Agenda item

Cyflwyniad - Gorsafoedd ambiwlans Trefynwy a Chas-gwent: Trafod y newidiadau i orsafoedd ambiwlans yn Nhrefynwy ac ar wal Parc rhwng Cas-gwent a Chil-y-coed.

Cofnodion:

Roedd Jason Killens ac Estelle Hitchon wedi mynychu o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ac wedi rhoi’r cyflwyniad ac ateb cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Her:

Yr pryder allweddol yw tynnu’r cerbydau ymateb brys o Drefynwy a Chas-gwent, ac felly, mae’n mynd i effeithio ar yr amser i ymateb i achosion fel trawiad ar y galon neu ddamwain difrifol ar y fferm yn yr ardaloedd hynny.

Rydym yn cydnabod y pryderon yma. Rydym yn ceisio defnyddio’r adnoddau sydd gennym yn y ffordd fwyaf effeithlon, er mwyn sicrhau’r gorau ar gyfer ein cleifion. Mae’n wir fod y data a ddefnyddir yn deillio o  2019, a bod llawer wedi newid ers hyn; ym Mai, roeddem wedi gwneud modelu gyda chwmni gwahanol er mwyn profi a oedd yr hyn yr ydym yn bwriadu gwneud yn mynd i arwain at welliannau mewn amser oedd ymateb ac mae’r ateb yn bositif. Tra y bydd yna lai o fudd o wneud hyn, yn sgil yr aflonyddwch a cholledion yn yr adrannau damweiniau brys, byddwn yn gweld cynnydd yn y perfformiad coch ac ambr. Ni fydd y newidiadau roster yn cywiro’r problemau yr ydym yn wynebu o ran amseroldeb ein hymateb ond byddant yn helpu.  

 

Mae’r modelau yn cynnwys sicrwydd ond beth os yw’r amseroedd ymateb yn methu?  

Rydym yn monitro perfformiad bob awr. Os yw’r perfformiad yn dirywio, byddwn yn ystyried yn gyntaf pam fod hyn wedi digwydd  e.e. a oes mwy o weithgarwch, mwy o gapasiti wedi ei golli mewn unedau damweiniau brys ayyb neu fel ararall, byddem yn ymateb drwy newid yr adnoddau sydd ar gael, ychwanegu mwy o bobl, newid oriau neu’n gweithredu mesurau eraill. Dylid cofio ein bod yn gosod mwy o ambiwlansys ac adnoddau gofal brys ychwanegol mewn ymateb i’r newid yn  rhestr waith yr ambiwlansys.

 

Gyda llai o ambiwlansys yn yr ardaloedd yma, a fydd yr ambiwlansys awyr yn cael eu defnyddio’n fwy aml?

Nid ydym yn lleihau’r nifer o ambiwlansys ond yn cyflwyno mwy . Bydd mwy ar gael ar lefel genedlaethol a lleol - mwy na 30 yn genedlaethol, gyda mwy na 40 o oriau ychwanegol ar draws y fflyd yn Sir Fynwy bob wythnos. Nid ydym yn gyfrifol am Ambiwlans Awyr Cymru ond rydym yn ymwybodol bod eu modelu hwythau ar y newidiadau arfaethedig i’w gwaith yn dangos na fydd unrhyw ddirywiad ar gyfer cleifion sydd angen Ambiwlans Awyr neu’u hymateb i ddamweiniau ffordd - nid oes yna gysylltiad rhwng yr hyn y maent hwy yn gwneud a’r hyn yr ydym yn gwneud, ac eithrio’r ffaith bod pawb yn ceisio sicrhau’r defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael. 

 

Gyda gorsaf sy’n seiliedig ar hyb, y broblem yw’r cyfnod 8 munud – nid yw ambiwlans yn medru cyrraedd mannau yn Sir Fynwy o orsaf ganolog yn y cyfnod hwnnw. Efallai bod meddalwedd y model  yn arwain at amser ymateb gwell ar gyfartaledd ond ni fydd hyn yn berthnasol i’r ardaloedd mwy pellennig a fydd yn derbyn amser ymateb gwaeth?

Nid ydym yn cau gorsafoedd. Rydym yn buddsoddi ac yn bwriadu cynnal presenoldeb yn Nhrefynwy. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau gorsafoedd yn Nhrefynwy neu Gas-gwent o ganlyniad i’r newid  yn y rhestr waith.

 

Mae’r amseroedd coch cyfartalog ar gyfer BIPAB ond mae hynny’n berthnasol i'r ardaloedd trefol - byddai’n ddefnyddiol i weld yr amseroedd coch ar gyfer Sir Fynwy. A fydd yna ambiwlans ymateb brys llawn yn Nhrefynwy, yn disodli’r cerbyd ymateb brys? Gyda gwasanaethau brys, a yw’n well i gael gormod o gapasiti yn hytrach na dim digon o gapasiti? 

Rydym yn cytuno o ran gormod o gapasiti. Mae ein fflyd yn cael ei ddefnyddio’n ormodol ar hyn o bryd, sydd yn golygu bod rhaid i gleifion aros am gyfnodau hir. Mae llawer o’n gwaith yn ffocysu ar geisio lleihau hyn. Rydym wedi ein comisiynu i ddarparu gwasanaeth ar lefel bwrdd iechyd, a dyna pam ein bod wedi defnyddio’r data ar y lefel yna. Nid oes yr adnoddau gennym i gyrraedd y targedau yma ym mhob lleoliad bob dydd o’r wythnos. Rydym yn gweithio gyda chyfartaleddau yn sgil hyn. Nid yw pob ambiwlans yn gweithio bob awr o’r wythnos – bydd rhai yn cael eu staffio,  12, 16, 18 awr y diwrnod. Mewn rhai achosion, mae capasiti sylweddol gennym, a byddwn wedyn yn defnyddio’r cerbyd am gyfnod hirach. Mewn rhai achosion, mae yna gerbydau newydd yn mynd i gael eu cyflwyno. Rydym yn medru darparu’r data penodol ar gyfer Trefynwy. 

 

Sut ydych yn gweithio gyda’r gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr?

Ar lefel weithredol bob dydd gyda Lloegr, rydym yn derbyn galwadau ar ran ein gilydd ac yn eu trosglwyddo yn ôl ac ymlaen, gyda ninnau yn ymateb weithiau i alwadau mewn rhan arall e.e. Swydd Henffordd a byddant hwy yn ymateb i rai o’n galwadau ni, yn enwedig galwadau Coch. 

 

O ran “cau darnau o ofal yn ofalus”, pa effaith y mae trin pobl lle y mae rhywbeth yn digwydd yn mynd i’w gael ar y tîm gofal iechyd cynradd? 

Fel enghraifft, mae dyn h?n gyda  COPD a’n fyr ei anadl ac yn methu mynd i ofal cynradd am ryw reswm a’n ffonio 999 - ar hyn o bryd, byddem yn ymateb ac yn debygol o gludo’r claf i’r uned damweiniau brys. Mae’n debygol fod angen antibiotig arno. Nawr, rydym yn medru danfon ymarferydd parafeddyg ato a fydd yn asesu’r claf, ysgrifennu presgripsiwn ar gyfer antibiotig, yn trefnu bod fferyllfa yn danfon hyn ato ac yn rhoi gwybod i’r Meddyg Teulu. Mae’r claf felly yn medru aros gartref, heb orfod mynd yn yr ambiwlans ac aros y tu allan i’r uned damweiniau brys, am gyfnod hir ac wynebu risg pellach ar ôl mynd i mewn - a thra’n aros tu fas, nid yw’r ambiwlans ar gael i neb arall yn y gymuned. Felly, os oes modd i ni gau’r fath achos yn ddiogel a phriodol yn y gymuned, bydd yn elwa’r claf a’r system iechyd yn gyffredinol. Mae’n rhaid bod hyn yn rhan o sut ydym yn gwella’r gwasanaeth a phrofiadau ein cleifion. 

 

Mae angen sicrhau bod triniaeth yn y cartref yn fwy holistaidd – mae darn arall o’r GIG angen ategu yr hyn yr ydych yn ceisio gwneud.

Rydym yn cytuno’n llwyr, ac felly’n parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y GIG er mwyn creu cyfleoedd i’n clinigwyr i atgyfeirio at rannau eraill o’r system. Nid ydym yn medru parhau i gludo’r un nifer o gleifion i’r adrannau brys – mae yna ffyrdd gwell o wneud pethau. Ond rydymangen cymorth gan y byrddau iechyd er mwyn gwireddu hyn.  

 

Pan fydd rhywun yn ffonio 999, a oes modd i chi gadarnhau bod hyn yn mynd i’r ganolfan alw, sydd wedyn yn gwneud penderfyniad yngl?n ag a ddylid danfon ambiwlans ffordd neu awyr - sut mae’r penderfyniad yn cael ei wneud?

Wedi deialu 999, bydd y person yn siarad gyda gweithiwr BT a fydd yn gofyn pa wasanaeth brys sydd ei angen. Os mai ambiwlans sydd angen, yna mae’r alwad yn mynd i ystafell reoli’r gogledd neu’r de. Bydd cyfres o gwestiynau yn cael eu gofyn a’r ambiwlans yn cael ei ddanfon. Mae cwestiynau pellach yn cael eu gofyn am y claf er mwyn cadarnhau a oes angen help pellach, gan gynnwys yr ambiwlans awyr, yn seiliedig ar y  ‘dispatch criteria’. Felly, y math o glaf a’r broblem yw’r elfen gritigol, nid y lleoliad.

 

Mae’r cynlluniau ar gyfer gorsaf Trefynwy yn dda. Ble fydd yr ambiwlansys lleol ychwanegol yn cael eu lleoli? Bydd trigolion yn pryderi am yr amseroedd ateb coch: yn sgil yr amser i deithio i ardaloedd gwledig, nid wyf yn methu deall pam eich bod yn israddio’r gorsafoedd yn Nhrefynwy a Chas-gwent.

Rydym yn ychwanegu mwy o gapasiti yn sgil y newid hwn. Ond mae’r pwynt am yr natur wledig yn un da: nid oes ots faint o gerbydau sydd ar gael, nid yw’n bosib cyrraedd pob un lle o fewn 8 munud, yn sgil y ddaearyddiaeth a’r rhwydwaith ffordd. Er mwyn gwella’r cyfle i gyrraedd mwy o alwadau ynghynt,  mae’r  cynllun ymatebwr cyntaf cymunedol gennym:  6-700 o unigolion ar draws Cymru sydd yn ymateb i alwadau yn eu cymunedau er mwyn darparu ymyrraeth sydd achub bywyd tra’n aros am yr ambiwlans. Rydym yn buddsoddi yn y gr?p hwn, gan ychwanegu capasiti, hyfforddiant a’n hysbysebu am recriwtiaid newydd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy i gefnogi cymunedau gwledig ac mae’r cynllun yn ffordd dda o wneud hyn.

 

Caeodd gorsaf ambiwlans Cas-gwent ychydig o amser yn ôl ond mae yna fan gorffwys ar gyfer cerbydau argyfwng brys. Sut y mae hynny yn medru delio gyda phoblogaeth fawr, gyfun sydd yng Nghil-y-coed a Chas-gwent gyda chymaint o bellter o Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Athrofaol y Faenor?

Mae’n fae Ymateb Cymunedol – nid yw’n orsaf lawn ond mae yna adnoddau sydd yn gweithio oddi yno. Nid oes yna fwriad i newid neu leihau’r nifer o leolaidau yr ydym yn gweithio ynddynt o ganlyniad i’r newidiadau  i’r rhestr waith. Rydym yn hapus i ysgrifennu ymateb llawn i chi am sut y mae bae Ymateb Cas-gwent yn gweithio. 

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi trafod y cynigion mewn manylder ac wedi esbonio ein pryderon ar ran trigolion o ran y capasiti a’r amser i fynychu digwyddiadau critigol mewn sir wledig. Rydym yn deall fod yr Ymddiriedolaeth wedi cynnal modelu manwl er mwyn rhagweld y patrymau galw  a’n cynnig tystiolaeth ar gyfer y newidiadau y maent yn cynnig. Tra bod y Pwyllgor yn cydnabod fod yr Ymddiriedolaeth yn gwneud y newidiadau hyn er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o ran adnoddau i wasanaethu cymunedau, rwy’n sicr bod yr Ymddiriedolaeth yn cydnabod bod pryderon gennym ac rydym yn gofalu am fuddiannau ein trigolion.  Mae’r Pwyllgor yn falch o gael y cysur nad oes yna gynlluniau ar waith i gau’r  gorsafoedd yn Sir Fynwy a bod yr  Ymddiriedolaeth yn ei Gynllun Busnes yn bwriadu buddsoddi yn ei bresenoldeb ar lawr gwlad. At hyn, mae’r Pwyllgor yn falch clywed bod yr Ymddiriedolaeth yn bwriadu cyflwyno mwy o ambiwlansys yn genedlaethol a dros fwy  o oriau ychwanegol yn Sir Fynwy fel rhan o’r cynigion yma  a bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fonitro’r perfformiad a'r amseroedd aros. Tra nad ydym yn gwbl gefnogol o gynigion yr Ymddiriedolaeth,  rydym yn gwerthfawrogi’r cyfle i’w trafod yma gyda’r Ymddiriedolaeth er mwyn deall yn well y penderfyniadau sydd i’w cymryd a rhannu pryderon ein cymunedau. Hoffem ddiolch i Jason am y cyfle i siarad gyda chi a deall pa mor brysur ydych, ac felly, rydym yn gwerthfawrogi eich bod wedi mynychu heddiw. Hoffem ddiolch i’r holl Aelodau, gan gynnwys y sawl na sydd ar y Pwyllgor, am eu mewnbwn ar y mater pwysig hwn.