Skip to Main Content

Agenda item

Diogelwch Cymunedol yn Sir Fynwy

Trafod Diogelwch Cymunedol yn Sir Fynwy gyda Chadeirydd y Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Sir Fynwy Ddiogelach), drwy gyflwyno Cynllun Sir Fynwy Ddiogelach..

 

Cofnodion:

Roedd y Prif Arolygydd John Davies wedi rhoi trosolwg byr o’i rôl a Sir Fynwy Ddiogelach ac roedd Sharran Lloyd, Andrew Mason a John Crandon wedi cyflwyno’r cyflwyniad ac ateb cwestiynau gyda’r Prif Arolygydd. 

Her:

O ran cofnodi troseddau, dyna gategorïau'r Swyddfa Gartref? Ond nid oes yna gategori gan y Swyddfa Gartref ar gyfer  cam-drin domestig – mae’n yn cael ei gofnodi o dan ‘Trais Gyda/Heb Anaf?

Byddai dal yn cael ei ystyried fel trais rhywiol, er yn cael ei ystyried fel rhywbeth sydd yn gysylltiedig gyda cham-drin yn y cartref: byddai trosedd sylweddol ar aelwyd gyda dau oedolyn sydd yn byw gyda’i gilydd a’n h?n na 18 yn cael ei ystyried fel achos o gam-drin yn y cartref. Mae’n ‘tag’ cam-drin yn y cartref sydd yn rhan o ystadegau’r Swyddfa Gartref a dyma sydd yn ei gysylltu gydag achos o gam-drin yn y cartref. Mae digwyddiad yn y cartref yn medru cynnwys nifer o elfennau, sydd yn golygu eu bod yn drosedd gynradd, sydd wedyn yn cael ei tagio ac mae’r cam-drin domestig yn rhan o hyn.

Yn ôl y pen o’r boblogaeth, achosion o drais a throseddau rhywiol eraill yw’r ail uchaf yng Ngwent? 

Cywir – Sir Fynwy yw’r ail uchaf er bod ein poblogaeth yn weddol isel. Efallai bod pobl yn fwy hyderus yma yn rhoi gwybod am unrhyw droseddau, o’u cymharu ag awdurdodau eraill,

Wrth drafod achosion o gam-drin yn y cartref a thrais, mae yna gyfeiriad at ffactorau economaidd-gymdeithasol. Fodd bynnag, mae’r nifer o achosion ym Mill (Gorllewin Magwyr)  yn uwch nag yn Dewstow, ac nid oes yna broblemau penodol ym Mill o ran ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Mae rhesymau economaidd-gymdeithasol wedi eu nodi dros y blynyddoedd ond rydym wedi sylwi nad yw llawer o achosion yn cael eu hadrodd mewn ardaloedd lle nad yw heriau  economaidd-gymdeithasol wedi bod yn amlwg. Mae hyn yn bwysig iawn i ni nodi wrth i barhau gyda’n gwaith. Rydym yn un o’r byrddau prin ar y lefel yma sydd yn ystyried hyn fel rhywbeth difrifol.

 

A fydd gweithredu’r terfyn 20mya yn cael ei graffu gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol?

Rydym yn trefnu gr?p diogelwch traffig er mwyn ystyried hyn mewn mwy o fanylder, ac rydym yn gobeithio medru rhannu mwy o adborth yn y dyfodol.

Mae’r rheswm am y difaterwch yn eglur: nid yw pobl yn credu bod yna unrhyw werth yn ffonio’r heddlu gan nad ydynt yn credu y bydd rhywun yn ymateb i’r alwad a rhywbeth yn digwydd. Dyma’r hyn sydd angen ei ddatrys. 

Mae adnoddau yn cael eu neilltuo yn seiliedig ar y bygythiadau a’r risgiau. Adnoddau cymdogaethau penodol …Pan ein bod yn ystyried y bygythiadau a’r risgiau, rydym wedi dod allan o Covid ac i mewn i fyd gwahanol, gan gynnwys gosod pobl mewn gwesty... Rhaid i ni ddysgu i ymateb i’r pethau yma. Drwy drefniadau’r Bartneriaeth, rydym yn ceisio  meddwl mewn ffordd gydgysylltiedig….mae angen deall beth yw achos ac effaith y penderfyniad hwnnw.... gall arwain at droseddwyr. Maent yn aml yn mynd i’r lleoliadau yma gan ddod yn ddioddefwyr... Mae ein trefniadau partneriaeth newydd yno er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu mewn modd cydgysylltiedig wrth wneud penderfyniadau.  

Rydym yn profi heriau gyda phobl yn cysylltu gyda ni…..Mae darn sylweddol o waith i’w wneud er mwyn cynnig sicrwydd, ac nid ydym yn cyfathrebu’r elfennau positif gymaint ag y dylem….mae hyn yn gyfrifoldeb ar yr is-grwpiau…sicrwydd y byddwn ni…a swyddog cyfathrebu penodol sydd yn gweithio ar negeseuon y bartneriaeth – nid yn unig negeseuon yr heddlu ond bod y bartneriaeth gyfan yn delio gyda hyn.

 

Rydym wedi cael problemau gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol  yng Nghas-gwent. Rhan o’r broblem yw’r gwesty a ddefnyddir i letya pobl ddigartref fel rhan o’r mesurau  Covid, ac mae’n cynnwys ymddygiad treisgar. Pan ddaw dyletswydd y Cyngor yn broblem, sut ddylem gyfathrebu hyn gyda’r heddlu?

O ran Gwesty George, mae rheolwr tai a thîm cymorth gan Gyngor Sir Fynwy sydd yn gofalu am y trigolion sydd angen eu lletya ar ôl Covid. Mae’n dasg ddyddiol iddynt i gydlynu, gyda chymorth penodol yn cael ei neilltuo ar gyfer  y llefydd yma o gwmpas y sir.  Os yw unigolion penodol yn achosi trafferth, bydd yr Heddlu, Iechyd a Thai yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn dod o hyd i lety mwy addas. Ond mae’n broblem anodd a pharhaus, yn enwedig i’r Rheolwr Tai.

 

A oes modd i ni ddeall sut y mae adnoddau yn cael eu rhannu yn yr ardal gan fod hyn yn arwain at ddifaterwch o ran cofnodi troseddau?

Rydym yn neilltuo adnoddau ar sail bygythiadau a risgiau. Mae nifer penodol o adnoddau cymdogaethau gennym sydd yn seiliedig yn Nhrefynwy, Cas-gwent a’r Fenni ynghyd â’r canolfannau lle y mae’r swyddogion heddlu. Rydym wedi dod allan o’r pandemig i fyd newydd; rydym yn dechrau deall y materion sydd wedi eu creu yn ystod y cyfnod hwnnw ac wedi dysgu sut i ymateb iddynt. Drwy drefniadau’r bartneriaeth, rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd gydgysylltiedig  e.e. os yw awdurdod lleol yn penderfynu gosod unigolion mewn lleoliad penodol, rydym angen deall achos ac effaith y penderfyniad hwnnw gan ei fod yn debygol o gael effaith ar nifer o asiantaethau eraill. Mae’r unigolion hynny yn aml yn cael eu hystyried yn droseddwyr ond maent fel arfer yn ddioddefwyr. 

 

Mae pobl yn cael trafferth yn rhoi gwybod am ddigwyddiadau ar-lein neu dros y ffôn. A oes modd ail-gyfathrebu sut i wneud hyn ymhlith trigolion? Mae nifer o achosion o bobl yn cymryd ac yn delio cyffuriau ond nid yw pobl sydd yn adrodd hyn yn derbyn ymateb ac mae hyn yn broblem o adnoddau.

Mae yna broblemau gyda phobl yn ceisio cysylltu gyda ni. Yn y cyflwyniad, mae yna swigen felen sydd yn nodi’r strategaeth gyfathrebu yn benodol: fel partneriaeth, mae ein cyfathrebu gyda’r cyhoedd wedi dioddef yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae darn sylweddol o waith angen ei wneud er mwyn amlygu sut i gysylltu gyda ni ond mae angen cyfathrebu’r straeon llwyddiannus hefyd, ac mae hyn yn gyfrifoldeb ar yr is-grwpiau  sydd wedi eu nodi. Mae Swyddog Cyfathrebu penodol gennym nawr.

 

Yn dilyn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am adnoddau, nodwyd fod  270+ o swyddogion yn y sir yng Ngorffennaf 2019  ac mae wedi disgyn i 170 ym 2022 – ble mae’r adnoddau yma wedi mynd? Beth mae modd ei wneud gan y partneriaethau er mwyn rhoi mwy o adnoddau i’n cymunedau?

Mae pob lle wedi profi dirywiad o ran adnoddau ond rydym yn y broses o newid hyn gyda 100 o swyddogion yn ymuno gyda’r gwasanaeth o fewn y 12 mis nesaf, a bydd cyfran yn cael ei neilltuo ar gyfer Sir Fynwy. Mae Arolygydd Cymdogaeth wedi dechrau yng Nghil-y-coed: mae’n ystyried ble y mae angen yr adnoddau ac wedi nodi fod Cil-y-coed yn flaenoriaeth.  Danfonwyd 2 swyddog ddydd Gwener i Gil-y-coed o Gasnewydd, a hynny’n ychwanegol at yr adnoddau sydd yno’n barod - mae hyn yn dangos sut y mae adnoddau yn medru cael eu teilwra i’r lleoedd y maent eu hangen, a hynny’n seiliedig ar fygythiadau a risg. 

 

Pam nad oes yna Orsaf Heddlu amlwg yn ne’r sir?

Roedd ystâd yr Heddlu wedi ei adolygu a’i ddiwygio 10 mlynedd yn ôl, a hynny’n seiliedig ar y defnydd  a wnaed o’r gorsafoedd heddlu;  yn sgil hyn, nid oedd yn hyfyw i gadw rhai gorsafoedd ar agor i’r cyhoedd, er bod swyddogion dal yn gweithio yno. 

 

Roedd Cynghorwyr yn mwynhau perthynas dda gyda’r heddlu, ond yn ddiweddar, mae yna drosiant uchel o Arolygwyr. A yw’n bosib arafu hyn ac adnewyddu’r berthynas?

Rwy’n cytuno. Y drafferth gyda gwasanaeth heddlu fel Gwent yw bod unigolion yn derbyn cyfrifoldebau unigol, sydd yn hawlio eu sylw ac yn eu dwyn i ffwrdd o’r gwaith bob dydd.  Rydym eisoes wedi cydnabod hyn ac rydym yn ceisio sicrhau bod yr unigolion yma yn parhau yn eu rôl am 2 flynedd os yn bosib.

 

Awgrymwyd bod arian sydd yn dod i Gil-y-coed wedi ei wario ar Gamerâu Cylch Cyfyng  - pa mor ddefnyddiol oedd hyn o ran dod o hyd i droseddu ac erlyn hyd yma? A ydym yn derbyn gwerth am arian?

Rydym yn ystyried ar hyn o bryd y ffordd orau i reoli’r Camerâu Cylch Cyfyng. Mae’r nifer yng Nghil-y-coed wedi cynyddu ac wedi eu huwchraddio o’r 6 camera analog.  Mae’r camerâu yn gweithio ond mae yna broblem pan fydd cyflenwad trydan y stryd yn cael ei effeithio, nid yw’r camerâu yn gweithio. Mae  ‘USP’ yn cael ei osod er mwyn atal hyn rhag digwydd. Mae’r Gr?p Defnyddwyr  Camerâu Cylch Cyfyng yn cwrdd yn aml er mwyn codi unrhyw faterion a phryderon. Mae yna gyfarfod gennym cyn hir er mwyn  ystyried a oes modd cynyddu’r ddarpariaeth yng Nghil-y-coed: rydym yn ymwybodol o’r bwlch rhwng camera  Lôn Sandy a Heol Casnewydd, er enghraifft. Mae yna ddwy ran i’w hystyried:  canfod ac atal –  mae’n anodd gosod rhif ar y nifer o achosion sydd yn cael eu canfod yn sgil y camerâu ac yn fwy anodd i asesu’r hyn sydd yn cael ei atal yn sgil Camerâu Cylch Cyfyng. Rydym yn gwybod fod pobl yn teimlo’n fwy diogel yn sgil y camerâu yma. Rydym yn ymgynghori gyda darparwyr Camerâu Cylch Cyfyng er mwyn gofyn beth arall sydd yn medru cael ei wneud. Fel pob dim, mae’n fater o gyllid ond mae’n dda bod pobl yn ystyried hyn.  

 

A oes modd defnyddio cyllid gan gynigion er mwyn talu am fwy o oriau gan Swyddogion Cymorth yr Heddlu?

Yn anffodus, wrth wneud cais i’r Swyddfa Gartref, rhaid i’r cynnig esbonio sut y bydd yr arian yn cael ei wario a rhaid cydymffurfio gyda’r cylch gorchwyl. Roedd y rownd olaf ar gyfer cynigion Strydoedd Diogelach wedi ei wneud ar lefel Gwent oherwydd teimlwyd bod Awdurdodau Lleol yn cystadlu gyda’i gilydd ar sail pwy sydd yn dioddef y nifer uchaf o droseddau.

Mae’r heddlu yn cydnabod fod yna broblemau ar draws  Gwent ac ni ddylai derbyn cyllid yn y rownd gyntaf ein hatal  ni rhag gwneud ceisiadau yn y rowndiau dilynol.

 

Nid oeddem wedi clywed am yr arolwg tan 2 ddiwrnod cyn y cyfnod cau. A ydym yn derbyn adborth gan y bobl fwy bregus?

Rydym yn ymddiheuro am hyn - gosodwyd yr amserlen gan y Swyddfa Gartref. Erbyn i ni sylweddoli ein bod yn medru cyflwyno cynnig, roedd yna 2-3 wythnos gennym i baratoi. Rydym yn dechrau ystyried sut y mae’r cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu yn cael ei weithredu  ar y cyd gyda gr?p Sir Fynwy Diogelach, fel nad yw’r cyhoedd ond yn siarad gyda ni pan ein bod yn ymgynghori ar gynnig. Rydym am weld deialog barhaus, gan glywed y lleisiau mwy bregus a chyrraedd y sawl na sydd ar-lein.

 

A yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi ei achosi gan y gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc? Wrth geisio datrys y broblem, a fyddai’n werth cynnwys Gwasanaethau Ieuenctid, Nyrsys Dalgylch, Gweithwyr Cymdeithasol a Darpariaeth Blynyddoedd Cynnar? 

Bydd y gr?p ar gyfer datrys y broblem yn aml-asiantaeth. Rhaid i ni feddwl am ataliaeth ynghyd ag ymateb i ddigwyddiadau yng Nghil-y-coed a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn gwneud hyn. Mae Gwasanaethau Ieuenctid, MonLife, Canlyniadau Positif, swyddogion Cyswllt Ysgolion, timau Camerâu Cylch Cyfyng, GDAS ac eraill yn mynd i fynychu’r cyfarfod. Bydd Cynghorau Tref hefyd yn cael eu cynrychioli. Rydym yn nodi’r argymhelliad i gynnwys cynrychiolaeth blynyddoedd cynnar.

 

Nid yw’r asesiad strategol wedi ei adnewyddu ers 2019 – pryd fydd yn cael ei ddiweddaru a beth yw’r amserlen?

Rydym yn adolygu sut i gynnal asesiad strategol ar lefel Gwent. Mae trafodaethau yn parhau gan i ni gydnabod, cyn  Covid, bod ein cynlluniau eisoes yn barod pan oeddem yn ei dderbyn, ac roeddem am wneud y ddogfen yn fwy pwrpasol. Nid oes yna amserlen glir ar gael ond rydym yn ceisio sicrhau bod yr asesiad strategol nesaf yn cael ei ddatblygu yn y flwyddyn ariannol hon o leiaf.   Rydym yn derbyn y pecynnau dadansoddi troseddau misol ac yn defnyddio data gan bartneriaid Sir Fynwy Diogelach. Ond yr her bresennol  yw nad yw data o’r byrddau rhanbarthol  yn cael ei gyflwyno fel sydd angen.

 

Beth mae’r Heddlu yn gwneud am ymddygiad gwrthgymdeithasol? A ydym wir yn derbyn cefnogaeth ar gyfer problemau trigolion? Rydym yn derbyn e-byst gan drigolion drwy’r amser yn dweud nad ydynt yn derbyn cymorth e.e.  e-bost diweddar am lygredd s?n honedig.

Rhannwch yr e-bost yna gyda ni. I ni ar lefel Partneriaeth, mae’n bwysig ein bod yn gwybod os nad ydych yn derbyn y gwasanaeth cywir  ar y lefel gywir – mae mwy o bobl yn medru chwarae rôl yn y fath achosion fel yr un a ddisgrifir, nid yr Heddlu yn unig. Dyna pam ein bod wedi sefydlu’r Bartneriaeth hon, fel bod eraill hefyd yn atebol a’n bod yn sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan.

 

Beth yw’r ystadegau ar gyfer y Troseddau Casineb?
Mae Troseddau Casineb yn cael ei gydlynu gan Heddlu Gwent, ac mae partneriaeth Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb gennym. Mae yna swyddog Cydlyniant Cymunedol gennym sydd yn cael ei rannu gyda Chasnewydd. Nid yw’r data wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond rydym yn medru cael gafael ar yr ystadegau yn yr ardal yma ar gyfer y pwyllgor. Yn y 12-18 mis diweddaraf, rydym wedi ceisio cynyddu’r hyn sydd yn cael ei adrodd – mae yna lefel sylweddol o achosion o Droseddau Casineb heb eu hadrodd ar draws Cas-gwent. Rydym wedi sicrhau cynnydd ond y nod nawr yw sicrhau canlyniadau mwy positif. 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Yn amlwg, mae yna fylchau sylweddol yn y data. Cytunodd Aelodau bod data pellach i’w gasglu a  dylid gwahodd y Comisiynydd Troseddau er mwyn craffu a thrafod hyn. Cytunodd y Prif Arolygydd  Davies gyda hyn: bydd y data yn cael ei ddarparu i’r tîm Cymunedau a Phartneriaethau. Dros y 12-18 mis diwethaf, mae yna gynnydd wedi bod yn y nifer o achosion sydd yn cael eu hadrodd - y cam nesaf yw sicrhau canlyniadau positif ac rydym yn gweithio ar hyn ar hyn o bryd. Cytunodd y Prif Arolygydd   i ddod yn ôl i’r Pwyllgor er mwyn diweddaru Aelodau ar y gwaith.

Awgrymodd y Cynghorydd  Butler y gellir dangos y data mewn ffordd well e.e. canran yn erbyn y boblogaeth mewn trefi penodol ayyb er mwyn dangos tueddiadau gwell. 

Ers Covid, dywedodd y Cadeirydd fod yna gynnydd sylweddol wedi bod mewn troseddau casineb tuag at y gymuned Tsieinïaidd ac Asiaidd. Nid ydym yn gwneud digon i gyfathrebu gyda’r bobl yma, ac felly, byddem yn croesawu unrhyw fentrau neu ddata.

Anogwyd Aelodau i edrych ar y sesiynau sydd i’w cynnal yn wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb.

Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn mynegi ei bryderon am ddiffyg data er mwyn delio gyda’r materion yma o fewn ein cymunedau ac yn annog partneriaid i ddarparu data ystadegol perthnasol ar ddiogelwch yn y gymuned.

Diolch i’r Prif Arolygydd a’r swyddogion am heddiw.

 

 

Dogfennau ategol: