa'r Eglwys yng Nghymru/Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2021/22 - Terfynol

Cofnodion:

Roedd y Pennaeth Cyllid wedi cyflwyno’r Datganiad o Gyfrifon  Archwiliedig ar gyfer  2021/22 – Adroddiad Cronfeydd Ymddiriedolaeth Elusennol.  Cyflwynwyd yr eitem ganlynol, sef ISA 260 neu’r cyfatebol ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth, gan y Swyddog Archwilio Cymru. Ystyriwyd yr eitemau gyda’i gilydd. Atgoffwyd y Pwyllgor fod yna archwiliad llawn ar gyfer Cronfa yr Eglwys yng Nghymru ac asesiad annibynnol o  Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.  Cynigiwyd bod barn ddiamod yn cael ei chynnig ar gyfer y ddwy gronfa.  

 

Wedi cyflwyniad am yr adroddiad Cronfa yr Eglwys yng Nghymru, gofynnwyd i Aelodau a oedd unrhyw gwestiynau ganddynt. 

 

Cronfa yr Eglwys yng Nghymru:

 

Gofynnodd Aelod a fyddai’n rhatach i drefnu adolygiad annibynnol yn yr hinsawdd ariannol bresennol, yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau Archwilio Cymru. Ymatebodd y Pennaeth Cyllid fod cyfrifoldebau gan yr Awdurdod fel gwarcheidwad  Cronfa yr Eglwys yng Nghymru.  Mae’r Pwyllgor wedi ystyried y pwynt hwn yn flaenorol ac wedi dod i’r casgliad y dylid cynnal y trefniadau presennol fel bod modd cynnig sicrwydd digonol i’r cyrff sydd yn aelodau o’r gronfa gyfun.  

 

Cytunodd Aelod gyda’r ffordd hon o weithio gan fod sawl Awdurdod yn dibynnu ar y Gronfa am arian er mwyn rhannu hyn gydag elusennau a mudiadau haeddiannol.  Mae’r trefniadau archwilio presennol i’w croesawu.  

 

Roedd Aelod wedi gofyn a sut y mae’r arian yn cael ei glustnodi a phwy sy’n derbyn yr arian a gofynnwyd am eglurder am y lefelau presennol o dryloywder. Esboniodd y Pennaeth Cyllid fod aelodau a chylch gorchwyl Pwyllgor Cronfa'r Eglwys yng Nghymru ar gael ar wefan CSF. Roedd yna newid  yn y broses o wneud penderfyniadau yn ystod  2022/23.  Roedd adroddiad am y Grantiau sydd wedi eu dyfarnu wedi ei ddilysu gan y Cabinet ond mae’r swyddogaeth hon nawr yn cael ei chwblhau gan Benderfyniad Aelod Cabinet Unigol.  Mae mecanwaith gwahanol gan bob un Awdurdod ar gyfer dyfarnu grantiau. Mae modd sicrhau bod manylion am y grantiau sydd wedi eu dyfarnu gan bob Awdurdod yn cael eu cyhoeddi os oes angen. Nid yw’r manylion yn cael eu cyhoeddi yn y cyfrifon gan fod ceisiadau yn cael eu cyflwyno weithiau gan unigolion sydd yn cael eu henwi. Os nad yw dyraniad blynyddol yn cael ei wario’n llwyr, mae modd ei drosglwyddo i’r flwyddyn ddilynol.  

 

Hoffai Aelod ei gwneud yn  gwbl eglur bod pob Awdurdod yn meddu ar ei Bwyllgor a’i weithdrefnau ei hun.  

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd fod pob Awdurdod yn cyfeirio at Gronfa'r Eglwys yng Nghymru ar ei wefan gyda manylion am gymhwystra a’r broses gais. Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddatgelu’r mathau o grantiau sydd yn cael eu dyfarnu yng nghyfrifon Cronfa'r Eglwys yng Nghymru.

 

Wrth ystyried y set blynyddol nesaf o gyfrifon ar gyfer Cronfa yr Eglwys yng Nghymru, roedd y Cadeirydd wedi mynegi’r farn y dylai’r Ymddireiolwyr  gadarnhau wrth y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit fod grantiau wedi eu dyfarnu yn unol gyda rheolau’r Ymddiriedolaeth.  

 

Fel sydd wedi ei nodi yn argymhellion yr adroddiad, roedd y datganiad cyfrifon sydd wedi eu harchwilio ar gyfer  2021/22  ar gyfer Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru, wedi ei gymeradwyo yn unol gydag adroddiad Archwiliad o Gyfrifon  ISA260 Archwilio Cymru ar gyfer Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru.

 

Roedd y Cadeirydd wedi arwyddo’r llythyr a oedd yn cynrychioli gweddill y Pwyllgor.  

 

 

Wedi cyflwyniad am yr adroddiad Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy, gofynnwyd i Aelodau a oedd unrhyw gwestiynau ganddynt. 

 

Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy

 

Roedd Aelod o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy wedi darparu adborth bod y cyfrifon wedi eu hadolygu gan y Pwyllgor, gan nodi fod eitem o ddyled wedi ei ad-dalu’n llwyr.  

 

Eglurodd Swyddog Archwilio Cymru fod yr Archwilydd Cyffredinol yn dilysu’r cyfrifon ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo.  

 

Roedd Aelod wedi nodi fod hon yn gronfa fach, yn rhan o ystâd  Coleg Gwent a gofynnwyd pam ei bod yn cael ei gweithredu’n annibynnol o hyn a gofynnwyd  a oedd y manteision i fuddiolwyr yn cyfiawnhau’r elfen weinyddol. Esboniwyd fod ceisiadau yn cael eu derbyn gan fyfyrwyr e.e. y rhai sydd yn dechrau eu cyrsiau ac o bosib angen gliniadur, cyfarpar  ar gyfer y ceffylau neu lif gadwyn.  Mae symiau penodol yn cael eu defnyddio, sef traean o’r hyn sydd yn cael ei hawlio. Mae yna swm penodol o gronfeydd ar gael bob blwyddyn ac nid oes modd dyfarnu mwy na hyn, ac mae’n cael ei wario’n llwyr fel arfer. Mae cynrychiolwyr o Goleg Gwent yn mynychu cyfarfodydd.

 

Roedd Aelod wedi gofyn am eglurder ar y cyfyngiadau ar wariant gan nodi fod yna swm sylweddol o arian dros ben wedi ei symud ymlaen. Esboniwyd fod y gwariant yn ddibynnol ar y nifer o geisiadau ac roedd y cyfnod dan sylw dal wedi ei effeithio gan gyfyngiadau  Covid, ac felly, roedd y nifer wedi gostwng. Mae ceisiadau eleni wedi dychwelyd i’r lefel arferol. 

 

Fel sydd wedi ei nodi yn argymhellion yr adroddiad, roedd y datganiadau ariannol a archwiliwyd yn annibynnol ar gyfer  Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy 2021/22 wedi eu cymeradwyo ar y cyd gyda’r Adroddiad Asesiad Annibynnol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.

 

Dogfennau ategol: