Agenda item

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

I graffu ar berfformiad yn erbyn y cynllun gweithredu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Sharon Randall Smith yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda'r Aelod Cabinet Martyn Groucutt.

 

Her:

 

Gwelaf gyfeiriad at ysgol Gymraeg newydd yn Nhrefynwy ac mae’r adroddiad yn amlygu goblygiadau o ran adnoddau. A yw'r prosiect wedi'i ddiogelu'n llawn? O ystyried y sefyllfa bresennol o ran y gyllideb, a allai’r ysgol fod yn amodol ar arbedion?

 

Rydym yn ymwybodol iawn o’r sefyllfa bresennol.  Er mwyn sefydlu’r dosbarth egin, mae angen cyllid gan Lywodraeth Cymru sef 100%, ond mae angen inni hefyd ystyried costau refeniw rhedeg yr ysgol, a fydd yn fach yn y lle cyntaf am yr ychydig flynyddoedd cyntaf wrth inni dyfu’r egin, ond bydd y costau’n cynyddu. Wedi dweud hynny, ni fydd disgyblion sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn dewis cyfrwng Saesneg, felly disgwyliwn cydbwysedd yn y pen draw.  Mae hyn yn rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono wrth symud ymlaen.

 

Wrth gymharu Sir Fynwy ag awdurdodau cyfagos fel Torfaen sydd â rhestr aros, yr ydym yn dal i fyny a thybed a yw’r ffaith bod gennym ysgol yn y categori mesurau arbennig yn rhwystr i rieni? 

 

Aelod Cabinet: Yn ein 2 ysgol cyfrwng Cymraeg bresennol, mae gennym ddarpariaeth feithrin lawn. Mae’r egin newydd yn cael ei sefydlu yn Nhrefynwy, a fydd yn cynnig gofal cyn ac ar ôl ysgol llawn. Dylai hyn gymell rhieni i roi eu plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae addysg yn bwysig trwy gydol ein oes, felly o ystyried y cynnig o ran addysg feithrin, bydd hyn yn cymharu’n ffafriol â’n hawdurdodau cyfagos.

 

O ran y fforwm WESP, a ydynt wedi derbyn y cynllun gweithredu? Pa broblemau a godwyd ac a yw’r rheini wedi’u lliniaru, o ran pa mor realistig yw’r uchelgais?

 

Mae'r cynllun gweithredu wedi'i gyflwyno i'r fforwm a bu iddynt gyfrannu at y fersiwn derfynol, ynghyd â chynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, cyn i'r cynllun gael ei adrodd i Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi mai ni sy’n gyfrifol am y WESP ac fe ymgysylltwyd yn helaeth gyda’r fforwm. Roeddent yn falch o weld yr uchelgais ond yn roeddynt hefyd yn cydnabod yr angen am linell sylfaen.

 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y problemau sy’n ymwneud â’r gweithlu ac mae’n cyfeirio at y cynllun gweithlu cenedlaethol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru. A oes diweddariad pellach ar hynny?  Ac wrth ddatblygu ac ehangu’r ddarpariaeth mewn ysgolion, mae gwella gallu staff o ran y Gymraeg mewn ysgolion cynradd (o’r lefel ganolradd i’r lefel uwch) yn gam cymharol fach ac mae gennym gryn dipyn o staff y gellir eu datblygu ar y lefel honno, ond o ran gallu staff ysgolion uwchradd, mae datblygu staff o lefel gallu sylfaenol iawn yn dasg llawer mwy, felly sut ydym ni’n mynd i weithio gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau lefelau uwch o ran gallu?

 

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â’r gwasanaethau canolog ac wedi cynnal arolwg staff er mwyn cael syniad o’n capasiti a gallu er mwyn ein galluogi i ddatblygu cynllun cynhwysfawr i gefnogi a chynyddu gallu staff.  Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg i ddatblygu gallu ieithyddol ar lefel gynradd ac uwchradd. Gwyddom mai llinell sylfaen yw’r wybodaeth sydd o fewn y cynllun ac rydym yn ymwybodol fod mwy o siaradwyr Cymraeg na’r hyn a amlinellir yn y cynllun, felly byddwn yn mynd ar drywydd hynny. Rydym hefyd yn deall fod rhaglen sabothol Llywodraeth Cymru, sy’n flwyddyn o hyd, wedi bod yn llwyddiannus dros ben ac rydym wedi rhoi’r adborth yma iddynt gan ofyn a oes modd ymestyn y cynllun. Mae’r cynllun wedi galluogi staff, nid yn unig, i gynyddu eu gallu ond i ddychwelyd i'r ysgol gyda syniadau ar sut i wreiddio'r Gymraeg yn yr ysgol. Pe byddai’r cyfleoedd yma ar gael ar lefel uwchradd hefyd, byddai hynny o fudd. O ran y continwwm o addysg gynradd Saesneg i addysg uwchradd Gymraeg, mae rhywfaint o ddiddordeb wedi bod, ond mae cryn dipyn o amser i fynd nes bydd hyn yn digwydd. 

 

Beth yw ein huchelgais ar gyfer addysg uwchradd Gymraeg yn y sir? Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’n cymydog, Torfaen,ond ai’r uchelgais yw datblygu ein darpariaethau ein hunain ac os felly, beth fyddai hynny’n ei olygu i ni yn ariannol?

 

Aelod Cabinet:  Ar hyn o bryd bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod yn darparu darpariaeth uwchradd yng Nghasnewydd a Thorfaen. Rydym yn cynnal trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos ynghylch cynigion ar gyfer y dyfodol, os bydd nifer yn disgyblion yn cynyddu. Y ffactorau pwysig yw ansawdd y ddarpariaeth a'r pellter sydd angen ei deithio.  Er enghraifft, byddai teithio i Gasnewydd neu Torfaen yn siwrne hir i ddisgyblion Trefynwy, y Fenni neu Grughywel, felly rydym yn cynnal trafodaethau gydag awdurdodau cyfagos er mwyn ystyried pa ddarpariaeth y gallai fod ei hangen yn y dyfodol yng ngogledd y sir. Ond, er mwyn egluro pam nad yw hyn yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, mae'n werth tynnu sylw at y ffaith, er mwyn i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg fod yn llwyddiannus, byddai angen inni ddarparu’r addysg yn ei gyfanrwydd ac er mwyn i hynny fod yn hyfyw byddai angen y niferoedd priodol o ddisgyblion.   Byddai'n ofynnol bod ansawdd y ddarpariaeth o safon uchel ac yn debyg i'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg. Byddai goblygiadau staffio hefyd, mewn perthynas â gallu staff yn y Gymraeg a byddai angen ystyried y cludiant o'r cartref i'r ysgol. Ar hyn o bryd rydym yn cael problemau gyda chludiant o’r cartref i’r ysgol gan ein bod yn cael trafferth dod o hyd i ddarparwyr. Rydym felly’n defnyddio’r Uned Cludiant Teithwyr, ond mae hon yn broblem sy’n dod yn fwy fwy i’r amlwg, ac felly mae’n fwy cymhleth wrth ystyried hynny. Byddwn yn adolygu cludiant o’r cartref i’r ysgol yn fuan, a bydd hyn yn cynnwys ystyried cludiant i ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion ffydd i sicrhau nad yw’r plant hynny ar eu colled. Felly, cawn weld sut y mae niferoedd y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn tyfu, ond mae ansawdd y ddarpariaeth a’r pellter a deithir yn ddau ffactor pwysig. 

 

Mae darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn hawl sylfaenol ac yn bwysig o ran cryfhau’r iaith, ond gan gydnabod yr heriau yr ydym wedi siarad amdanynt ar lefel uwchradd a’r ffaith ein bod yn sir ar y ffin, os ydym am gynyddu lefel y siaradwyr Cymraeg, sut byddwn yn gwella ansawdd y dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd? Os oes llawer o ddisgyblion yn dod i ysgolion Sir Fynwy o dros y ffin, rwy’n pryderu y gallai disgyblion weld dosbarthiadau Cymraeg fel gwastraff amser, felly sut y byddwn yn ceisio annog yr awydd i siarad Cymraeg ymhlith disgyblion ac yna sicrhau nad yw’n darpariaeth yn fratiog?

 

Rydych yn llygad eich lle. Mae bod yn sir ar y ffin yn cyflwyno heriau, ond rydym yn gwneud llawer o waith o ran hyrwyddo manteision dwyieithrwydd o oed ifanc gan bwysleisio ei bod yn llawer haws dysgu trydedd a phedwaredd iaith os ydych wedi bod yn ddwyieithog yn ifanc. Mae fforwm WESP yn hyrwyddo hyn ac rydym yn gwneud rhywfaint o ffilmio yn un o'n hysgolion. Er mai plant iau fydd yn cael eu ffilmio, y gobaith yw y bydd y ffilm yn helpu disgyblion uwchradd i ddeall y pwysigrwydd.  Mae ysgolion yn gweithio gyda ni er mwyn eu cynorthwyo i ddeall y bydd nifer o yrfaoedd yn gofyn am y gallu i siarad Cymraeg, ond rydym hefyd yn edrych ar sut y gellir egluro’r manteision ehangach a’r cyfleoedd sy’n codi wrth siarad Cymraeg os ydynt yn dewis byw yng Nghymru. Teimlwn y bydd y cwricwlwm newydd yn helpu hefyd.

 

Aelod Cabinet: Mae Sharon wedi cyfeirio at y defnydd o ffilm a’r cyfryngau a bydd yn bwysig dangos ei fod yn rhan o fywyd Sir Fynwy. Yn Ysgol y Brenin Harri 25 mlynedd yn ôl, ni fyddech wedi clywed gair o Gymraeg yn cael ei siarad, ond mae'n wahanol iawn nawr a bydd y cwricwlwm newydd yn helpu. Mae’r elfen drawsffiniol yn bwysig oherwydd bydd y cwricwlwm yn wahanol iawn i’r addysg y bydd plant Saesneg yn ei gael, felly bydd yn rhywbeth y bydd angen i rieni ei ystyried - mae’r cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar ystyried pobl ifanc yn  ‘fwy o feddylwyr a symudwyr’ na  ‘derbynwyr gwybodaeth' yn unig - dyna'r gwahaniaeth. Mae'n gyfnod cyffrous iawn o ran addysg yng Nghymru felly gobeithiwn y bydd rhieni o ochr arall y ffin yn dewis anfon eu plant atom. 

 

O ran argyhoeddi pobl ifanc ynghylch gwerth bod yn ddwyieithog, a ydych chi’n meddwl y gallai’r ffocws ar ragolygon swyddi apelio’n fwy at rieni na phobl ifanc eu hunain? Sut ydych chi'n olrhain barn pobl ifanc ar werth dysgu Cymraeg?

 

Rwy’n deall eich pwynt yngl?n â chynnwys disgyblion a gofyn beth yw eu barn ac rydym yn ymgysylltu ag ysgolion ar hyn. Oes, mae angen inni sicrhau eu bod yn deall y gwerth o ran rhagolygon swyddi, ond rydym hefyd am iddynt fwynhau siarad Cymraeg. Nid dim ond pan ddaw addysg i ben y mae gyrfaoedd yn dechrau, mae gennym y 'diwrnod dod â'ch rhieni i'r ysgol' a mentrau eraill lle mae siarad Cymraeg wedi'i wreiddio.

Aelod Cabinet: yn hanesyddol, roedd plant yn cael eu cosbi am siarad Cymraeg yn yr ysgol ac mae Cymru bellach yn ailymddangos a’r iaith yn cael cyfle i flodeuo ar ôl blynyddoedd o ormes.

 

Rydym wedi sôn am ddisgyblion yn dod o dros y ffin i ysgolion Sir Fynwy ond a oes gennym unrhyw ddata ar y rhai sy'n gwneud y gwrthwyneb?

 

Mae’n gwestiwn diddorol i sir ar y ffin ac yn aml mae llanw a thrai - plant yn dod i Sir Fynwy a phlant yn gadael - dros amser. Nid wyf yn meddwl fod gan hyn dddim i’w wneud â’r Gymraeg na’r cwricwlwm, ond maent yn mynd i gyfeiriadau gwahanol iawn yn awr. Mae gennym ffigurau yn ein huned mynediad a allai ddangos hyn ond mae'r rhesymau yn aml yn eang ac amrywiol ac nid ydynt bob amser yn ymwneud â'r Gymraeg.

Mae’r niferoedd yng Nghas-gwent er enghraifft wedi newid llawer, mae llawer mwy o ddisgyblion yn ymuno erbyn hyn, felly mae’r darlun yn un cadarnhaol.

 

O ran y cydweithio â Thorfaen a Chasnewydd, gyda phob cyngor yn cynyddu ei niferoedd ei hun, a ydym yn adolygu’r sefyllfa’n barhaus?

 

Ydym, rydym cynnal adolygiad manwl parhaus ac yn ceisio sicrhau bod myfyrwyr cynradd Cymraeg yn gallu symud i addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ogystal, hefyd, ag i addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd, rydym yn tybio na fydd unrhyw bwysau cyn 2028.  Bydd angen gweld sut mae ysgol Trefynwy yn mynd a bydd angen aros am gyfnod o tua 7 mlynedd i weld y tueddiadau.

 

O ran y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, yn enwedig seicolegwyr addysg, pa gapasiti sydd o fewn y consortia ar gyfer hyfforddiant arbenigol i gynyddu nifer y seicolegwyr addysg sy’n siarad Cymraeg?

 

Rydym yn cynnal archwiliad sylfaenol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac rydym yn adolygu ADY yn flynyddol, ond bydd ffocws arbennig ar y Gymraeg.  Gellir gwneud hyfforddiant drwy'r awdurdod lleol neu'r consortia addysg ac mae'r holl hyfforddiant yn ddwyieithog ac ar-lein. Ar hyn o bryd, mae angen i ni ddefnyddio rhai cyfieithwyr i gyflawni ein dyletswydd o dan y ddeddf, ond wrth i ni ddatblygu ein capasiti ar lefel uwchradd, rydym hefyd yn cynyddu’r capasiti ar gyfer ADY. Mae’n benbleth i ni, ond rydym bob amser yn chwilio am alluoedd Cymraeg wrth recriwtio.

 

Roedd gennyf ddiddordeb yn yr adroddiad diweddar a gyhoeddwyd yn genedlaethol a oedd yn cymharu nifer y siaradwyr Cymraeg dros gyfnod o tua 5 mlynedd yn adrodd am ostyngiad yn y niferoedd ac rwy’n bryderus ein bod yn gwthio gormod yn hytrach na thynnu ac annog yr awydd i ddysgu'r iaith.

 

Rydych chi'n iawn am y dirywiad ac mae eich pwynt yn un diddorol, oherwydd mae'n ymddangos bod y dirywiad o fewn yr oedran iau ac efallai bod darn o waith i Lywodraeth Cymru ei wneud ar hynny. Ni allaf roi ateb penodol, ond rwy’n derbyn eich pwynt ac rwy’n teimlo, wrth i’r iaith gryfhau yn ein sir, fod hynny’n beth cadarnhaol iawn ac mae’n rhaid ein bod yn gwneud rhywbeth yn iawn. Rwy’n cofio agor ein hysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf, felly rydym wedi dod yn bell ac yn wahanol i gadarnleoedd Cymru lle gallent fod yn fwy amddiffynnol o ran yr iaith, yma, y teimlad yw ein bod yn gwneud hyn am y rhesymau cywir. 

 

Pa mor hyderus ydym ni fod ffigurau’r cyfrifiad yn gywir, oherwydd roedd y cwestiynau’n syml iawn a gallai ymatebwyr fod yn 3 oed ac h?n, felly mewn rhai achosion, efallai bod oedolion yn ymateb ar ran plant, felly rwy’n bryderus ynghylch dilysrwydd yr ymatebion i rai o'r cwestiynau.

 

Rwy’n cytuno â phwyntiau cynharach yngl?n â gwneud i’r Gymraeg ymddangos yn ystyrlon i bobl ifanc. Rwy'n meddwl efallai y bydd disgyblion o gyrhaeddiad is yn llai argyhoeddedig na'r rhai ar lefel cyrhaeddiad uwch.

 

O ran sefyllfa Lefel A Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, a oes digon o alw am y cyrsiau? Rwy'n pryderu y gallai mentrau arbed arian arwain at ddileu cyrsiau?

 

Nid wyf yn ymwybodol o bryderon mawr ynglyn â’r arolwg, ond nid ydym yn cyfri’r ymatebion i’r cwestiwn “beth mae siarad Cymraeg yn ei olygu i chi?” am y rhesymau a nodwyd gennych. Mae Canlyniad 5 yn egluro sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu siarad a chlywed yr iaith yn y cyd-destun ehangach. 

Mae gennym niferoedd llai ac mae cyrsiau'n cael eu cynnal, ond rydym wedi dysgu llawer am ddysgu o bell yn ystod y pandemig ac efallai, os ydym yn cael problemau, fod angen i ni fod yn fwy creadigol. Mae yna hefyd E-Ysgol sy'n ddefnyddiol iawn, ond i'ch sicrhau, mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol ohono ac yn rhywbeth y byddwn yn cynllunio ar ei gyfer, ond rydym yn gobeithio cynyddu'r niferoedd dros amser.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i'r swyddogion a'r aelod cabinet am fynychu'r pwyllgor er mwyn ateb eu cwestiynau. Cytunodd y pwyllgor i gynnig yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: