Skip to Main Content

Agenda item

DM/2022/00518 - Cynigir annedd newydd yn Church Cottage i atal y perygl o lifogydd yn yr annedd yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn ymwneud â dymchwel yr annedd Church Cottage bresennol, Bayfield Road, Mounton, Sir Fynwy, NP16 6AF

Cofnodion:

Ystyriwyd yr adroddiadau ar y ceisiadau a’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law, yr argymhellwyd y dylid eu cymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiadau.

 

Fe wnaeth Aelod lleol Drenewydd Gelli-farch, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi iddo gael ei wahodd gan y Cadeirydd, amlinellu’r wybodaeth a ganlyn:

 

·         Mae’r gwahaniaeth yng ngwedd y ddau adeilad, ac effaith hyn ar y lleoliad ger Eglwys Mounton, yn cael ei amlygu drwy gymharu’r darlun o’r wedd ogledd-orllewinol bresennol a’r wedd ogledd-orllewinol arfaethedig yn ei chyd-destun.

 

·         Mae'r defnydd o garreg ar waelod yr eiddo yn ymdebygu i’r eiddo sydd i'r dde wrth ddod o gyfeiriad y gylchfan i’r eglwys a'r eglwys ei hun.

 

·         Mae'r defnydd o lechi du yn wahanol iawn i'r hyn a ddefnyddir ar eiddo lleol a gall greu ymddangosiad sefydliadol rywsut nad yw’n cyd-fynd â’r cyd-destun lleol.

 

·         Ni fydd y lliw pren du yn pylu i liw bedwen arian.

 

·         Er i’r arolygiad o’r safle gael ei gynnal yn ystod diwrnod cynnes o haf, mae'r ardal yn dywyll ac yn ddiflas iawn am ran helaeth o fisoedd y gaeaf.

 

·         Disgrifiwyd y bwthyn presennol fel un nad yw’n tynnu sylw ato’i hun, gyda’i ochr yn wynebu’r ffordd, ond bydd yr adeilad arfaethedig yn fwy amlwg gan y bydd yn wynebu'r ffordd.

 

·         Yn ôl sylwadau Cyngor Cymuned Matharn, er y cydnabyddir y problemau o ran llifogydd ar y safle hwn a rhinweddau pensaernïol yr annedd arfaethedig, teimlwyd mai dyma'r adeilad anghywir ar gyfer y lleoliad hwn.

·         Nid yw’r bwthyn presennol yn tynnu sylw ato’i hun yn ei ardal gadwraeth yn Eglwys Mounton ar hyn o bryd, ond nid dyna’r achos gyda’r adeilad arfaethedig. Nid yw'r cynnig yn cyd-fynd, yn ategu nac yn ymdebygu i’r arddull lleol, ac mae ei faint a'i linellau yn wahanol i'r anheddau eraill ym mhentref Mounton.

·         Mae'r deunyddiau y bwriedir eu defnyddio yn wahanol i'r rhai mewn mannau eraill o fewn yr ardal gadwraeth yn y pentref.

 

·         Am y rhesymau a grybwyllwyd, mae Cyngor Cymuned Matharn yn argymell y dylid gwrthod y cais.

 

·         O ran Polisïau Cynllunio DES1, mae adran C yn cyfeirio at yr ymdeimlad o le ac mae adran G yn cyfeirio at yr angen i ddefnyddio'r bensaernïaeth draddodiadol lle bo'n briodol.

 

·         O ran yr ardal o harddwch naturiol, mae Polisi LC4 yn cyfeirio at y graddau y mae ansawdd dyluniad a’r defnydd a wneir o ddeunyddiau priodol yn cyd-fynd â thirwedd yr ardal a'r traddodiad o ran adeiladau. Mae Polisi LC5 yn sôn am bwysigrwydd nodweddion a phatrymau traddodiadol. Mae TAN 12 yn cyfeirio at ddyluniad o ansawdd da o fewn y cyd-destun lleol.  Mae'n sôn hefyd am elfennau nodweddiadol y lleoliad.

 

·         Wrth ymweld â’r safle ar hyd Heol St. Lawrence, cyn cyrraedd Mounton, collir cymeriad yr ardal oherwydd yr amrywiaeth yn nyluniad y tai. Diben cadwraeth yw cadw neu wella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal.

 

·         Mae'r adeilad presennol wedi'i ddisgrifio yn y datganiad treftadaeth fel un nad yw’n tynnu gormod o sylw ato’i hun, ond mae'r adeilad hwn yn gwbl groes i hynny ac nid oes eiddo arall ag ymddangosiad tebyg nac yn defnyddio cladin pren allanol du. Bydd yn newid amlwg yn yr ardal a gall golli cymeriad y pentref. Gall hyn effeithio ar bwysigrwydd yr eglwys yn y pentref bach hwn.

 

·         Nid oes dim o'i le ar y dyluniad, ond mater i'r Pwyllgor Cynllunio yw ystyried a yw’r arddull adeiladu a'r deunyddiau cladin pren du allanol a ddefnyddir yn briodol, ac a yw ei siâp bocs anhraddodiadol a’i ddyluniad yn groes i gymeriad y pentref a’r ardal gadwraeth arfaethedig, ynghyd â’r ardal o harddwch naturiol, ac a yw'n briodol ai peidio ar gyfer ystâd dai fwy modern.

 

Roedd Mr M. Hall, asiant yr ymgeisydd, wedi paratoi recordiad sain a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio, a nodwyd y wybodaeth a ganlyn:

 

‘Nid yw cynnig adeiladu annedd lle bu bwthyn mewn pentref delfrydol yn fater dibwys yn amlwg, ond mae'n adlewyrchu'r realiti sy'n wynebu'r sawl sydd wedi gwneud cais sydd wedi dioddef y profiad trawmatig o gael llifogydd yn ei gartref ar sawl achlysur dros y degawd diwethaf. Mae’r sefyllfa hon yn gwbl dorcalonnus i'r aelwyd ei hun, ond mae hefyd yn bosibl i’r eiddo gael ei ddifetha wrth i Nant Mounton orlifo'n fwy aml ac yn fwy difrifol, gan olygu bron nad oes modd cael yswiriant ar gyfer Church Cottage.

 

Gan hynny, rhaid i unrhyw gynnig ddelio hefyd â'r her o godi lefel y llawr gwaelod yn sylweddol, a hynny gan dros hanner llawr, i atal y risg o lifogydd yn y dyfodol, gan ystyried hefyd graddfa fach yr amgylchedd, yn enwedig yr eglwys nodedig y drws nesaf. Gellir ystyried bod yr annedd bresennol yn weddol draddodiadol o ran ei harddull, ond mewn gwirionedd mae'n arwyneb garw i'r lôn sydd gyfochr â hi.

 

Mae'r cynllun sy'n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio heddiw wedi'i ddatblygu gyda chryn ofal fel ymateb uniongyrchol i sensitifrwydd penodol y lleoliad. Mae dogfennau’r cais yn esbonio'n fanwl sut y rhoddwyd sylw i gwestiynau allweddol o ran graddfa, deunyddiau a dyluniad gyda'r union fwriad o barchu lleoliad cwm clyd Mounton.

 

Anogir aelodau'r Pwyllgor i astudio'r Datganiad Dylunio a Mynediad sy'n nodi'r rhesymeg sy’n sail i'r dyluniad. Mae'r ddogfen gryno hon yn cynnwys cyfres o bwyntiau esboniadol sy'n cael eu hategu gan 90 o ddarluniau na ddylai adael fawr o le i amau’r rhesymeg aml-haenog sy’n sail i'r cynnig.

 

Mae'r cynllun wedi gadael cryn dipyn o le y tu ôl i’r lôn a'r eglwys (llawer mwy o le nag yn achos yr annedd bresennol) ac mae'n defnyddio'r gofod hwn fel lleoliad i adeilad minimalaidd sy’n ymdebygu i bafiliwn o fewn yr ardd nodedig Japaneaidd ei natur sydd o’i amgylch.

 

Wrth reswm, ni ddylid cymeradwyo rhywbeth yn ddiofyn dim ond am iddo gael ei ddylunio â chryn ofal. Fodd bynnag, efallai y bydd hyn yn arwain y Pwyllgor i gwestiynu’r sylwadau difrïol a gyflwynwyd gan y sawl sy’n gwrthwynebu’r cais, ac efallai y bydd y Pwyllgor am graffu’n briodol ar y sylwadau sy’n ymddangos yn oddrychol yn bennaf. Nid yw’n glir sut y gellid cyfiawnhau disgrifio’r ffordd y mae’r cynnig yn defnyddio math lleol o garreg a phren wedi ei drin yn naturiol fel ‘deunyddiau sy’n groes i’r hyn a ddefnyddir mewn mannau eraill yn yr ardal gadwraeth a’r pentref’. Nid oes llawer a fyddai o’r farn bod rendr sment pinc yr annedd bresennol, ynghyd â’r teiliau concrid yn y to a’r ffenestri PVC, yn cyd-fynd â chymeriad traddodiadol Mounton.

 

Mae sylwadau’r rhai sy’n gwrthwynebu’r cais ar yr achlysur hwn yn ymddangos yn wahanol i’r farn gyffredinol, gan i chwe aelwyd o fewn cymuned Mounton ysgrifennu o blaid y cais o’i gymharu ag un gwrthwynebiad. Mae’r cefnogwyr yn cynnwys perchnogion Mounton House, yr adeilad Celf a Chrefftau rhestredig sydd ag elfennau tebyg o ran ei ddyluniad i’r safle a grybwyllir yn y cais.

 

Nid oes gan Cadw unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun, gan nodi “mae dyluniad yr annedd arfaethedig yn rhoi sylw dyladwy i’r berthynas ffisegol a gweledol rhwng yr annedd newydd a’r lleoliad sensitif yng ngardd dd?r Tipping. Drwy ddefnyddio dyluniad to fflat modern, mae hyn hefyd yn sicrhau bod lefel to’r annedd newydd islaw taldra eglwys St Andoenus sydd gyferbyn.”

 

Nid yw Swyddog Cadwraeth Sir Fynwy yn gwrthwynebu, gan ddweud bod “y dyluniad ar gyfer yr annedd arfaethedig yn fodern iawn, mewn gwrthgyferbyniad â’r annedd aml-gyfnod bresennol, ond mae wedi cael ei dylunio’n ofalus ac mae wedi’i lleoli yn ddigon pell o’r ffordd. Er bod yr annedd arfaethedig yn wahanol i’r annedd bresennol, ystyrir bod ei maint, ei graddfa a’i màs yn briodol ar gyfer y lleoliad”.

 

I grynhoi, ar ran y sawl sy’n gwneud y cais rydym yn annog y Pwyllgor Cynllunio i ddilyn argymhelliad Swyddog Cynllunio’r Cyngor ei hun a chymeradwyo’r cais.’

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

 

·         Roedd dyluniad yr annedd arfaethedig yn un modern da.

 

·         Mae’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law yn amlinellu’r datganiad dylunio a mynediad sy’n esbonio sut y byddai’r pren yn cael ei drin drwy’r broses olosgi. Bydd y broses olosgi yn creu ymddangosiad du / llwyd tywyll i’r pren gyda gwead y pren yn dal i fod yn amlwg.

 

·         Mae’r t? presennol wedi dioddef llifogydd sawl gwaith dros y blynyddoedd, ac nid oes modd byw ynddo bellach. Mae’r t? presennol wedi colli ei gymeriad dros nifer o flynyddoedd. Ystyrir nad oes rheswm i wrthod y cais ar sail cynllunio.

 

·         Rydym mewn cyfnod o newid yn sgil y newid yn yr hinsawdd, ac felly rhaid i ni groesawu ac ystyried cynigion fel y cais hwn.

 

·         Bydd cynllun y llawr gwaelod yn cael ei godi 1.4 metr yn uwch na’r bwthyn presennol, ac mae hyn yn cydymffurfio â’r lefelau risg llifogydd 1-1000 blwyddyn, ynghyd â’r newid yn yr hinsawdd. Byddai’r garej a’r dreif 0.8 metr yn uwch na’r rhai presennol. Mae’r ardal barcio wedi ei chodi 0.23 metr yn uwch na’r risg 1-1000 blwyddyn i sicrhau mynediad diogel.

 

Daeth yr Aelod lleol i’r casgliadau a ganlyn:

 

·         Mae amod 4 yn yr adroddiad a’r adroddiad dilynol ar gadwraeth yn datgan ei bod yn angenrheidiol cyflwyno samplau i’r Awdurdod Cynllunio.

 

·         Mae’r ohebiaeth hwyr a ddaeth i law yn datgan na fydd y lliw yn pylu i liw bedwen arian. Gan hynny, ystyrir bod angen i’r lliw bara am byth. Awgrymwyd y gellid cyflwyno’r samplau i’r Panel Dirprwyaeth gytuno ar y lliw.

 

·         Roedd y lliw pren tywyll yn destun pryder i’r Aelod lleol.

 

Yn dilyn trafodaeth, ystyriwyd y gellid ychwanegu amod i sicrhau bod sampl o’r cladin pren allanol yn cael ei anfon at y Panel Dirprwyaeth i graffu arno cyn cynnig yr amod o ran samplau, ac y dylid cadw deunyddiau allanol pob cais ar yr adeilad am byth. Wedi trafodaeth, dywedodd y Pwyllgor ei fod yn ffafrio lliw tywyll ar gyfer y cladin. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell, wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sir B. Callard, y dylid cymeradwyo ceisiadau DM/2022/00518 a DC/2021/00791 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiadau, a bod yr amod o ran y sampl o ddeunyddiau allanol yn cael ei ddiwygio ar gyfer y ddau gais i sicrhau:

 

·         Y dylid cadw deunyddiau allanol pob cais ar yr adeilad am byth.

 

Noder: Dywedodd y Pwyllgor y byddai’n ffafrio lliw tywyll ar gyfer y cladin.

 

·         Bod sampl o’r cladin pren allanol yn cael ei anfon at y Panel Dirprwyaeth i graffu arno cyn cwblhau’r amod samplau ar gyfer y ceisiadau.

 

Pleidleisiodd y Pwyllgor Cynllunio ar gais DC/2021/00791 yn gyntaf, fel a ganlyn:

 

Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                      -           13

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Ymatal rhag pleidleisio            -           0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Yna, pleidleisiodd y Pwyllgor Cynllunio ar gais DM/2022/00518, fel a ganlyn:

 

Wrth bleidleisio ar y cynnig, pleidleisiwyd fel a ganlyn:

 

O blaid y cynnig                      -           14

Yn erbyn y cynnig                   -           0

Ymatal rhag pleidleisio            -           0

 

Pleidleisiwyd o blaid y cynnig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo ceisiadau DM/2022/00518 a DC/2021/00791 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiadau, a bod yr amod o ran y sampl deunyddiau allanol yn cael ei ddiwygio ar gyfer y ddau gais i sicrhau:

 

·         Y dylid cadw deunyddiau allanol pob cais ar yr adeilad am byth.

 

Noder: Dywedodd y Pwyllgor y byddai’n ffafrio lliw tywyll ar gyfer y cladin.

 

·         Bod sampl o’r cladin pren allanol yn cael ei anfon at y Panel Dirprwyaeth i graffu arno cyn cwblhau’r amod sy’n gysylltiedig â samplau ar gyfer pob cais.

 

Dogfennau ategol: