Agenda item

Strategaeth Toiledau Lleol

Craffu ar y datblygiad polisi diweddaraf.

 

Cofnodion:

Roedd David Jones wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda’r Aelod  Cabinet Sara Burch.

Her:

Nid oes yna gyfeiriad at doiledau sydd yn hygyrch o ran Stoma – a oes modd cynnwys hyn yn y cynllun gweithredu? e.e. arwyddion ar y drysau?

Nid ydym yn sicr ar hyn o bryd pa addasiadau sydd angen eu gwneud ond rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl doiledau yn hygyrch i bawb, ac felly, byddwn yn ymchwilio’r mater hwn. Mae adrannau eraill yn ymwybodol (e.e. Gwasanaethau Landlordiaid); byddem yn croesawu’r wybodaeth angenrheidiol gan y Cynghorydd. Fel rhan o’r cynllun gweithredu, byddwn yn darparu’r arwyddion priodol.  

Mae’r rhestr o doiledau sydd ar gael yn hen e.e. mae Llyfrgell Stryd Baker yn y Fenni a’r amgueddfa ar Stryd y Priordy wedi eu cau. Ac nid oes sôn am amseroedd agor y toiledau – byddai hyn yn ddefnyddiol iawn.  

Mae yna ddolen ar ddiwedd y strategaeth sydd yn rhoi’r wybodaeth hon ond rydym yn derbyn y pwynt fod angen diweddaru’r rhestr. Nid yw’r ddolen yn gweithio ar hyn o bryd a byddwn yn datrys hyn.  

Nid oes yna asesiad o ble y mae cyfleusterau newid babi a ph’un ai eu bod yn doiledau ar gyfer menywod neu ddynion - nid yw hyn yn cael ei ystyried yn yr Asesiad Effaith Integredig. 

Mae’r cyfleusterau yma wedi eu mapio yn y ffynhonnell sydd ar gael drwy’r ddolen a sonnir amdani uchod, ond bydd yn cael ei adolygu gyda  Map Data Cymru eleni er mwyn rhoi darlun mwy eglur o’r hyn yw’r cyfleusterau a ble yn union mae’r cyfleusterau yma. Dylai cyfleusterau newid y ddau rhyw fod ar fael gan fod hyn yn ofynnol yn ôl Llywodraeth Cymru ond byddwn yn cadarnhau hyn.  

Bydd darpariaeth ‘Gofodau Newid’ yn cael ei ‘ystyried’ - mae’ gair yma yn rhy wan o feddwl am ein huchelgais a’r gofyniad i wella ein cyfleusterau. A oes modd cynnwys rhywbeth cryfach?

Oes – mae modd cryfhau hyn.

Dywed yr arolwg fod 67% yn ystyried bod darpariaeth ar gyfer yr anabl yn annigonol. Beth sydd yn digwydd er mwyn mynd i’r afael gyda hyn – nid oes dim byd yn y strategaeth?

Mae mynediad at doiledau anabl yn medru bod yn anodd gan fod ceisio cyrraedd y Safonau Prydeinig yn medru achosi rhai ohonynt i gael eu cau gan nad yw’r dimensiynau yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau. Bydd Gwasanaethau Landlordiaid yn medru cynnig cyngor am hyn, ond mae’r arolwg yn dangos fod dau draean yn annigonol. Rydym wedi cyfeirio at ‘Ofodau Newid’ ond byddai unrhyw berson anabl yn medru cael mynediad at hyn.  

Byddai gwahaniaethu’r data yn yr arolwg am ba mor fodlon yw dynion a menywod a grwpiau eraill yngl?n â’r cyfleusterau yn ddefnyddiol iawn. 

Dilynwyd canllaw Llywodraeth Cymru ar y pryd yngl?n â chynnwys yr adroddiad ond mae modd i ni edrych unwaith eto o bosib ar ba mor fodlon yw defnyddwyr wrth i ni ystyried y pwynt hwn.   

Nid oes unrhyw sôn am ystyried gwneud rhai toiledau yn niwtral o ran rhywedd ond nid yw hyn yn cael ei ystyried yn yr Asesiad Effaith Integredig wrth i ni ystyried effaith ar leiafrifoedd e.e. y rhai sydd yn chwilio am ailbennu rhywedd ayyb.

 

At hyn, mae yna bryderon pe bai’r holl doiledau yn cael eu gwneud yn rhai niwtral o ran rhywedd, byddai yna bryderon am fenywod sydd ar ben eu hunain mewn lleoliadau fel meysydd parcio  os bydd hyn yn cael ei ystyried, bydd angen ymgynghoriad cyhoeddus llawn. Hefyd, mae yna oblygiadau o ran adnoddau sydd angen eu hystyried wrth ddarparu 3 mynediad gwahanol.

 

Oes, mae modd ystyried hyn wrth i ni symud ymlaen.

Byddai’n dda ystyried a oes yna fylchau e.e. nid oes yna doiled cyhoeddus yn  Ynysgynwraidd, lle y mae nifer yn ymweld dros yr haf. Sut ydym am fynd i’r afael gyda hyn?

Yn sgil y gost, mae’n annhebygol y byddwn yn gosod unrhyw unedau toiled newydd  – costau parhaus e.e. draenio, trydan a’r gost gychwynnol o adeiladu.  Rydym yn medru cysylltu gyda chyfleusterau preifat yn yr ardal er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn medru cael mynediad at doiled. Mae’r nifer sydd yn y sir yn dda ar y cyfan h.y. mae 18 bloc a 29 arall sydd â chyfleusterau ond mae angen i ni sicrhau eu bod yn y lleoedd cywir. Ond mae llawer o’r  adborth yn dda iawn e.e. yngl?n â’r ddarpariaeth ar gyfer yr anabl yng Ngorsaf Fysiau’r Fenni ac mae angen ystyried sut y mae’r arolwg yn tueddu i wyro at adborth negatif. Ond mae’n syniad dilys  ein bod yn ail-ystyried yr arolwg. Er nad oes cyllid gennym ar hyn o bryd i adeiladu unedau newydd, rhaid i ni edrych ar gyrchfannau twristaidd yn y sir.  

A yw’r oriau agor yn crebachu o ran y toiledau sydd gennym? Mae cau’n gynnar yn broblem os mai’r rheswm am hyn yw pryderon am gymryd cyffuriau gan nad ydym yn cau’r parciau neu’r cyfleusterau eraill  am y rheswm hwn.

Nid yw oriau agor ein darpariaeth gyfredol wedi eu heffeithio gan gyngor gan Heddlu Gwent yngl?n ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac maent yn hyblyg e.e. byddant yn cael eu hymestyn yn ystod digwyddiadau fel G?yl Fwyd y Fenni.

Rwy’n anghytuno fod yna doiledau o fewn pellter cerdded i Lôn y White Horse. A fyddai’r Cyngor yn ystyried cytundeb gyda Chyngor Tref y Fenni er mwyn ystyried a oes modd rhannu cyfrifoldeb neu drafod a oes yna mecanwaith er mwyn caniatáu eu hail-agor?

Mae’n anarferol fod cynifer o doiledau ar gyfer poblogaeth o faint y Fenni: Iard y Bragdy, Stryd y Castell, yr orsaf fysiau,  Wetherspoons, Morrisons, ayyb. Pan drafodwyd hyn o’r blaen gyda’r  ATC, nid oeddynt ‘yn gwrthwynebu’ CSF yn cau toiled Lôn y White Horse. Mae’r sylwadau negatif am gyflwr y toiled yn yr adroddiad a’r ffigwr uchel sydd angen ar gyfer ei atgyweirio/ailwampio yn esbonio pam ei fod wedi ei gau. Yr Heddlu oedd wedi nodi fod hwn yn bwynt penodol ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ond byddai modd i Aelodau i ail-ystyried y mater.  

Mae’r pwynt Cyffordd Twnnel Hafren sydd yn yr adroddiad yn hanfodol. Mae cdaw toiledau yn rhad ac am ddim yn bwysig iawn. Mae’r cyfleusterau newid babanod hefyd yn bwysig iawn. Pan fydd y toiledau yma yn cau, maent yn dod yn fwy o darged ar gyfer fandaliaeth ac mae angen mynd i’r afael gyda hyn – a fyddant yn cael eu dymchwel e.e. y rhai sydd wedi eu cau ar yr  A40?

Mae’r rhain yn bwyntiau da y byddwn yn eu hystyried. O safbwynt yr A40, mae’n gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru gan ei fod yn gefnffordd ond mae modd i ni ofyn iddynt hwy am ddiweddariad.  

Pam fod yr amcangyfrif ar gyfer atgyweirio Lôn Whitehorse mor uchel, sef £93k?

Gwasanaethau Landlordiaid oedd wedi darparu’r ffigyrau ar ôl ymweld gyda’r holl doiledau. Mae’r ffigwr yn gymharol uchel  - rydym wedi cael gwybod bod yna broblemau gyda’r to a’r draeniau ond mae modd i ni ofyn am fanylion pellach.   

Crynodeb y Cadeirydd:

Ar y cyfan, mae’r Pwyllgor yn bositif am yr ystod dda o ddarpariaeth y toiledau yr ydym yn cynnig yn Sir Fynwy. Roedd y Cynghorydd Bryn wedi codi pwynt da iawn am fod yn gyfeillgar o ran Stoma a bod arwyddion da. Mae angen egluro a oes yna gyfleusterau newid babanod yn y toiledau ar gyfer dynion a menywod.  Gofynnodd y Cynghorydd  Chandler a oes modd sicrhau bod y geiriad ‘Gofodau Newid’ yn cael ei gryfhau a beth mae’r Cyngor yn gwneud er mwyn mynd i’r afael gyda’r diffyg darpariaeth ar gyfer pobl anabl yn y sir. Yn ystod y cyfarfod ‘galw i mewn’ diweddar, roedd trigolion wedi mynegi pryder am addasrwydd a pha mor anodd yw’r toiledau anabl ar gyfer newid oedolion sy’n anabl, ac felly, mae angen ystyried hyn. Byddai’n  ddefnyddiol i wybod os mai dynion neu fenywod sydd yn cwblhau’r Arolwg Bodlonrwydd Defnyddwyr a’u hoedran. Dylid ystyried y syniad o doiledau sydd yn niwtral o ran rhywedd ond awgrymwyd cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn sgil pryderon am ddiogelwch defnyddwyr benywaidd. Mae angen arwyddion gwell. A oes modd i ni ystyried y cyrchfannau twristaidd le y mae nifer o ymwelwyr ond nid oes toiledau yno e.e.  Ynysgynwraidd? Awgrymodd y Cynghorydd Callard y dylid ystyried rhannu cyfrifoldeb gyda Chyngor Tref y Fenni ar gyfer toiledau Lôn White Horse, yn hytrach na’u cau gan nad oes yna doiledau gerllaw. Mae'r Cynghorydd  John yn cefnogi gosod toiledau yng Nghyffordd Twnnel Hafren gan nodi pa mor bwysig yw sicrhau bod y toiledau yn parhau’n rhad ac am ddim.  

Dave Jones: mae angen cywiro hyperddolen CSF i’r amseroedd agor yn yr adroddiad – CAM GWEITHREDU

Bydd Dave Jones yn cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am y toiledau ar yr A40, gan eu bod yn darged ar gyfer fandaliaeth CAM GWEITHREDU

Bydd Dave Jones yn gofyn am wybodaeth bellach gan Wasanaethau Landlordiaid am gostau, yn enwedig ar gyfer y ffigwr atgyweirio uchel ar gyfer y toiledau yn Lôn Whitehorse– CAM GWEITHREDU

 

 

Dogfennau ategol: