Mae recordiad o’r cyfarfod ar gael
i’r cyhoedd ac mae’n rhoi sylwadau a fynegwyd gan
aelodau o’r cyhoedd yn y cyfarfod. Yn ychwanegol, caiff
adroddiad manwl ei baratoi yn dilyn y cyfarfod craffu i roi
adroddiad llawn o’r cyfraniadau cyhoeddus sylweddol i’r
cyfarfod, i’w gyflwyno i’r Cyngor ar 19 Ionawr
2023,
Adroddiad Cadeirydd y
Pwyllgor Craffu Pobl, Penderfyniad Galw-i-Mewn Canolfan Ddydd
Tudor.pdf (monmouthshire.gov.uk) . Cafodd y sylwadau dilynol eu mynegi gan aelodau
o’r cyhoedd. Ni all y cofnodion roi sylwadau ar gywirdeb
unrhyw un o’r datganiadau, a gafodd eu crynhoi dan benawdau
er mwyn hwlustod cyfeirio.
Yr hyn a awgrymodd pobl fod Canolfan Ddydd
Stryd Tudor yn ei gynnig iddynt
- Dywedodd pobl fod Canolfan Ddydd Stryd Tudor
yn cynnig amgylchedd canolog, diogel a thwym ar gyfer pobl fregus
gydag anableddau dysgu i gymdeithasu gyda ffrindiau a gwneud
amrywiaeth o weithgareddau. Dywedodd pobl fod Canolfan Ddydd Stryd
Tudor yn golygu llawer mwy nag adeilad ffisegol iddynt –
mae’n gweithredu fel hyb, lle i go iddo ar gyfer pobl o bob
cefndir i fagu eu hyder, dysgu sgiliau
bywyd ac ennill cymwysterau. Clywodd Aelodau y teimlid fod Canolfan
Ddydd Stryd Tudor yn fan lle roedd cyfeillgarwch ystyrlon yn cael
ei ffurfio rhwng defnyddwyr gwasanaeth a’r gymuned yn
ehangach, oedd yn mynychu eu digwyddiadau codi arian. Mae hefyd yn
rhoi seibiant ar gyfer gofalwyr o gyfrifoldebau gofalu
24/7.
- Dywedodd pobl wrth y pwyllgor craffu fod
lleoliad canolog Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn y Fenni yn rhwydd
iddynt ei gyrraedd a bod ganddo’r cyfleusterau addas, tebyg i
wely newid a chyfleusterau toiled i’r anabl oedd yn gweddu
llawer o bobl gydag anableddau dysgu, ond nid rhai gydag anghenion
cymhleth dybryd. Dywedodd rhai pobl wrth y pwyllgor na fedrai eu
perthnasau ddefnyddio’r ganolfan oherwydd nad yw’n
darparu ar gyfer anghenon pobl gydag anableddau difrifol, yn
arbennig rhai sydd angen hydrotherapi, hoistau nenfwd a gofodau
synhwyraidd, a gaiff eu darparu mewn cyfleusterau a adeiladwyd yn
bwrpasol tebyg i’r safle yng Nghwmbrân.
- Siaradodd pobl sut yr oedd ‘Fy
Niwrnod, Fy Mywyd’, pan oedd yn gweithredu yng Nghanolfan
Ddydd Stryd Tudor cyn y pandemig, wedi galluogi pobl i wneud
cynlluniau personol a dewis pa weithgareddau yr hoffent eu gwneud.
Soniodd pobl am bwysigrwydd cael dewis gwasanaethau dydd a/neu fod
yn y gymuned, gan esbonio nad yw gweithgareddau yn y gymuned ar ben
eu hunain yn cefnogi adeiladu cyfeillgarwch yn yr un ffordd.
Dywedwyd mai’r cyfan roeddent ei eisiauoedd gweld eu
ffrindiau mewn amgylchedd diogel a thwym oedd â’r
cyfleusterau priodol ar gyfer eu hanghenion.
Sut y dywedodd pobl eu bod yn teimlo am
gau’r Ganolfan Ddydd
- Dywedodd rhai pobl sut y teimlent eu bod
wedi colli’r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau yr
oeddent yn arfer eu gwneud, lle roeddent yn medru ennill sgiliau
bywyd gwerthfawr a chymwysterau oherwydd fod y ganolfan wedi cau.
Dywedodd gofalwr wrth aelodau nad yw gweithgareddau yn y gymuned yn
rhoi fawr o ysgogiad i bobl gydag anableddau dysgu a bod
cau’r ganolfan wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd
meddwl. Esboniodd un person nad oedd bron byth yn cwrdd gyda
ffrindiau ers y cau, os nad oedd cyfleuster My Mates, ac anaml oedd
hynny yn digwydd. Dywedodd rhai pobl fod cau’r ganolfan wedi
gwaethygu eu hunigrwydd ac ar wahanrwydd.
- Un o’r rhesymau a esboniwyd i’r
pwyllgor craffu pam fod pobl gydag anableddau difrifol yn ei chael
yn anodd cael mynediad i weithgareddau yn y gymuned yw bod y
cyfleusterau toiled mewn caffes a siopau yn anaddas. Awgrymwyd fod
angen rhoi mwy o ystyriaeth i anghenion pobl.
- Awgrymodd un person fod Parc Mardy (fel
canolfan amgen) yn darparu gwasanaeth gwahanol a’i fod yn
anodd ei gyrraedd. Dywedodd pobl wrth aelodau y byddai cau Canolfan
Ddydd Stryd Tudor yn barhaol yn “cael effaith negyddol
sylweddol ar ddefnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a staff
cymorth”.
Yr hyn y dywedodd y cyfranwyr i’r
Fforwm Agored i’r Cyhoedd fod defnyddwyr gwasanaeth ei
angen
- Awgrymodd rhywun fod diffyg darpariaeth
canolfan ddydd yng ngogledd y Sir a bod angen i’r Cyngor roi
mwy o ystyriaeth i’w benderfyniad ac ystyried sut y gellid
gwella gwasanaethau, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth wrth
lunio’r cynnig. Awgrymodd rhywun y cafodd y penderfyniad ei
seilio ar gost ac na ddylid bod wedi wedi ei gymryd cyn gorffen
adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau. Dywedwyd nad oedd y broses
ymgynghori wedi rhoi unrhyw fanylion pa ddarpariaeth y gellid ei
chynnig yn lle’r hyn a gollir.
- Er nad cylch gorchwyl Canolfan Ddydd Stryd
Tudor yw darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n dioddef o
broblemau iechyd meddwl ac nad oedd pobl yn cael eu cyfeirio
i’r ganolfan ar gyfer cymorth iechyd meddwl, awgrymodd un
person fod pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn
ogystal â phobl gydag anableddau dysgu yn mynychu’r
ganolfan a’i fod yn helpu i’w gwneud yn llai ynysig a
magu eu hyder.
- Siaradodd pobl am yr angen am gyfleusterau
neilltuol a chanolfan ganolog y gellid ei hymestyn i’r
gymuned ehangach i alluogi pobl i ddod ynghyd, rhannu profiadau,
dysgu a gwneud ffrindiau.
- Yn nhermau pobl gydag anableddau dysgu yn
medru talu am gynorthwywyr personol a gofalwyr yn lle defnyddio
gwasanaethau dydd, dywedodd rhywun mai bwriad cyllidebau personol
oedd rhoi dewis i bobl, nid disodli gwasanaethau. Teimlai rhai pobl
fod cau Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn dileu gwasanaeth, er fod
model ‘Fy Niwrnod Fy Mywyd’ yn parhau mewn ffordd
wahanol. Esboniodd un person sut na all pobl sydd angen cymorth un
i un gael mynediad i lawer o weithgareddau ‘My Mates’
sy’n tueddu i gynnwys ymweliadau i fwytai, y sinema neu
gyngherddau pop. Awgrymwyd fod y rhain yn rhu ddrud ar gyfer y rhan
fwyaf o bobl ac yn tueddu i fod gyda’r nos gan fwyaf, na
fyddai’n addas i rai.
- Soniodd aelod arall o’r cyhoedd am
ddiffyg cyfleoedd yn y gymuned yn Sir Fynwy, yn arbennig yn y
Fenni, ar gyfer pobl gydag anghenion cymhleth iawn na fedrir
darparu ar eu cyfer mewn caffes neu leoedd yn y gymuned.
Cadarnhaodd un person nad oedd Canolfan Ddydd Stryd Tudor yn addas
ar gyfer pobl gydag anghenion cymhleth dybryd a thynnu sylw at
ddiffyg darpariaeth seibiant yn y sir ar gyfer pobl gydag anghenion
cymhleth. Siaradodd pobl am yr angen am gefnogaeth i bobl ifanc
sy’n gadael anghenion addysgol arbennig a throsglwyddo i fyd
oedolion, sy’n symud neilltuol o anodd.
Materion ehangach a godwyd gan y
cyhoedd
- Awgrymwyd fod y penderfyniad yn rhoi
blaenoriaeth i anghenion un gr?p bregus o bobl (pobl ddigartref)
dros anghenon gr?p arall (pobl gydag anableddau dysgu). Awgrymwyd
nad oedd y bwriad i symud ymlaen â’r cais cynllunio i
osgoi newidiadau deddfwriaethol yn ymwneud a llifogydd yn gydnaws
gydag athroniaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015,
na’i nod o ‘gynnwys pobl fel partneriaid cyfartal wrth
wneud penderfyniadau’. Awgrymwyd bod angen ymgysylltu ar-lein
am y penderfyniad.
- Codwyd pryderon am y broses ymgynghori a
ph’un ai oedd y lythyr at ddefnyddwyr gwasanaeth fel rhan
o’r broses ymgynghori ffurfiol wedi ei ysgrifennu yn ysbryd
Deddf Cydraddoldeb 2010 yng nghyswllt hygyrchedd. Awgrymwyd fod
diffyg ymgysylltu ar-lein am y penderfyniad, gan weithio yn erbyn
yr ymdeimlad o ddialog agored a thryloyw.
Diolchodd y Cadeirydd i’r cyhoedd am
gymryd rhan, a dywedodd bod y pwyllgor yn croesawu ac yn
gwerthfawrogi eu cyfraniadau. Dywedodd y byddai’r Pwyllgor yn
dechrau trafod y mater.