Agenda item

Datganiad Cyfrifon Drafft 2021/22 Cyngor Sir Fynwy

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro Ddatganiad Cyfrifon drafft 2021/22.   Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, gwahoddwyd yr Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·         Gwnaeth Aelod sylwadau am drylwyredd yr adroddiad, yn enwedig yn sgil Covid, a llongyfarchodd y Tîm ar y ddogfen.  Gan nodi safle cryfach y fantolen, holwyd os rhagwelir unrhyw effaith fawr ar gyfrifon y flwyddyn bresennol oherwydd symudiadau'r Cynllun Pensiwn.   Cytunodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol y gall y rhain achosi newid mawr ar y fantolen.  Mae atebolrwydd cronfa bensiwn yn y dyfodol wedi gostwng £47.5 miliwn oherwydd gostyngiad yn yr amcangyfrif o rwymedigaethau cynllun ac adfer yn y dyfodol mewn asedau’r cynllun, yn bennaf o ganlyniad i effaith Covid o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r gronfa ar gyfer ariannu pensiynau yn y tymor hir ac mae amrywiadau blynyddol yn gallu gwyro ffigurau’r fantolen.  Fodd bynnag, ni fydd unrhyw atebolrwydd o'r fath yn codi mewn un flwyddyn.  Mae hyn yn cael sylw drwy gyfraniadau uwch gan weithwyr/cyflogwr i'r gronfa.  Mae'r ymarfer prisio Tair Blynedd wedi dangos yn ddiweddar fod rhagamcanion ar gyfer cyfraniadau cyflogwyr o fewn ein cynllun ariannol tymor canolig yn unol â'r ymarferiad tair blynedd diweddaraf.

·         Nododd Aelod gynnydd mawr mewn cronfeydd wrth gefn a ddyrannwyd i ysgolion a chwestiynodd pa mor gyflym y bydd y cronfeydd wrth gefn yn cael eu tynnu ymlaen gan Ysgolion.  Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro fod yr awdurdod yn gweithio'n agos gydag ysgolion i sicrhau defnydd effeithiol o falansau.  Does dim terfynau amser yn cael eu gosod, gan mai Penaethiaid sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar fuddsoddiad effeithiol i wella safonau dysgu, ac mae gan ysgolion gyflymder gwahanol o adferiad.  Gan ateb y pwyntiau a godwyd, eglurwyd nad yw cronfeydd wrth gefn ysgolion wedi'u clustnodi ar gyfer gwariant rheolaidd; mae'r cytundeb ariannu tecach ag ysgolion yn cwmpasu gwariant cyfalaf. Y disgwyliad yw y bydd balansau yn gostwng dros y 2/3 mlynedd nesaf tra'n derbyn bod rhai ysgolion o flaen eraill wrth adfer safonau.

·         Mewn ymateb i gwestiynau, cytunwyd y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i ddiwygio'r fersiwn derfynol o'r Datganiad Cyfrifon i gyfeirio at ddigwyddiadau sylweddol yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac i nodi esboniad o fyrfoddau’n well. Mae gwaith Archwilio Cymru yn mynd rhagddo'n dda heb unrhyw faterion o bwys yn cael eu nodi.  Esboniodd Eglurodd Swyddog Archwilio Cymru am rai materion adnoddau, ond ni ddisgwylir unrhyw lithriad sylweddol.

·         Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro ganllawiau Llywodraeth Cymru y dylai ysgolion ddal uchafswm balans o £50,000 (Cynradd) a £100,000 (Uwchradd).

·         Gan gyfeirio at Fferm Ynni Haul Oak Grove, Parc Busnes Castlegate a Pharc Hamdden Casnewydd, holodd Aelod os dylid cofnodi costau (megis ad-dalu benthyciadau) yn erbyn incwm net. Fe esboniwyd bod y cronfeydd wrth gefn hyn yn gronfeydd suddo ar gyfer pwysau annisgwyl fel gwagleoedd tenantiaeth ym Mharc Hamdden Casnewydd, a gwaith cynnal a chadw yn y Fferm Ynni Haul. Mae balansau yn cynrychioli'r hyn sydd ar gael ddiwedd mis Mawrth 2022. 

·         Esboniodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod gwerth Eiddo Treftadaeth yn cynrychioli gwerth defnydd sy'n bodoli eisoes.  Cafodd arddangosfeydd yr amgueddfa a Chasgliad Nelson eu hailbrisio eleni.  Bydd y gwerthoedd hyn yn cael eu cyhoeddi yn y Datganiad Cyfrifon ar gyfer y flwyddyn nesaf.  

·         O ystyried y grant o £400,000 ar gyfer cynllun terfyn cyflymder 20mya a’r arian sydd ar gael ar gyfer gwrthdroi’r cynllun, bydd y Dirprwy Brif Weithredwr yn trafod â Llywodraeth Cymru a gaiff arian heb ei wario ei ddwyn ymlaen neu ei ddychwelyd. 

·         Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i'r Tîm Cyllid am eu gwaith sylweddol wrth lunio'r cyfrifon.  

·         Holodd y Cadeirydd am alluoedd a chapasiti yn y tîm a gofynnodd am arwydd o lefel dibyniaeth ar berson allweddol, cynllunio olyniaeth, pobl sy'n gysylltiedig â risgiau a statws rheolaethau gweithredol. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol fod swyddi gwag.  Mae lles staff presennol yn thema allweddol.   Yn gyffredin i'r sector Cyllid yn gyffredinol, mae anawsterau recriwtio.  Mae'r tîm yn brofiadol gyda sylfaen wybodaeth dda i ganiatáu hyblygrwydd.   Mae cynllunio olyniaeth yn ystyriaeth allweddol wrth recriwtio.  

Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd y rôl uwch yn cael ei phenodi’n fuan iawn.   Diolchodd i'r Tîm Cyllid am eu hymdrechion rhyfeddol tra'n brin o adnoddau. 

·         Rhoddwyd eglurhad ynghylch y tabl bandio taliadau swyddogion. Mae'r golofn ar y chwith yn dangos cyfanswm y gweithwyr ym mhob band cyflog ac mae'r golofn ar y dde yn dangos y nifer sy'n staff addysgu.  Cadarnhawyd bod cyflog ar gyfer Pennaeth Gweithredol dwy ysgol; gydag un wedi’i leoli yn Nhorfaen.  Bydd cyfran o'r cyflog yn cael ei adennill o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

·         Cadarnhawyd na fydd digwyddiadau materol ar ôl y dyddiad mantolen.

 

Fel yr argymhellir, nododd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio:

·         y Datganiad Cyfrifon 2021/22 drafft ac amlygodd unrhyw ymholiadau a sylwadau.

·         y caiff y Datganiad Cyfrifon archwilio ar gyfer 2021/22 ei gyflwyno i'r Pwyllgor hwn mewn cyfarfod diweddarach, ar ôl cwblhau'r broses archwilio allanol.

 

Dogfennau ategol: