Skip to Main Content

Agenda item

Polisi Cludiant Cartref i'r Ysgol: Cynnal craffu cyn penderfynu ar y polisi.

Cofnodion:

Roedd yr Aelod Cabinet Martyn Groucott wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau'r Aelodau gyda  Debra Hill-Howells a Becky Pritchard.

 

Her:

Mae llefydd gwag weithiau yn cael eu cymryd gan bobl sydd yn dymuno danfon eu plant i ysgolion y tu allan i’r ardal dalgylch. A oes yna ffi ar gyfer hyn? Sut ydym yn pennu pwy fydd yn cymryd y llefydd gwag sydd yn weddill?

Mae’r polisi yn eglur bod plant yn cael eu cludo i’r ysgol agosaf neu’r ysgol dalgylch, ac felly, nid  oes hawl gan rieni i ddewis pa ysgol y bydd y drafnidiaeth yn cludo disgyblion. Ond oes yna lefydd gwag ar y bws, mae modd i ni rhyddhau’r rhain er mwyn talu am ychydig o gost y drafnidiaeth. Bydd ceisiadau ôl-16 yn cael eu blaenoriaethu gan nad oes yna ofyniad statudol ar gyfer eu cludo a byddem am eu cefnogi i barhau gyda’u haddysg.   Os oes yna seddi gwag da ar ôl, mae yna bolisi consesiynol y mae rhieni yn medru gwneud cais ar ei gyfer, a hynny ar y sail mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu; yn y polisi newydd, rydym yn cynnig delio gyda hyn drwy ffafrio’r sawl sydd yn byw bellaf o’r ysgol.

 

A yw’r trothwy diogelwch yn y mesur teithio ar gyfer dysgwyr yn rhy uchel? A oes modd diwygio’r asesiad cerdded fel bod yna broses apêl lle y mae Aelodau lleol yn medru cyflwyno eu dealltwriaeth o’r ardal leol i’r Prif Swyddog? 

Nid oes unrhyw newid i’r pellter y byddai disgwyl i ddisgybl gerdded cyn bod yn gymwys ar gyfer cludiant. Mae’r penderfyniad yngl?n ag a yw’n ddiogel i gerdded yn cael ei wneud gan Swyddog Diogelwch y Ffordd annibynnol ac nid gan aelod o’r tîm trafnidiaeth ysgol. Rydym ond wedi ehangu ar yr esboniad (e.e. rydym yn cymryd yn ganiataol bod pob plentyn ysgol gynradd yn cael ei dywys gan oedolyn) – mae’r polisi sylfaenol yn parhau heb ei newid.  

 

O dan y goblygiadau adnoddau, y gost ar gyfer 22/23 yw tua £5.4m. A yw hyn wedi ei brofi eto yn sgil y cynnydd mewn costau byw a thanwydd ayyb, ac os felly, sut?

Rydym yn mynd allan i dendr ar gyfer ein holl gontractau, ac maent yn cael eu dyfarnu yn gwbl gywir a heb ffafriaeth. Rydym hefyd yn gofyn i’n tîm mewnol i gyflwyno tendr o ran cost fel bod modd ni gymharu’r ddarpariaeth fewnol gyda’r ddarpariaeth allanol.  Nid ydym yn derbyn unrhyw dendrau ar gyfer rhai contractau, ac felly, nid oes dewis gan ein tîm mewnol ond ymgymryd â’r contract. Mae hyn wedi golygu bod rhaid i ni brynu cerbydau newydd, gan gynyddu cost y ddarpariaeth i’r Awdurdod. Rhaid i ni dalu am unrhyw gynnydd gan ddibynnu ar y darlun cenedlaethol, gan weithio gyda chydweithwyr yn Nhorfaen a Chasnewydd er mwyn sicrhau, pan fyddwn yn gwneud hyn, nad ydym yn creu marchnad  a chystadleuaeth rhyngom ni a’r awdurdodau cyfagos. Mae’r Awdurdod yn talu am y rhan fwyaf o’r gost, ac nid yw’n effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaeth oni bai eu bod yn h?n na 16 mlwydd oedd neu’n teithio’n gonsesiynol. Y gost ar gyfer hyn yw £440 y flwyddyn, gyda’r Awdurdod yn cynnig cymhorthdal sylweddol: mae’r gost ar gyfer lle, na sydd yn le ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn £1900 y sedd am bob disgybl. Mae rhieni yn medru talu  mewn rhandaliadau dros y flwyddyn newydd. Mae £440 yn debygol o fod dipyn yn rhatach na’r opsiwn arall sydd ar gael, sef gwneud trefniadau teithio eu hunain.

 

A oes yna gyfle i adolygu’r contractau yma gyda’r gweithredwyr e.e. yn sgil y cynnydd mewn costau tanwydd?

Roeddem wedi cynyddu’r holl gontractau 9.7% ym mis Ebrill er mwyn adlewyrchu’r costau byw, cyfradd a gytunwyd yn genedlaethol. Mae gweithredwr yn medru dychwelyd  y contract.

 

Ar draws y sir, mae ysgolion cynradd ac uwchradd gwahanol yn meddu ar ardaloedd dalgylch gwahanol. A fydd trafnidiaeth dal yn cael ei darparu ar gyfer lleoliadau gwahanol o’r un ardal? Beth yw costau hyn?

Mae hyn yn deillio o newid yn nalgylch Ysgol Gyfun Caerllion o rai o’r ysgolion cynradd yn ardal Bynrbuga/Llangybi. Gan mai Caerllion oedd yr ysgol agosaf cyn hyn, roedd y daith gyfartalog yn 3 milltir. Ond nawr, maent yn mynd i Ysgol Gyfun Trefynwy ac mae’r daith ar gyfartaledd yn 18 milltir, ac mae yna gynnydd sylweddol mewn costau. Rydym wedi cytuno i gynnal adolygiad cyfyngedig o’r ardaloedd dalgylch. Mae yna rai trafferthion mewn rhai ardaloedd fel sydd wedi eu nodi a bydd yr adolygiad yn ystyried hyn. Os yn cwrdd â’r gofynion ar gyfer teithio, bydd dal hawl statudol gan ddisgyblion i gael trafnidiaeth.

 

I blant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdodau lleol, mae trefniadau weithiau yn chwalu ac efallai eu bod angen symud at deulu arall. A oes unrhyw beth yn y polisi sydd yn ystyried hyn, er mwyn sicrhau parhad yn yr ysgol y maent yn mynychu?

Mae’r hawl i apelio yn rhan annatod o’r polisi  ynghyd ag ystyriaeth o unrhyw amgylchiadau arbennig. Gan eu bod yn ymwneud ag achosion unigol, byddai’n anodd ystyried pob un sefyllfa fel rhan o un polisi. Felly, rydym yn pwysleisio’r agen i apelio fel bod modd ystyried amgylchiadau arbennig. 

 

O ran yr A40/42, mae llawer o drigolion yn codi pryderon am groesi’r ffordd er mwyn dal y bws. A yw’r llwybrau diogel yn cael eu hasesu ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd?

Mae’r asesiad o lwybrau yn ystyried oedran y teithiwr gan ei fod yn cymryd yn ganiataol bod disgyblion cynradd yn cael eu tywys. Nid ydym yn ymwybodol o’r mater hwn – ond gallwn ofyn i’r Swyddog Diogelwch y Ffordd ei ystyried ond nid oes modd i ni ddileu’r risg yn gyfan gwbl. Bydd y Swyddog yn ystyried a oes digon o welededd ayyb - nid yw pwynt diogel i groesi’r ffordd yn golygu o reidrwydd bod angen pwynt croesi penodol. 

 

Nid oes dim un o’r gorsafoedd bysiau ac eithrio un ar hyd  yr A40/42 yn meddu ar gwrb isel er mwyn caniatáu cadair olwyn i gael mynediad.

Ar gyfer disgybl penodol ag anghenion penodol, byddem angen gwerthuso’r ddarpariaeth ond mae’r holl drafnidiaeth sydd yn cael ei darparu yn hygyrch fodd bynnag.  

 

Mae angen gorffen y groesfan Sebra yng Nghoetre, fel rhan o lwybr cerdded diogel i’r ysgol gynradd. 

Mae llwybrau diogel yn gyfrifoldeb MonLife - e-bostiwch yr Aelod Cabinet a bydd yn cael ei drafod gyda’r tîm.

 

 

A yw hysbysu p’un ai bod dysgwr ôl-16 wedi derbyn sedd i deithio i ysgol y tu hwnt i’r sir cyn dechrau’r tymor yn newid i’r polisi?

Ydy - cynigiwyd hyn fel newid gan ein bod yn cydnabod y trafferthion y mae disgyblion yn cael yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg neu addysg yn seiliedig ar ffydd gan nad ydym yn cynnig y rhain y sir, a hynny ar ôl i ni wrando ar yr adborth i’r ymgynghoriad. Byddant yn cael eu blaenoriaethu o flwyddyn nesaf pan fyddwn yn ystyried ceisiadau ôl-16. 

 

Mae’r Swyddog Diogelwch y Ffordd yn asesu llwybrau yn newid yn y polisi. Byddai’n ddefnyddiol pe bai yna fecanwaith apelio ar gyfer Prif Swyddogion fel bod modd ystyried barn Aelodau, oherwydd mae’r Aelod yn hollol  ddi-rym os yw’r wybodaeth  sydd gan y Swyddog yn gwrthgyferbynnu’r hyn sydd gan yr Aelod. Rwyf yn awgrymu bod y lwybrau peryglus disgresiynol yn cael eu hychwanegu at y polisi fel bod Aelod yn medru gofyn i Uwch Swyddog i adolygu’r penderfyniad. 

Mae asesiad o’r llwybr yn cael ei gynnal gan Swyddog wedi ei hyfforddi ac mae yn annibynnol o’r tîm trafnidiaeth ysgol, gan weithredu o fewn canllawiau clir, fel bod pob un rheol yn cael ei weithredu’n wrthrychol ar gyfer pob cais.  Mae hyn yn deg gan nad yw’r asesiad yn cael ei wneud gan y Swyddog sydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. O ran apelio yn erbyn penderfyniad fod llwybr yn ddiogel ar gyfer cerdded arno,  mae yna bolisi clir ar hyn o bryd ar gyfer gwrthwynebu hyn. Mae ein Swyddog Trafnidiaeth yn gwneud y penderfyniad cychwynnol yngl?n ag a ddylid derbyn yr argymhelliad bod y llwybr yn ddiogel: pe bai rhieni yn apelio, byddai angen i’r Pennaeth Trafnidiaeth ystyried hyn. Byddai barn yr Aelod lleol hefyd yn cael ei ystyried fel sydd wedi digwydd yn barod eleni. Mae’r broses yma, gyda dau gam, felly yn deg ac yn wrthrychol ac nid oes angen ei ddiwygio.

 

Byddai dal yn ddefnyddiol pe bai’r polisi yn caniatáu’r Aelod lleol i ofyn i’r Prif Swyddog i adolygu penderfyniad disgresiynol.

Ni fyddem am ymyrryd gyda pholisi fel bod modd effeithio ar ddadansoddiad cychwynnol unrhyw Swyddog Diogelwch y Ffordd. Mae’n gywir fod hyn yn annibynnol. Efallai bod modd i ni ychwanegu ambell air sydd yn esbonio fod ‘hawl gan rieni’, a hynny ‘gydag Aelod lleol’ – bydd yr  Aelod Cabinet yn ystyried hyn yn syth ar ôl y cyfarfod heddiw.

 

A oes unrhyw ffyrdd, drwy ein adran gyfreithiol, i gryfhau’r contractau ar gyfer gweithredwyr? Os yw gweithredwr yn penderfynu rhoi’r gorau iddi pan fydd yn dod yn ‘rhy ddrud’, yna nid yw hyn o reidrwydd yn  gontract?

Gallwn godi hyn gyda Matt Phillips, y Prif Swyddog Cyfreithiol.

 

Ar gyfer disgyblion cyfrwng Cymraeg, nid oes yna ddewis ganddynt i dderbyn addysg uwchradd yn y sir, sydd yn golygu bod llawer yn gorfod teithio dipyn o bellter a bydd hyn yn digwydd pan fydd plant sydd yn mynychu’r ysgol uwchradd newydd yn Nhrefynwy angen mynd i ysgol uwchradd Gymraeg – rhaid i ni edrych ar hynny yn y dyfodol.  

Mae’r polisi sydd yn ymwneud gyda darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth cyfrwng Cymraeg wedi ei gryfhau eleni:  “byddwn yn darparu trafnidiaeth i’r ysgol cyfrwng Cymraeg neu’r ysgol ffydd agosaf.” Ond rydym yn derbyn y pwynt fod mwy nag un cyfnod sylfaen ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac nid ydym yn cynnig darpariaeth uwchradd yn Sir Fynwy. Mae yna ddadl ar gyfer pwyllgor gwahanol, ac fel awdurdod, rydym wedi ymrwymo i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. 

 

Pe bai plentyn yn symud dros nos i deulu maeth, sut ydym yn mynd i’w cefnogi fel rhieni corfforaethol er mwyn osgoi aflonyddu eu haddysg? A yw’r broses apelio yn ddigon da yn y fath achos?  

Os yw person ifanc yn cael ei adleoli, byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr ym maes gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod modd darparu trafnidiaeth, fel arfer yn ddisgresisynol, gan na fyddent yn cwrdd â’r gofynion statudol. Byddem yn sicr yn ceisio sicrhau na fyddai’r plentyn o dan anfantais yn sgil  cael ei symud.

 

Mae rhai teuluoedd yn siomedig eu bod yn talu £400 am drafnidiaeth gan fod y dalgylch wedi newid tra bod eu plant  yn yr ysgol gynradd – a oes modd eu hystyried? Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cosbi gan y Cyngor. A oes modd penderfynu ar hyn fesul achos?

Rydym yn ymwybodol o’r teuluoedd yma yn sgil ymyrraeth y Cynghorydd a byddwn yn ystyried y mater. Mae’r newid yn y dalgylch yma (ar gyfer ysgol  Caerllion) wedi ei wneud gan Gyngor Dinas Casnewydd heb ymgynghori gyda neb arall - gan gynnwys Cyngor Sir Fynwy. Yn anffodus, nid ydym yn medru ystyried dymuniad disgybl i aros gyda’i ffrindiau ond rydym eisoes wedi addo cynnal adolygiad cyfyngedig o’r meysydd dalgylch yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r polisi angen ei adolygu’n flynyddol ac wedi bod yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r adborth wedi ei ystyried wrth i ni ddiwygio’r polisi. Mae’r Pwyllgor Craffu wedi derbyn cais i gymeradwy’r polisi ar gyfer  2023-2024. Rydym wedi medru trafod hyn mewn manylder bore yma gyda chyfraniadau defnyddiol gan yr Aelod Cabinet a’r Swyddogion. A yw’r Pwyllgor yn teimlo’n fodlon gyda’r atebion i’w cwestiynau ac a yw’r Pwyllgor yn hapus i gymeradwyo’r polisi, yn amodol ar unrhyw ddiwygiadau sydd wedi eu hawgrymu a bod yr Aelod Cabinet wedi cytuno eu derbyn? Bydd unrhyw gwestiynau sydd angen eu hateb yn cael eu rhannu gan yr Aelod  ar ôl y cyfarfod. Os yw’r Pwyllgor yn fodlon, byddwn yn symud ymlaen gyda’r agenda gan ddiolch i’r Cynghorydd Groucutt, Deborah Hill-Howells a Becky Pritchard am fynychu heddiw.

 

Roedd y Cynghorydd Brown yn dymuno nodi fod yr Aelod Cabinet yn cytuno i newid y geiriau sydd yn ymwneud gyda chynnwys Aelod yn y broses apelio.  

 

 

Dogfennau ategol: