Cofnodion:
Nodwyd y rhestr weithredu o'r cyfarfod diwethaf.
1. Cydweithrediadau Allweddol: Rhoddodd y Rheolwr Perfformiad a Mewnwelediad Data ddiweddariad i'r Pwyllgor bod rhestr ddrafft o gydweithrediadau allweddol yn barod i'w rhannu ag Archwilio Mewnol a'r Tîm Arweinyddiaeth Strategol, cyn ei ychwanegu at y Blaengynllun Gwaith.
Statws Gweithredu: Ar agor (Argymhelliad i Gau - 24ain Tachwedd 2022)
2. Croesgyfeirio adroddiadau gyda Chylch Gorchwyl y Pwyllgor: Bydd y Prif Archwilydd Mewnol yn adolygu adroddiadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn erbyn cylch gorchwyl y Pwyllgor. Wrth symud ymlaen, bydd yn sicrhau bod adroddiadau ar y Blaengynllun Gwaith yn cynnwys croesgyfeiriadau.
Cam Gweithredu: Ar agor (Yn parhau tan Fawrth 2023)
3. Adroddiad Alldro Archwilio Mewnol:
i) Gwahodd rheolwyr gwasanaeth i'r cyfarfod nesaf o ran: Barn Gyfyngedig (Teithio Rhatach) a Fflyd (Iechyd a Diogelwch a Rheoli Gyrwyr): Mae'r eitem hon ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod heddiw.
Statws Gweithredu: Wedi cau
ii) Darparu ffigyrau Twyll (nid canrannau): Cynghorodd y Prif Archwilydd Mewnol
bod y wybodaeth wedi cael ei choladu a sylwebaeth wedi cael ei hychwanegu i'w dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor.
Statws Gweithredu: Ar agor (Argymhelliad i Gau – 24ain Tachwedd 2022)
4. Rhestr Weithredu: Mae'r rhestr weithredu wedi cael ei diwygio
Statws Gweithredu: Wedi cau
5. Datganiad Cyfrifon:
i) Dywedodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro fod y gwelliannau wedi'u gwneud a bydd y ddogfen yn cael ei chwblhau gan y Pwyllgor hwn yn y cyfarfod nesaf.
Statws Gweithredu: Ar agor (Argymhelliad i Gau – 24ain Tachwedd 2022)
ii) Cynllun terfyn cyflymder 20mya ac argaeledd ariannu ar gyfer gwrthdroad y cynllun: Bydd ymateb yn cael ei ddosbarthu erbyn diwedd yr wythnos.
Cam Gweithredu: Ar agor (Argymhelliad i Gau – 24ain Tachwedd 2022)
6. Diweddariad ac Amserlen Chwarterol Archwilio Cymru: Mae adroddiad Sicrwydd ac Asesiad Risg Archwilio Cymru ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod heddiw.
Statws Gweithredu: Wedi cau
7. Adroddiad Llamu Ymlaen Archwilio Cymru:
i) Mae'r Prif Archwilydd Mewnol a'r Dirprwy Brif Weithredwr yn cwrdd â'r Cadeirydd; bydd trefniadau craffu ar gyfer y bobl a'r strategaethau asedau yn cael eu trafod.
Statws Gweithredu: Ar agor.
ii) Bydd y Cadeirydd yn trafod y cynnydd yn erbyn cerrig milltir allweddol dros dro yn y cyfarfod uchod.
Statws Gweithredu: Ar agor.
iii) Diweddaru a chwblhau'r Cynllun Corfforaethol a Chymunedol: Eglurodd y Rheolwr Mewnwelediad Perfformiad a Data fod y Cynllun ar agenda'r Cabinet yr wythnos nesaf a bydd yn cael ei ystyried gan y Cyngor ar 27ain Hydref 2022. Mae'r Cynllun yn gosod cyfeiriad cychwynnol i'w ddatblygu ymhellach. Mae disgwyl i'r Cynllun llawn gael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2023 ochr yn ochr â'r gyllideb.
Statws Gweithredu: Ar agor.
8. Asesiad Risg Strategol Awdurdod Cyfan
Roedd y Cadeirydd yn cynnig cymorth ar y camau a restrir yn y cyfarfod olaf i'w cau erbyn diwedd y flwyddyn galendr. Esboniodd y Rheolwr Perfformiad a Mewnwelediad Data y bydd fformat diwygiedig y Gofrestr Risg yn ystyried y sylwadau a wnaed a bydd fersiwn ddrafft yn cael ei rhannu gyda'r Cadeirydd.
Mae'r risg Tai wedi cael ei ail-asesu fel un "Uchel". Mae'r gofrestr risg wedi ei diwygio yn unol â hynny.
Statws Gweithredu: Ar agor (Argymhelliad i Gau – 24ain Tachwedd 2022)
9. Trefnu cyfarfodydd yn nes at ddiwedd y chwarteri: Wedi'i dynnu o'r rhestr weithredu.
Statws Gweithredu: Wedi cau
Dogfennau ategol: