Agenda item

Cais DM/2021/01763 - Newid Defnydd y Tir i Loches Anifeiliaid. Llety dros dro ar wedd carafán deithio, i alluogi staff i weithio yn y Lloches Anifeiliaid i aros dros nos yn achlysurol i gynorthwyo gydag anifeiliaid sy’n wael neu wedi anafu. Fferm Rhewl, Drenewydd Gellifarch i Fferm Rhewl, Drenewydd Gellifarch, Cas-gwent.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.  

 

Roedd yr ymgeisydd wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi gwneud y pwyntiau canlynol: 

 

·         Mae’r noddfa ar gyfer anifeiliaid yn cynnig cartref i anifeiliaid nad yw pobl yn eu dymuno mwyach, sydd wedi eu hesgeuluso, eu cam-drin a’u diystyru.

 

·         Ar hyn o bryd, mae’r safle yn gartref i 200 o anifeiliaid fferm. Mae’r fferm yn elusen gofrestredig.

 

·         Mae’r safle yn cynnwys 62 erw gyda choedwigoedd a thir ffermio isel.

 

·         Mae perllannau wedi eu plannu hefyd ynghyd â phlanhigion a hardd perlysiau meddyginiaeth ar gyfer yr anifeiliaid. Mae’r ymgeisydd yn  dad-ddofi tir ar hyd a lled y noddfa.

 

·         Mae gwaith wedi ei wneud gydag elusennau bywyd gwyllt ers 2019. Mae ystlumod heb rieni yn cael eu cynorthwyo i fynd yn ôl i’r byd gwyllt yn y noddfa.

 

·         Mae 50 blwch ar gyfer llygod bach wedi eu gosod yn y coedwigoedd.

 

·         Nid yw gwrtaith a chemegau byth yn cael eu defnyddio ar y tir ac mae’r anifeiliaid yn derbyn bwyd organig ac sydd heb ei addasu’n enetig. 

 

·         Matt Pritchard, y cogydd enwog, yw noddwr y noddfa.

 

·         Mae’r noddfa wedi ei phleidleisio fel un o hoff noddfeydd anifeiliaid y DU yn 2020 a 2021.

 

·         Mae tîm  staff y noddfa  wedi yn byw’n lleol ac mae hyd at 230 o wirfoddolwyr yn helpu gyda digwyddiadau bach.  

 

·         Mae’r noddfa yn cael ei chefnogi gan roddion a digwyddiadau codi arian.  

 

·         Mae pobl leol yn dod i adnabod y noddfa ac yn dymuno ymweld a gwirfoddoli yno. Mae’r ffocws ar les yr anifeiliaid sydd yn golygu nad oes modd i bobl fynd yno i ymweld ar hap. Fodd bynnag, mae ymweliadau teilwredig wedi eu trefnu.   

 

·         Nid yw hon yn fenter fasnachol ond yn noddfa fechan sydd am helpu anifeiliaid mewn angen, yn amddiffyn yr amgylchedd ac yn cynnig cymorth a lles i bobl sydd eu hangen.

 

·         Mae angen carafán er mwyn caniatáu staff i aros yno dros nos a helpu anifeiliaid sydd yn sâl yn ystod argyfyngau. 

 

Roedd yr Aelod lleol dros Drenewydd Gelli-farch wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r noddfa wedi ei lleoli oddi ar heol wledig sydd yn amhriodol o gul. Roedd yr Aelod lleol wedi cyfeirio at farn yr Adran Briffyrdd yn adroddiad  y cais sydd yn amlinellu mai ychydig iawn o drafnidiaeth gynaliadwy sydd yn ardal gydag ymwelwyr yn gorfod teithio mewn ceir. Mae’r diwrnodau agored yn creu traffig ychwanegol ac mae hyn wedi ei briodoli i’r nifer uchel o ddiwrnodau agored yn y noddfa sydd yn niweidio diogelwch a chapasiti y rhwydwaith priffyrdd cul, gwledig.  Mae’r Adran Briffyrdd yn argymell y dylid cyfyngu ar y nifer o ddiwrnodau agored yn y noddfa   drwy osod amod sydd wedi ei eirio’n ofalus.

 

·         Roedd y cais yn rhan o gais ar y cyd blaenorol a oedd yn delio gyda’r agwedd o agor ar gyfer y cyhoedd ond cafodd y cais hwn ei dynnu’n ôl. Fodd bynnag, mae’r amod yn caniatáu ar gyfer diwrnodau agored.  Credwyd nad oedd y cais yn delio’n llawn gyda’r holl bryderon. Roedd yr Adran Briffyrdd wedi cyflwyno gwrthwynebiad cryf i’r cais blaenorol sydd wedi ei dynnu’n nôl yn sgil natur y ffordd.

 

·         Mae trigolion lleol yn pryderi am sefyllfa’r briffyrdd. Mae coetsys wedi llenwi’r ffordd am gyfnod o amser tra’n mynd i mewn ac allan o’r noddfa.  

 

·         Mae staff, gwirfoddolwyr a gweithwyr tymhorol hefyd yn mynd i’r safle.  

 

·         Mae’r Adran Briffyrdd yn credu na ddylid cynyddu’r nifer o ddiwrnodau agored.  

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio i ystyried oedi’r cais gan nad yw’n delio gyda phob agwedd o’r ganolfan.  Fodd bynnag, os caiff y cais ei gymeradwyo, gofynnodd yr Aelod lleol bod y Pwyllgor Cynllunio yn ymatal rhag newid yr amod na ddylid cynnal mwy na 16 diwrnod agored ar gyfer y cyhoedd. Byddai 16 diwrnod sesiynol yn fwy priodol yn unol ag argymhelliad yr Adran Briffyrdd.

 

 

Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi ymateb fel a ganlyn:

 

·         Mae’r cais blaenorol wedi ei dynnu’n ôl.

 

·         Mae’r cais ar gyfer gosod carfan deithiol a gweithredu’r safle fel noddfa ar gyfer anifeiliaid.  

 

·         Mae’r Adran Briffyrdd wedi ystyried y cais ac nid yw wedi codi unrhyw bryderon am y cynigion o traffig a sut y mae’r traffig yn symud. Fodd bynnag, roedd yr Adran Briffyrdd wedi nodi y dylid ystyried o bosib cyfyngiad ar y nifer o ddiwrnodau agored a amlinellwyd yn amodau yr adroddiad. Mae hyn wedi ei gyfyngu i 16 diwrnod agored am bob blwyddyn calendr. 

 

·         Mae ceir yn medru mynd i’r safle gan fod yna ddigon o ddarpariaeth parcio. Ni ddylai’r lefel o weithgarwch  greu mwy o dagfeydd traffig ar y lôn ac mae hyn wedi ei gadarnhau gan yr Adran Briffyrdd.

 

Wedi ystyried yr adroddiad  y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae angen y garafán er mwyn darparu gofal dros nos i anifeiliaid sydd yn sâl.  

 

·         Os yw’r diwrnodau agored yn dod yn fwy poblogaidd neu’n cynnig atyniad i ymwelwyr, byddai hyn yn cael ei ystyried fel newid defnydd a byddai angen cais cynllunio ar wahân. 

 

·         Cyn bod y noddfa yn derbyn unrhyw anifeiliaid ychwanegol, dylid cynnal asesiad o effaith hyn ar yr anfeiliaid sydd eisoes yn y noddfa.  

 

·         Gofynnwyd i’r ymgeisydd ystyried cyfathrebu gyda thrigolion lleol pan fydd diwrnod agored yn cael ei drefnu.

 

·         Ar gyfer y diwrnodau agored, bydd toiledau cemegol yn cael eu gosod ar y safle a’u symud oddi yno wedi hyn.

 

Roedd yr Aelod lleol wedi crynhoi fel a ganlyn:

 

·         Gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio i ail-ystyried y 16 diwrnod agored ar gyfer y cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae’r rhestr o ddiwrnodau ar gyfer ymwelwyr yn cynnwys ymweliadau gan bwysigion a diwrnodau corfforaethol. Dros y 18 mis diwethaf, mae yna 24 ymweliad pellach wedi eu cynnal. Ystyriwyd bod  16 diwrnod yn ddigon er mwyn ymdrin gyda phob math o ymweliad.  

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi awgrymu fod y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried 16 sesiwn i ymwelwyr ar 16 diwrnod.    

 

Wrth ymateb, roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi rhoi gwybod i’r Pwyllgor fod maint a swyddogaeth y noddfa yn mynd i gyfyngu ar y nifer sydd yn mynd i mewn ac yn gadael y safle. Bydd y nifer o ymwelwyr yn gysylltiedig gyda maint y busnes. Y Pwyllgor Cynllunio sydd i benderfynu ar y nifer o ddiwrnodau agored.  

 

Yn dilyn trafodaeth, cynigiwyd bod geiriad yr amod ar gyfer rheoli’r nifer sydd yn mynychu digwyddiadau yn cael ei gytuno drwy gyfrwng y Panel Dirprwyo.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir Jill Bond ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Ben Callard fod cais DM/2021/01763 yn cael ei gymeradwyo, a hynny ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a bod yr amod i reoli’r  nifer sydd yn mynychu digwyddiadau yn cael ei gytuno drwy gyfrwng y Panel Dirprwyo.  

 

Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

I’w gymeradwyo                                -            13                               

Yn gwrthwynebu cymeradwyo           -           0                                 

Ymwrthod rhag pleidleisio                   -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Cytunwyd y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/01763, a hynny yn amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a bod yr amod i reoli’r  nifer sydd yn mynychu digwyddiadau yn cael ei gytuno drwy gyfrwng y Panel Dirprwyo.  

 

 

Dogfennau ategol: