Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid Adroddiad All-dro Trysorlys 2021/22 yn nodi mai rôl y Pwyllgor yw ystyried os yw’r penderfyniadau Trysorlys a gweithgareddau a wnaed yn ystod y flwyddyn yn ymddangos yn rhesymol ac yn gydnaws gyda’r strategaeth trysorlys a dangosyddion darbodus. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau yn dilyn cyflwyno’r adroddiad.
1. Gofynnodd Aelod am wybodaeth bellach am fuddsoddiadau hirdymor a chronfa gronnus. Esboniodd y Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid y cafodd buddsoddiadau cronfa gronnus eu dal am 3-4 mlynedd dan reoliadau Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol, mae angen i ni gadw o leiaf balans buddsoddiadau o £10m i gymhwyso am statws buddsoddwr proffesiynol. Mae hyn yn rhoi mynediad i fwy o offerynnau buddsoddi. Gallai hirdymor o ran cronfeydd cronnus gyfeirio at 5-6 mlynedd gyda gwerthoedd cyfalaf yn aros yn eu hunfan ac am enillion yn cael eu sicrhau. Mae’r adenillion ar gronfeydd cronnus yn foddhaol ac maent yn cynnig cydbwysedd gyda gweddill y portffolio buddsoddi. Bwriedir cadw’r cronfeydd cronnus yn y tymor canol.
2. Holodd Aelod am effaith y pandemig ar weithgareddau’r trysorlys, yr ad-daliad am gyfran o’r effaith gan Lywodraeth Cymru ac os caiff problemau pellach eu rhagweld o gofio am y cynnydd yn nifer yr achosion Covid yng Nghymru. Atebwyd y bu cymorth grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cynyddu ein buddsoddiadau nes cafodd yr arian ei ddefnyddio, rhoi cyllid i fuddsoddi ar ran Llywodraeth Cymru ynghyd â chyllid i ad-dalu costau ychwanegol a cholli incwm yn deillio o’r pandemig. Ychydig o effaith fu ar weithgaredd trysorlys yn gyffredinol.
3. Gofynnodd yr Aelod os y byddai cynnydd yn y cronfeydd wrth gefn wedi’i neilltuo ac, os yn wir, sut yr effeithid arnynt yn y dyfodol. Atebwyd nad yw sefyllfa’r trysorlys wedi ei ddiffinio ar unrhyw un deilliant. Wrth gynllunio llif arian y flwyddyn, buddsoddiad a benthyca, rhoddir ystyriaeth i wariant ac incwm disgwyliedig a byddai buddsoddiad pellach mewn cronfeydd wrth gefn yn cael eu hystyried bryd hynny. Mae hefyd yn bosibl i fenthyca cyllid os yw’r cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn mynd yn isel.
4. Holodd Aelod am y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer buddsoddiadau heb fod yn rhai trysorlys a dywedwyd fod y rhain yn fuddsoddiadau gwariant cyfalaf hyd at £50m fel y’u cymeradwywyd gan y Cyngor Sir. Mae Pwyllgor Buddsoddi yn goruchwylio buddsoddiadau o’r fath. Yn y dyfodol, byddai newidiadau i ddeddfwriaeth Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus yn golygu y gall buddsoddiadau ar gyfer budd ariannol neu nad ydynt ar gyfer cynlluniau economaidd neu adfywio lleol atal mynediad i fenthyciadau gan y Bwrdd. Felly, yn y dyfodol bydd angen i fuddsoddiadau heb fod yn rhai trysorlys gael dull gweithredu economaidd neu adfywio lleol, a benderfynwyd gan y Pwyllgor Buddsoddi. Rhoddir adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor Buddsoddi ar berfformiad yr asedau hyn. Mae incwm yn y gyllideb refeniw a chaiff perfformiad ei fonitro fel rhan o’r broses honno.
5. Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad o’r newidiadau i werthoedd asedau tri buddsoddiad a holodd os oes polisi buddsoddi yn bodoli ac os felly a gaiff ei reoli yn unol â datganiad argyfwng hinsawdd y Cyngor ac os oes unrhyw ystyriaethau moesegol ar fuddsoddiadau tymor byr/hirdymor. Mewn ymateb, rhoddir dadansoddiad o newid mewn gwerth buddsoddiadau unigol yn dilyn y cyfarfod. Mae’r Strategaeth Trysorlys a osodwyd ym Mawrth 2021 yn amlinellu polisi buddsoddi a’r terfynau a osodir yno. Yn nhermau dull gweithredu moesegol, gall y cynghorwyr trysorlys Arlingclose roi peth data i’r Pwyllgor. Nid yw buddsoddiad moesegol yn cael ei gynnwys yn benodol yn y strategaeth trysorlys hyd yma, ond rhoddwyd sicrwydd na chafodd unrhyw fuddsoddiadau eu gwneud e.e. gyda chwmnïau neu sefydliadau sydd â chysylltiad â Rwsia. Gofynnir am fwy o wybodaeth. Cadarnhawyd y gellir ystyried y datganiad argyfwng hincwm na chafodd ei gynnwys yn y Strategaeth Trysorlys pan gaiff y strategaeth trysorlys ei hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ym mis Ionawr a’i chyflwyno i’w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Mawrth.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y cyflwynir adroddiad blynyddol ar berfformiad buddsoddiadau masnachol i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ym mis Medi 2022.
6. Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid:
a) bod gweithgareddau rheoli trysorlys yn ystod y flwyddyn yn cydymffurfio gyda’r Strategaeth Trysorlys a gofynion perthnasol cod CPFA.
b) gan wahaniaethu rhwng rolau a chyfrifoldebau’r tîm Cyllid a’r cynghorwyr trysorlys Arlingcclose, cadarnhawyd bod Arlingclose yn rhoi cyngor i’r awdurdod, ond mai’r awdurdod sy’n llwyr gyfrifol am benderfyniadau; a
c) mae Arlingclose yn rhoi data technegol sylweddol ar y farchnad ariannol allanol a statws sefydliadau ariannol ac yn cynghori ar fynediad ehangach i offerynnau benthyca. Ailbenodwyd Arlingclose ym mis Mawrth 2022 am o leiaf bedair blynedd.
Fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio adolygu canlyniadau gweithgareddau rheoli trysorlys a’r perfformiad a gyflawnwyd yn 2021/22 fel rhan o’r cyfrifoldeb dirprwyedig i roi craffu ar bolisi, strategaeth a gweithgaredd trysorlys ar ran y Cyngor ac roedd yn fodlon gyda’i adolygiad heb unrhyw eithriadau sylweddol yn codi.
Dogfennau ategol: