Cofnodion:
Eglurodd yr Aelod Cabinet bod y Cyngor eisoes wedi gwneud ymrwymiadau i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd, ac ar lygredd afonydd a phwysleisiodd bwysigrwydd ei gwneud yn glir ein bod yn cydnabod ein bod mewn argyfwng hinsawdd a natur. Am y rheswm hwn, bydd yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y materion hyn yn rheolaidd gan eu gwneud yn eitem sefydlog ar raglen y Cyngor, gan sicrhau bod ein hymateb i'r materion brys hyn yn gydlynol a di-dor.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet y pwyntiau canlynol:
Mae adroddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn gwneud dau beth yn glir iawn:
1. Bod gweithgaredd dynol eisoes wedi gwneud newid hinsawdd di-droi’n-ôl yn anochel, bod hyn yn dod â chanlyniadau difrifol y bydd angen i ni addasu iddynt, ac y byddwn yn eu gweld yn gynyddol yn ystod y blynyddoedd i ddod.
2. Os na fyddwn yn cymryd camau brys i liniaru newid hinsawdd pellach, rydym ar y llwybr tuag at wneud y blaned yn anhyfyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cadarnhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd yn eu hadroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, fod yr argyfwng bioamrywiaeth yn ymuno â’r argyfwng hinsawdd fel risg dirfodol i’n goroesiad - mae bron i un rhan o bump o blanhigion y DU dan fygythiad o ddiflannu, ac mae traean o rywogaethau peillwyr Prydain wedi prinhau…. Mewn gwirionedd mae'r DU bellach yn un o'r gwledydd sydd wedi'i disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd.
Yng Nghymru, cadarnhaodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 fod 30% o fywyd gwyllt i’w gael mewn llai o leoedd nag yr oedd yn 1970 gydag 1 o bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu. Gan ddod â’r ffocws yn ôl i’n hardal leol, mae’r angen am adfer byd natur yn glir:
· Nododd adroddiad Sefyllfa Byd Natur Gwent Fwyaf fod gostyngiad i’w weld yn niferoedd 34% o rywogaethau.
· Nododd arolwg 'Bugs Matter' yr Ymddiriedolaethau Natur ostyngiad o 40% mewn pryfed hedegog yng Ngwent ers 2004. (Ar raddfa’r DU, mae’r ffigur hwnnw mor uchel â gostyngiad o 60%.)
· Mae targedau ffosffad ar gyfer afon Wysg yn cael eu methu ar gyfradd o 88% ac mae’r gyfradd ar gyfer Afon Gwy yn 68% - gan bod blodau algaidd yn mygu bywyd arall yn yr afonydd, yn enwedig mewn tywydd poeth.
Mae cyflwr afonydd yn cael effaith uniongyrchol ar y rhywogaethau y mae’n darparu cynefin ar eu cyfer – a dangosodd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd ddirywiad sylweddol mewn poblogaethau dyfrgwn yn 2021 am y tro cyntaf ers y 1970au.
Rydym yn byw mewn sir fendigedig, ac mae’n rhaid inni, ar bob cyfrif, warchod ein hamgylchedd naturiol, sy’n cael ei chydnabod am ei phwysigrwydd. Er enghraifft:
· Mae gan Sir Fynwy 7 safle gwarchodedig o bwysigrwydd rhyngwladol (ACA, AGA a safle Ramsar).
· Mae ganddi 67 o SSSIs a bron i 700 o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur gan gynnwys nifer fawr o laswelltiroedd sy’n cynnwys llu o rywogaethau bychain a choetiroedd hynafol.
· Mae gan Sir Fynwy 24 o Gynefinoedd (gan gynnwys Morol) a 219 o Rywogaethau yr ystyrir eu bod yn ‘pwysig iawn o ran cadwraeth yng Nghymru’ fel y’i diffinnir gan Ddeddf Amgylchedd Cymru 2016.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd yr Aelod Cabinet yn cytuno ar ar gylch ar gyfer adrodd ar y gwahanol elfennau o waith gydag uwch staff er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Y bwriad yw y bydd yn ymdrin ag agweddau hinsawdd a natur yr ystod lawn o weithgareddau a gweithrediadau, ar draws adeiladau, fflyd, caffael, defnydd tir a rheoli tir, yn ogystal â rheoli gwastraff, seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth.
Mae Cyngor Sir Fynwy eisoes yn gwneud llawer o bethau da ac eisiau sicrhau eu bod yn monitro ac yn adrodd yn ôl ar yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae angen i MCC gydweithio er mwyn creu ymateb natur-bositif i'r heriau a wynebir, ar draws sbectrwm llawn o weithgareddau i adfer bioamrywiaeth, ac i liniaru ac addasu i newid hinsawdd.
Croesawodd y Cadeirydd gwestiynau a sylwadau.
Cyfeiriwyd at sut mae'r Cyngor yn dylanwadu ar ôl troed carbon y Sir, a sut y gallwn weithio ar hynny.
Codwyd cwestiwn ynghylch sut mae'r Cyngor yn addasu ei wasanaethau er mwyn ymdopi â digwyddiadau tywydd eithafol, er enghraifft, sut y bydd Gofal Cymdeithasol yn ymateb yn ystod tywydd poeth.
O ran ffosffadau, clywsom ein bod yn bwriadu gweithio yn nalgylchoedd afonydd Gwy ac Wysg, ac mae’r Aelod Cabinet wedi ymuno â gr?p trawsffiniol yn ymwneud ag Afon Gwy ac mae CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a D?r Cymru hefyd yn mynychu’r grwp. Megis dechrau y mae'r gr?p ond mae'n bwriadu cael cynllun gweithredu pendant i'w wthio ymlaen. Yn yr un modd, mae gr?p wedi’i sefydlu gan Fannau Brycheiniog ar gyfer Afon Wysg ac mae’r Aelod Cabinet yn aros am adroddiad ar hynny.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch teithio ar fysiau a thrafnidiaeth dywedodd yr Aelod Cabinet fod gwaith wedi'i wneud ar ymateb i'r ymgynghoriad bysiau a bod LlC yn gweithio tuag at system fwy cydlynol ar gyfer y wlad gyfan.