Cofnodion:
Roedd Richard Jones wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau gan yr Aelodau gyda Matthew Gatehouse ac Emma Davies.
Her:
Fel rhan o’n gwaith i leihau ein hol-troed carbon a gwastraff, a oes yna sgôp tuag at weithio at ymddygiad newydd e.e. sebon yn hytrach na geliau, pwyslais ar ymatal rhag defnyddio yn hytrach nag ailgylchu, dealltwriaeth fod plastig yn dod o olew? A ydy hyn wedi ei ystyried?
Rydym wedi datgan Argyfwng Hinsawdd ac wedi paratoi Cynllun Gweithredu, ond mae’r adroddiad yn cydnabod fod angen gwneud mwy: rydym yn ystyried sut i gyflawni mwy gydag ein hadnoddau. Mae’r Aelod wedi rhoi awgrymiadau ardderchog i ni eu gweithredu.
Sut y mae’r Pwyllgorau Ardal yn perfformio a sut ydynt wedi eu trefnu? A oes yna adborth gan gymunedau am berfformiad CSF?
Y peth allweddol yw cydnabod nad ydynt wedi bod yn cwrdd yn ddiweddar. Mae yna nifer o werthusiadau wedi eu cynnal yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr Aelod Cabinet Fookes yn dechrau cyfranogiad cyhoeddus cyn hir a fydd yn ymgorffori gweithio gyda’r Pwyllgorau Ardal.
A oes yna wahaniaeth rhwng fersiwn 1.0 a 2.0 a rannwyd ar gyfer y Pwyllgor Awdit ac Archwilio'r wythnos nesaf?
Nid oes newidiadau mawr wedi eu gwneud rhwng 1.0 a 2.0, ond mae’n fwy bod yr adroddiad yn edrych nôl ar 21-22. Rydym wedi parhau i fireinio ychydig o’r data a thystiolaeth ac mae rhai o’r dangosyddion perfformiad wedi eu diweddaru. Un newid sylweddol yw ychwanegu’r amserlenni i’r cynlluniau gweithredu. Roedd y rhan fwyaf o gasgliadau a manylion heb eu newid. Rydym yn medru olrhain y newidiadau wedi hyn e.e. yn yr adroddiad sydd i’w gyflwyno i’r Cyngor yn mis Medi. Er eglurder, mae ‘.0’ yn cael ei ddefnyddio pan fydd rhywbeth wedi ei gyhoeddi, hyd yn oed os oes newidiadau mân wedi eu gwneud rhwng Fersiwn 1.0 a 2.0.
A ydym yn casglu adborth gan staff er mwyn deall y gwahaniaethau bychain a ddaw o’r cydweithio rhwng yr Awdurdodau Lleol, o ran Gofal Cymdeithasol ac Iechyd?
Rydym yn falch iawn o’n hanes yn cydweithio rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd yn deillio nôl i 2005-6. Mae yna heriau sylweddol o ran y rhyngweithio. Mae’r adborth yn cael ei gofnodi yn yr oruchwyliaeth broffesiynol y mae gweithwyr cymdeithasol ac eraill yn cael gyda’u rheolwyr, ac yna’n llywio’r casgliadau y mae’r Prif Swyddog ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn paratoi ar gyfer yr adroddiad blynyddol. Mae yna bethau sensitif i’w cael weithiau, ond dyma sut y byddem yn casglu’r wybodaeth. Efallai bod adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru, a baratowyd ar ddiwedd 2021, o bosib yn ddefnyddiol: gwnaed llawer o waith gyda staff ac roedd llawer o adborth wedi ei gynnwys.
A ydym yn adolygu’r cwestiynau yn yr holiaduron ar gyfer defnyddwyr Gwasanaeth Cymdeithasol fel ein bod yn medru sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir?
Mae’r rhain yn gwestiynau cenedlaethol. Mae’r dyluniad wedi ei lywio drwy gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, ein tîm perfformiad a’n tîm gwasanaethau cwsmer. Mae’n arolwg sydd wedi ei gynnal ers tro o ddefnyddwyr Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gan roi darlun cyfoethog i ni o dueddiadau a newidiadau - wrth awgrymu unrhyw newidiadau, bydd angen bod yn ymwybodol y bydd hyn yn effeithio ar ein gallu i fonitro tueddiadau dros amser. Mae yna bwyslais ar sut ydym yn defnyddio gwybodaeth er mwyn llywio ein fframwaith perfformiad ynghyd â’r matrics a’r mesurau perfformiad. Mae’r holl dystiolaeth yn dod ynghyd yn adroddiad y Prif Swyddog ar gyfer Gofal Cymdeithasol, a fydd o bosib yn dod i’r Pwyllgor maes o law.
Mae’r ffocws yn cynnwys canlyniadau a gytunir ond ychydig iawn o wybodaeth sydd yma ar gyfer yr effaith ar drigolion a chymunedau. A fyddai’n asesiad cryfach pe bai hyn wedi ei gynnwys?
Mae’r hunanasesiad yn ymwneud yn bennaf gyda’r effaith ar gymunedau. Wrth i ni ddatblygu’r adroddiad, byddwn yn ystyried sut y byddwn yn cryfhau’r asesiad o wasanaethau sydd yn cael eu darparu neu’r blaenoriaethau polisi, yn benodol gan ddangos yr effaith y bydd hyn cael ar y defnyddiwr gwasanaeth - a hynny drwy’r adroddiad, nid ar y diwedd yn unig. Yr ail agwedd yw cynnwys h.y. barn trigolion a defnyddwyr gwasanaeth drwy ymgysylltu ayyb yn enwedig gyda’r ddyletswydd yn y Ddeddf i gryfhau’r gwaith o’u cynnwys.
O dan Amcan A, mae’r cynnydd yn y ganran o bobl ifanc NEET ym Mlwyddyn 11 yn bryder, wedi cynyddu o 0.4% i 2%. Beth yw eich sylwadau chi am hynt?
Mae’r cynnydd hyn yn bwysig i’w nodi, er yn nifer cymharol fach. Mae mwy o fanylder gan y tîm Cyflogaeth a Sgiliau am brofiadau a chanlyniadau’r plant ac yn gweithio gyda hwy er mwyn eu cefnogi i gymryd mantais o gyfleoedd addysg a hyfforddi. Maent hwy mewn sefyllfa well i gynnig mwy o sylwadau.
Mae’r cynllun 20mya yn dangos fel y mesur sengl ar gyfer Amcan C ar gyfer cadw cofnodion ac ardaloedd yn ddiogel? Pa opsiynau eraill sydd ar gael e.e. rampiau cyflymderau, camerâu, gorfodi’r mesurau yn fwy?
Mae 20mya yn un mesur ond mae yna ystod o faterion er mwyn sicrhau bod ffyrdd yn ddiogel. Rhaid i ni ystyried amryw o ffactorau er mwyn penderfynu a ydym wedi bod yn llwyddiannus. Roedd yna lawer o waith wedi ei wneud cyn hyn fel rhan o gr?p cylch a gorchwyl o dan bwyllgor craffu arall ac mae’r polisi i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Lleoedd. Felly, bydd yna gyfle i graffu ar ychydig o’r manylion cyn bod y polisi yn cael ei fabwysiadu ond nid oes llawer o fanylion gennym heddiw.
Crynodeb y Cadeirydd:
Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r adroddiad o ran darparu cyd-destun gwerthfawr i aelodau newydd ac yn cynorthwyo’r Pwyllgor i ddatblygu ei Flaenraglen Waith. Maer Pwyllgor yn cydnabod y cynnydd yn y nifer o bobl ifanc na sydd mewn gwaith neu ym myd addysg ac yn derbyn bod yna strategaeth ar gael sydd o bosib o ddiddordeb pellach i’r Pwyllgor. Mae Aelodau yn amddiffyn yr angen bod y Cyngor yn meddu ar gynllun lleihau hinsawdd amlwg ar draws yr holl wasanaethau. Bydd y Pwyllgor yn aros am ddatblygiad y Cynllun Corfforaethol newydd a fydd yn dod i’r Pwyllgor am graffu cyn gwneud penderfyniad maes o law ac yn awgrymu bod ystyriaeth yn cael ei roi i sut y mae modd adlewyrchu barn trigolion a defnyddwyr iyn fwy cryf y canlyniadau. Cynigiwyd a chytunwyd ar yr argymhellion yma. .
Dogfennau ategol: