Skip to Main Content

Agenda item

Adroddiad Blynyddol 21/22 Gwasanaethau Cofrestru – Adolygu perfformiad y maes gwasanaeth.

Cofnodion:

Roedd Jennifer Walton wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau gyda David Jones.

 

Her:

 

Alistair: Roedd y gyfradd genedigaethau yn Sir Fynwy wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn – a yw hyn  yn eithriad neu’n rhan o duedd? A yw’n adlewyrchu’r hyn sydd yn digwydd yn fwy ehangach?

 

Nid oes yna ostyngiad dramatig wedi bod yn y gyfradd genedigaethau ond mae trigolion Sir Fynwy nawr yn mynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Nhorfaen.

 

Os yw’r gyfradd genedigaethau nawr wedi ei rhannu gydag Ysbyty Athrofaol y Faenor, sut ydym yn gwybod beth yw’r niferoedd a’r tueddiadau?

 

Mae’r gwasanaethau mamolaeth yn Neuadd Nevill wedi eu hisraddio ar ôl i Ysbyty Athrofaol y Faenor agor, ac felly, mae’n cael ei arwain gan fydwraig yn unig. Mae’r rhan fwyaf o enedigaethau yn Aneurin Bevan nawr yn digwydd yn Nhorfaen. Mae’r ffigyrau yma yn cael eu bwydo i mewn i’r Swyddfa Ystadau Gwladol, ac mae modd dod o hyd i niferoedd Sir Fynwy ar unrhyw adeg, ond rydym ond yn medru cael mynediad at y genedigaethau yn y sir. Hefyd yn dilyn Covid, roedd yna gyfnodau pan fu’n rhaid cau adrannau mamolaeth yn Neuadd Nevill yn sgil pwysau staff.

 

5.1, A oes yna wybodaeth ar y partneriaethau sydd wedi eu datblygu? I ba raddau y mae hyn wedi ei ystyried fel rhan o’r gyllideb?

 

Rydym yn bwriadu ehangu’r gwaith o weithio mewn partneriaeth i gynnwys cofrestru marwolaeth. Ar hyn o bryd, mae modd cofrestru genedigaeth mewn unrhyw swyddfa yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ac wedi ein helpu ni i reoli’r ôl-groniad wrth i ni ddod allan o Covid. Roedd cynifer o seremonïau dros yr haf y llynedd fel nad oedd modd i ni ddatblygu’r gwasanaeth ar gyfer cofrestru marwolaethau ond rydym yn bwriadu cynnal cyfarfodydd cyn hir ac mae yna drefniadau eisoes ar waith.  

 

Sut mae trigolion yn medru cael mynediad at gofrestriadau a chofnodion?  

 

Mae unrhyw drigolyn yn medru gwneud cais am dystysgrif hanesyddol, ac mae modd iddynt gyflwyno unrhyw fanylion sydd ganddynt a byddwn yn chwilio am gofnodion. Mae’r cofnodion yn cael eu cadw mewn ystafell lle y mae’r tymheredd yn cael ei reoli, ac nid ydynt fel arfer yn caniatáu’r cyhoedd i edrych arnynt eu hunain ond mae rhywun yn medru gwneud cais a byddwn wedyn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i’r wybodaeth.  

 

Mae adborth gan gwsmeriaid yn dda ond yn anecdotaidd - a fydd adborth digidol yn caniatáu gwybodaeth fwy ansoddol am farn trigolion am y gwasanaethau yma ac a ydym yn medru gwella rhai elfennau?

 

Mae’r adborth gan gwsmeriaid yn ffantastig, yn enwedig gan ein bod fel arfer yn delio gyda phobl sydd wedi profi profedigaeth er enghraifft. Ond mae modd i ni gasglu’r wybodaeth mewn ffordd well. Rydym yn gobeithio y bydd y gwasanaeth digidol yn gwneud gwahaniaeth a bydd hyn yn dechrau cyn hir.  

 

A oes unrhyw ffordd o osod gwaelodlin neu’n defnyddio’r adborth ar gyfer meysydd eraill ac a oes unrhyw wersi i’w dysgu?

 

Mae’r Swyddfa Gofrestru yn cyhoeddi data perfformiad misol ar draws Lloegr a Chymru, fel bod modd i ni fesur ein hunain yn erbyn pawb arall, ac mae’r Swyddog Cydymffurfiaeth yn ymweld gyda ni yn gyson a bydd yn codi unrhyw bryderon sydd yn seiliedig ar y ffigyrau.  

 

A yw Cofrestrau Priodas nawr yn cael eu defnyddio?

 

Mae yna drafodaeth wedi bod ers tro am geisio cynnwys mamau ar y cofnodion priodas yn ogystal â’r tadau; y datrysiad oedd cael gwared ar gofrestrau priodas yn gyfan gwbl. Cyn hyn, roedd Cofrestrydd wedi mynd â Chofrestr i’r briodas a bu’n rhaid i bobl lofnodi. Mae yna ‘Atodlen’ nawr, sef darn o bapur sydd yn cynnwys y wybodaeth, sydd wedi ei wirio a’i lofnodi gan bob un parti ond nid dyma’r ddogfen gyfreithiol - mae’r broses o gofrestru yn cael ei chwblhau ar ôl mynd yn ôl i’r swyddfa a mewngofnodi ar y system. Rydym yn storio’r cofrestrau cynt ond bydd pob dim yn cael ei gofnodi ar y gronfa ddata yn y dyfodol.  

 

Mae’r tîm yn cynnwys 11 gweithiwr achlysurol a  7 arall?

 

Mae hyn yn gamgymeriad yn yr adroddiad: mae yna  6 yn y swyddfa a 11 gweithiwr achlysurol.

 

Yn sgil y system newydd, nid yw pobl yn derbyn tystysgrifau priodas mor gyflym ag yr hoffent – beth sy’n cael ei wneud er mwyn cyflymu hyn?

 

Rydym yn dysgu wrth i ni fynd yn ein blaenau a bydd yr adroddiad ar gyfer blwyddyn nesaf yn dangos fod y nifer wedi cynyddu’n sylweddol. Rydym yn ymwybodol o’r angen i ganiatáu  mwy o amser ac adnoddau fel bod modd rhannu danfon tystysgrifau yn fwy cyflym.  Rydym yn cael cyfarfodydd cyson gydag Arolygydd y cofrestryddion ar draws Cymru ac rydym wedi trafod a oes modd i ni greu rhywbeth ar gyfer y diwrnod - rydym yn medru ystyried hyn yn y dyfodol ond y cyngor yw peidio â gwneud dim byd am y tro, er mwyn osgoi creu penbleth. Y nod nawr yw gweithio ar ddanfon y tystysgrifau   o fewn diwrnodau.

 

A oes modd i gynnig mewnbwn ar lefel genedlaethol i’r Prawf Dinasyddiaeth? Roedd rhai o’r cwestiynau yn hen ffasiwn ac amherthnasol; a oedd modd i ni gynnig adborth?

 

Mae Swyddogion yn medru gofyn a yw Cyngor Sir Fynwy yn medru cynnig mewnbwn i’r Prawf Dinasyddiaeth er mwyn sicrhau cwestiynau mwy synhwyrol CAM GWEITHREDU

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Mae’r Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac am ddiolch i’r  Swyddogion a’r tîm. Mae’n dda i weld y meysydd sydd angen eu gwella – bydd hyn yn ein hannog i ystyried ffyrdd i wneud y gwelliannau.

 

 

Dogfennau ategol: