Skip to Main Content

Agenda item

2022/23 Diweddariad Canol Blwyddyn ar Reoli’r Trysorlys

Cofnodion:

Roedd y Pennaeth Cyllid wedi cyflwyno Adroddiad Rheoli’r Trysorlys Canol y Flwyddyn 2022/23. Wedi cyflwyno’r adroddiad, gofynnwyd a oedd unrhyw gwestiynau:

 

Roedd Aelod wedi gofyn am golledion Cyfalaf  na sydd wedi eu gwireddu o £500,000 a gofynnwyd a fydd yna broblem yn y dyfodol. Pe bai’r Awdurdod yn gwerthu asedau, byddai yna ddiffyg arian o  fwy na £500,000 ac mae eiddo newydd eu prisio. Gofynnwyd a fyddai hyn yn cynyddu’r diffyg arian sydd ar gael neu’n gwella’r sefyllfa. Esboniwyd fod hyn yn gronfa fuddsoddi sydd yn cael ei rheoli’n allanol, a byddai’n cael ei brisio gan y marchnadoedd.  O ran y colledion cyfalaf o dan reoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru, mae’n caniatáu bod modd cario unrhyw golledion ar y fantolen blwyddyn ar ôl blwyddyn heb fod hyn yn effeithio ar y cyfrif incwm a gwariant, a fyddai wedyn yn effeithio ar drethdalwyr y Cyngor. Mae’r rheoliadau yma yn cael eu hadnewyddu bob blwyddyn. Ni fyddai effaith ar y cyfrif refeniw tan fod y cronfeydd hynny wedi eu gwario. 

 

Roedd Aelod wedi gofyn am y colledion cyfalaf o £476,000; p’un ai bod hyn yn ostyngiad dros dro yng ngwerth y cronfeydd eiddo neu’n gyfranddaliadau sydd wedi eu prynu a’n cael eu had-drefnu. Cadarnhawyd fod y rhain yn gronfeydd  cyfun sydd yn cael eu heffeithio gan y marchnadoedd ecwiti a’r cronfeydd eiddo sydd yn cael eu rheoli’n allanol gan ein cynghorwyr Trysorlys. Mae’r buddsoddiad o £4 miliwn sydd mewn cronfeydd cyfun yn cymharu yn erbyn buddsoddiadau eraill o risg mwy isel a dylid ystyried hyn fel buddsoddiad hirdymor. Cyfeiriwyd hefyd ar yr angen i ddal £10 miliwn o falans arian parod o dan y rheoliadau MiFID er mwyn cynnal ein statws yn y marchnadoedd Trysorlys,  

 

Roedd yr Aelod wedi gofyn am y lefel o gysur gyda buddsoddiad o £4 miliwn oherwydd y ‘rate of return’ o 4.5%  a chwestiynwyd a oedd unrhyw gynlluniau i gynyddu’r buddsoddiad mwn cronfeydd cyfun. Dywedwyd fod hyn wedi ei ystyried ar ôl ymgynghori gyda chynghorwyr y Trysorlys, ond roedd yr ansicrwydd a grëwyd gan y pandemig a'r rhyfel Wcráin/Rwsia wedi golygu ein bod wedi atal rhag gweithredu unrhyw gynlluniau.

 

O ran codau’r CIPFA, cadarnhawyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i atal rhag adrodd yn chwarterol i’r Pwyllgor hwn a darparu adroddiadau mwy cryno neu’n ffocysu ar feysydd penodol o berfformiad y Trysorlys.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd fod ‘EIP’ yn golygu ‘Equal Instalments of Principal’ a’r gwahaniaeth mewn cyfraddau sydd yn adlewyrchu’r holl gynnwrf yn y farchnad eleni.

 

Roedd y Cadeirydd wedi crynhoi gan ddweud ei fod yn disgwyl ymlaen at strategaeth Trysorlys ddiwygiedig a hoffai ddeall mwy am y trefniadau llywodraethu cyffredinol, y maint, galluedd y tîm Trysorlys mewnol  a’r berthynas gyda chynghorwyr y Trysorlys.

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, mae’r Pwyllgor wedi adolygu ac wedi gwneud sylw ar weithgareddau rheoli’r Trysorlys  ar gyfer chwe mis cyntaf  y 2022/23, ac yn nodi cydymffurfiaeth gyda’r holl ddangosyddion Trysorlys a Darbodus sydd wedi eu gosod fel rhan o’r Stratgaeth Trysorlys  a gymeradwyed gan y Cyngor Llawn.

 

 

 

Dogfennau ategol: