Skip to Main Content

Agenda item

Adolygiad Blynyddol o’r Pwyllgor Buddsoddi

Cofnodion:

Roedd y Dirprwy Brif Weithredwr a’r Rheolwr Datblygu (sydd hefyd yn ymgymryd â’r rôl Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid) wedi cyflwyno Adolygiad Blynyddol  y Pwyllgor Buddsoddi. Wedi'r adroddiad, gofynnwyd i Aelodau’r Pwyllgor a oedd cwestiynau ganddynt:

 

Gofynnodd Aelod am y diffyg gwerthusiad o opsiynau  yn y cais i gymeradwyo newid yng nghyfeiriad y trefniadau llywodraethu, ac yn gyfansoddiadol, sut y bydd penderfyniadau am fuddsoddiadau newydd yn cael eu gwneud.  Roedd yr Aelod hefyd wedi gofyn cwestiwn am y rheoliadau ar fenthyg ar gyfer  arenillion ac adolygiad blynyddol o’r buddsoddiad presennol ar gyfer arenillion.  Wrth ymateb, dywedwyd y byddai gwerthusiad o opsiynau   yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad i’r Cyngor. Esboniwyd fod y Pwyllgor Buddsoddi yn bwriadu dirprwyo lefel sylweddol o fenthyciadau er mwyn cyflawni polisi amcanion a’n sicrhau arenillion.

 

Mae canllaw’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn awgrymu na ddylid caniatáu mynediad at fenthyciadau lle y mae angen gwneud addasiadau sylweddol i’r buddsoddiadau masnachol presennol. Mae’n bwysig cyfuno'r portffolios presennol yn unol gyda’r safon sydd angen.

 

Gofynnodd Aelod am y buddsoddiad Broadway ar gyfer band eang gwledig mewn ardaloedd anodd eu cyrraedd gydag offer di-wifr a mynediad diwifrog a oedd yn newid i weiren galed yn unig. Gofynnwyd a yw canlyniad tebygol y newid mewn buddsoddiad wedi ei asesu a sut y mae’r cynnydd yn cael ei fonitro. Esboniwyd fod yna dri buddsoddiad wedi eu nodi yn yr adroddiad: Broadway, Parc Hamdden Casnewydd a Pharc Busnes Castlegate.  Roedd prosiect Broadway yn cynnwys benthyciad masnachol o £1.9 miliwn gyda Phartneriaid  Broadway, yn seiliedig ar benderfyniad polisi nad yw Sir Fynwy yn elwa o’r band eang Superfast Cymru sydd yn debyg i weddill Cymru. Roedd hyn yn sgil natur wledig y Sir; roedd y Sir wedi cyrraedd 70% o’r trothwy o gyflymder 30Mb+ tra bod rhannau eraill o Gymru yn 95%+. 

 

Roedd y benthyciad masnachol yn seiliedig ar 4 rhan o fuddsoddiad yn cael ei rhyddhau; rhaid i bob rhan gwrdd ag amodau penodol. Hyd yma, mae dwy ran heb eu rhyddhau. Sicrhawyd bod yna gyfleusterau credydau ar gael yn sgil yr oedi cyn derbyn y cyllid mewn talebau’r DCMS gan Lywodraeth y DU, a hynny ar yr amod fod y talebau wedi eu sicrhau.   

 

Wedi'r cytundeb hwn, roedd Broadway wedi dechrau negodi gydag ariannwr marchnad Band Eang Ffeibr ac wedi denu swm sylweddol o fuddsoddiad: gyda chyfran dda yn cael ei chlustnodi ar gyfer Sir Fynwy. Mae’r cwmni wedi newid ei gyfeiriad gyda’r sylfaenydd yn camu i rôl newydd ac yn apwyntio prif weithredwr newydd. Bydd angen i’r Cyngor ystyried rhyddhau mwy o fuddsoddiad neu hawlio’r ddwy ran yn ôl ac mae yna drafodaethau ar waith.  Yn y cyfamser, mae’r cyfleuster credyd wedi ei ddilysu ac ad-daliadau yn cael eu gwneud ac mae’r Cyngor yn derbyn cyfradd llog ar y benthyciad fel yr hyn a geir yn y farchnad gyffredinol. Mae Llywodraeth y DU wedi symud i dalebau ar gyfer ariannu cwmnïau i fuddsoddi mewn band eang ffeibr llawn. Bydd hyn yn elwa Sir Fynwy a’r nifer o eiddo sydd heb y cysylltedd angenrheidiol wedi gostwng 11,000 i 2,000. Bydd cynllun seilwaith digidol y Cyngor yn ystyried yr hyn y mae’n medru/methu gwneud er mwyn cyrraedd y 2,000 sy’n weddill.

 

Roedd Aelod yn bryderus am Barc Hamdden  Casnewydd gan ofyn a fyddai’n well i’r Pwyllgor Buddsoddi ddelio gyda’r ased yma. Darparwyd trosolwg o  Barc Hamdden  Casnewydd a Pharc Busnes Castlegate. Prynwyd Castlegate yn 2018 ac roedd yr eiddo wedi ei feddiannu’n bennaf – 60% o’r gofod - gan gwmni cyfrifeg Mitel. Manteisiwyd ar gymal i dorri’r cytundeb ym Mawrth 2022 gan olygu bod yna fwlch sylweddol i’w lenwi a dechreuwyd ar y gwaith marchnata. Yng Ngorffennaf, roedd  tenant cyfredol (Wunda Group) wedi ehangu i 90,000 sgwâr troedfedd o’r cyfanswm gofod o 138,000 sgwâr troedfedd. Mae ymholiadau yn parhau er mwyn i ni geisio llenwi’r bwlch.   

 

Roedd Parc Hamdden  Casnewydd wedi ei effeithio gan Covid gan fod y rhan fwyaf o denantiaid yn methu masnachu am gyfnod. Roedd cronfa caledi Llywodraeth Cymru wedi talu am unrhyw golledion o ran rhentu  ar gyfer y cyfnod hwn ac mae’r rhan fwyaf nôl yn masnachu erbyn hyn.  Mae ôl-ddyledion wedi eu talu a dim ond dau denant sydd angen talu rhent ac rydym wrthi yn negodi. Mae cytundeb ar gyfer cynllunio wedi ei roi ar gyfer gosod yr hen uned  Frankie and Benny' i’r Magic Bean Company (Starbucks). Uned 4 (Pizza Hut gynt) yw’r unig uned sydd yn wag. Mae dau denant arfaethedig yn trafod telerau.  Er y newyddion diweddar am Cineworld yn dod yn fethdalwr yn yr UDA, mae’n debyg fod y cwmni yn y DU yn mynd i gael ei ailstrwythuro gyda chyfranddalwyr yn talu am hyn, ac nid y cwsmeriaid neu landlordiaid. Mae dwy anfoneb rhentu wedi eu talu yn llawn ac ar amser. Byddwn yn monitro’r  sefyllfa hon yn agos.

 

Yn unol gyda'r polisi asedau, gofynnwyd i’r Pwyllgor Buddsoddi i wneud sylw yngl?n ag a ddylid cadw’r asedau neu gael gwared arnynt os yn disgyn yn is na ddau y cant o ran yr elw a wnaed. Dadleuwyd hyn yn y Pwyllgor Buddsoddi ac o feddwl am effaith sylweddol Covid, mae yna debygolrwydd sylweddol o sicrhau tenantiaid newydd fel sydd wedi ei ddangos gan yr hyn sydd wedi digwydd ac mae yna debygolrwydd hefyd o fynd yn ôl at y targedau a sefydlwyd gan y polisi buddsoddi asedau. Cytunwyd y dylid cadw’r ddau ased. Bydd llenwi’r bylchau yma yn cael effaith bositif ar  werth cyfalaf  petai’r Cyngor am werthu hyn.

 

Nodwyd argymhellion canlynol:

 

1.    Mae’r Pwyllgor wedi ystyried a chraffu yr adolygiad o berfformiad y Pwyllgor Buddsoddi;

2.    Mae’r Pwyllgor wedi adolygu’r cynnydd yn erbyn y cynigion buddsoddi a gytunwyd gan y Pwyllgor ac yn deillio o argymhellion a ddaeth o’r adroddiadau archwilio blaenorol;

3.    Roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda’r diweddariadau ar lafar;

4.    Mae’r Pwyllgor yn fodlon gyda’r egwyddor o ddiddymu’r Pwyllgor Buddsoddi a throsglwyddo rhai elfennau o gyfrifoldeb i’r Pwyllgor Craffu perfformiad a Throsolwg; bydd manylion yn cael eu darparu mewn adroddiad pellach.

5.    Mae’r Pwyllgor dal yn fodlon fod yna fesurau rheoli yn eu lle er mwyn cynnal a monitro’r Portffolio Buddsoddi  fel ei fod yn parhau mor gadarn ag sydd yn bosib.

6.    Mae unrhyw weithgareddau buddsoddi yn y dyfodol yn amodol ar brotocolau priodol i wneud penderfyniadau fel sydd wedi ei amlinellu yn yr Ymgynghoriad sydd yn nodi y bydd yna ddiffiniad pellach maes o law.  

 

Dogfennau ategol: