Agenda item

DM/2022/00969 Adeiladu ffrâm dur ar gyfer tynnu a chanio dŵr ffynnon – Fferm Tump, Heol Brynbuga, Llantrisant, NP15 1LU

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad y cais a gafodd ei gyfeirio gan y Panel Dirprwyo a’i argymhell i'w gymeradwyo, yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad gyda'r amod ychwanegol fel y'i cyflwynir heddiw, fel a ganlyn:

 

·         Cyn cynhyrchu d?r ffynnon wedi’i ganio, dylai cynllun rheoli s?n gael ei gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol.  Dylai'r cynllun rheoli s?n fanylu ar fesurau a fydd yn cael eu gweithredu i reoli s?n o'r datblygiad arfaethedig, gan gynnwys oriau gweithredu, er mwyn atal effaith ar amwynder trigolion sy'n byw yn y fro.  Bydd y datblygiad arfaethedig felly’n cael ei gynnal yn unol â'r cynllun rheoli s?n am byth, oni bai y cytunir yn ysgrifenedig fel arall gan yr awdurdod cynllunio lleol. Rheswm: Diogelu amwynder eiddo cyfagos ac i sicrhau cydymffurfiaeth â Pholisi CDLl EP1.

 

Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:

 

·         Croesawyd y cais i greu busnes fferm amrywiol.

·         Mae d?r ffynnon eisoes yn cael ei echdynnu a'i storio ar y safle.  Does gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddim pryderon heblaw nodi, os yw'r busnes yn cael ei ehangu, y byddai hynny'n gwarantu cais cynllunio a bydd angen trwydded hefyd. 

·         O ran y ffordd i'r fferm, defnyddir hyn yn aml gan HGVau i nifer o ffermydd, awgrymwyd na fyddai un HGV ychwanegol yr wythnos yn achosi effaith niweidiol.

·         Croesawyd y gwaith o blannu coed ffrwythau ar gyfer y bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar y fferm.

·         Bwriedir i'r broses ganio fod yn gynaliadwy ac yn garbon niwtral.

·         Mae'r ymgeisydd wedi cydfynd â dyluniad yr adeilad a'i gadw'n debug i adeiladau presennol y fferm.

·         Ychydig iawn o s?n fydd yn cael ei gynhyrchu o'r broses ganio.  Bydd yr oriau busnes o 7am i 6pm (Llun-Sadwrn)

 

Doedd dim siaradwyr o Gyngor Cymuned Llantrisant yn bresennol.  Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, siaradodd Jonathan Eadie, ar ran trigolion tri eiddo a gaiff eu heffeithio gan y cais, heb gynnwys eiddo'r ymgeiswyr.  

 

·         Mae tyllau turio’n cyflenwi'r tri eiddo ac maent wedi'u lleoli oddi ar yr Heol Ffordd, Llantrisant, sy'n ffinio â Choedwig Wentwood ac maent wedi'u hepgor o'r adroddiad. 

·         Mae CNC wedi asesu gofynion d?r ar gyfer y fferm, yr anheddau presennol, a'r tai sydd wedi'u cymeradwyo, a'r gwaith canio newydd.

·         Mae Iechyd yr Amgylchedd eisiau ystyried lefelau s?n y gweithrediadau arfaethedig mewn sied fetel croen sengl israddol, sydd heb ei inswleiddio.  Mae s?n sy'n deillio o ochr y dyffryn yn cael ei seinchwyddo tuag i fyny, yn groes i'r adroddiad ac nid yw'n cael ei liniaru gan lystyfiant, sydd wedi'i gilfachu yn y dyffryn. Gofynnwyd am gynllun rheoli s?n.

·         Mae'r cynnig yn groes i ddyletswydd CNC o dan Gynllun Cenedlaethol Cymru'r Dyfodol i gydbwyso anghenion d?r presennol ac yn y dyfodol (yr amgylchedd, cymdeithas, ac economi).

·         Mae echdynnu a symud o'r safle yn lleihau gwytnwch d?r ac yn gosod straen graddol ar ffynhonnell sengl. Mae lefelau d?r a phwysedd tyllau turio is yn bygwth hyfywedd cartrefi a busnesau presennol.

·         Mae tanceri sy'n dod â d?r o ffynonellau oddi ar y safle yn cynyddu s?n a thraffig

·         Mae mentrau tebyg wedi cynyddu i weithrediad 24/7 gyda mwy o s?n a thraffig, a chanlyniadau niweidiol eraill.

·         Nid yw s?n gweithgynhyrchu heb ei atal am 48 awr dros wythnos chwe diwrnod yr un fath â gweithgaredd amaethyddol ysbeidiol sy'n dderbyniol.

·         Nid yw creu perllan yn gwrthbwyso'r effeithiau diwydiannol a'r risgiau yn faterol i rywogaethau prin a gwarchodedig.

·         Nid yw'r adroddiad yn caniatáu i'r pwyllgor gyflawni ei ddyletswydd o dan Bolisi Cynllunio Cymru (PPW11).

 

Mynychodd yr ymgeisydd, Mark Williams, y cyfarfod gan amlinellu'r pwyntiau canlynol:

 

·         Fferm Deuluol ydyw gyda chostau'n rhy uchel a refeniw yn rhy isel felly â'r angen i arallgyfeirio.

·         Datblygiad cynaliadwy sy'n cefnogi'r agenda hinsawdd, i'r teulu a'r gymuned ac yn cefnogi amcanion y Cyngor ei hun.  Mae'r Cynllun Corfforaethol yn cyfeirio at arferion amaethyddol a ffermio cynaliadwy, lleol gyda gwasanaethau cyhoeddus a thrigolion yn defnyddio cynnyrch mwy lleol a thymhorol, i annog mwy o fusnesau a gyda ffocws ar arloesi yn y sector bwyd a diod.

·         Mae'r sied yn cyd-fynd ag adeiladau fferm presennol a’r bwriad yw adfer y berllan gyda mwy o goed ffrwythau a allai roi blas i'r d?r yn y dyfodol o bosib.

·         Mae'r fferm yn rhan o brosiect gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnwys plannu gwrychoedd, coed a chreu coridorau a phyllau ar lan y nant.  Mae'r amgylchedd yn ffocws allweddol.

·         Mae lletygarwch a busnesau lleol yn awyddus i stocio'r d?r er mwyn cefnogi sector bwyd a diod Sir Fynwy.

·         Cyflenwad personol / preifat y fferm ei hun yw’r d?r, a defnyddir d?r o arferion ffermio - nid oes angen trwydded tynnu d?r. Profwyd y d?r a disgwylir y canlyniadau. Mae d?r y ffynnon yn dod i'r wyneb yn naturiol 24 awr y dydd. Nid oes tyllau turio wedi'u cynllunio. Mae'n cael ei storio mewn tanc storio a'i gymryd drwy ddisgyrchiant i'r fferm. Os nad yw'r d?r yn cael ei ddefnyddio, caiff ei ddychwelyd i'r nant neu'r ddaear.  

·         Mae cynllun busnes â chost llawn wedi ei rannu gyda swyddogion cynllunio ac mae buddsoddiad pellach sylweddol wedi'i gynllunio.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae digon o bellter oddi wrth gymdogion i beidio â chael eu heffeithio gan s?n. 

·         Cyflenwad d?r:  Mae gan drigolion eu cyflenwad d?r eu hunain drwy dwll turio.

·         Mae gan y Fferm 250 erw; mewn cyfnodau o law bydd cryn rediad yn debygol o fod yn fwy na'r gofynion.

·         Nid yw echdynnu d?r yn ystyriaeth gynllunio.

·         Gellir cyrraedd y safle ar y briffordd rhwng Coed Gwent a Brynbuga sy'n ffordd dda i gerbydau modur ei defnyddio.

·         Mae gan fynedfa'r dramwyfa ystod welededd fawr ac felly mae gwelededd da wrth fynd i mewn i’r safle a’i gadael.

·         Roedd yr adroddiad yn rhagweld dim ond un HGV a thair fan fach ar y safle’r wythnos ac ni fyddai'n achosi fawr o effaith ar y briffordd na niferoedd traffig. Mae’r adran Briffyrdd wedi codi pryderon dim ond os oedd y safle am ehangu.

·         Datblygiad allweddol isel ydyw, adeilad uchder isel ac effaith niweidiol isel.

·         Bydd plannu coed yn darparu budd allyriadau carbon isel a bydd yn gwella effaith weledol yr ardal

·         Bydd bioamrywiaeth yn elwa o ran bwyd, lloches a chynefinoedd i fywyd gwyllt.

·         Gofynnwyd am fwy o fanylion am ynni adnewyddadwy a dulliau cynaliadwy.

·         Mae angen i ffermwyr arallgyfeirio ac mae angen i incwm ychwanegol ddeillio o'r tir.

·         Mae'n sir wledig ac mae angen cefnogi busnesau newydd fel hyn

 

Ymatebodd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu:

 

·         Mae cefndir polisi yn ymwneud ag arallgyfeirio amaethyddol RE3 sydd â sawl maen prawf (tri nad yw'n berthnasol) ac mae'r cais yn bodloni'r gweddill:

 

1.    Mae datblygiad nad yw’n amaethyddol yn rhedeg ar y cyd yn gyflenwol i'r gweithgareddau ar y safle ar hyn o bryd

2.    Cefnogwyd gan achos busnes

3.    Yn gallu dangos bod yr holl adeiladau presennol yn cael eu defnyddio lle mae angen adeilad newydd

4.    Mae cynigion ar gyfer adeiladau newydd yn bodloni'r meini prawf yn LC1 (polisïau tirwedd)

5.    Bwriedir torri'r adeilad i mewn i'r clawdd felly mae amod arfaethedig i ofyn am luniad Rhaniad llawn i ddangos lefel y toriad, y wal gynnal a'i adeiladwaith. Rhagwelir y bydd yn cyd-fynd â'r trefniadau presennol mewn gwaith bloc, gyda ffens pyst pren a rheiliau.

 

Cefnogir y cais ac mae'n cydymffurfio â pholisi.

 

·         O ran maint, mae'r offer arfaethedig yn gallu canio 8000 o ganiau’r dydd, sy'n cyfateb i ymweliad 1 HGV a thri fan bach yr wythnos. Mae'r Swyddog Priffyrdd yn fodlon â hyn. O ran cynhyrchu a’r effaith priffyrdd, mae'r gweithredu’n cael ei ystyried yn dderbyniol.

·         Mae amod i gyfyngu ar y defnydd o fewn yr adeilad yma felly os yw'r busnes yn ehangu gydag adeilad newydd, byddai angen cais cynllunio.

·         Mae'r cynllun rheoli s?n yn gofyn am bennu oriau gweithredu a chadw atynt.

·         Nid yw tynnu d?r yn rhan o ystyriaeth y cais hwn ac fe ymdrinnir â hynny trwy CNC.

·         O ran bioamrywiaeth, porir y tir ac nid oes ganddo lawer o werth ecolegol.  Mae gwelliannau bioamrywiaeth fel plannu coed ar gynllun y safle yn cael eu hystyried yn dderbyniol gan nad oes unrhyw wrthwynebiadau gan CNC

·         Mesurau effeithlonrwydd ynni:  Nid yw’r polisi yn rhagnodi lefelau effeithlonrwydd ynni. Gellir rheoli'r agwedd hon drwy reoliadau adeiladu.  Mae'r ymgeiswyr wedi gwneud ymrwymiad y bydd yr adeilad yn amgylcheddol gyfeillgar.

·         Eglurwyd ar y darluniau edrychiad fod yna dalennau metel gwyrdd meryw ar gyfer pob edrychiad ar yr adeilad felly pe byddai cladin pren yn cael ei ddefnyddio byddai angen ystyriaeth ar wahân fel rhan o ddiwygiad i'r cynlluniau.  Byddai cynllun diwygiedig yn cael ei ystyried gan Banel Dirprwyedig.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd i'r pwyntiau canlynol:

 

·         Bydd y toriad i mewn i’r clawdd gyda'r adeiladau eraill yn un lefel unffurf.

·         8000 can y dydd yw uchafswm capasiti'r peiriannau arfaethedig y gellir eu cyflawni, erbyn e.e. Blwyddyn 3.

·         Cynllun i osod paneli ffotofoltäig ar y to ar ôl dwy flynedd, hefyd cynaeafu d?r glaw.

·         Bydd pren lleol cynaliadwy yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cladin ar flaen yr adeilad.   Gyda phaneli 40mm Gwyrdd Meryw wedi'u hinswleiddio o gwmpas y tu allan

 

Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid             - 14

Yn erbyn         - 0

Ymatal - 0

 

Cafodd y cynnig ei dderbyn.

 

Penderfynom gymeradwyo’r cais: Mae'r ymgeisydd wedi cydfynd â dyluniad yr adeilad a'i gadw'n debyg i adeiladau presennol y fferm.

 

Dogfennau ategol: