Skip to Main Content

Agenda item

Adroddiad Monitro Cyllideb Mis 6

Craffu ar safle cyllidebol y Cyngor (refeniw a chyfalaf).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Jonathan Davies yr adroddiad gan ateb cwestiynau'r aelodau gyda Tyrone Stokes a Will Mclean.

Her:

Wrth i ni ddod â'r flwyddyn ariannol hon i ben pa elfen o'r cronfeydd wrth gefn arfaethedig y gellir ei defnyddio? A yw'n £16.6m? Ai’r cronfeydd wrth gefn yw’r prif adnodd sy’n cael ei ddefnyddio i ddelio gyda’r gorwariant cost sy’n cael ei ragweld ar hyn o bryd? Yw hynny'n 'gadarn' mewn gwirionedd?

Roedd ail-lenwi cronfeydd wrth gefn yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf yn digwydd yn bennaf oherwydd y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru: fe wnaethant nodi risgiau i'r gyllideb y byddai awdurdodau'n eu hwynebu wrth gamu i mewn i’r flwyddyn bresennol, yn arbennig mewn perthynas â cholledion incwm gofal cymdeithasol, ac effeithiau eraill y pandemig. Roedd gennym ddisgwyliad bob amser y byddai cronfeydd wrth gefn yn cael eu defnyddio i dalu am wariant eleni. Ni wnaethom gynnwys hyn wrth osod y gyllideb gan fod ansicrwydd yngl?n â sut y byddai’r risgiau dan sylw’n ymddangos o ran amseriad a chost.  Er mwyn egluro'r adran ar y cronfeydd wrth gefn o fewn yr adroddiad, a'r lefel ar ddiwedd y flwyddyn hon: pe byddem yn defnyddio cronfeydd wrth gefn fel yr amlinellir yn y cynllun adfer cyllideb byddai'n gadael cronfeydd wrth gefn refeniw gyda £21.6m ynddynt. Yn y siart, rydym wedi ceisio dangos yr amcanestyniad a’r risg pe na byddai unrhyw gamau cywiro yn cael eu cymryd –  mae'n rhesymol tybio y byddai angen cefnogaeth bellach arnom pe na byddem yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r sefyllfa honno.

Bydd ychydig llai na £2.2m o arbedion yn deillio o leihau neu ailgynllunio gwasanaethau - ai swyddi gwag sydd heb eu llenwi yw’r rhain yn bennaf? Onid oes angen ailgynllunio mwy sylweddol felly?

Er bod rhywfaint o waith yn parhau gyda swyddi gwag o fewn y gweithlu nid yw'n rhan sylweddol o'r cynllun adfer: byddai'r mwyafrif ble mae gwasanaethau wedi nodi ffyrdd amgen neu hyblyg o gynhyrchu incwm, boed hynny drwy grantiau neu gytundebau gyda phartneriaid ar y cyd. Rydym wedi dechrau cynnal sgyrsiau gyda gwasanaethau am ddarlun tymor canolig eu modelau gwasanaeth, o ystyried y diffyg yn y gyllideb wrth symud ymlaen, ond mae angen eu datblygu'n gyflym.

Beth yw'r cynlluniau a ragwelir ar hyn o bryd o ran cynnydd yn nhreth y cyngor y flwyddyn nesaf?

Nid yw’r cabinet wedi ystyried lefelau treth cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf. Rydym yn mynd trwy'r broses gyllidebol ar hyn o bryd, gyda llawer o ansicrwydd am gyllid a phwysau costau ar gyfer y flwyddyn nesaf; yn benodol, bydd goblygiadau yn dilyn ddatganiad yr Hydref o ran cyllid y flwyddyn nesaf, ac fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr yn rhoi eglurder pellach. Felly, er y gallwn wneud rhagdybiaethau cynllunio am lefelau treth y cyngor, mae angen i'r pethau hynny ddod at ei gilydd er mwyn i ni allu meddwl beth allai'r gyfradd fod y flwyddyn nesaf.

Rydym mewn sefyllfa lle mae nifer o risgiau wedi'u gwireddu; Yn anffodus, y llynedd fe ddewisom gynnydd o 2.9%, pan ddechreuodd y weinyddiaeth y broses o gynllunio'r gyllideb, gan wybod bod chwyddiant tua 5.1% a'i fod wedi dringo i 7% erbyn iddyn nhw osod y gyllideb honno. Mae angen i ni werthfawrogi'r raddfa: ni fydd y broblem yn cael ei datrys drwy godi treth cyngor e.e. £700k yn unig y bydd cynnydd o 1% yng nhreth y cyngor yn ei gynhyrchu. Yr hyn sydd angen i ni ei drafod felly yw cyllid, a'r penderfyniadau anoddach y bydd angen i ni eu gwneud. Ond mae hynny'n fwy perthnasol ar gyfer y drafodaeth ar y gyllideb yn hytrach na mis 6.

Ond y dreth gyngor ydy'r prif beth y mae trigolion yn edrych at y cyngor am eglurhad yn ei gylch?

Mae angen i gynghorwyr ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ran trafod yn onest gyda  thrigolion yngl?n â beth all treth y cyngor ei gyflawni a beth nad oes modd iddo ei gyflawni.

Er eglurder, fe wnaeth y weinyddiaeth flaenorol osod y cynnydd i dreth y cyngor ym mis Mawrth pan oedd chwyddiant yn 7%

Ie, dyna ffigwr y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer mis Mawrth.

Yn y pwyllgor Pobl diwethaf, nododd pennaeth Gwasanaethau Plant y byddai'r gwasanaeth yn parhau i weithredu yn yr un modd. Gan gofio'r gorwariant enfawr, a ddylid ail ystyried hyn ac ystyried hyn wrth wneud cynlluniau at y dyfodol?

Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Phrif Swyddog Gofal Cymdeithasol, gan edrych ar y blaen-strwythur o ystyried y cyfyngiadau ar ein cyllideb yn y tymor canolig. Bydd rhai o'r pethau yma'n cymryd llawer mwy o amser i’w cyflwyno nag eraill. Mae camau y gallwn eu cymryd ar unwaith er mwyn cynyddu effeithlonrwydd neu gymedroli costau ond mae'r galw o fewn y maes hwn yn gymhleth ac mae’n cynyddu, felly mae gwneud y newidiadau yma o fewn yr hinsawdd dan sylw’n heriol iawn.  Rydym wedi cychwyn sgyrsiau yngl?n â chynyddu ein mesurau ataliol neu weithio gyda phartneriaid rhanbarthol i edrych ar gyfleoedd eraill i leihau costau.

Yr hyn sy’n gyrru’r gost fwyaf o ran yr alldro yw lleoliadau cost uchel a chymhleth i blant, a'r defnydd o staff asiantaeth er mwyn llenwi swyddi gwag. Mae ymgynghoriad helaeth wedi bod ar y cynllun adfer o fewn Gwasanaethau Plant ac mae hyn wedi cael ei yrru gan y Prif Swyddog.  Rhai o'r pethau uniongyrchol y gallwn edrych arnynt yw cynnal trafodaethau gydag ABHB ar ofal iechyd parhaus, a chyllido a darparu gwasanaethau ar gyfer y lleoliadau cost uchel dan sylw – efallai y gallwn gymryd rhai lleoliadau o du allan i'r sir neu roi hwb i rai o'r darpariaethau er mwyn ceisio dod â rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes wedi'i gynllunio yn ei flaen, a'i gyflymu yn ystod y flwyddyn. Mae angen i ni fod yn ymwybodol bod 4 mis ar ôl yn y flwyddyn ariannol.

A oes modd i ni gael gwell dealltwriaeth o’r her o ran capasiti wrth fynd ar ôl cyllid grant?

Yn fewnol, rydym yn darparu cymorth cyllid, pan mae modd i ni wneud hynny, er mwyn galluogi gwasanaethau, lle y bo'n bosibl, i gynyddu eu ffrydiau ariannu. Mae cyfyngiadau o ran capasiti yn amrywio'n sylweddol ar draws yr awdurdod. Rydym wrthi’n trafod ein cyllid grant penodol gyda Llywodraeth Cymru ac yn trafod y potensial i symud rhywfaint i mewn i’r cyllid craidd, er mwyn ein galluogi i liniaru problemau ehangach o ran costau.

Beth yw’r sefyllfa o ran negodi contractau gyda darparwyr?

Mae'r tîm comisiynu yn ymgysylltu â darparwyr cyn y flwyddyn ariannol. Wrth osod y gyllideb am y flwyddyn ariannol hon, rhoddwyd amcangyfrif cost o £1.9m; Eleni rydym wedi gwneud yn dda i gadw'r ffigwr hwnnw, ond erbyn hyn mae nifer o ddarparwyr yn dod at yr awdurdod er mwyn cael syniad yngl?n â'r flwyddyn nesaf, yn enwedig mewn perthynas â’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol sy'n cynyddu o £1 y flwyddyn nesaf. At hyn, mae’r pwysau o ran costau ynni, ac mae darparwyr cartrefi gofal yn wynebu cynnydd o 200-300% mewn premiymau yswiriant.  Eleni, rydym yn teimlo'n hyderus y gallwn gynnal y £1.9m ond mae'n edrych yn debyg y bydd y flwyddyn nesaf yn fwy heriol ac rydym yn ymateb drwy fynnu bod darparwyr yn edrych ar feysydd y gallant eu hunain leihau costau.

Pam fod y grant cyfleusterau Anabledd yn tanwario cymaint?

Mae hyn yn ymwneud yn benodol â’r gyllideb gyfalaf. Mae'r pwysau yno yn cael ei wrthbwyso'n sylweddol gan y rhyddhad posibl yn y gyllideb ar gyfer DFGs. Gellir egluro gyda cyfnod Covid - llithrwyd cyllideb gyfalaf y DFGs ymlaen yn ystod Covid. Mae'r gwasanaeth wedi cymryd dadansoddiad o'r galw presennol gan nodi bod swm y gyllideb sydd wedi cronni dros y 2-3 blynedd diwethaf yn fwy na'r hyn sydd ei angen o ystyried y galw presennol.

Beth yw ein neges i ysgolion yngl?n â'u strategaethau buddsoddi? Sut bydd diffygion yn cael eu hariannu?

Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda phenaethiaid ysgolion yn ystod yr wythnosau diwethaf yngl?n â sefyllfa'r gyllideb, maent yn llawn ymwybodol o’r strategaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf a'r tymor canolig. Y neges gyffredinol yw mai doeth yw pwysleisio ataliad ac edrych ar gynaliadwyedd eu strwythurau staffio parhaus, yn enwedig lle mae diffygion cynhenid o ran cyllidebau mewn rhai ysgolion. Er mwyn mynd i'r afael â'r rheiny, bydd cynlluniau adfer cyllideb yn cael eu cytuno gyda'r Aelod Cabinet Byddant yn canolbwyntio ar gymedroli costau neu edrych ar strwythurau staffio cynaliadwy, gan nodi mai staffio yw cyfran uchel iawn o gostau ysgolion.  Nid oes datrysiad cyflym: bydd cynlluniau adfer yn ceisio dod â'r ysgolion i sefyllfa gynaliadwy dros nifer o flynyddoedd.

Os yw ysgolion wedi nodi anghenion buddsoddi o fewn eu cynlluniau adfer, beth yw'r effaith bosib os na fyddant yn gwario ar hyn nawr?

Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng gweithgareddau gwella a’r gofyn am fuddsoddiad mewn staff ychwanegol ar brydiau; yn aml iawn mae hyn mewn perthynas â chyllid grant.  O ystyried sut mae AD ysgol yn gweithio mae cyfnodau penodol o amser yn ystod y flwyddyn pan fydd sgyrsiau ynghylch penderfyniadau staffio yn gallu digwydd. Mae rhai ysgolion wedi gwneud cynlluniau i wneud buddsoddiadau cyfalaf o ran corff a ffabrig yr ysgol: mae gennym ysgolion oedd eisiau creu mwy o leoliadau ar gyfer dysgu awyr agored - dyma'r math cywir o bethau i’w stopio a’u trafod, ac rydym yn gwneud hynny. Felly mae'r math o fuddsoddiad yn llywio'r trafodaethau sy'n digwydd. Os yw'r gwaith yn cael ei ariannu gan grant neu arian ychwanegol yna bydd yn parhau, ond o ran buddsoddiad cyfalaf, rydym yn dweud fod angen oedi a meddwl sut i ddefnyddio'r arian yn y dyfodol.

O ran thema barhaus problemau staffio, pa mor ddibynnol ydym ni ar ewyllys da? A oes data sy'n dangos dibyniaeth ar TOIL heb ei gymryd (Time Off In Lieu)?

Oes, mae’r ffigyrau yma gennym.  Mater i Benaethiaid Gwasanaeth, i raddau helaeth, yw edrych ar y ffactorau lleol sy’n effeithio ar eu gwasanaethau, a delio gydag unrhyw ewyllys da sy’n cael ei ddefnyddio. Nid yw hyn yn gynaliadwy.  Mae'r polisi sydd ar waith yn galluogi rheolwyr i reoli TOIL, gan mai dim ond hyn a hyn y gellir ei gronni, a chynnig ffordd gynaliadwy ymlaen er mwyn lleihau’r oriau yn unol â gofynion gwasanaeth. Gan fod cyfyngiad ar yr hyn y gellir ei gronni, ni fyddem yn dibynnu ar ewyllys da.

Mae lleoliadau cost uchel yn dueddol o fod â llawer o staff, felly sut mae'r anawsterau recriwtio a chadw staff presennol yn effeithio arnynt?

Mae'r darlun yn amrywio o wasanaeth i wasanaeth felly nid hawdd yw rhoi ateb cyffredinol.

Gan fod y ffigwr ar gyfer Gwasanaethau Plant mor fawr dyw'r dadansoddiad ddim o fudd o ran craffu.

Ie, byddwn yn dadansoddi mwy ar y ffigyrau yma yn y dyfodol. Y gyrrwr mwyaf o ran gorwariant o fewn Gwasanaethau Plant yw lleoliadau preswyl cost uchel. Mae eu natur gymhleth yn gyrru'r gost. Gall lleoliadau allanol gostio dros £1m y plentyn, bob blwyddyn, ar sail yr angen a asesir gan ofal cymdeithasol a phan mae angen clinigol, ar y cyd ag ABHB. Mae'r cyflenwad o fewn y farchnad yn isel ond mae'r galw yn uchel iawn, ac mae hyn yn broblem sydd i’w gweld yn genedlaethol.  Mae staffio drwy ddefnyddio asiantaeth yn rhywbeth arall sy’n gyrru cost gan fod staff asiantaeth yn costio mwy na staff sydd ar ein cyflogres.

Tabl 5, Adran 7.2, arbedion i’r gyllideb a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf: sut mae dal hyder yn y rhain o ystyried y sefyllfa bresennol a'r gorwariant?

Cyfrifoldeb y prif swyddogion yw cyflwyno cynigion o ran cwrdd a’u targedau yng nghyd-destun y cynlluniau adfer cyllideb.  Cymedroldeb costau yw'r peth anoddaf i'w gyflawni yn yr amgylchedd presennol ond mae cyfleoedd i gael gafael ar gyllid pellach a gweithio gyda chyd-bartneriaid. Mae'n ddefnyddiol nodi bod gwerth dros £1.5m o gynigion wedi eu nodi fel risg isel felly mae rhywfaint o hyder bod cyfarwyddiaethau yn cynnal pwysau ar y rheini. Y paragraff allweddol yw'r defnydd o £2.18m 'o leiaf' – mae lle i gynyddu hyn, ac rydym yn gobeithio gweld hyn yn digwydd. Bydd timau cyllid yn cefnogi cyfarwyddiaethau i nodi meysydd pellach y gellir cynyddu incwm neu greu arbedion cost wrth symud ymlaen.

Yn adroddiad Mis 4 roedd 2000 awr o angen o ran gofal cymdeithasol nad oedd yn cael ei ddiwallu bob wythnos yn y sir. Oes angen i ni wneud mwy er mwyn bod yn realistig gyda'n trigolion yngl?n â’r sefyllfa honno a chwilio am fwy o ymgysylltu cymunedol lle mae hynny'n bosib, a gwneud mwy i gefnogi atal?

Mae'r ffactorau yma’n bwydo i mewn i’r sgyrsiau parhaus gyda Gofal Cymdeithasol o ran sut y gallai'r gwasanaeth edrych. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn digwydd fel rhan o'r broses o osod y gyllideb. Mae'r angen sydd heb ei ddiwallu yn amlweddog o ran sut mae wedi digwydd e.e. mae cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn syrthio o dan gofal cymdeithasol er mwyn llenwi'r bwlch, ac mae argyfwng recriwtio a chadw staff o fewn y maes gofal cymdeithasol, felly mae’n anodd cael pecynnau gofal. Mae gennym eisoes gysylltiadau cymunedol cryf e.e. y prosiect Cysylltiadau Cymunedol sy'n edrych ar atal ond dim ond hyn a hyn y gall y prosiect yma ei wneud: mae'r galw'n fwy na’r hyn y gall ein gwasanaeth ei ddarparu, felly dyma’r rheswm dros yr oriau sydd heb eu diwallu. Fodd bynnag, efallai y gellid cael cefnogaeth anuniongyrchol ar gyfer rhai o'r achosion yma.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am eu gwaith, ac i’r Aelod Cabinet Rachel Garrick am fynychu heddiw i annerch y pwyllgor. Pwysleisiodd y Cynghorydd Garrick bod ganddi bolisi drws agored pe byddai unrhyw Gynghorydd am drafod materion sy'n ymwneud â'r gyllideb ymhellach. Llongyfarchodd y Cadeirydd Jonathan Davies ar ei benodiad yn Bennaeth Cyllid.

Nododd Peter Davies y bydd Cyllid yn edrych ar yr amseriad ar gyfer Mis 9 i wneud yn si?r ei fod yn dod ymlaen mor amserol â phosib.

Cytunodd swyddogion i fynd â’r sylwadau yn ôl o ran sut maent yn adrodd h.y. darparu dadansoddiad manylach o wariant Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol.

Cytunodd y pwyllgor i gynnig yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: