Agenda item

Cais DM/2022/00557 – Codi maes parcio newydd ar dir i dde gorsaf Cyffordd Twnnel Hafren. Tir yng Nghyffordd Twnnel Hafren ar gyfer creu maes parcio, Heol yr Orsaf, Rogiet.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd wedi ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Rogiet, a oedd wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:

 

·         Mae newidiadau bychain wedi eu gwneud i’r cynllun, a hynny mewn ymateb i’r pryderon a godwyd; yn benodol, mae hyn yn cynnwys ymroddiad i wella diogelwch ar gyfer cerddwyr sydd yn teithio dros y bont sydd yn croesi’r llinell rheilffordd. 

 

·         Mae llawer o bryderon Cyngor Cymuned Rogiet dal yn berthnasol.

 

·         Y prif fater yw bod y maes parcio arfaethedig wedi ei leoli yn y lle anghywir. Gan ei fod i’r dde o’r rheilffordd, nid yw’n mynd i ddenu traffig i ffwrdd o Heol yr Orsaf sydd eisoes mor brysur,  ac mae ond modd ei gyrraedd drwy fynd dros bont gul iawn. Mae traffig sydd yn gadael y maes parcio NCP yn defnyddio cyffordd tair ffordd ac mae yna beryg o wrthdrawiad gan ei fod yn anodd i yrwyr i weld yr hyn sydd o’u cwmpas. 

 

·         Yn yr adroddiad sydd yn perthyn i’r cais, mae’n  datgan nad yw’r angen cyffredinol am faes parcio ychwanegol yn rhan o’r cais hwn, a hynny’n seiliedig ar y ffaith bod ond rhaid i’r adroddiad ystyried a yw’r cynllun hwn yn cwrdd â’r meini prawf cynllunio yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). Fodd bynnag, mae rhan sylweddol o’r adroddiad yn ceisio cyfiawnhau’r cynllun ar y sail hyn gan ddatgan bod angen gofodau ychwanegol er mwyn lleihau’r nifer sydd yn parcio ar y stryd.

 

·         Ystyriwyd nad yw’r ffaith bod cerbydau yn parcio ar y stryd yn ganlyniad i’r gofodau annigonol sydd yn feysydd parcio presennol. Mae rhai gyrwyr yn amharod i dalu am barcio, ac felly, maent yn parcio ar y stryd. Mae yna ddigon o lefydd parcio ar gael ar hyn o bryd. Tra’n ymweld gyda’r meysydd parcio yn yr ardal hon yn y gorffennol, nodwyd fod yna ddigon o lefydd ar gael, gyd thua hanner y llefydd yn y ddau faes barcio yn wag.

 

·         Mae’r angen am lefydd parcio ychwanegol yn seiliedig ar y gred y bydd yna dwf sylweddol yn y defnydd o’r orsaf. Nid yw hyn wedi ei brofi. Gwnaed y rhagolygon am dwf cyn y pandemig ac nid yw’n ystyried y ffaith fod mwy o bobl nawr yn gweithio gartref.  

 

·         Mae adroddiad y cais yn datgan fod yna absenoldeb o astudiaethau  sy’n gwrth-ddweud ei gilydd. Mae hyn yn sgil y ffaith ei fod yn rhy gynnar i fedru cynnig rhagolygon. Bydd cryn amser eto cyn y bydd modd cynnal astudiaethau er mwyn ceisio adnabod tueddiadau hirdymor yn y naill gyfeiriad neu llall.  

 

·         Y cynnig hwn sy’n ymwneud gyda chynlluniau eraill – mae gorsaf Rhodfa Magwyr yn debygol o gael ei wireddu yn y dyfodol agos. Mae yna gynigion hefyd ar gyfer gorsafoedd yn nwyrain Casnewydd ac mewn mannau eraill, a byddant oll yn dwyn teithwyr i ffwrdd o Gyffordd Twnnel Hafren. 

 

·         Roedd yr Aelod lleol wedi dyfynnu adran 6.1 o adroddiad y cais. Ystyriwyd bod hyn yn asesiad gormodol o’r cynnig sydd ond yn faes parcio. 

 

·         Nid yw’r cais yn annog y rhyngweithio dymunol rhwng cerdded, seiclo a defnyddio bysiau a byddai ond yn cynnwys   mwy o ddefnydd o geir a threnau pe bai modd derbyn fod angen mwy o lefydd parcio fel cam cychwynnol.

 

·         Mae cynllun gwell yn cael ei gynnig gan Drafnidiaeth Cymru ar gyfer y ffordd gyswllt  o’r M48, M4 a’r B4245 i ogledd yr orsaf a fyddai wedyn yn denu traffig i ffwrdd o Heol yr Orsaf a rhannau eraill o Rogiet hefyd.

 

Wrth ymateb, dywedodd y Pennaeth Cynllunio wrth y Pwyllgor:

 

·         Gyda’r datblygiad arfaethedig hwn, mae angen edrych ar weledigaeth Llywodraeth Cymru  o ran y strategaeth drafnidiaeth ar draws Cymru ac ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wrth symud tuag at ddulliau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Mae’r datblygiad arfaethedig yn caniatáu i hyn ddigwydd ar draws y rhanbarth ehangach.  

 

·         Mae yna ffordd ar gyfer cerddwyr o’r maes parcio i’r orsaf drenau, a hynny i’r gogledd.

 

·         Mae yna gynigion  ehangach na sydd yn rhan o’r cais cynllunio ond mae yna gynnig i adeiladu pont droed yn hwyrach a fyddai wedyn angen caniatâd cynllunio a gofynion cyllido.  

 

·         Fel rhan o archwilio diogelwch y ffordd, mae swyddogion  yn ystyried ffyrdd o greu mynediad blaenoriaeth i’r ddwy ffordd, a hynny ar bwynt lle y mae’r ffordd yn culhau. Ar y cyfan, nid oes gan yr Adran Briffyrdd unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig.  

 

Roedd y Rheolwr Datblygu Priffyrdd wedi hysbysu’r Pwyllgor bod yr Adran Briffyrdd yn methu cefnogi gwrthwynebiad i’r cais hwn.

 

Wedi ystyried adroddiad y  cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol: 

 

·         Mae yna broblem sicrhau bod y traffig yn llifo i mewn i Orsaf Cyffordd Twnnel Hafren drwy gyfrwng  Rogiet. Ystyriwyd cynllun blaenorol gyda’r nod o gael ffordd gyswllt i’r maes parcio drwy gyfrwng Traffordd yr  M4 gyda  phont droed yn cael ei hadeiladu. Dyheadau Cil-y-coed, Rogiet a Magwyr yw cael ffordd gyswllt o’r Draffordd M48 ar hyd y B4245 gan gysylltu gyda’r Gyffordd Twnnel Hafren a’r nod i osgoi traffig yn gorfod cael mynediad i ganol pentref Rogiet.  Mynegwyd pryderon nad oed oedd sicrhau’r cyllid sector preifat. Penderfynwyd nad oedd angen y datblygiad hwn.  

 

·         Mae ehangu’r safle yn sgil y cynlluniau Metro a’r cynnydd yn y nifer sydd yn defnyddio’r rheilffyrdd yn golygu bod angen cynyddu’r ddarpariaeth ar gyfer parcio.  

 

·         Mae’r safle wedi ei ystyried fel safle addas gan swyddogion. 

 

·         Mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer y maes parcio cyn medru sicrhau cyllid er mwyn darparu’r bont droed.  Bydd hyn yn lliniaru pryderon yngl?n â’r goleuadau stryd. 

 

·         Os caiff ei gymeradwyo, bydd y datblygiad yn ceisio mynd i’r afael gyda’r problemau sydd yno ar hyn o bryd yngl?n â pharcio ar y stryd.  

 

·         Erbyn 2030, bydd gwerthiant cerbydau petrol a disel yn dod i ben.  Mae yna 26 o bwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydanol yn cael eu cynnig. Fodd bynnag, ystyriwyd bod hyn o bosib yn annigonol o feddwl bod capasiti’r maes parcio arfaethedig ar gyfer 172 o gerbydau. Efallai y bydd angen cyfuniad o bwyntiau gwefru cyflym ac araf.  

 

·         Gofynnwyd cwestiynau yngl?n ag a oes modd defnyddio p?er solar er mwyn goleuo’r maes parcio.  Hefyd, gofynnwyd a oedd yna fannau penodol ar gyfer plant a llefydd i storio beiciau er mwyn annog teithio llesol.

 

·         Wrth  ymateb i’r materion a godwyd, dywedodd y Pennaeth Cynllunio wrth y Pwyllgor ei fod yn ofynnol o ran pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydanol fel polisi Cynllunio, sy’n rhan o Bolisi Cynllunio Cymru, bod  10% o gynlluniau parcio yn darparu pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol. Mae’r cynllun ar hyn o bryd yn cynnig 26 o bwyntiau gwefru ar gyfer  cerbydau trydanol. Fodd bynnag, mae modd ychwanegu amod i’r cais bod 10% o’r ddarpariaeth ar gyfer parcio ar gyfer pwyntiau gwefru o’r fath. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer darparu goleuadau solar ar gyfer y maes parcio. Bydd y penderfyniad am Barcio Anabl yn cael ei wneud gan  Network Rail a NCP ar ochr ogleddol y maes parcio. O ran y maes parcio, rhaid ystyried y datblygiad arfaethedig ar sail ei rinweddau ei hyn. Efallai y bydd yna ddatblygiadau posib eraill o ran y maes parcio yn cael eu cyflwyno drwy gyfrwng y broses cais cynllunio. 

 

·         Bydd y goleuadau yn y maes parcio yn rhai lefel isel er mwyn cadw’r llygredd golau mor isel ag sydd yn bosib.  

 

·         Nid oes yna ddarpariaeth ar hyn o bryd yn y cynlluniau  tirlunio ar gyfer lle i gadw beiciau. Ni fyddai’r fath ddarpariaeth yn addas ar gyfer y safle. Fodd bynnag, byddai modd gofyn i  Network Rail i ddarparu’r cyfleuster yma yn y maes parcio gogleddol lle y byddai’n fwy hygyrch ac yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio.

 

·         Wrth ymateb i’r pryderon a godwyd am y ffordd fynediad, roedd y Rheolwr Datblygu Priffyrdd wedi hysbysu’r  Pwyllgor y bydd yr archwiliad o ddiogelwch y ffordd yn cael ei gynnal ar wahân i’r broses gynllunio. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd a bydd y materion o ran goleuadau yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses hon. O ran y gyffordd, mae’r data diogelwch yn dynodi nad oes unrhyw ddamweiniau wedi eu cofnodi yn y 23 mlynedd ddiwethaf.  

 

·         Mae traffig cymudwyr  eisoes yn parcio yn y maes parcio arfaethedig ac ni fydd yn digwydd ar yr un pryd â’r traffig ysgol yn ystod y bore neu’r prynhawn.

 

·         Bydd Cyngor Sir Fynwy yn rheoli’r maes parcio.

 

·         Drwy gymeradwyo’r cais a’n darparu’r maes parcio gyda  172 o feysydd parcio, bydd hyn yn helpu gyda newid  y ffordd y mae pobl yn teithio, a hynny yn unol gyda strategaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru sydd yn ceisio annog unigolion i ddefnyddio llai o’u cerbydau preifat.

 

·         Mae’r cynnig yn helpu darparu trafnidiaeth gynaliadwy ac mae yn dystiolaeth na fydd yn cael effaith niweidiol ar y priffyrdd, a hynny yn sgil y cysylltiad penodol ar gyfer cerddwyr a’r mesurau diogelwch y ffyrdd sydd wedi eu hamlinellu.  

 

·         Mae angen llwybr ar gyfer cerddwyr drwy’r maes parcio sydd yn ddiogel, wedi ei oleuo’n dda.  

 

·         Mae swyddogion Trafnidiaeth Cyngor Sir Fynwy yn hyrwyddo’r cynllun arfaethedig. 

 

·         Mae’r cais am System Ddraenio Gynaliadwy wedi ei gymeradwyo.  

 

Roedd y Cynghorydd Sir J. Butler wedi cynnig, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir B. Callard bod cais DM/2022/00557 yn cael ei gymeradwyo, yn seiliedig ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad a’r amod ychwanegol bod 10% o’r maes parcio yn cynnig pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydanol:

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y canlyniadau canlynol:

 

O blaid y cynnig                      -           13

Yn erbyn y cynnig                   -           2

Wedi ymwrthod                       -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig

 

Roeddem wedi cytuno y dylid cymeradwyo’r cais DM/2022/00557, a hynny’n amodol ar yr amod bod 10% o’r maes parcio yn cynnig pwyntiau gwefru ar gyfer Cerbydau Trydanol.

 

 

 

Dogfennau ategol: