Agenda item

Terfyn Cyflymder o 20mya ar y B4245

Craffu cyn gwneud penderfyniad ar yr adroddiad ac ystyried yr ymatebion cymunedol sydd wedi eu derbyn. 

 

Cofnodion:

Roedd Graham Kinsella a Mark Hand wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau gan Aelodau.  

 

Her:

 

Ai dyma’r unig newydd sydd yn cael ei gynnig ar gyfer peilot Glan Hafren neu a oes mwy yn debygol? 

 

O ran y Gorchymyn Diwygio presennol, sydd yn mynd i’r Aelod Cabinet ar 30ain Tachwedd, yr unig newidiadau yw’r 2 lain sydd ar y sleid ar y cyflwyniad (y rhai mewn gwyrdd, rhan amser gan ysgol gynradd Durand). Roedd aelodau Glan Hafren wedi gwneud cais am newid arall ar y rhan rhwng ochr ddwyreiniol Gwndy ac ochr orllewinol  Rogiet: mae’n 40mya ar hyn o bryd gyda darn bach 60mya yn y canol, gydag Aelodau yn awgrymu y dylai’r holl ffordd fod yn 40mya. Nid oedd hyn wedi ei gynnwys yng Ngorchymyn Diwygio  5 yn sgil camgymeriad ond bydd yn rhan o  Orchymyn Diwygio 7 yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

 

Mae’r ardal o gwmpas ysgol gynradd Durand yn bryder gan fod y meini prawf yn datgan na ddylid bod yna eithriad o fewn 100 metr o ysgol? Beth am amser cinio yn yr ysgol a’r amseroedd ar gyfer amrywio’r terfynau cyflymder?

 

Mae’r meini prawf o ran eithrio yn cyfeirio at y pellter i fynedfa’r ysgol. Yn yr achos hwn, mae mynedfa Durand oddi ar y B4245, ac arweiniodd hyn at gryn drafodaeth. Gan mai ysgol gynradd yw hon, credwyd mai prin iawn fydd yr achosion lle y mae plant yn gadael amser cinio heb gael eu goruchwylio.

 

Sut y bydd newid i 20mya yn cael ei gyfathrebu i’r gyrwyr?  

 

Y bwriad yw amlygu hyn drwy gyfrwng arwyddion sydd yn fflachio: bydd y  goleuadau oren sy’n fflachio yn fflachio yn ystod yr amseroedd hyn  a bydd yr arwydd yn dangos ‘20mya pan fydd y golau yn fflachio’, ac felly, bydd yn eglur i’r holl yrwyr. Roeddem wedi ymgynghori gyda’r ysgol a’r amseroedd y maent yn ffafrio.

Yn sgil y canllaw eithrio sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, a yw’n bosib y bydd y 20mya arfaethedig yn Nhrefynwy yn newid?

 

Nid ydym yn medru ateb hyn eto ond byddwn yn ystyried hyn ac yn ateb y  cwestiwn y tu allan i’r cyfarfod. 

MARK HAND YN GYFRIFOL AM WNEUD HYN UNWAITH BOD YR ADOLYGIAD WEDI EI GYNNAL  

 

 

A fydd yn bosib cynnal adolygiad mewn blwyddyn? Yn enwedig o feddwl am y posibilrwydd o ganlyniadau na sydd wedi eu bwriadu e.e. gyda gyrwyr yn osgoi’r B4245 drwy fynd lawr ffyrdd cul, ac roedd bron yn achosi damweiniau. 

 

Rydym yn hapus i gynnal adolygiad holistaidd o’r  B4245 gydag Aelodau. Byddai’n werth cwrdd cyn hir er mwyn llywio hyn. Dylid nodi fodd bynnag y bydd llawer o’n hadnoddau yn y flwyddyn ariannol nesaf yn mynd i ffocysu ar weithredu’r newid deddfwriaethol ar draws Cymru.  

 

Nid oes arwydd ysgol ar y ffordd y tu allan i ysgol Durand– a oes modd edrych ar hyn?

 

Oes – mae hwn yn bwynt da a byddwn yn ystyried hyn.  

 

A fydd yna fonitro ar waith,  yn enwedig ymhlith gyrwyr sydd yn gyrru agos at 40mya?

 

Mae un lleoliad monitro  yn yr ardal hon eisoes. Byddwn yn cadw hyn ac yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda 30mya.  Mae yna ‘induction loops’ wedi eu torri i mewn o’r cerbytffordd yn y ddwy ardal beilot – byddant yn parhau i fonitro dros y 5 mlynedd nesaf.  

 

A fydd y ffordd hon yn cael ei hadolygu os nad yw’r terfynau cyflymder yn gweithio?

 

Bydd – byddwn yn edrych ar hyn fel rhan o adolygiad holistaidd. 

 

A fydd y llwybr o Gil-y-coed i  Rogiet yn 30mya nawr?

 

Yr unig ddarn sydd yn cael ei drafod yw Ffordd  Woodstock hyd at Gylchdro Castle Gate – nid ydym yn edrych ar newidiadau eraill ar y B4245. Unwaith eich bod yn cyrraedd aneddiadau  Rogiet neu Caldicot, bydd yn 20mya, ac eithrio’r ardaloedd sydd newydd eu trafod. 

 

Sut y mae t? yn cael ei ystyried fel yna ‘dir o’i flaen’? Os yw cefn neu ochr t? yn wynebu’r ffordd, a fyddai’n cael ei gyfrif? Beth am y tai sydd yn wynebu ond wedi eu gosod nôll o’r ffordd?

 

Mae’n golygu ‘libart’ mewn modd mwy cyffredinol, yn enwedig  ble mae’r prif fynedfa wedi ei leoli. Mae’r holl dai yn cefni ar y rhan yr ydym yn cynnig sydd yn mynd nôl i 30mya – mae’r drysau blaen a’r prif fynedfeydd ar yr ochr arall. Hyd yn oed gyda gardd flaen hir, byddai’r t? yn cael ei ystyried fel bod yna ‘dir o’i flaen’. Yr unig wahaniaeth fyddai os yw t? yn wynebu’r ffordd ond mae mynediad ar ochr y stryd/ lôn y t? a rennir/cul de sac e.e. rhannau o Heol Henffordd yn y Fenni.

 

Yng Ngilwern, mae’r ffordd yn mynd o 60mya i 30mya.  Y broblem fwyaf yw bod gyrwyr yn gyrru’n rhy gyflym erbyn eu bod yn cyrraedd y man 30mya – a fydd yna broblem gyda gyrwyr yn mynd o 40 neu 50 i 20 mewn da o bryd? O ran Rogiet, a ydy gyrwyr yn mynd o 50 i 20 neu 30 i 20?

 

Rydym yn nodi’r pwyntiau yma. Rydym wedi ceisio sicrhau nodweddion ‘gateway’ e.e. ‘roundels’ ar y ffyrdd, arwyddion yn dynodi’r 20mya a’r dyfeisiau sydd yn dangos cyflymder. Fel arfer, mae yna byffers yn eu lle wrth i’r cyflymder leihau. Dylai gyrwyr fod yn bwrw’r cyflymder yma erbyn eu bod yn cyrraedd yr ardal gan fod yna arwyddion i’w gweld o flaen llaw.  

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i’r Aelodau am eu sylwadau ac i’r swyddogion am weithio gydag Aelodau Severnside wrth geisio dod o hyd i ddatrysiad sydd yn elwa trigolion. Bydd hyn yn mynd i’r Aelod Cabinet at gyfer ei gymeradwyo ar 30ain Tachwedd. 

 

 

Dogfennau ategol: