Agenda item

Trafodaeth am rôl y Pwyllgor yn Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – cyflwyniad.

Cofnodion:

Roedd Hazel Ilett wedi rhoi cyflwyniad i’r pwyllgor, a chynigiwyd sylwadau ychwanegol gan  Matthew Gatehouse. Roedd Sharran Lloyd a Matthew Gatehouse wedi ateb cwestiynau’r Aelodau.

 

Her:

 

Pa ddylanwad cyffredinol sydd gennym ar y Cynllun Llesiant? A fyddwn yn diweddaru Cynllun wrth iddo gael ei weithredu?

 

Y ffactor allweddol wrth lunio’r Cynllun Llesiant rhanbarthol ar y lefel ranbarthol, a chylch gorchwyl Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, yw ymatal  rhag colli’r  lleoliaeth. Wrth i ni ddechrau datblygu’r cynllun, rydym yn gwneud cysylltiadau drwy’r gr?p cyflenwi lleol, yr is-gr?p ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus rhanbarthol. Mae pob un o’r 5 lleoliad yn meddu ar fwrdd - ein bwrdd ni yw Bwrdd Rhaglen Sir Fynwy, sydd yn cysylltu gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn sicrhau ein bod yn gyrru’r hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy. Bydd yn derbyn unrhyw argymhellion o’r pwyllgor hwn ac yn sicrhau ein bod yn gwrando ar lais y pwyllgor wrth ddatblygu’r cynllun nesaf.  Mae swyddogion yn gweithio ar sefydlu proses craffu  Gwent;  efallai y bydd aelodau o’r pwyllgor hwn yn aelodau o’r bwrdd rhanbarthol hefyd, a’n meddu ar y gallu wedyn i ddylanwadu ar y darlun lleol. 

 

A yw’r 5 awdurdod yn mynd i gael Pwyllgor Craffu?

 

Rydym yn cynnal ein craffu ar lefel leol ond byddwn yn parhau i weithio gyda’r trefniadau craffu rhanbarthol. 

 

A fydd pob awdurdod lleol yn canolbwyntio ar ei agwedd lleol?

 

Cywir. Rydym am weld y pwyllgor yma yn ffocysu ar yr hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy ac yn sicrhau bod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn cyflawni’r hyn sydd angen ar ran y sir. Mae yna fecanweithiau eraill ar gyfer cynnig adborth os nad yw’r pwyllgor yn teimlo bod ein dinasyddion yn elwa o’r trefniadau yma.  

 

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar Sir Fynwy. A fydd yna adroddiad cyffredinol a 5 adroddiad penodol ar gyfer pob ardal?

 

O bosib ond nid yw’r atebion gennym ar hyn o bryd gan nad yw’r cynllun rhanbarthol wedi ei gwblhau. Bydd yna gynllun lleol ac adroddiad yn cael eu cyflwyno: rydym nawr yn trafod sut y mae’r adroddiad rhanbarthol yn cydweddu gyda hyn. Efallai y bydd yna 2 adroddiad ond byddwn ni’n ceisio eu symleiddio a’u cyfuno yn un adroddiad ar gyfer y pwyllgor hwn - os yw hyn yn bosib. 

 

A oes cynrychiolaeth gennym ar y byrddau yma sydd ar wahân? Beth mae ‘ar wahân’ yn golygu?  

 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent wedi dod yn fwrdd rhanbarthol  gyda chynrychiolwyr o’r 5 awdurdod lleol a phartneriaid. Er mwyn sicrhau bod yna elfen o gysondeb, mae yna 5 gr?p cyflenwi lleol ym mhob awdurdod - dyma’r grwpiau cyflenwi strategol ar gyfer y 5 ardal yma. Yn Sir Fynwy, mae ein gr?p ni yn fwrdd rhaglen, sydd yn ei hanfod yn is-gr?p o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a bydd yn rhannu’r hyn sydd yn bwysig i Sir Fynwy ar lefel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

A oes swyddogion neu aelodau gennym ar y bwrdd cyflenwi lleol?

 

Mae’n adlewyrchu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r holl bartneriaid gennym sydd yn rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yma yn y sir - y lefel nesaf i lawr o’r Prif Weithredwr sydd yn rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ac felly, mae’n cynnwys Cyfarwyddwyr a’u cymheiriaid ar draws y gwasanaethau cyhoeddus eraill. Y gwahaniaeth yn Sir Fynwy yw ein bod hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r cynghorau tref a chymuned ar ein bwrdd. Gan ei fod yn gr?p cyflenwi, na sydd yn wleidyddol, mae’r fforwm yn cynnwys Swyddogion. 

 

Pwy sydd yn rhan o’r Bwrdd  Rhaglen ar hyn o bryd?

 

Mae’n cael ei gadeirio gan Matt Gatehouse, gyda Will McLean, Frances O’Brien a Jane Rodgers o Gyngor Sir Fynwy. Mae cynrychiolaeth hefyd gennym o Iechyd Cyhoeddus a BIPAB, y Prif Gwnstabl a’r Uwcharolygydd sydd yn cynrychioli Heddlu Gwent, Gavo  fel cynrychiolwyr y trydydd sector a chynrychiolaeth o’r cynghorau tref a chymuned, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. 

 

A yw’n bosib cael trosolwg/hierarchaeth o’r hyn a esboniwyd gan ddangos sut y mae grwpiau yn gweddu gyda’i gilydd?

 

Mae modd danfon amlinelliad o’r strwythurau i’r pwyllgor.