Agenda item

Cais am Fangre Trwyddedig – Gwasanaeth Rhaglan, yr Orsaf, y Stryd Fawr, Rhaglan.

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi croesawu pawb i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau o’r Is-bwyllgor a’r swyddogion a oedd wedi mynychu. Esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

·         Roedd yr Ymgeisydd wedi mynychu mewn person gydag Asiant Drwyddedu a Rheolwr Ardal.  

·         Prif Swyddog Trwyddedu

·         Swyddog Trwyddedu

·         Cynghorydd Sir. P Jones, Aelod Ward ar gyfer Rhaglan

·         Clerc Cyngor Cymuned Rhaglan

·         Dau aelod o’r gymuned leol.

Roedd pawb wedi cadarnhau eu bod wedi gweld yr adroddiad a gweithdrefnau’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod yn hapus parhau heb gynrychiolaeth gyfreithiol. Byddai’r terfynau o ran amseroedd siarad yn cael eu cyfyngu yn sgil nifer y gwrthwynebwyr.   

 

Roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais am Fangre Drwyddedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 am fangre drwyddedig ar gyfer Gorsaf Gwasanaeth Rhaglan, y Stryd Fawr, Rhaglan.    

 

Gofynnwyd i aelodau o’r Is-bwyllgor i benderfynu: -

·         Caniatáu trwydded gyda'r amodau sydd  yn y cais

·         Caniatáu’r drwydded gyda’r amodau y mae’r Cyngor yn credu sydd yn briodol ar gyfer hyrwyddo amcanion y drwydded  

·         Eithrio o sgôp y drwydded unrhyw weithgareddau trwyddedig y mae’r cais yn cynnwys  

·         Gwrthod nodi person yn y drwydded fel goruchwylydd y fangre  

·         Gwrthod cais

 

Roedd yr Ymgeisydd wedi disgrifio’r  fangre fel siop nwyddau. Roedd y Cais gwreiddiol ar gyfer:

·         Gwerthu Alcohol– o’r safle – Dydd Llun i ddydd Sul 00:00 – 23.59

·         Oriau agor - Dydd Llun i ddydd Sul 00:00 – 23.59

Roedd cyfryngu rhwng yr Adran Drwydded a’r Ymgeisydd wedi arwain at gynnig i ddiwygio’r cais i 6am tan ganol nos.

 

Roedd sylwadau wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais gan Heddlu Gwent ar y sail bod y cais, ar ei ffurf wreiddiol,  o bosib yn tanseilio'r Amcanion Trwyddedu. Roedd yr Heddlu wedi gwneud cais bod yr ymgeisydd yn derbyn amodau yn ymwneud gyda Chamerâu Cylch Cyfyng, cofnodi unrhyw ddigwyddiadau ac achosion o wrthod gwerthu alcohol, hyfforddiant ar gyfer staff, a Herio 25.  Roedd Heddlu Gwent wedi tynnu’r gwrthwynebiad yn ôl ar ôl i’r ymgeisydd gytuno gyda’r amodau yma.  

 

Roedd yr Adran Drwyddedu wedi cyflwyno sylwadau ar sail Atal Niwsans Cyhoeddus, Atal Trosedd ac Anhrefn a Diogelwch Cyhoeddus fel sydd wedi ei nodi yn adroddiad y Swyddog.  Cafodd hyn ei dynnu’n ôl ar i’r Ymgeisydd dderbyn yr amod ychwanegol a oedd yn ymwneud gyda gosod ffenestr talu dros nos a thynnu’r amodau yn ymwneud gyda’r DPS a’r math o nwyddau i’w gwerthu.  

 

Derbyniwyd sylwadau gan bobl eraill a oedd yn ymwneud gyda’r 4 prif amcan trwyddedu:

·         Annog pobl i ymgynnull y tu allan i’r safle

·         Llygredd goleuadau

·         S?n o’r cynnydd mewn traffig

·         Yn achosi arolygon neu lygredd  niweidiol neu’n gas  

·         Creu sbwriel

·         Gwerthiannau procsi

·         S?n yn dod o’r nifer cynyddol o gwsmeriaid yn ymweld gyda’r safle  

Roedd y Pwyllgor wedi nodi ymateb yr Ymgeisydd i’r sylwadau yma yn adroddiad y Swyddog.  

 

Roedd y Pwyllgor wedi nod bod rhaid gwneud Sylwadau  o dan y pedwar amcan trwyddedu allweddol, sef:-

 

·         Atal trosedd ac anhrefn;

·         Diogelwch Cyhoeddus;

·         Atal niwsans cyhoeddus; a

·         Diogelu plant rhag niwed.

 

Mae’r Pwyllgor wedi gwrando yn ofalus ac wedi ystyried y sylwadau sydd yn gwrthwynebu’r cais. Yn gryno, roedd y gwrthwynebiadau allweddol yn cynnwys:

·         Annog mwy o draffig i ymweld gyda Rhaglan ar adegau amhriodol o’r dydd, gan achosi tagfeydd traffig, problemau parcio a phroblemau i gerddwyr ac effeithio ar allu trigolion a’u teuluoedd i fwynhau eu cartrefi.

·         Natur 24 awr y busnes, gan nad yw hyn yn gyson gyda chymeriad  Rhaglan ac nid oes ei angen  

·         Llygredd goleuadau sydd y tu hwnt i oriau busnes arferol yn Rhaglan.

·         Llygredd s?n ac aer o’r safle yn sgil mwy o draffig.

·         Cynnydd mewn sbwriel o’r eiddo.

·         Annog mwy i yfed alcohol sydd yn gwrthgyferbynnu gyda’r canllawiau iechyd.

·         Nid yw datblygu’r safle yn gyson gydag ardal gadwraeth.

·         Problemau’n ymwneud â Chynllunio.

 

Roedd yr Ymgeisydd, drwy’r Asiant Drwyddedu, wedi gwneud  y sylwadau canlynol:

·         Mae’r Ymgeisydd wedi cadarnhau eu bod yn dymuno siarad gyda'r gymuned gan weithio gyda’r  gymuned gan mai dyma ble y daw’r cwsmeriaid ac nid ydynt am aflonyddu unrhyw aelodau o’r gymuned .

 

·         Cadarnhaodd yr Ymgeisydd y byddent yn datblygu’r safle yn sensitif ac wedi buddsoddi arian sylweddol yn y safle er mwyn cwrdd â’r amodau trwyddedu sydd o safon uchel, a hynny er mwyn cwrdd â’r amcanion trwyddedu. Mae hyn yn cynnwys goleuadau sensitif sydd yn medru cael eu pylu, system uchelseinydd, biniau digonol ar gyfer sbwriel a thiliau sydd yn cynorthwyo ac yn gwirio oedran ar gyfer prynu nwyddau penodol. 

 

·         Cadarnhaodd yr Ymgeisydd ei fod yn gyfrifol am 15 safle tebyg ac yn brofiadol yn rhannu’r math hwn o fusnesau. 

 

·         Roedd yr Ymgeisydd wedi nodi pryderon y sawl a oedd yn gwrthwynebu ac wedi cytuno i leihau’r oriau agor i  06:00 a 23:00 rhwng dydd Llun a dydd Sul a bydd cyflenwadau yn cael eu cyfyngu rhwng 09:00 a 17:00 yn ystod y dydd. Roedd yr Ymgeisydd wedi datgan nad oedd yn bwriadu agor 24 awr y dydd ac nid oedd yn disgwyl llawer o gwsmeriaid yn hwyr gyda’r nos. 

 

·         Mae’r Ymgeisydd yn  nodi fod yna bryderon, sydd yn cael  eu cydnabod, ond nid oedd unrhyw dystiolaeth wedi ei gyflwyno i gefnogi’r gwrthwynebiadau. Nid oedd y tîm  Iechyd Amgylcheddol  wedi codi unrhyw wrthwynebiad yngl?n â’r golau neu’r s?n ac roedd yr Ymgeisydd wedi gweithio gyda chyrff cyfrifol eraill o ran yr amodau.  

 

·         Roedd yr Ymgeisydd wedi datgan bod modd defnyddio’r broses adolygu er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon amdanynt yn methu cydymffurfio gyda’u trwydded neu’r pryderon a godwyd.

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y sylwadau a wnaed a’r pedwar amcan trwyddedu allweddol. Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd y pwyllgor Cynllunio yn medru ystyried y materion cynllunio ac nid oedd yr Adran Gynllunio wedi codi unrhyw wrthwynebiad at y cais yn ystod yr ymgynghoriad.   

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad y Swyddog Trwyddedu a’r dystiolaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod gan ofyn cwestiynau. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor  y wybodaeth a ddarparwyd gan yr Ymgeisydd yn yr adroddiad, a gohebiaeth ychwanegol gan nodi’r sylwadau gan yr Ymgeisydd drwy ei asiant a’r rheolwr ardal.  

 

Roedd y Pwyllgor wedi talu sylw gofalu i’r materion a godwyd gan y rhai sydd yn gwrthwynebu’r cais, boed yn ysgrifenedig ac yn y gwrandawiad. Yn benodol, roedd y Pwyllgor wedi nodi pryderon y sawl a oedd yn gwrthwynebu’r cais yn sgil y pedwar amcan trwyddedu. 

 

Roedd y Pwyllgor wedi gofyn y cwestiynau y maent yn teimlo sydd yn berthnasol i wneud penderfyniad, 

 

Wrth ddod i benderfyniad, roedd y Cyngor wedi ystyried y canlynol:

·         Tystiolaeth gan yr Ymgeisydd;

·         Tystiolaeth gan y sawl a oedd yn gwrthwynebu’r  cais

·         Yr amodau ychwanegol a gytunwyd gan Heddlu Gwent a’r Adran Drwyddedu

Wrth ystyried yr holl faterion uchod, y ddeddfwriaeth berthnasol a’r canllawiau a’r holl amgylchiadau perthnasol, nid oedd y Pwyllgor yn credu bod rhesymau digonol, wrth ystyried amcanion Trwyddedu  4, i wrthod caniatáu grant.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi nodi’r gostyngiad yn yr amseroedd a gynigiwyd gan yr Ymgeisydd a’r cyfyngiad ar amseroedd cyflenwi.

 

Penderfynodd y Pwyllgor i ganiatáu’r cais gyda’r amodau canlynol:

·         Mae’r amseroedd ar gyfer gwerthu alcohol/agor rhwng  06:00 a 23:00, o ddydd Llun i ddydd Sul.

·         Bydd nwyddau yn cael eu cyflenwi i’r safle rhwng 09:00 a 17:00, o ddydd Llun i ddydd Sul.

·         Roedd y Pwyllgor Ardal wedi datgan fod deiliad y drwydded yn ymgysylltu gyda’r Awdurdodau Cyfrifol sy’n cynnwys Cynllunio.

 

Efallai y bydd yna apêl yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn 21 diwrnod o gael eu hysbysu o’r penderfyniad.  

 

Bydd yr Ymgeisydd yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad o fewn 5 diwrnod gwaith. 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: