Agenda item
Cais DM/2022/00494 – Annedd newydd (Llain 2). Azalea Cottage, Old School Hill, Mynyddbach, NP16 6RP.
Cofnodion:
Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:
- Mynegwyd pryderon fod caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer dau blot sydd yn rhannu ffordd sy’n arwain atynt. Fodd bynnag, bydd y ffordd yma yn cael ei datblygu o dan amod 8.
- Mae datganiad dull adeiladu yn perthyn i amod 11. Awgrymodd yr Aelod lleol fod y canlynol yn cael ei ychwanegu:
- Cynllun i osgoi’r heol yn cael ei lenwi gan gerbydau adeiladu yn ystod amseroedd pan fydd yr ysgol gynradd yn dechrau a’n gorffen.
- Mae pryderon wedi eu mynegi yngl?n â’r problemau o edrych dros y safle. Mae Amod 14 yn cyfeirio at y datganiad gwella bioamrywiaeth sydd i’w ddilyn yn 4. Mae hyn yn cyfeirio at ardal o goetir sydd i’w gadw yn ochr ogleddol y sir. Mae modd edrych dros yr eiddo yn yr ardal nawr. Roedd yr Aelod lleol wedi gofyn i’r coetir i gael ei wella gan fod hyn wedi ei gynnwys yn yr amodau cyfredol. Mae celynennau wedi eu tynnu oddi yno’n ddiweddar, sy’n golygu bod modd edrych dros y tai cyfagos hyd yn oed yn fwy
Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi ymateb fel a ganlyn:
- Mae yna amod arfaethedig ar gyfer Datganiad Dull Adeiladu ond mae hyn yn ymwneud gydag ecoleg yn hytrach na’r cerbydau sydd yn mynd i mewn ac allan o’r safle. Fodd bynnag, mae modd ychwanegu Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu drwy gyfrwng amod os yw’r Pwyllgor yn credu bod hyn yn angenrheidiol.
- Wrth edrych dros y tai cyfagos, mae yna ardd gefn 30 metr o gefn yr eiddo newydd i’r ffin. Mae yna 30 metr pellach o’r ffin i’r eiddo sydd y tu nôl sydd yn gyfystyr gyda phellter o 60 metr rhwng y ddau annedd. Mae yna nifer o goed sylweddol sydd yn meddu ar Orchmynion Cadwraeth Coed (TPOs) ar waelod yr ardd ac mae angen cadw’r rhain sydd o fewn yr ardal blannu. Mae yna lethr sylweddol ar y safle. Felly, nid ydym yn credu fod yna effaith adweithiol o ran edrych dros y cymdogion. Yn sgil yr uchder a’r llystyfiant sydd rhyngddynt, mae amwynder y cymdogion yn cael eu diogelu.
- Mae rhai celynennau wedi eu tynnu i lawr er mwyn medru ail-leoli’r polyn trydan. Mae yna rai coed eraill sydd yn medru cael eu cadw. Mae yna resymau ecolegol eraill.
- Mae Amod 14 yn amlygu dyluniad a lleoliad y mesurau gwella ecolegol a ddaw i rym pan fydd y datblygiad yn dechrau.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Fay Bromfield y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00494, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106 gydag amod ychwanegol ar gyfer Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 13
Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 1
Ymatal rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00494 ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106 gydag amod ychwanegol ar gyfer Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu.
Dogfennau ategol: