Cofnodion:
Roedd y Cadeirydd wedi diolch i’r tîm am eu gwaith anhygoel yn ystod y pandemig, a hynny ar ran y Pwyllgor. Roedd David Jones wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau gyda Huw Owen a Gareth Walters.
Her:
A oes modd esbonio ‘TTP’ (Track, Trace and Protect) yn yr adroddiad? Beth yw’r tebygolrwydd bod y nifer o achosion Covid yn cyrraedd penllanw ym mis Mawrth?
Oes - mae modd i ni gynnwys ‘Track, Trace and Protect’ yn yr adroddiad. Roedd gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Sir Fynwy wedi ei ddiddymu haf diwethaf - mae hyn yn cael ei gydlynu’n rhanbarthol yng Nghaerffili. Mae’r gwasanaeth wedi ei gwtogi; maent yn delio gyda chartrefi gofal. Mae dal diddordeb gennym, yn enwedig o ran ymholiadau sydd gan ysgolion. Mae penllanw posib nawr i’w rheoli gan Gaerffili ar ran Gwent ond mae Dave Jones wedi ei gynnwys fel rhan o’r trefniadau llywodraethiant ac rydym yn cefnogi Caerffili drwy ein cydweithwyr Iechyd Amgylcheddol.
A yw’r 2 aelod staff sydd ar secondiad yn dod 'nôl?
Rydym yn cefnogi secondiadau pan fydd y gwasanaeth yn elwa e.e. mae un o’n cydweithwyr trwyddedau yn gweithio i Lywodraeth Cymru, yn delio gyda Threth Polisi a Thrwyddedu a fydd yn elwa ni pan fydd yn dychwelyd.
A yw tipio anghyfreithlon wedi cynyddu gan fod safleoedd ar gau? Beth sydd wedi ei ddysgu hyd yma a’r tueddiadau sydd i’w gweld?
Yn 21-22, roedd cyfanswm nifer yr achosion wedi cynyddu, a hynny’n rhannol i’w briodoli i gofnodion mwy cywrain yn cael eu cadw ond mae yna gynnydd sylweddol wedi ei brofi, a hynny’n gyson gyda mwy o bobl yn gweithio gartref a’n gwneud gwaith adeiladu yn eu cartrefi yn ystod Covid. Rydym yn cymryd hyn o ddifri’. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwerau i awdurdodau lleol i roi hysbysiadau cosb penodedig ar gyfer y sawl na sydd yn cael gwared ar wastraff yn y ffordd gywir – byddwn yn parhau i wneud hyn drwy gydol y flwyddyn h.y. os yw aelwyd yn talu i rywun i gael gwared ar wastraff sydd wedyn yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, heb gadarnhau fod y person wedi cofrestru i gynnig y gwasanaeth, byddwn yn erlyn yr aelwyd.
Pam fod y nifer o achosion o Reoli Plâu? Beth sydd wedi ei ddysgu yn sgil hyn?
Roedd yna ychydig o gynnydd. Mae’r gwasanaeth sydd wedi ei ddarparu gan Iechyd Amgylcheddol ar Reoli Plâu yn un o orfodaeth. Roedd y gwasanaeth Rheoli Plâu disgresiynol a ddarparwyd gan y Cyngor wedi dod i ben yn 2013/14. Rydym yn cymryd camau gorfodi mewn achosion pan fydd rhywun yn rhoi gwybod i ni fod cymydog yn gwrthod clirio sbwriel o’r ardd, sydd wedyn yn denu llygod mawr – byddwn yn ymweld ac yn sicrhau bod mesurau yn cael eu cymryd er mwyn delio gyda’r llygod mawr. Un o’r rhesymau dros gadw’r ystadegau yw monitro’r effaith dros y blynyddoedd o’r penderfyniad i gael gwared ar y gwasanaeth Rheoli Plâu.
A oes modd i ni gael esboniad cryno o’r ymgynghoriad ar y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Mesurau Rheoli C?n? Pa waith sydd wedi ei wneud gyda’r ymgynghoriad cyhoeddus?
Ar hyn o bryd, y rheol yw bod rhaid i berchnogion c?n glirio unrhyw faw c?n mewn ardaloedd penodol – mae yna bwysau wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf i ehangu’r mesurau yma.
Roedd yna ymgynghoriad cyhoeddus sylweddol rhwng Gorffennaf a Hydref 2020, gyda thua 1500 o ymatebion a oedd wedi llywio ein hadroddiad ar gyfer ei graffu ym Mawrth 2022 gydag argymhellion cryf, sef ymgysylltu gyda’r prif randdeiliaid i ystyried mesurau pellach. Ym mis Rhagfyr, roeddem wedi ysgrifennu at bob un Cyngor Tref a Chymuned a’r prif dirfeddianwyr, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y prif gymdeithasau tai ayyb er mwyn gofyn iddynt ba fesurau y maent am weld yn eu hardaloedd. Rydym yn gobeithio y bydd yna fandad bod rhaid clirio baw c?n ym mhob un ardal. Rydym yng nghanol y broses ac yn aros am adborth gan randdeiliaid, ac yn bwriadu adrodd nôl i’r Pwyllgor ym mis Mawrth ar faw c?n a’n cynnwys argymhellion ar gyfer eithriadau a’r ardaloedd pan fydd rhaid i g?n wisgo tennyn. Rydym angen creu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i’w ddiwygio/cymeradwyo gan y Pwyllgor, a fydd wedyn yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus.
Gwiriadau amgylcheddol a monitro: pa rai yw’r 4 prif dref, a yw hyn yn seiliedig ar boblogaeth? A oes modd monitro elfennau e.e. cronynnau?
Roedd ansawdd yr aer wedi gwella yn ystod 2021-22, fel yr oeddwn yn disgwyl, yn sgil bod llai o draffig ar yr heolydd yn y 4 prif dref yr ydym yn monitro, sef y Fennu, Trefynwy, Cas-gwent a Brynbuga. Mae dwy ardal rheoli ansawdd aer gyda ni, ym Mrynbuga a Chas-gwent. Nid yw ansawdd yr aer wedi mynd y tu hwnt i’r lefelau amcan ar gyfer nitrogen deuocsid ym Mrynbuga am fwy na 5 mlynedd a 2 flynedd yng Nghas-gwent, Rydym yn monitro cronynnau - mae’r lefelau yma hefyd yn gostwng yng Nghas-gwent lle’r ydym yn monitro ond rhaid i ni gadw llygad ar hyn wrth i’r lefelau traffig gynyddu eto.
Pam nad yw Cil-y-coed yn cael ei fonitro, fel y drydedd dref fwyaf yn Sir Fynwy?
Rydym yn gwneud ychydig o waith monitro ‘diffusion tube’, a monitro mwy lleol yn y dref. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn monitro lefelau nitrogen deuocsid ac wedi canfod eu bod dipyn yn is na’r lefelau amcan. Rydym yn dilyn canllaw Llywodraeth Cymru ar ble i fonitro, yn seiliedig ar y lefelau traffig.
Pam fod cynnydd wedi bod mewn cwynion a chyngor am safonau masnach?
Rydym yn dechrau gweld yr argyfwng costau byw nawr yn effeithio ar fywydau pobl- maent yn talu mwy o sylw i’r hyn y maent yn prynu, a’n ceisio sicrhau gwerth am arian ayyb ac rydym wedi bod yn delio mwy o ymholiadau. Ond nid oes rheswm penodol. Mae yna gynnydd sylweddol wedi bod ar draws Cymru yn sgil e-sigaréts.
Mae hwn yn adroddiad ardderchog. Un pryder yw’r ffaith ein bod ar ei hôl hi o ran cynnal arolygon? A oes modd i chi roi sicrwydd i ni neu ddangos sut ydych yn mynd i’r afael gyda hyn, yn enwedig ar gyfer arolygon hylendid bwyd ac iechyd anifeiliaid? A yw lladd-dai wedi eu cynnwys?
Mewn blwyddyn arferol, mae yna 500 o ymweliadau hylendid bwyd ond roedd hyn wedi gostwng yn sylweddol yn sgil yr ymateb i Covid. Yn 22/23, roddem yn disgwyl dychwelyd i’r lefelau hynny ac yn debygol o wneud hyn erbyn diwedd mis Mawrth. O ran Iechyd Anifeiliaid, mae ein gwaith dros y blynyddoedd diwethaf nawr yn fwy seiliedig ar ddeallusrwydd ac yn ymatebol. Mae’n beth positif ein bod wedi apwyntio 2 Swyddog yn ddiweddar. Hefyd, yn y flwyddyn arferol, roeddem wedi dileu statws dros dro y 2 Swyddog Iechyd Anifeiliaid, ac felly mae 3 gennym erbyn hyn sydd yn golygu ein bod yn medru bod yn fwy rhagweithiol wrth fynd at i gynnal arolygon. Eleni, mae’r ymweliadau yn ffocysu ar fwyd yr anifeiliaid – mae’r arolygon Critical Control Point (e.e. marchnadoedd) yn cael eu cynnal. Nid oes yna ladd-dai yn y sir, ac eithrio un bach yn Rhaglan ond mae ein cylch gorchwyl ni yn dod i ben wrth y glwyd sydd yn arwain at y safle (mae’r safle tyrcwn ar Flaenau’r Cymoedd yn dod o gyfrifoldeb y Gwasanaeth Hylendid Cig, sydd yn gangen o’r Asiantaeth Safonau Bwyd.) Fodd bynnag, yn y blynyddoedd diwethaf, ar lefel rhyngwladol. Mae yna bryderon wedi bod am ladd-dai a lles y gweithwyr, ac felly, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn gweld sut y mae modd i ni wella hyn, gan ddechrau gyda’r safleoedd mwy fel gosod camerâu cylch cyfyng – bydd y mesurau wedyn yn cael eu cyflwyno i’r safleoedd llai.
Yn dilyn y cwest i lwydni yn Rochdale a’r canllawiau newydd sydd wedi eu cyflwyno yn sgil hyn, a oes yna oblygiadau ar gyfer tai gwael yn Sir Fynwy a’n ymateb ni?
Rôl y tîm Iechyd Amgylcheddol yw ymateb i gwynion sydd yn ymwneud gydag amodau tai, gan gynnwys tenantiaid y landlordiaid cymdeithasol. Y tri phrif berygl yw lleithder, oerni gormodol a diogelwch tân. Nid ydym wedi profi cynnydd sylweddol mewn cwynion lleithder a llwydni eleni. Pan ein bod yn derbyn cwyn, yn enwedig gyda landlordiaid cymdeithasol, rydym yn gweithio’n agos gyda hwy er mwyn cynnal y gwiriadau sydd eu hangen.
A ydych yn medru trafod y camau gorfodi sydd wedi eu cymryd ym maes tai er mwyn i ni ddeall ble ydym ar hyn o bryd? Beth am nifer yr oedolion a phlant sydd wedi eu crybwyll yn yr adroddiad?
Rydym yn gyfrifol am edrych at y sector rhentu preifat ac ymateb i gwynion. Yn yr achos cyntaf, rydym yn ceisio gweithio gyda landlordiaid am y gwaith sydd angen ei wneud ar ôl i ni gynnal arolwg o’r eiddo; yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r landlordiaid yn cydymffurfio o fewn yr amserlenni, heb fod angen i ni gymryd camau gorfodi. Mae’r mesurau a oedd ar gael i ni yn cynnwys cyflwyno hysbysiad gwella (dogfen gyfreithiol sydd yn nodi’r gwaith sydd angen ei wneud o fewn llinell amser), ac yn y pendraw, Gorchymyn Gwahardd. Nid ydym yn dymuno gwneud hyn ac mae ein gwaith o weithio gyda landlordiaid fel arfer yn llwyddiannus. Roeddem wedi penderfynu sawl blwyddyn yn ôl bod angen i ni gofnodi nifer yr oedolion a’r plant sydd yn yr eiddo.
O dan reoliadau Cymru a Lloegr sydd yn ymwneud gydag Effeithlonrwydd Ynni mewn Eiddo Sector Rhentu Preifat, mae Safonau Masnach yn chwarae rôl yn gosod isafswm o ran y safonau ar gyfer eiddo sydd i’w rhentu er mwyn sicrhau eu bod yn radd E neu’n uwch ar gyfer effeithlonrwydd ynni - rydym yn nodi’r holl eiddo sydd yn y sir ac sydd yn cydymffurfio. Efallai na fydd angen gwneud dim ar hyn o bryd ond efallai y byddant yn destun pryder yn y dyfodol. Dylai’r gwaith hwn gefnogi’r gwaith gorfodi tai. Rydym hefyd yn gweithio gyda Rhentu Doeth er mwyn gwella safonau’n gyffredinol, nid yn unig yn ymateb i gwynion.
Nid yw’n ymddangos fod unrhyw waith gyda phartneriaid yn cael ei wneud i liniaru materion gydag ansawdd aer yng Nghas-gwent? Sut y mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu gyda Llywodraeth Cymru?
Mae dwy ardal rheoli ansawdd aer: Brynbuga a Chas-gwent. Rydym yn cynnig adroddiad ar ansawdd yr aer i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae ansawdd aer yng Nghas-gwent wedi ei effeithio gan gefnffyrdd Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn mynychu'r grwpiau llywio ar ansawdd aer bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru felly yn ymwybodol o’r problemau ac yn cyfrannu at y cyfarfodydd. Mae yna astudiaethau trafnidiaeth hefyd sydd yn llywio’r camau nesaf ar gyfer gwella ansawdd yr aer a materion trafnidiaeth yn ardal Cas-gwent, sydd yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru gydag Adran Briffyrdd Cyngor Sir Fynwy.
Yn sgil yr ôl-groniad sylweddol, gyda gwasanaethau yn ceisio mynd yn ôl i’r lefelau arferol yn dilyn y pandemig, a’r pwysau cyllidebol, a oes yna gais wedi bod am fwy o adnoddau?
Rydym yn ystyried y flwyddyn 21/22 yma ond yn 22/23, roedd yna fuddsoddiad o £223k, a oedd yn ddefnyddiol. Roeddem wedi cyflwyno’r adroddiad hwn fel tystiolaeth ar yr adeg yma llynedd ar gyfer cynyddu’r gyllideb ar gyfer 22/23; mae yna fandad cyllideb nawr ar gyfer ail-strwythuro, ac felly, mae yna arbedion i’w cael yn sgil hyn. Mae 2.4 person ychwnageol yn dipyn o beth ar gyfer tîm bach ac un swyddog a hanner ar gyfer trwyddedu a bydd yn rhoi hwb ar gyfer 22/23, sydd yn cael ei adlewyrchu yng nghapasiti a lles y timau.
A yw’n bosib i Aelodau i ymweld gyda Gorsaf Monitro Aer Hardwick Hill yng Nghas-gwent?
Mae modd i ni drefnu hyn ar gyfer unrhyw Aelod sydd am ymweld gyda’r orsaf. Efallai y bydd ein hadroddiad nesaf ar gyfer y Pwyllgor am ffocysu ar elfen benodol o ddiogelu’r cyhoedd: roedd ein hadroddiad 4-5 mlynedd yn ôl wedi ffocysu ar ansawdd aer, ac efallai bod modd i wneud hynny eto, os yw Aelodau yn dymuno.
A oes yna niferoedd gennym o ran y nifer o gamau gorfodi sydd wedi eu gwneud: lle y mae unigolion wedi cydymffurfio a’r rhai hynny sydd heb gydymffurfio?
Mae’r ffigyrau gennym ond nid ydynt wrth law – bydd modd i ni ddarparu hyn.
Sut ydych yn trefnu pethau er mwyn sicrhau bod modd cynnal y gwasanaethau y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac a oes modd parhau i wneud hyn er y pwysau ar y gyllideb?
Mae modd cysylltu gyda Swyddogion y tu hwnt i oriau swyddfa arferol a bydd yr uwch-reolwyr yn cael eu hysbysu. Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan ein partneriaeth gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Tân ayyb, ac felly, mae yna arwyddion bod yna broblemau ar y gorwel – fel dawns anghyfreithlon – a bydd mwy o Swyddogion wedyn ar gael.
Mae tud 10 o’r adroddiad yn datgan y bydd gwasanaethau o bosib yn cael trafferth ymgymryd gydag unrhyw ddyletswyddau statudol pellach - a ydym yn ymwybodol o unrhyw broblemau sydd ar y gorwel?
Cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer yr awdurdod: mae Deddf Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 yn cynnwys y Strategaeth Toiledau (sydd yn hawlio adnoddau Swyddogion), prisio fesul uned a gweithdrefnau arbennig ar gyfer arlunwyr tat?. Bydd y costau yma yn cael eu had-dalu drwy’r gyfundrefn drwyddedu; byddant yn talu swm penodol am drwydded ar gyfer 3 mlynedd. Fel arfer, os oes yna faich pellach, byddwn yn ceisio sicrhau bod y costau yma yn cael eu had-dalu.
A yw’r cynnydd mewn clefydau hysbysadwy yn batrwm neu o fewn amrywiaeth arferol?
Ydyn – mae’r nifer o glefydau hysbysadwy wedi cynyddu. Mae pobl wedi colli ychydig o ffocws o ran diogelwch bwyd a’r mesurau a ddysgwyd gan Covid, a byddwn yn parhau i fonitro hyn yn agos.
Mae 4.4 yn cyfeirio at 15k+ o achosion Covid – ai dyma’r cyfanswm ar gyfer y cyfnod hwn neu a oedd rhai eraill?
Dyma’r nifer hysbysadwy a ddaeth drwy’r system CRM, gyda phobl yn rhoi gwybod i ni gan ddefnyddio eu ffonau eu bod wedi dal Covid. Roedd hyn wedyn yn arwain at y tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn cysylltu gyda hwy. Mae’r rhif felly yn ymwneud gyda’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ac nid dyma’r cyfanswm o reidrwydd.
Crynodeb y Cadeirydd:
Roedd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths wedi nodi pa mor ddefnyddiol oedd y cyfarfod heddiw gan ddweud y bydd yn gwneud cymaint ag sydd yn bosib er mwyn esblygu adroddiadau blynyddol i mewn i brosesau dysgu ac i bractis y dyfodol.
Roedd y Pwyllgor wedi derbyn yr adroddiad.
Gwnaed cais bod adroddiad Diogelu Cyhoeddus 22/23 (Mai/Mehefin) gan gynnwys adolygiad o’r gwersi sydd wedi eu dysgu er mwyn medru paratoi ar gyfer achosion o Covid ac argyfyngau eraill ar gyfer y dyfodol, ynghyd â’r gwelliannau y mae rheolwyr a swyddogion am ddatblygu – CAM GWEITHREDU
Bydd angen i Swyddogion i ddanfon gwybodaeth at Aelodau am y nifer o gamau gorfodi sydd wedi eu cymryd ar gyfer tai, er mwyn deall y niferoedd sydd dal angen gwaith - CAM GWEITHREDU
Dogfennau ategol: