Cofnodion:
Ystyriwyd yr adroddiadau ar gyfer ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 ynghyd a gyda gohebiaeth hwyr, a argymhellwyd i'w cymeradwyo yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd y Cynghorydd Graham Rogers, Cyngor Cymuned Llangybi’r cyfarfod gan amlinellu'r pwyntiau canlynol:
· Bydd y masnacheiddio a gynigir yn effeithio ar ddefnyddwyr y Ganolfan Chwaraeon D?r a gafodd ganiatâd yn wreiddiol i'r defnydd unigryw ar gyfer gweithgareddau d?r.
· Mae'r effaith ar drigolion lleol, o ran s?n, llygredd golau, traffig a lles cyffredinol ymwelwyr sy'n dymuno cerdded neu eistedd yn dawel fwynhau byd natur, yn ystyriaethau pwysig.
· Mae llawer o adar prin yn ymweld â'r safle; mae'r gronfa dd?r a'r tir o'i chwmpas yn Safle Dynodedig o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Rhaid i bob corff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i hybu cadwraeth a gwella'r rhesymau dros y SoDdGA.
· Ym Mholisi Cynllunio Cymru 11 mae rhagdybiaeth yn erbyn datblygiad sy'n debygol o niweidio SoDdGA a ailadroddwyd gan Julie James AoS dros Newid yn yr Hinsawdd, sy'n cynnig bod angen cryfhau'r amddiffyniad polisi a roddir i'r SoDdGA. Ni fydd y cynigion yn gwella'r SoDdGA.
· Bydd y cynigion yn niweidio'r safle ac yn tarfu ar adar sy'n gaeafu yna. Mae’r awgrym na fydd hyn yn digwydd wedi'i seilio ar arolwg adar gaeafol sy’n ddiffygiol o ran cadernid.
· Os bydd caniatâd yn cael ei roi, awgrymir amod pellach nad oes digwyddiadau dan do yn parhau ar ôl 5pm rhwng y 1af o Dachwedd a’r 28ain o Chwefror er mwyn lleihau'r risg i adar sy’n gaeafu.
Amlinellodd yr Aelod lleol ar gyfer Llangybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
· Annog gohirio, neu gyfeirio at Banel Dirprwyedig, ar gyfer arolygon mwy manwl i sicrhau na fydd y SoDdGA yn cael ei effeithio ac na fydd effaith niweidiol ar fywyd gwyllt.
· Dim cyfiawnhad credadwy i ymestyn oriau agor heblaw am reswm ariannol. Dim gwrthwynebiad i gynnal cyfarfodydd busnes ond gwrthwynebu swyddogaethau dan do ac awyr agored.
· Bydd cyflwyno mwy o weithgaredd dynol a cherddoriaeth uchel yn cael effaith negyddol ar fywyd gwyllt.
· Datganodd y Senedd argyfwng natur yn 2021. Bydd y cais hwn yn or-ddatblygiad o safle SoDdGA.
· Mae gan CBS Torfaen wrthwynebiad dros dro oherwydd diffyg tystiolaeth yn yr arolygon.
· Mae lonydd cefn gwlad troellog, cul i gael mynediad i’r safle heb unrhyw drafnidiaeth gyhoeddus, felly bydd cerbydau preifat a bysiau mini sy’n cyrchu swyddogaethau yn fygythiad i fywyd gwyllt (moch daear a dyfrgwn yn enwedig gyda’r hwyr neu’n gynnar yn y bore) heb unrhyw liniaru.
· Bydd niferoedd mawr o gerbydau yn cael effaith ar drigolion yn hwyr yn y nos
· Mae yna ddiffyg o arolygon adar gaeafu wedi'u cynnal.
· Pryderu bod profion sain yn amlygu newidiadau amlwg yn ymddygiad hwyaid gwyllt.
· Mae sawl sefydliad sy'n cynrychioli ceidwaid yr amgylchedd wedi gwrthwynebu.
· Cyfeiriwyd at lythyr gan Gymdeithas Trigolion Coed-y-paen a oedd yn awgrymu bod ystyriaeth yn cael ei roi i ddiwygio'r amodau, os caiff ei gymeradwyo.
1. Amodau 2 a 3: Mae'r datblygiad awgrymedig yn dechrau dim ond ar ôl i'r adroddiadau a grybwyllir yn Amod 4 gael eu cyflenwi a'u hadolygu gan yr awdurdod cynllunio. Hefyd, i ddileu’r ymadrodd "blwyddyn ddilynol".
2. Amod 10: Gofynnir i swyddogion ymchwilio i fater sy'n parhau ac egluro sut y gall y Pwyllgor fod yn fodlon nad yw'r gorlif goleuadau wedi cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt yn enwedig ystlumod. Nid yw amod presennol wedi cael ei orfodi.
Cyflwynwyd fideo gan Nicholas Morley, Cymdeithas Trigolion Coed-y-paen ar ran y gwrthwynebwyr i wneud y pwyntiau canlynol:
· Bydd y newidiadau arfaethedig yn niweidio'r llonyddwch a bywyd gwyllt, ac yn bygwth gweithgareddau sy'n bodoli eisoes yn y Ganolfan Ymwelwyr a Chwaraeon D?r
· Mae mwyafrif clir o Aelodau'r Gymdeithas Trigolion yn datgan gwrthwynebiad.
· Bydd gweithgarwch dynol ychwanegol, oriau ychwanegol gyda thraffig ychwanegol, parcio, a cherbydau nwyddau, s?n a goleuadau ychwanegol yn effeithio ar ecoleg y safle.
· Byddai gweithgareddau masnachol yn amharu ar weithgareddau chwaraeon d?r a mynediad cyhoeddus i'r caffi, ffynonellau gwybodaeth a'r ganolfan ffynhonnell dd?r.
· Bydd y maes parcio yn gorlifo ar adegau prysur.
· Mae mynediad drwy lôn un trac sydd e.e. yn rhy beryglus i blant seiclo.
· Yn gwrthwynebu'r cynigion yn gryf
Ymatebodd Dylan Green, Asiant Ymgeiswyr i gefnogi'r newidiadau gyda'r pwyntiau canlynol:
· Eisoes mae'r Ganolfan Ymwelwyr yn elwa o ganiatâd cynllunio iddo gael ei ddefnyddio fel caffi a gofod arddangos, felly mae egwyddor swyddogaethau o'r fath yn y ganolfan ymwelwyr eisoes wedi'i chytuno.
· Nid yw oriau agor estynedig arfaethedig ac ehangu swyddogaethau'r Ganolfan Ymwelwyr yn newid defnydd yr adeilad yn sylfaenol felly mae'r egwyddor o ddatblygu yn cael ei ystyried yn dderbyniol.
· Gwrthwynebiadau gan ymgyngoreion, yn bennaf oherwydd dynodiad SoDdGA y gronfa dd?r. Mae D?r Cymru wedi cysylltu'n agos â'r Cyngor drwy gydol y cais gan lynu'n llawn at bob cais ac wedi cytuno i gynnal asesiadau pellach i liniaru effaith y datblygiad.
· Mae llawer o wrthwynebiadau cychwynnol gan ymgynghorwyr statudol wedi cael eu dileu i adlewyrchu'r asesiadau ychwanegol sydd wedi’u cyflwyno. Mae CNC yn croesawu'r gwaith arolwg adar sy’n gaeafu ac yn fodlon y gellir goresgyn y pryderon cychwynnol ac y gellir osgoi'r difrod i nodweddion y SoDdGA os gweithredir y mesurau lliniaru arfaethedig. Nid yw swyddog bioamrywiaeth y Cyngor yn cynnig unrhyw wrthwynebiadau ac fe gadarnhaodd y byddai gosod cyfyngiadau rheoli llym o ran dim gweithgareddau awyr agored yn ystod y prif dymor adar sy'n gaeafu (Tachwedd i Chwefror) yn lliniaru effaith andwyol ar nodweddion y SoDdGA.
· Nid yw’r adran Briffyrdd yn nodi nad oes unrhyw niwed i ddiogelwch y briffordd neu gapasiti ar y rhwydwaith priffyrdd lleol uniongyrchol ac mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn cytuno.
· Er bod y cais cynllunio yn ymwneud â defnydd trwy'r flwyddyn o'r adeiladau, byddai unrhyw weithgareddau ar y safle yn cyd-fynd yn bennaf ag amodau'r SoDdGA. Ni fydd digwyddiadau allanol gyda cherddoriaeth fyw neu wedi'i recordio, a bydd cerddoriaeth dan do wedi'i gyfyngu i 11pm.
· O ran y newid yn yr oriau agor, mae asesiadau effaith s?n wedi'u cynnal a daethant i'r casgliad gan fod yr eiddo preswyl agosaf dros 400m o'r safle ar ochr arall y gronfa dd?r, bydd unrhyw s?n sy'n cael ei gynhyrchu o'r cyfleuster yn cael effaith ddibwys.
· Mae arolygon adar sy'n gaeafu, ar yr effaith ar boblogaeth yr adar, wedi dod i’r casgliad, gyda gosod yr amodau a awgrymir, na ragwelir y bydd lefelau s?n uwch yn cael effaith sylweddol ar helaethrwydd adar d?r. Mae Cronfa Dd?r Llandegfedd yn cael ei hystyried fel ased seilwaith gwyrdd i'r cyhoedd ei fwynhau sy'n clymu'r cysylltiadau hynny â Pholisi Cynllunio Cymru o ran gwneud lleoedd ac yn cyfrannu at saith nod Deddf Llesiant yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol.
· Nid yw diogelwch pobl sy'n defnyddio'r ganolfan ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau ac ymddygiad posib yn ystyriaeth gynllunio berthnasol.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Gofynnwyd a allai fod dau ddigwyddiad ymlaen ar yr un pryd - a fyddai efallai’n well ystyried y ceisiadau ar wahân, gan fod potensial i haneru'r effaith trwy gymeradwyo un o bosib, a gwrthod y llall.
· Gofynnwyd a yw gorlif goleuadau dros y gronfa dd?r yn cael ei ganiatáu o dan y caniatâd cynllunio presennol, gan fod y lluniau'n edrych yn eithaf gwael ac yn gallu effeithio ar adar ac ystlumod.
· Gofynnwyd am eglurhad ar yr amser terfyn ar gyfer cerddoriaeth dan do.
Ymatebodd y Rheolwr Datblygu:
· Cadarnhaodd ei fod yn nodi 12 digwyddiad allanol ar gyfer pob cais felly 24 digwyddiad y flwyddyn. Caniateir 28 diwrnod y flwyddyn galendr i ddefnyddio tir at ddiben penodol o dan hawliau datblygu a ganiateir. Mae'r cais wedi'i gyfyngu i 24 diwrnod fesul blwyddyn galendr. Mae yna amod sy'n cyfyngu ar ddigwyddiadau cydamserol i ddau, a byddai'n rhaid i ddigwyddiadau awyr agored orffen am 5.00pm. Gall digwyddiadau dan do fynd ymlaen yn hwyrach gyda cherddoriaeth gyfyngedig i 11.00pm.
· Roedd y gorlif goleuadau a welwyd yn dod o oleuadau mewnol y Ganolfan Ymwelwyr. Bydd yr amod ar y caniatâd cynllunio gwreiddiol, a fyddai'n ceisio rheoli goleuadau allanol yn hytrach na goleuadau mewnol, yn cael ei wirio. Gellir ystyried amod newydd i geisio rheoli goleuadau allanol a mewnol er mwyn cyfyngu ar orlif goleuadau o'r adeiladau.
Eglurodd y Pennaeth Cynllunio fod gwahaniaeth barn gyda CNC, gweithwyr proffesiynol ac ecolegwyr eraill. Doedd dim gwrthwynebiad gan Swyddog Bioamrywiaeth y Cyngor. Cafodd yr aelodau eu hannog i wneud penderfyniad cytbwys yn cyfeirio at yr amodau, monitro a gwella ecolegol cadarn.
Gan barhau i ystyried adroddiad y cais a'r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Bydd y cynigion yn effeithio ar y safle a chymunedau cyfagos (pobl a natur)
· Mae maint y dogfennau a'r gwrthwynebiadau yn ysgubol.
· Nid oes modd anwybyddu gwrthwynebiadau gan ecolegwyr, CNC, arbenigwyr a sefydliadau bywyd gwyllt e.e. yr effaith ar adar, dyfrgwn, ystlumod, moch daear ac ati
· Mae'r amod sy'n monitro marwolaethau dyfrgwn neu foch daear wrth fynedfa'r safle yn peri gofid, ac ni fydd yn atal marwolaethau bywyd gwyllt.
· Sut fydd sbwriel yn cael ei reoli?
· Beth sy'n cael ei ystyried fel digwyddiad a faint o bobl all y lleoliadau gynnal?
· A yw'r cyhoedd yn gallu cael mynediad i'r safle yn ystod digwyddiadau. Pa effaith fydd ar y briffordd ac ar ymylon os na all ymwelwyr barcio ar y safle. Os bydd digwyddiadau'n cael eu hysbysebu bydd y ffyrdd cul yn brysurach.
· Byddai cyfarfod ar y safle gyda swyddogion CBS Torfaen, CNC, yr ymgeisydd ac ecolegwyr yn cael ei groesawu, i gael gwell dealltwriaeth o’r cuddfannau a’r mathau o fywyd gwyllt.
· Ydy hwn yn lleoliad parti addas? Dim gwrthwynebiadau i gyfarfodydd a digwyddiadau ond nid lleoliad parti.
· Caniateir balconi'r Ganolfan Ymwelwyr fel estyniad o'r lleoliad tan 11 o'r gloch y nos felly gyda'r gorlif goleuadau a cherddoriaeth, mae’n debyg i ddigwyddiad allanol.
· O ran yr adroddiad adar sy'n gaeafu a bywyd gwyllt arall, holwyd os oes cynlluniau i fonitro effaith barhaus os rhoddir cymeradwyaeth.
· Ystyrid mai'r unig fantais yw i'r ymgeisydd.
Ymatebodd y Rheolwr Datblygu:
· Yn anffodus, mae dyfrgwn yn cael eu lladd ar y ffyrdd yn aml. Ni fyddai'r cynigion yn cynyddu nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r rhwydwaith priffyrdd yn sylweddol. Mae cyfle i sefydlu llinell sylfaen o arolwg o ran marwolaethau dyfrgwn. Gellir gwneud addasiadau os yw'r duedd yn codi.
· Dylai'r maes parcio mawr ddarparu ar gyfer defnyddwyr y safle.
· Bydd s?n yn cael ei gadw o fewn yr adeilad ac os oes s?n pan fydd ffenestri ar agor, gall Iechyd yr Amgylchedd fonitro hynny. D?r Cymru yw'r corff cyfrifol sydd â chyfrifoldeb corfforaethol i ymwneud â'r gymuned, i fod yn weithredwyr ystyriol a chyfrifol y safle.
· O ran adar sy'n gaeafu mae amod sy'n darparu diogelwch dim defnydd (gan gynnwys defnydd mewnol) rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror, hyd nes y bydd yr awdurdod cynllunio lleol wedi cytuno ar raglen monitro adar y gaeaf gyda CNC.
Roedd y Pennaeth Cynllunio yn cyfeirio at y bywyd gwyllt ac yn pwysleisio bod angen cydbwysedd o ran polisi cynllunio gyda llythyr y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd yngl?n â'r angen i ddiogelu ein SoDdGA. Mae'r defnyddiau arfaethedig wedi'u cyfyngu'n drwm. Atgoffwyd aelodau fod dau gais. Os oes pryderon am effeithiau cronnus y ddau ddatblygiad, efallai y bydd yn fwy priodol i aelodau ystyried ai dim ond un o'r ceisiadau y dylid ei ystyried yn ffafriol. Atgoffwyd yr aelodau y gallai peidio â derbyn argymhellion swyddogion, pan nad oes gwrthwynebiadau, arwain at gostau proses apêl.
Gan barhau i ystyried adroddiad y cais a'r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Deallwyd bod D?r Cymru o'r farn nad oes defnydd o adeilad y gamp dd?r yn ddigonol ond gan ei fod mewn SoDdGA, dylid ystyried sut i'w ddefnyddio'n well i adlewyrchu ei natur arbennig.
· Awgrymodd Aelod gyfaddawd o wrthod y Ganolfan Ymwelwyr ond caniatáu’r cais ar y ganolfan chwaraeon d?r gyda’i amodau llym. Mae'n lleihau'r effaith ar y bywyd gwyllt gan ei fod ymhellach i ffwrdd.
· Awgrymodd Aelod gohirio hyn er mwyn caniatáu i D?r Cymru ystyried pa gais i'w gyflwyno’n ôl.
· Mae'r Ganolfan Ymwelwyr yn agosach at y ffordd felly ar ôl iddi dywyllu mae goleuadau o gerbydau sy'n pasio. Mae gan y gronfa dd?r ardaloedd lle gall bywyd gwyllt fodoli'n dda heb gael eu heffeithio a byddai'n bellach i ffwrdd o adar sy'n nythu.
Ar ôl cael ei roi i'r bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid - 3
Yn erbyn - 11
Ymatal - 0
Cafodd y cynnig, yn seiliedig ar argymhelliad y swyddog, ei wrthod.
Penderfynwyd gwrthod cais DM/2020/00762, er mwyn ei ohirio er mwyn ei drafod.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sirol Ben Callard ac eiliwyd y Cynghorydd Sirol Jan Butler, bod y rheswm o wrthod yn seiliedig ar resymau ecolegol ond, yn unol â'r protocol mabwysiedig, byddai'r mater yn cael ei adrodd yn ôl i Bwyllgor dilynol er mwyn i’r rheswm dros wrthod cael ei drafod.
Dogfennau ategol: