Cofnodion:
Roedd Swyddogion Archwilio Cymru wedi rhoi diweddariad ar Raglen Waith ac Amserlen Ch2 Archwilio Cymru a darparu diweddariadau ar lafar er mwyn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf.
Ychwanegwyd un newid i’r archwiliadau o berfformiad ers diwedd Medi ac mae hyn yn cyfeirio at yr adolygiad o ofal sydd yn ystyried rhyddhau cleifion o’r ysbyty, a hynny o safbwynt yr elfennau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r maes gwaith wedi ei gwblhau gyda rhai cyfweliadau i’w cynnal yn Rhagfyr a bydd crynodeb drafft yn cael ei rannu yn y flwyddyn newydd. Hefyd, bydd y gweithdy sicrwydd ac asesu risg yn cael ei gynnal yn gynnar ym mis Chwefror.
Rhoddwyd diweddariad nad yw’r archwiliad o’r adroddiad cyfrifon ar yr agenda heddiw gan fod rhai materion cenedlaethol heb eu datrys. Mae’r archwiliad yn mynd yn dda gyda’r rhan fwyaf o waith wedi ei gwblhau ac nid oes yna faterion sylweddol ac eithrio’r ddau fater cenedlaethol sydd yn effeithio ar bob awdurdod lleol o ran prisio asedau eiddo (mae hyn bron wedi ei ddatrys) a’r asedau seilwaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig mesur statudol dros dro tra’n aros am ddatrysiad parhaol. Pan fydd hyn yn ei le, bydd yn bosib symud ymlaen gyda’r archwiliad o gyfrifon.
Mae gwaith yn parhau gyda Chronfa Deddf Eglwys Cymru, Ymddiriedolaeth Cronfa Fferm Ysgol Sir Fynwy a dilysu’r ceisiadau a datganiadau grant.
Cytunodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn siomedig fod y broses wedi ei hoedi ac yn golygu bod dadansoddiad o wybodaeth mewn modd amserol yn anodd. Cyhoeddwyd y cyfrifon drafft yn Awst ar gyfer y cyhoedd. Mae’r materion cenedlaethol yn siomedig ac wedi oedi’r broses archwilio, gan lleihau’r cyfnod i gau cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r wybodaeth angenrheidiol wedi ei rhoi i Archwilio Cymru ac mae’r prisiadau wedi eu derbyn. Mae’r seilwaith o asedau yn cynnwys addasiad i’r nodiadau yn y cyfrifon ac ni ddylai effeithio unrhyw ddatganiad cynradd.
Roedd Aelod o’r Pwyllgor wedi nodi dull gwaith y Cyngor ac nid yw’r broses o gyfrif yr asedau seilwaith wedi newid o un flwyddyn i’r llall. Cwestiynwyd pryd y daeth Archwilio Cymru yn ymwybodol fod hyn yn fater sylweddol, a phryd y cafodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit ei hysbysu o hyn, esboniwyd hyn fod y mater wedi dod i’r dod o’r amlwg yn ystod yr adolygiadau o sicrwydd ansawdd yn Lloegr dros yr haf a hysbyswyd y Pwyllgor yn Ebrill/Mai. Mae’r holl awdurdodau yn yr un sefyllfa a chydnabuwyd yr holl bwysau ychwanegol sydd yn cael ei greu.
Roedd y Cadeirydd wedi gofyn am wybodaeth am y Pwyllgorau Cyfun Corfforaethol a chafodd wybod fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth er mwyn rhoi’r pedair rhanbarth yng Nghymru yr hawl i greu pwyllgorau cyfun corfforaethol i oruchwylio trafnidiaeth strategol, cynllunio strategol a thwf economaidd strategol. Nid ydynt yn weithredol tra bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn trafod eithriadau treth. Bydd Rhanbarth-Prifddinas Caerdydd yn parhau tan fod rhai o’r rhwystrau wedi eu diddymu. Cadarnhawyd y bydd y Cabinet ar y Pwyllgor Cyfun Corfforaethol yn cynnwys Arweinwyr Cyngor pob un o’r Awdurdodau Lleol. .
Roedd Aelod wedi awgrymu y dylai Archwilio Cymru ystyried trefniadau llywodraethu y Pwyllgorau Cyfun Corfforaethol
Pan ofynnwyd am brosiectau sydd yn seiliedig ar risgiau, roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cadarnhau bod yr holl ddarnau o waith sydd yn seiliedig ar risg wedi eu diweddaru. Bydd gweithdy ar gyfer asesu risgiau ym mis Chwefror yn helpu llywio’r cynllun archwilio ar gyfer 2022/23. Cytunwyd y byddai’n dda cael gweld y prosiectau sy’n seiliedig ar risgiau lleol.
Dogfennau ategol: