Craffu cyn gwneud penderfyniad ar y Strategaeth a Ffefrir.
Cofnodion:
Roedd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths wedi cyflwyno’r eitem. Roedd Craig O’Connor a Mark Hand wedi rhoi cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau'r Aelodau gyda’r Cynghorydd Griffiths a’r Cynghorydd Burch. O ran y sylwadau a wnaed yn y Fforwm Agored Cyhoeddus, nododd Mark Hand fod y Cynllun Trafnidiaeth Lleol a’r Cynllun Seilwaith hefyd i’w cyflwyno gyda’r Cynllun Datblygu Lleol ar y cyfnod adneuo hwyrach; dyma gam gyntaf o’r ymgynghoriad statudol. Mae swyddogion yn cydymffurfio gyda’r rheoliadau ac yn datblygu pethau yn y ffordd gywir - bydd y materion sy’n codi yn cael eu hystyried yn llawn wedyn.
Her:
A oes yna sicrwydd y bydd yna gyllid ar gyfer cysylltiadau teithio llesol i’r safleoedd newydd yma cyn bod y tai yn cael eu hadeiladu? E.e. mae safle’r Fenni yn agos at ffordd brysur a rheilffordd, ac mae’n annhebygol y bydd pobl yn cerdded neu’n seiclo i’r dref drwy gyffordd Hardwick, ac unwaith eu bod yn cael car, ni fyddant wedyn yn defnyddio dulliau teithio llesol.
Nid ydym eto wedi cyrraedd y cam lle y mae modd i ni roi sicrwydd am y cyllid ond mae’r polisi cynllun cenedlaethol wedi ei ddiweddaru’n ddiweddar er mwyn cynnig eglurder am deithio llesol a’r amserlen ar gyfer datblygu a chyflenwi, fel bod hyn yn cefnogi datblygiadau newydd yn y ffordd a ddisgrifir. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r tîm Teithio Llesol. Roedd y safleoedd strategol yma hefyd wedi eu hystyried yn y mapiau rhwydwaith integredig fel bod modd cadw opsiynau yn agored ar gyfer blaenoriaethau’r dyfodol, ac mae’r mapiau rhwydwaith yma yn mynd i fod yn sylfaen ar gyfer ceisiadau am gyllid yn y dyfodol. Y bwriad yw sicrhau bod y llwybrau yma yn eu lle ar y dechrau a bod cyllid ar eu cyfer.
Nid ydym yn medru dychmygu datblygu safle’r Fenni heb fod yna gysylltiad eglur ar draws y rheilffordd ac i’r dref. Rydym eisoes yn buddsoddi mewn llwybr teithio llesol i safle Cil-y-coed o’r canol, ac rydym yn gobeithio cwblhau hyn cyn bwrw ymlaen gyda’r datblygiad preswyl. Mae yna gynlluniau yn barod i gysylltu safle Bayfield gyda’r ysgolion a chanol tref Cas-gwent; rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau cyn/neu ar y cyd gyda’r datblygiad preswyl.
Mae yna lawer o ddatblygiadau gyda ystadau o dai yn cael eu defnyddio ond nid oes yna wasanaethau yn cael eu hadeiladu gyda hwy. Beth sydd yn bosib ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yma yn eu lle er mwyn creu cymunedau a chadw trigolion allan o’u ceir?
Rydym yn gweithio gyda mudiadau amrywiol ar agweddau gwanhaol. Mae un yn cynnwys bod rhai safleoedd yn ddatblygiadau defnydd cymysg ac mae un arall yn ymwneud gyda lleoedd mewn ysgolion, sydd yn weddol syml gan ein bod ni fel awdurdod addysg lleol yn medru delio gyda chapasiti ac angen. Y rhan fwyaf cymhleth yw’r seilwaith iechyd ac rydym yn gweithio gyda BIPAB e.e. yn y cyfarfodydd diweddar a’r rhai sydd i’w cynnal o’r grwpiau Meddygon Teulu yn Sir Fynwy. Byddwn yn parhau i ymgysylltu gyda hwy wrth i’r broses hon ddatblygu.
Rydym angen mwy o ‘uchelgais’ o ran sero
net; rydym angen ‘gofyniad’.
A oes modd cynnig sicrwydd am hyn?
Rydym wedi danfon nodyn manwl at y sawl sydd yn hyrwyddo’r safleoedd yn nodi ein bod am weld Sero Net, sy’n mynd y tu hwnt i’r rheoliadau adeiladu. Bydd y polisi strategol yn dweud bod angen i bob cartref sy’n caei adeiladu fod yn sero net yn barod. Bydd y polisi manwl yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach yn y cynllun – dyma weledigaeth ehangach y cynllun - dyna pam ein bod yn defnyddio ‘uchelgais’ ond rydym yn sicrhau bod sero net yn ofyniad.
Beth am yr effaith ar ardaloedd gwledig? Sut ydynt yn cael eu datblygu mewn modd ffafriol?
Mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn ffocysu ar ganol trefi yn gyntaf, gan sicrhau eu bod yn hyfyw a’n cael eu diogelu yn y tymor hir. Rhaid i ni ystyried dulliau newydd o gyflenwi, e.e. defnyddio canol trefi yn wahanol. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlygu’r angen am wasanaethau cymunedol yng nghanol y trefi. Y ddogfen hon yw’r strategaeth a ffefrir, ac felly nid yw'n cynnwys y manylder eto ond byddwn yn datblygu polisïau manwl yngl?n â sut ydym am wneud hyn. Mae’r CDLlD yn clustnodi tir i’w ddatblygu ond mae yna ystod o bolisïau cynllunio sydd i’w defnyddio ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried lefel strategol y twf: mynd i’r afael gyda fforddiadwyedd, yr heriau demograffeg, yr agenda newid hinsawdd ayyb. Mae hefyd yn werth cofio'r hyn y mae’r broses gynllunio yn stopio yn ogystal â’r hyn y mae’n caniatáu e.e. agwedd arall o gefnogi canol y trefi yw atal datblygiadau manwerthu y tu allan i ganol y trefi. Felly, mae rhai mesurau ataliol yn cefnogi canol trefi.
O ran y nifer o setliadau gwledig gwahanol e.e. setliadau Haen 4, mae nifer o’r rhain yn ardal dalgylch Gwy Uchaf, na sydd o reidrwydd wedi ei gydnabod – a oes modd cael eglurder yngl?n â hyn?
Mae unrhyw ddatblygiadau yn y mannau yma yn eu cael eu hystyried o ran y ffosffadau a chanllaw cynllunio Cyfoeth Naturiol Cymru h.y. yn dangos ein bod yn cyflwyno tystiolaeth o niwtraliaeth maethynnau ac ni fydd unrhyw ddatblygiad yn cael effaith adweithiol ar gadwraeth afonydd. Bydd hyn yn parhau tan fod yr afon mewn sefyllfa mwy ffafriol. Mae’r strategaeth yn amlinellu y bydd 100 o gartrefi yn cael eu clustnodi yn yr aneddiadau llai: nid ydym wedi dewis pa rai eto. Mae ychydig o’r wybodaeth sydd angen yn mynd i ddod i law yn ystod y cam cynllunio adneuo. Yn Nhabl 1 o’r adroddiad, rydym wedi tynnu pob un rhagdybiaeth oddi yno o ddalgylch dyffryn Gwy Uchaf. Nid ydym wedi derbyn y tueddiadau blaenorol a wnaed o’r enillion posibl.
Beth a olygir o ran yr effeithlonrwydd ynni? A ydym yn cyrraedd y pwynt lle y byddwn ni fel yr Adran Gynllunio yn medru dweud na fydd y pethau yma yn cael eu cymeradwyo os nad yw’r elfennau yma yn eu lle?
Rydym yn gweithio o fewn fframwaith polisi cynllunio o 2014. Mae’n bositif bod y strategaeth a ffefrir yn cynnig ein bod yn anelu am lefel uchel o gartrefi sero, ac felly, bydd yn rhoi cyfle i Aelodau i wrthwynebu datblygiadau na sydd yn cwrdd â’r safonau. Bydd yn wahanol ar gyfer safleoedd gwahanol h.y. p’un ai bod paneli solar yn gwneud y cartref yn sero net neu rhywbeth arall. Dylai ychydig o'r polisi yma fod ar lefel genedlaethol ond yn Sir Fynwy, rydym am sicrhau bod datblygwyr yn atebol.
A fydd yna gwestiwn ychwanegol ar safleoedd ymgeisiol?
Mae’r safleoedd ymgeisiol yn adroddiad y Cyngor ar gyfer 1af Rhagfyr – bydd cais i’r Cyngor i gymeradwyo’r strategaeth hon ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus; cytuno bod y gofrestr o safleoedd ymgeisiol yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus a chyflwyno’r cytundeb cyflenwi i Lywodraeth Cymru (yr amserlen a’r cynllun cynnwys cymunedol); asesiad o’r rheoliadau cynefinoedd a’r gwerthusiad cynaliadwyedd integredig. O ran y safleoedd ymgeisiol, mae’n gyfle i bobl i gynnig sylw ar bopeth sydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r broses, gan gynnwys y 3 safle strategol.
O ran datblygiad arfaethedig Fforest y Ddena yn Lydney, roeddem wedi cynnig ffordd osgoi a theithio llesol – onid yw hyn hefyd yn berthnasol i Gas-gwent a Chil-y-coed? Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi moratoriwm ar adeiladu ffyrdd ond os nad oes modd adeiladu ffyrdd, sut mae modd adeiladu tai os nad oes modd i ni adeiladu’r seilwaith cywir? Oni fydd Cas-gwent yn dod i stop gyda’r holl gartrefi sydd yn cael eu hadeiladu a’r traffig a fydd yn deillio o ddatblygiadau Cil-y-coed a Fforest y Ddena?
Ydym – rydym angen ystyried safleoedd strategol ehangach a chyfran y twf. Rydym yn hapus fod 68% o’r twf hwnnw yng Nghas-gwent a Chil-y-coed ond mae rhaid i ni ystyried y materion seilwaith yn eu cyfanrwydd. Mae’n werth nodi fod cyfran sylweddol o dwf Cas-gwent wedi ei wthio i Gil-y-coed, sydd yn rhan o’r un farchnad dai ond mae yna gyfyngiadau sylweddol ar Gas-gwent. Rydym yn ymwybodol o’r materion sydd wedi eu codi, fel sut ydym yn cysylltu gyda Fforest y Ddena a sut y bydd y safleoedd yn gweithio.
Yr hierarchaeth yn y polisi cynllunio
cenedlaethol a thrafnidiaeth yw:
i ddechrau, mae’n ymwneud gyda lleihau’r angen i
deithio (sicrhau bod y datblygiadau yn gynaliadwy, estyniadau
trefol ar yr aneddiadau cyfredol gyda’r amwynderau mwyaf e.e.
y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy), yna mae’n ymwneud gyda
theithio llesol (gyda safleoedd o fewn pellter cerdded a seiclo i
ganol y trefi a seilwaith trafnidiaeth), ac yna trafnidiaeth
gyhoeddus. Mae yna faterion cymhleth i’w datrys dros y blynyddoedd nesaf, ond mae yna resymeg yn
rhan o’r safleoedd sydd wedi eu nodi, ac mae’n briodol fod y twf yn rhan o’r
trefi mwy gyda’r amwynderau hynny.
Beth sydd yn diffinio ‘anheddiad’? Onid yw Llywodraeth Cymru wedi datgan na ddylid cael unrhyw aneddiadau newydd?
Nid ydym yn cynnig unrhyw aneddiadau newydd; maent yn estyniadau trefol at y trefi - byddai anheddiad newydd yn cael ei ddiffinio fel rhywbeth sydd yn hunangynhwysol gyda’i amwynderau ei hun, cyflogaeth ayyb. Mae polisi cynllunio cenedlaethol wedi newid; yn ein hopsiynau twf cyntaf, roeddem wedi ystyried yr opsiwn o aneddiadau newydd, ond yn sgil y polisi cenedlaethol, nid yw hyn yn cael ei ystyried mwyach.
Beth am y posibilrwydd o orsaf drenau yng Nghaerwent?
Nid yw’r cynnig yma yn cael ei ystyried ond mae cynigion Metro De Cymru i gynyddu amlder y trenau yng Nghas-gwent a’r Fenni a’r Comisiwn Burns sydd yn ystyried opsiynau ar gyfer yr M4, gan ystyried gwelliannau sylweddol, yn enwedig o ran Cyffordd Twnnel Hafren. Mae yna drafodaethau yn parhau gydag Aelodau’r Cabinet am agweddau eraill o’r seilwaith teithio gan gynnwys cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Lydney a Chyffordd Twnnel Hafren na sydd yn ddigonol ar hyn o bryd. Nid yw Caerwent yn rhan o’r trafodaethau yma. Mae gorsaf rhodfa Magwyr fodd bynnag wedi ei gydnabod gan Gomisiwn Burns ac rydym yn cefnogi hyn fel awdurdod cynllunio.
A oes yna gyfle am ysgolion newydd? Mae safle Crug yn destun pryder: nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer lleoedd ysgol ychwanegol. Mae seilwaith Cil-y-coed yn bryder sylweddol e.e. nid yw rhai trenau yn cael aros yng Nghil-y-coed.
Mae ysgolion newydd yn sicr yn rhywbeth i’w ystyried, yn enwedig o ran Dwyrain y Fenni a Dwyrain Cil-y-coed. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n cydweithwyr addysg; maent eisoes wedi rhoi syniadau i ni am gapasiti ysgolion oherwydd tan ein bod yn cyrraedd y cam cynllun adneuo, pan fyddwn yn gwybod yma mha ddalgylch y bydd y datblygiad arfaethedig yn rhan ohoni, maent yn methu rhoi sicrwydd i ni yngl?n â sut i barhau. Mae’r safleoedd strategol yma yn cynnig gwybodaeth newydd er mwyn i ni weithio gyda hwy. Mae’n debygol fod y maint yn golygu bod yna sgôp ar gyfer darpariaeth ysgol gynradd ar y safle, a hynny ar gyfer y ddau le.
A ddylid cael Cynllun B ar gyfer Trefynwy rhag ofn nad yw’r cynlluniau sydd ar waith i fynd i’r afael gyda’r broblem ffosffadau yn llwyddo i ddatrys y sefyllfa?
Rydym wedi cael sgyrsiau manwl gyda D?r Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yngl?n â sut y mae modd i ni ddod o hyd i ddatrysiadau. Mae D?r Cymru wedi ymrwymo i ddod o hyd i ddatrysiad ond nid ydynt yn gwybod beth yw hyn eto – mae angen mwy o waith ymchwil a datblygu ar gyfer y strategaeth a ffefrir ond mae’n rhaid i ni symud ymlaen. Byddai modd i ni aros ond mae’r materion yma yn parhau i gynyddu, a dyma pam nad oes unrhyw ddyraniadau newydd yn Nhrefynwy. Mae yna safleoedd fodd bynnag sydd yn y cynllun fel safleoedd bonws – mae modd eu cadw, fel bod modd i ni adeiladu tai fforddiadwy yn y dref, nid yn y dyraniadau newydd ond ar y safleoedd cyfredol.
A fydd safleoedd eithriedig yn medru cyflenwi cyfran o’r cartrefi fforddiadwy a defnydd cymysg?
Mae polisi Llywodraeth Cymru yn datgan yn eglur bod rhaid i ni gael ein ‘harwain gan gynllun’, ac felly, mae angen i ni sicrhau bod y CDLl yn neilltuo safleoedd ar gyfer eu datblygu a bod unrhyw safleoedd eraill ddim yn cael eu datblygu, er mwyn sicrhau ein bod yn meddu ar y seilwaith a’r cysylltiadau cywir. Ond rydym yn bwriadu cael polisi eithriedig tai fforddiadwy, fel bod safleoedd eithriedig ar ein haneddiadau cynradd ar gyfer twf bach, cymesur, yn caniatáu safleoedd sydd ond yn cynnwys tai fforddiadwy.
A oes modd i ni gynnwys storfa batri ar gyfer defnydd personol, ac felly, lleihau’r pris ar gyfer yr aelwyd?
Oes, mae modd cynnwys hyn a byddwn yn ei ystyried.
Gydag anelu am 50% o Dai Fforddiadwy, a fydd pobl maes o law yn medru prynu’r t?, sydd yn golygu na fydd hyn yn y pendraw yn ‘d? fforddiadwy’?
Mae yna dri math o d? fforddiadwy: rhent cymdeithasol, rhent canolraddol a pherchentyaeth cost isel. Gyda’r opsiwn olaf, mae fel arfer yn 50% ond yn medru cynyddu i 100% gyda’r unigolyn yn berchen ar y t?. Ond er mwyn cydymffurfio gyda’r polisi cynllunio cenedlaethol, rhaid bod y tai fforddiadwy yn fforddiadwy am byth, ac mae’r arian a ddaw o werthu cyfran ychwanegol o’r t? yn cael ei roi i’r landlord cymdeithasol cofrestredig a’i ail-fuddsoddi mewn tai cymdeithasol. Nid ydych yn colli tai fforddiadwy yn y pendraw fel sydd yn digwydd gyda’r hawl i brynu ond nid yw’r polisi yma yn weithredol yng Nghymru mwyach. Mae’r model yr ydym yn defnyddio, sydd yn caniatáu ar gyfer symud at 100%, yn gynllun rhannu ecwiti. Mae angen i ni adolygu’r model yn Sir Fynwy.
Pa gyfleusterau eraill ydych yn disgwyl ar gyfer safle sy’n 900+? A fyddai’n ddigon mawr i gael pethau fel cyfraniadau at feddygfeydd ayyb er mwyn gwella’r cyfleusterau lleol?
Mae’n rhy gynnar i ni ddweud beth yn union fydd ar y safleoedd. Bydd yna gynllunio meistr manwl o’r safleoedd strategol gyda’r hyrwyddwyr, budd-ddeiliaid, cydweithwyr a’r Comisiwn Dylunio ar gyfer Cymru. Bydd safleoedd o’r maint yna o bosib yn medru cynnwys gofod i letya Meddygfa Teulu, gan ddibynnu ar yr anghenion gofal iechyd yn yr ardal. Mae hyn oll i’w benderfynu ond bydd rhai amwynderau ar gyfer datblygiad o’r maint yma.
Crynodeb y Cadeirydd:
Roedd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths wedi gwneud y sylwadau canlynol:
Rwyf am gynnig sicrwydd i’r Pwyllgor y bydd eu sylwadau yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad ar 1af Rhagfyr os yn bosib, ond os nad yw hyn yn digwydd, byddant yn cael eu hadlewyrchu wrth i’r broses symud ymlaen. Wrth gydnabod y sylwadau cynt, mae ‘uchelgais’ dal yn air pwysig iawn i’w gynnwys a’n bod yn sicrhau ansawdd. Rydym am weld ein cartrefi ac aneddiadau yn gosod safon cenedlaethol. Y rheswm pam fod aneddiadau wedi eu ychwanegu at y rhai presennol yw ein bod am wella canol y trefi. Bydd cysylltedd mor bwysig; bydd teithio llesol yn hanfodol. Rydym dal yn meddu ar uchelgeisiau ar gyfer trafnidiaeth rheilffordd: mewn sgyrsiau gyda Thrafnidiaeth Cymru, rydym eisoes wedi ymrwymo i 2 drên yr awr o leiaf ar rhwng Cas-gwent a Chil-y-coed ac yn ceisio sicrhau gwelliannau pellach. Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu’r ffyrdd, ac fel rhan o hyn, byddaf yn gwthio’r achos ar gyfer gwella ffyrdd yn y sir. Mae’r datblygiadau arfaethedig ar gyfer Cil-y-coed yn golygu bod angen cyffordd newydd ar yr M48, neu ailddosbarthu’r ffordd honno – byddwn yn cyflwyno achos cryf i Lywodraeth Cymru.
Ychwanegodd y Cadeirydd y sylwadau canlynol:
O safbwynt Porthsgiwed, ymddengys fod yna nifer anghymesur o dai yn ardal Cil-y-coed a bod yna bryderon y bydd yr holl seilwaith yn dod i stop. Mae yna lawer o draffig yn barod yn sgil y datblygiadau sydd eisoes ar waith. Rhaid i ni ddysgu o’r camgymeriadau a wnaed yn ardal Cas-gwent gyda gorddatblygu. Mae yna gyfeiriadau at ehangu trefi ond mae canol y trefi yma yn ymddangos flinedig iawn – nid yw hyn yn gynnig da iawn e.e. Cil-y-coed. Mae’r tir sydd yn cael ei gynnig ar gyfer datblygiad Heol Crug yn denu llawer iawn o ymwelwyr – os ydym yn colli hyn, ni fydd rhyw lawer yn denu pobl i’r ardal. Onid oedd Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn gwrthwynebu datblygu cefn gwlad ac wedi nodi unrhyw effeithiau adweithiol ar dirwedd castell Cil-y-coed? Mae’r castell yn dioddef llifogydd yn wael iawn, ac mae etholwyr yn bryderus iawn am y nifer arfaethedig o dai.
Mae Aelodau yn rhannu pryderon bod teithio llesol yn cael ei ymgorffori o’r dechrau, yn hytrach nag fel ôl-ystyriaeth. Mae yna bryderon am iechyd a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y safleoedd arfaethedig. Rydym am weld safonau uchel gyda chartrefi sydd yn effeithlon o ran ynni. Mae Aelodau wedi codi pryderon am seilwaith, yn enwedig yn Ne Ddwyrain y Sir. Rydym am weld pobl yn ymwrthod rhag defnyddio eu ceir, ond i rai trigolion sydd am deithio allan o’r sir, nid yw rheilffyrdd yn addas bob tro. Rydym yn croesawu tai fforddiadwy ond eto, mae’r seilwaith yn hanfodol. Mae’n siomedig nad oes yna unrhyw ddyraniadau newydd ar gyfer Trefynwy, ond rydym yn gobeithio dod o hyd i ddatrysiad cyn hir. Rydym yn annog trigolion i fod yn rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus.
Dogfennau ategol: