Agenda item

Cais DM/2021/00036 – Cynnig am swyddfa, derbynfa, siop ac annedd rheolwr. Tir i’r de o Alice Springs, Kemeys Road, Kemeys Commander, Brynbuga, Sir Fynwy.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais ynghyd â gohebiaeth hwyr a gyflwynwyd ar gyfer ei wrthod am y rheswm a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Mynychodd yr Aelod lleol dros Gobion Fawr y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mae’r busnes presennol yn gwella’r ardal sy’n ceisio denu twristiaeth o bell.

 

·         Mae’r busnes yn anelu i gael graddiad pum seren ac yn derbyn adolygiadau rhagorol gan westeion.

 

·         Bydd ymwelwyr yn cyfrannu at yr economi lleol drwy ymweld â bwytai, tafarndai a siopau lleol, yn ogystal â chyfleusterau twristiaeth.

 

·         Datblygu cynnig moethus i dwristiaid sydd angen lefelau priodol o wasanaeth a gouchwyliaeth.

 

·         Mae’r busnes yn fenter amrywiol yn gysylltiedig gyda busnes ffermio lleol fwy na dwy filltir i ffwrdd. Caiff yr holl staff presennol sy’n gysylltiedig gyda’r fferm eu cyflogi ar y fferm. Y bwriad yw i’r busnes llety gwyliau yn Alice Springs gael ei weithredu gan weithwyr arbenigol gyda sgiliau uchel.

 

·         Nid yw’n realistig bellach i wasanaethu’r gwesteion o leoliad o bell ar fferm ddwy filltir i ffwrdd. Mae angen cefnogaeth 24 awr ar y safle ar gyfer gwesteion a all gyrraedd ar wahanol adegau yn ystod y dydd neu gyda’r nos.

 

·         Mae pryder dros oedolion oedrannus a gwesteion gydag anableddau a all fod angen cymorth pan fyddant yn cyrraedd yn ystod eu harhosiad. Gallai gwesteion fynd yn wael neu gael damwain pan nad oes staff ar y safle.

 

·         Mae’r safle angen annedd Rheolwr i alluogi presenoldeb parhaus rheolwr profiadol gyda sgiliau priodol yn cynnwys hyfforddiant cymorth cyntaf. Gyda’r potensial i gael 64 o westeion ar y safle, ni ystyriwyd ei bod yn afresymol cael presenoldeb 24 awr ar y safle. Byddai’n anodd i staff ar fferm ddwy filltir i ffwrdd i ddarparu gwasanaeth o’r fath gyda’r sgiliau rheoli sydd eu hangen ar gyfer y busnes llety gwyliau.

 

·         Byddai’r rheolwr llawn-amser yn weithiwr proffesiynol profiadol ac mae’n debyg y byddai ganddo/ganddi deulu a phartner hefyd yn cael eu cyflogi ar y safle.

 

·         Mae’r Cyngor yn derbyn fod hwn yn fusnes hyfyw hirdymor a bod angen llanw argyfwng. Mae’r Cyngor yn croesawu’r llety gwyliau ac yn cydnabod y byddai annedd rheolwr yn rhoi rheolaeth effeithlon.

 

·         Yr unig fater a gyflwynwyd dros wrthod y cais yw y gallai’r safle gael ei rheoli gan staff ar y fferm ddwy filltir i ffwrdd. Gwnaed awgrym am gael gofalwr nos i gyflawni anghenion llanw argyfwng. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cydnabod gofynion rhedeg a chefnogi llety twristiaeth ansawdd uchel ar gyfer hyd at 64 o westeion.

 

·         Awgrymwyd y gellid defnyddio un o’r llety gwyliau i letya’r Rheolwr arfaethedig. Fodd bynnag, mae’r Rheolwr yn debygol i fod â phartner ac efallai blant angen ailwampio dau lety gwyliau gyda cholled sylweddol o incwm i’r safle.

 

·         Mae’r busnes angen presenoldeb rheolwr profiadol 24-awr ar y safle gydag annedd rheolwr priodol ar y safle gyda lle i bartner a theulu.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Mynegodd rhai Aelodau gefnogaeth i’r cais. Byddai cael Rheolwr llawn-amser ar y safle yn fanteisiol i’r busnes a gwesteion. Byddai’n anymarferol i staff ar y fferm ofalu am westeion o dros ddwy filltir i ffwrdd gan y byddai’n mynd â nhw ymaith o’u prif waith yn ogystal â golygu y byddai angen iddynt wneud dyletswyddau nad ydynt wedi eu hyfforddi ar eu cyfer.

 

·         Cafodd y safle ei adeiladu i safon uchel gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd yn gydnaws gyda hyn. Ystyriwyd y byddai’r adeilad newydd yn gydnaws gyda’r busnes presennol. Byddai cael adeilad mwy yn apelio at ystod ehangach o bobl gyda theuluoedd i wneud cais am swydd rheoli. Ni fyddai’r datblygiad arfaethedig yn effeithio ar unrhyw adeiladau cyfagos.

 

·         Croesawyd argymhelliad y swyddog am amod i atal yr annedd rhag dod yn adeilad preswyl. Byddai’r annedd a gynigid yn ddatblygiad naturiol ar gyfer y busnes gan roi sicrwydd i westeion.

 

·         Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau gan yr Adran Priffyrdd.

 

·         Byddai siop ar y safle yn gostwng faint o deithiau car oedd eu hangen.

 

·         Oherwydd lleoliad y safle ni fydd unrhyw effeithiau niweidiol ar fusnesau eraill yn yr ardal.

 

·         Ystyriai rhai Aelodau fod y cais yn cydymffurfio gyda TAN 6 a bod yr ymgeisydd wedi dynodi’r angen am reolwr llawn-amser ar y safle.

 

·         Mynegwyd pryder ei bod wedi cymryd dwy flynedd i’r cais gael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio.

 

·         Os cymeradwyir y cais, byddai angen amod i glymu’r annedd arfaethedig gyda’r busnes.

 

·         Mynegodd Aelodau eraill eu cefnogaeth dros argymhelliad y swyddog i wrthod y cais.

 

·         Mae nifer o dai yn lleol yn agos at y safle lle gallai rheolwr fyw.

 

·         Llety gwyliau ac nid gwesty yw’r busnes. Ystyriwyd nad oedd unrhyw ofyniad i godi t? pedair ystafell wely drws nesaf i lety gwyliau yng nghefn gwlad.

 

·         Byddai’n afresymol i un person roi cefnogaeth 24 awr.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio yr wybodaeth ddilynol i’r Pwyllgor:

 

·         Er mwyn codi annedd newydd yng nghefn gwlad mae’n rhaid fod digon o dystiolaeth o fewn y cais drwy TAN 6. Mae’n rhaid diwallu prawf swyddogaethol a gofynion ariannol i godi’r annedd.

 

·         Mae swyddogion wedi adolygu’r cais gydag ymgynghorwyr allanol ac yn llwyr gefnogi’r busnes wrth ddatblygu a hyrwyddo’r adfywio economaidd i Sir Fynwy ond daethant i’r casgliad nad oes digon o dystiolaeth drwy TAN 6 ar gyfer codi’r annedd pedair ystafell wely ar y safle hwn mewn cefn gwlad agored. Ni chafodd angen swyddogaethol ar gyfer yr annedd ei sefydlu .

 

Dywedodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wrth y Pwyllgor bod:

 

·         Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Sir Fynwy. Fodd bynnag, mae’r profion p’un ai oes angen i weithiwr cyflogedig fyw ar y safle i reoli’r fenter twristiaeth yn fater ar wahân. Ni chafodd yr holl brofion eu diwallu i alluogi codi annedd yng nghefn gwlad.

 

·         Gall gwesteion sy’n cyrraedd gael eu rheoli gan weithiwr neilltuol o’r busnes ond nid oes unrhyw ofyniad iddynt byw ar y safle.

 

·         Mae hwn yn llety gwyliau ar gyfer pob oed ac nid yw’n benodol ar gyfer ei ddefnyddio gan bobl dros 50.

 

·         Gallai staff yn gweithio shifftiau fod ar gael i ymdrin ag unrhyw broblemau a allai godi yn y llety gwyliau heb fod angen i neb fyw ar y safle.

 

·         Ni ystyrir bod ffosffadau yn y safle yn niweidiol. Byddai angen Corff Cymeradwyo Draeniad Cynaliadwy (SAB) drwy broses ar wahân i’r cais.

 

Rhoddodd yr Aelod lleol grynodeb fel sy’n dilyn:

 

·         Mae angen i’r Awdurdod ddangos cefnogaeth ar gyfer busnesau lleol a buddsoddwyr yn y busnesau hynny i ddatblygu mewn ffordd resymol.

 

·         Mae angen dealltwriaeth o’r angen i rywun fod ar y safle.

 

·         Nid mater i’r awdurdod lleol yw dweud wrth reolwr/perchennog sut i redeg eu busnes yn llwyddiannus.

 

·         I’r busnes weithredu mae angen i rywun fod yn byw ar y safle. Gallai hyn fod yn gwpl, efallai gyda phlant. Dyma’r rhesymeg dros gael adeilad gyda phedair ystafell wely.

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi buddsoddi yn helaeth ac yn gwybod sut mae angen i’r busnes weithredu.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir B. Callard a’i eilio gan y Cynghorydd Sir J. Butler y dylid gwrthodi cais DM/2021/00036 am y rheswm dilynol:

 

Ni ddangoswyd yn rhesymol fod yr Annedd Menter Wledig arfaethedig yn diwallu profion Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (Gorffennaf 2010). Nid oes tystiolaeth ddigonol i ddangos y byddai angen i weithiwr newydd fod yn byw ar safle’r fflatiau ac na allai’r safle gael ei reoli’n ddigonol gan rywun yn byw’n agos neu gan fwy nag un person yn gweithio mewn shifftiau.

 

Pan roddwyd y mater i’ bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:

 

Cytuno i wrthod y cais                      - 10

Anghytuno i wrthod y cais                  -           3

Ymatal                                                             -           0

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gwrthod cais DM/2021/00036 am y rheswm dilynol:

 

Ni ddangoswyd yn rhesymol fod yr Annedd Menter Wledig arfaethedig yn diwallu profion Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (Gorffennaf 2010). Nid oes tystiolaeth ddigonol i ddangos y byddai angen i weithiwr newydd fyw ar safle’r fflatiau ac na fedrai’r safle gael ei reoli’n ddigonol gan rywun yn byw’n agos neu gan fwy nag un person yn gweithio mewn shifftiau.

 

Dogfennau ategol: