I gytuno ar unrhyw risgiau yn y dyfodol ar gyfer eu craffu
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad hyfforddi byr gan Richard Jones a Hannah Carter ar reoli risg ac atebwyd cwestiynau'r aelodau. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau mai rôl y pwyllgor yw bodloni ei hunain o ran y dull gweithredu a fabwysiadwyd a phe byddai'r pwyllgor yn dymuno craffu'n fanwl ar unrhyw risgiau, byddai'r Aelod Cabinet perthnasol yn cael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol i graffu ar y risg dan sylw.
Her:
Gan gydnabod fod hwn yn gyfnod eithriadol a bod pob cyngor yn mynd ati i ymdrin â’i gofrestr risg strategol yn yr un modd, gan ailwerthuso’r dewisiadau y maent yn eu gwneud mewn modd beirniadol. Gan edrych ar y 39 risg a nodwyd dros gyfnod o 3 blynedd, ar ôl 3 blynedd o gamau lliniaru, mae 23 yn parhau i fod yn risg uchel. Mae hyn yn rhywbeth sy’n peri pryder mawr i mi, o ystyried bod y mesurau lliniaru eisoes wedi’u cynnwys. Os gwelwch yn dda a gawn ni ymateb gan yr uwch dîm arwain ar hyn. Cam Gweithredu: Richard Jones a Hazel Ilett.
Mae eich pwynt am lefelau risg yn un teg. Mae'n bwysig ein bod yn eu hasesu'n gywir ac mae'n bosibl bod rhai o'r ffactorau sy'n ymwneud â'r risg y tu hwnt i'n rheolaeth, sy'n golygu, er ein bod yn rhoi ein mesurau lliniaru ein hunain ar waith, eu bod yn parhau i fod yn risg uchel a'r asesiad cymesur yw efallai na fydd y rhain yn lleihau. Ond mae angen inni ystyried y lefelau risg ac a ydym yn gwneud digon i'w lliniaru os yw lefel y risg yn dal yn uchel. Efallai y bydd rhai o'r mesurau lliniaru yn cymryd amser i’w rhoi ar waith, ac o ganlyniad yn cymryd amser i ostwng lefel y risg.
Rydym yn edrych ar hyn drwy brism yr Awdurdod Lleol a’r risg, efallai, na fyddwn yn gallu darparu gwasanaethau fel y dymunwn, ond yr hyn nad ydym yn ei gynnwys yw’r risg i ddefnyddwyr gwasanaethau os na allwn ddarparu gwasanaethau i'r safon a ddymunwn ac felly, pa asesiad sydd wedi ei wneud o'r risg i ddefnyddwyr gwasanaeth allweddol a sut y byddai'n effeithio ar eu bywydau? Da o beth fyddai i ni weld y risg o safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth yn hytrach na’r Cyngor yn unig. A fyddech cystal â gofyn am ymateb ynghylch a ddylem wneud mwy i ddeall risg drwy lygaid y defnyddiwr gwasanaeth. Cam Gweithredu Richard Jones a Hazel Ilett.
Mae'r gofrestr risg strategol yn ymdrin â rhai o'r effeithiau ar bobl, ond derbynnir eich pwynt yngl?n â hyn gan mai cofrestr risg cyngor yw hwn. Er enghraifft, ar gyfer risg 11, sef datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd, rydym wedi ceisio dal y risg barhaus i’r gymuned, yn ogystal â'r risg i'n gwasanaethau ein hunain. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ac mae rhai o’r risgiau’n cael eu rhannu ar draws partneriaid a chymunedau.
Tudalennau 53-54, mae’r adroddiad yn dechrau datgan bod cyllidebau wedi’u lleihau dros nifer o flynyddoedd ac mae’n cyfeirio at gyllidebau nad ydynt yn solfent, a allwch wneud sylwadau ar hynny?
Mae hwn yn gwestiwn eithaf penodol ac yn un a fyddai'n fwy priodol i berchennog y risg. Cam Gweithredu: Richard Jones a'r uwch swyddog
Gan gydnabod bod angen i’r perchnogion risg ateb o ran y manylion, mae fy nghwestiwn yn ymwneud â ble mae lefel y risg wedi newid o ganlyniad i fesurau lliniaru, megis risg 4 ar recriwtio, lle ar ôl lliniaru, mae’r risg yn parhau i fod yn ‘bosibl’. Mae’r camau gweithredu yn bethau y byddwn wedi gobeithio y byddai’n cael eu cymryd beth bynnag, felly beth yw’r broses o ran y ffordd y caiff y risgiau yma eu hasesu? A yw’r cabinet yn gwneud hyn, a ydych chi’n gwneud hyn? Neu ai cyfrifoldeb deiliad y risg yw hyn?
Mae hyn yn cael ei wneud gan berchennog y risg, gyda chefnogaeth gennym ni er mwyn i ni allu cynnig barn wrthrychol. Mae’r enghraifft yn ymwneud â chwestiwn blaenorol y cadeirydd ynghylch a yw lefelau risg yn newid ar ôl i fesurau lliniaru risg gael eu rhoi yn eu lle, a chan fod rhai risgiau y tu allan i’n rheolaeth, weithiau mae’r risg yn parhau’n uchel er gwaethaf mesurau lliniaru. Felly pan fo lefelau risg yn lleihau, mae hyn fel arfer o ganlyniad i’n mesurau lliniaru ein hunain ac rydym yn gorfod gwneud dyfarniad gwybodus dan arweiniad y rhai sy'n gyfrifol am y risg, gan ystyried adborth gan aelodau etholedig yn ogystal â’r cyhoedd.
Mewn perthynas â risg 2 a’r sefyllfa ariannol bresennol a’r risg y gallai rhai gwasanaethau ddod yn anghynaladwy yn ariannol, mae hon yn iaith ddiddorol, o ystyried bod llawer o wasanaethau yn statudol ac nad oes modd cael gwared ohonynt.
Rydym yn ceisio adlewyrchu’r materion sy’n llywio’r risg yn ogystal â’r ffordd yr ydym yn ceisio ymateb iddynt, sut rydym yn cynllunio ac yn rheoli ein cyllideb a sut rydym yn gosod y risg yn unol â hynny, gan nodi’r rhesymau dros y risg. Rydym yn ceisio rhoi’r pennawd mwyaf cywir â phosibl i chi a rhoi mwy o gyd-destun i chi o ran y manylion y tu cefn i'r risg.
Mae gen i ddiddordeb yn y cydadwaith rhwng y 'risg sef y tebygolrwydd y bydd pethau drwg yn digwydd' ac rwy'n meddwl bod y tebygolrwydd y bydd pob un ohonynt yn digwydd yn isel tra bod y tebygolrwydd y bydd un ohonynt yn digwydd yn uchel, felly fy mhryder i yw sut y mae un yn effeithio ar y llall, adnoddau er enghraifft.
Mae’n rhaid i ni nodi beth yw’r risgiau ond hefyd sut y maent yn cysylltu â’i gilydd, er mwyn sicrhau ein bod yn deall sut y maent yn effeithio ar ei gilydd, ond cofrestr risg fyw yw hon, felly mae angen inni feddwl am sut mae rhai o’r risgiau mawr fel y rheini rydych wedi nodi, yn effeithio ar risgiau presennol, gan greu risg newydd o bosibl.
Crynodeb y Cadeirydd:
Er bod llawer o wasanaethau yn statudol, gellir eu lliniaru a'u newid. Ymddengys mai un maes i’w ystyried yn y dyfodol yw adnoddau o’r drafodaeth yr ydym wedi’i chynnal heddiw, felly gallem wahodd y swyddog cyfrifol a’r aelod cabinet, gan fod y risg hon yn effeithio ar y gallu i gyflawni popeth arall.
Gan gydnabod bod y ddogfen yn ddogfen fyw, mae'r pwyllgor yn dymuno dod â hyn yn ôl ymhen 3 mis, er mwyn caniatáu amser i'r swyddog gweithredol weithio drwy'r camau lliniaru. Os oes gan Aelodau risgiau penodol yr hoffent graffu arnynt, a fyddech cystal â thynnu sylw at y rhain fel y gallwn wahodd y deiliaid portffolio perthnasol. Cytunodd y pwyllgor i gynnig yr adroddiad.
Dogfennau ategol: