Agenda item

Cais DM/2022/00696 – Cynnig am estyniad blaen un llawr. Arosfa, Llanfair Iscoed, Sir Fynwy, NP16 6LY.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell cymeradwyo’r cais, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Caerwent, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi hysbysu’r Pwyllgor fod yna bryder yn lleol am hyd yr estyniad. 

 

Roedd y Cynghorydd M. John, yn cynrychioli Cyngor Cymuned Caerwent, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r cais o dan Bolisi H6 – estyn aneddiadau gwledig.  

 

·         Er mwyn diogelu cymeriad cefn gwlad, dylai estyniadau i aneddiadau sydd y tu allan i ffiniau’r pentref fod yn rhai diymhongar ac yn parchu neu’n gwella ymddangosiad yr annedd presennol.  Os yw’r annedd o natur draddoaidol, rhaid parchu ei ffurf bresennol ym mhatrwm a siâp y deunydd a’r hyn a ddefnyddir. 

 

·         Nid yw’r Cyngor Cymuned yn credu fod y cais yn cwrdd â gofynion Polisi H6.

 

·         Mae unrhyw estyniad a fydd yn arwain at gynnydd o fwy na 50% ym maint yr annedd gwledig yn cael ei ystyried fel arfer yn rhywbeth sydd cydymffurfio gyda Pholisi H6.

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn ystyried bod yr eiddo hwn yn meddu ar rinweddau a dylid ei ystyried fel annedd gwledig traddodiadol o ran yr amgylchedd  lleol. Maent yn nodwedd anarferol a’n  rhan o gymeriad y lleoliad. Mae’r aneddiadau yn debyg iawn i fythynnod y  coedwigwyr sydd wedi eu lleoli gerllaw.  

 

·         O ran hawliau datblygu a ganiateir, ni fyddai’r estyniad yma yn cael ei ganiatáu fel ag y mae.  

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned yn deall nad yw  hawliau datblygu a ganiateir yn atal cais cynllunio ond maent yn cynnig cyfeirnod pan yn ystyried ceisiadau. 

 

·         Nid oes dim o’r tai setliadau tir yn y gymdogaeth agos neu estynedig yn meddu ar estyniadau ar y blaen. Mae rhai wedi eu hymestyn i’r ochr. Mae rhai o’r tai yma yn meddu ar gyntedd (porch) sydd yn gyson gyda’r adeiladau gwreiddiol.  

 

·         Mae’n anodd deall sut y mae modd disgrifio’r estyniad yma fel  eilradd. Mae’r dyluniad o’r estyniad arfaethedig wrth yrru allan o’r pentref ar yr  A48 yn wahanol i’r lluniau sy’n cael eu dangos o bwynt arall.  

 

·         Mae pryderon gan y Cyngor Cymuned am faint y datblygiad arfaethedig a’r cynnydd ym maint bwthyn o’r maint gwreiddiol. Cynnydd o 61% ers 2013.

 

·         Mae’r Cyngor Cymuned wedi argymell bod y cais yn cael ei wrthod. 

 

Roedd Mr. S. Roderick, sydd yn gwrthwynebu’r cais, wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Dyluniad ac effaith ar y cymeriad lleol, paragraffau  b, c, e a g o Bolisi DES1 yn berthnasol.

 

·         Mae’r estyniad yn fawr iawn ar flaen yr eiddo sydd ger y ffin. Nid yw’n ‘porch’. Mae’n ymestyn 4 metr o’r blaen, yn fwy na hanner maint yr annedd ac yn 4 o led.  

 

·         Bydd bron 16 gwaith yn fwy na phorth pren a bydd modd ei weld o’r pentref. Mae dipyn yn fwy na’r estyniadau sydd gan gymdogion ac mewn aneddiadau tebyg.  

 

·         Nid oes un estyniad yn fwy na metr o’r rhan blaen ac nid oes yr un yn fwy na 3 metr sgwâr o ran ôl-troed. Mae’r estyniadau yma yn parchu’r cymeriad lleol a’r hanes. Nid yw cais yma yn gwneud hyn. 

 

·         Mae’r estyniad arfaethedig yn annerbyniol o fawr ac nid yw’n gwella unrhyw agwedd bensaernïol ac yn methu dilyn  unrhyw linellau  esthetig yr annedd gwreiddiol.  

 

·         Nid yw’n gyson gyda’r nodweddion blaenorol ac mae’n niweidio tirwedd y gwrthwynebydd a’r ardaloedd cyfagos mwy.  

 

·         Mae polisi EP1 yn datgan y dylai estyniadau i adeiladau cyfredol barchu preifatrwydd, amwynder ac iechyd y sawl sydd yn byw mewn eiddo cymdogol.  

 

·         O ran polisi DES1 paragraff d, mae’r ddeddfwriaeth cydraddoldeb a TAN 12 yn berthnasol.

 

·         Mae eiddo’r gwrthwynebydd o fewn llain las yn y cefn gwlad. Mae Mapiau Tir yn  nodi fod y tirwedd weledol a synhwyraidd yn uchel ac yn eithriadol ac yn pwysleisio pwysigrwydd tirwedd wledig, agored Caerwent.

 

·         Mae’r amwynder yma yn cynnig ymdeimlad o fod yn agored a rhyddid gan ganiatáu cyflwr iechyd meddwl a lles positif. Mae’r gwrthwynebydd wedi elwa o hyn am 13 mlynedd.  

 

·         Bydd yr estyniad yn cael effaith adweithiol ac yn effeithio ar ymdeimlad o les.

 

·         Wrth adael ei eiddo, bydd y gwrthwynebydd yn wynebu wal sy’n 4 metr o uchder  a fydd yn lleihau’r amwynder ar flaen yr eiddo bron i 50%. Yn misoedd yr hydref a’r gaeaf, bydd hyn yn waeth. Bydd effaith hyn ar wraig y gwrthwynebydd yn waeth gan ei bod yn ddibynnol ar gadair olwyn. Bydd hyn ei gormesu ac yn effeithio ar ei hansawdd bywyd.  

 

·         Wrth wneud y penderfyniad i argymell y dylid cymeradwyo’r cais, roedd angen i’r Adran Gynllunio i gynnal asesiad o effaith hyn ar nodweddion gwarchodedig pobl. Credwyd fod hyn wedi ei anwybyddu.  

 

·         Polisi H6 a’r weledigaeth strategol  – roedd pob un parti yn cytuno bod y cynnig yn ychwanegu at estyniad 2013 a’n mynd i fynd y tu hwnt i’r cyfyngiad rhwng 61% a 71%.  Byddai hyn yn uwch na’r cyfyngiad o 50%.

 

·         Mae polisi H6 yn datgan bod angen i’r estyniad fod yn ddiymhongar. Mae’r canllaw yn cynnig diffiniad eglur ar gyfer y cysyniad yma.  Byddai estyniad yn cael ei ystyried fel rhywbeth diymhongar os nad yw’n fwy na 30% o faint yr annedd gwreiddiol. Fodd bynnag, mae modd addasu hyn hyd at 37% ond ni ddylai fod yn fwy na 50%. Os yw estyniad yn cael ei adeiladu ar ôl 2006, mae’n annhebygol y bydd estyniad pellach yn cael ei ganiatáu oni bai bod y gwaith a wneir hyn yn disgyn o fewn y cyfyngiad o ran maint, ac nid yw’n fwy na  50%.

 

·         Byddai cymeradwyo’r cais yn tanseilio’r stratgaeth Cynllun Datblygu Lleol. 

 

·         Roedd y gwrthwynebydd wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y cais.  

 

Roedd Richard Shuck, cynrychiolydd yr ymgeisydd, wedi mynychu’r  cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r ymgeiswyr wedi byw yn yr ardal am nifer o flynyddoedd ac yn gwerthfawrogi’r dirwedd y maent yn byw ynddi.

 

·         Mae natur amaethyddol/wledig i’r ardd gyda nifer o blanhigion amrywiol. 

 

·         Mae trafodaethau wedi eu cynnal gyda chymdogion am leoliad yr estyniad ac mae cynrychiolydd yr ymgeisydd wedi argymell gosod yr estyniad ar flaen yr eiddo gyda’r nod o fynd i’r afael gyda’r materion sydd wedi eu codi gan gymdogion. 

 

·         Mae’r estyniad arfaethedig yn 1 metr o’r ffin er mwyn cyfyngu cymaint ag sydd yn bosib, y golau sydd yn cael ei golli yn y rhan yma.

 

·         Roedd yr ymgeisydd am i’r estyniad fod yr un maint â’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol y tu nol i’r eiddo, a hynny fel rhan o’r  hawl datblygu a ganiateir. 

 

·         Mae’r estyniad arfaethedig yn gyson gyda’r eiddo cyfredol gan ddefnyddio llechi, gyda  ‘composite tile’ ar y to sydd wedi ei rendro.  

 

·         Mae’r plot yn ddigon mawr ar gyfer estyniad bach ar flaen yr eiddo ac yn cydnabod nad yw’n fwy na’r cyfyngiad o ran  50%. Fodd bynnag, yn yr achos, ystyriwyd bod hyn yn dderbyniol.

 

·         Mae’r eiddo yn yr ardal yn meddu ar ôl-troed bach. Felly, mae angen i deuluoedd i gynyddu maint yr ôl-troed yr eiddo yma.

 

·         Mae’r ymgeiswyr angen  mwy o le i fyw drwy gyfrwng yr estyniad arfaethedig er mwyn medru lletya aelod ychwanegol o’r teulu. 

 

Wedi ystyried adroddiad yr ymgeisydd a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Ni ddylai estyniad un llawr ar gefn y t? fod yn fwy na hanner yr ardal o gwmpas y t? gwreiddiol. Ni ddylai uchder  bondo’r estyniad fod yn uwch na rhai y t?. Os yw’r estyniad o fewn 2 metr o unrhyw d?, ni all y bondo fod yn fwy na 3 metr ac ni all yr estyniad fod yn fwy na  4 metr o hyd wrth fynd o gefn yr eiddo, a hynny o wal gefn y t? gwreiddiol. Ni all yr estyniad fod yn fwy na 4 metr mewn uchder. 

 

·         Os oedd yr ymgeiswyr yn ymestyn eu heiddo i gefn y t? ac yn parhau  o fewn y cyfyngiadau yma, ni fyddai angen caniatâd cynllunio gan fod mod adeiladu hyn fel rhan o’r hawliau datblygu a ganiateir.  

 

·         Mae’r estyniad arfaethedig wedi ei ddylunio mewn modd fel bod y to yn lliniaru ei effaith ar y  cysgod.

 

·         Mynegwyd pryderon am effaith weledol yr estyniad arfaethedig ar yr eiddo drws nesaf.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Dale Rooke ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Tony Easson y dylid gwrthod cais DM/2022/00696 ar y sail canlynol a dylid ail-gyflwyno’r cais mewn cyfarfod arall o’r Pwyllgor Cynllunio gyda’r rhesymau priodol dros wrthod;

 

·         Effaith adweithiol ar amwynder yr eiddo drws nesaf

·         Byddai’r lleoliad, graddau a’r dyluniad yn anghyson gyda’r hyn sydd o gwmpas.

·         Diffyg cydymffurfiaeth gyda Pholisi  H6 (maint a’n niweidio cymeriad yr annedd).

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gwrthod                                   -           10

Yn  erbyn gwrthod      -           2

Yn ymatal rhag pleidleisio                   -           1

 

Pleidleisiwyd o blaid  cynnig.  

 

Roeddem wedi cytuno y dylid gwrthod cais DM/2022/00696 ar y sail ganlynol a dylid ail-gyflwyno’r cais mewn cyfarfod arall o’r Pwyllgor Cynllunio gyda’r rhesymau priodol dros wrthod;

 

·         Effaith adweithiol ar amwynder yr eiddo drws nesaf

·         Byddai’r lleoliad, graddau a’r dyluniad yn anghyson gyda’r hyn sydd o gwmpas.

·         Diffyg cydymffurfiaeth gyda Pholisi  H6 (maint a’n niweidio cymeriad yr annedd).

 

 

 

Dogfennau ategol: